Eitem Rhaglen

Cynnydd Gwelliannau'r Gwasanaethau Plant

·        Cyflwyno adroddiad cynnydd yn erbyn y Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant.

 

·        Cyflwyno adroddiad o’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

1     Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant Dros Dro yn nodi'r cynnydd hyd yn hyn yn erbyn y Cynllun Gwella diwygiedig ar gyfer y Gwasanaethau Plant a oedd yn cynnwys argymhellion adroddiad Arolygu AGGCC.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr argymhellion a wnaed gan AGGCC yn y broses o gael eu gweithredu ac y canolbwyntir ar hyn o bryd ar faterion staffio, gan gynnwys ailstrwythuro'r timau ymarfer, lansio polisi goruchwyliaeth  newydd a gweithredu Strategaeth Gweithlu. Gwneir hyn oll i atgyfnerthu trefniadau ar gyfer recriwtio a chadw staff. Mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant wedi cyfarfod ddwywaith ac wedi ystyried sefydlu rhaglen waith dros y misoedd nesaf.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod sicrhau gweithlu sefydlog yn hanfodol er mwyn i’r gwasanaeth gyflawni ei gyfrifoldebau deddfwriaethol a gweithredu argymhellion arolygiad AGGCC, a hynny o gofio bod gweithlu ansefydlog yn y blynyddoedd diwethaf wedi cael ei nodi fel gwendid yn y gwasanaeth. Mae mynd i'r afael â hyn yn elfen allweddol o'r Cynllun Gwella Gwasanaeth ac mae'r adroddiad yn disgrifio'r elfennau y canolbwyntiwyd arnynt yn y misoedd diwethaf. Mae'r rhain yn cwmpasu ailstrwythuro; goruchwyliaeth, recriwtio a chadw staff a datblygu a gweithredu'r Strategaeth Gweithlu. Fel rhan o'r ailstrwythuro, penodwyd Rheolwyr Gwasanaeth ac Arweinwyr Ymarfer newydd a disgwylir iddynt ddechrau yn eu rolau newydd ddechrau mis Medi. Fodd bynnag, mae’r gwaith recriwtio yn parhau gyda'r nod o leihau dibyniaeth y gwasanaeth ar staff asiantaeth. Mae newidiadau eraill yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â gweithio gyda phartneriaid, sicrhau ansawdd a gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

 

Ymhelaethodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Plant ar y strwythur staff newydd sy'n cynnwys Grwpiau Ymarfer llai ar draws ymyrraeth gynnar ac ymyrraeth ddwys dan arweiniad Arweinyddion Ymarfer sy'n gyfrifol am dri neu bedwar Gweithiwr Cymdeithasol a llwyth achosion sy’n llawer llai.

 

5.2     Cyflwynwyd adroddiad cynnydd gan y Rheolwr Sgriwtini ar waith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant hyd yma ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

Diweddarwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd Richard Griffiths, cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Panel Gwella Gwasanaethau Plant a'r Pencampwr Plant sy’n Derbyn Gofal ynghylch y materion a drafodwyd gan y Panel yn ei ddau gyfarfod cychwynnol ym mis Gorffennaf a mis Awst, 2017 fel y crynhowyd yn adran 3.2 yr adroddiad. Cadarnhaodd ei fod yn ymddangos bod yr holl ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Gwella Gwasanaeth ar darged hyd yn hyn ac nad oes unrhyw faterion ar hyn o bryd y mae angen i’r Panel eu huwch-gyfeirio i'r Pwyllgor Sgriwtini i’w hystyried.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol –

 

           Yng ngoleuni'r ailstrwythuro a'r ymrwymiad a wnaed i leihau dibyniaeth ar staff asiantaeth, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â’r defnydd o staff asiantaeth yn y Gwasanaethau Plant a’r gymhareb rhwng staff parhaol a staff asiantaeth a'r costau cysylltiedig. Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Plant fod 11 aelod o staff asiantaeth yn y gwasanaeth ar hyn o bryd ; eglurodd fod y gwasanaeth yn gweithredu rhaglen i leihau nifer y staff asiantaeth dros amser. Fodd bynnag, mae yna aelodau o staff asiantaeth y byddai’r gwasanaeth yn dymuno cadw eu harbenigedd a’u profiad fel staff parhaol drwy'r broses recriwtio arferol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod y gwasanaeth yn ceisio sicrhau bod yr ailstrwythuro'n digwydd o fewn y gyllideb staff gyfredol. Mae mwyafrif y staff asiantaeth yn gweithio mewn swyddi a oedd yn wag ac felly mae elfen o'r costau yn disgyn o fewn y cyllidebau cyfredol. Fodd bynnag, mae costau ychwanegol yn gysylltiedig â staff asiantaeth. Mae'r gwasanaeth yn ymdrechu i recriwtio i'r swyddi gwag parhaol a bydd hynny'n cymryd amser. Hyd nes y bydd y broses honno wedi'i chwblhau, bydd staff asiantaeth yn cael eu defnyddio. Mae'r gwasanaeth eisoes wedi recriwtio pump o weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso a fydd yn cael eu cofrestru mewn ychydig fisoedd a bydd eu llwythi achosion yn ysgafnach i ganiatáu iddynt ymgyfarwyddo â'r gwasanaeth. Bydd staff asiantaeth yn darparu gwasanaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn a fydd yn golygu costau ychwanegol. Dywedodd y Swyddog fod elfen sylweddol o'r costau yn y Gwasanaeth Plant yn deillio o blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal sydd ag anghenion na ellir ond eu diwallu trwy ddarparu gofal preswyl iddynt. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac o fewn y boblogaeth honno mae cnewyllyn bach o bobl ifanc y mae eu hanghenion yn gymhleth ac yn ddwys; mae cwrdd ag anghenion y garfan hon yn heriol ac yn gostus. Yn ogystal, mae prinder gofalwyr maeth lleol yn golygu bod yn rhaid i'r gwasanaeth droi at y sector gofal maeth annibynnol lle mae'r costau'n uwch.

 

           Nododd y Pwyllgor fod cadw staff wedi bod yn her i'r Gwasanaeth yn y gorffennol; gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y camau a gymerir i gadw staff.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod y gwasanaeth yn ceisio creu amodau lle bydd staff yn dymuno aros yn y Cyngor ond y gall hynny fod yn her, ac felly mae'n rhaid disgwyl elfen o “drosiant staff”. Mae’r gwaith o ailstrwythuro'r timau ymarfer; lansio polisi goruchwyliaeth newydd a gweithredu rhaglen gynefino gynhwysfawr, yn ogystal â Strategaeth Gweithlu oll wedi digwydd er mwyn rhoi cymorth gwell i staff newydd yn ogystal â’r staff cyfredol. Er bod rhywfaint o drosiant staff yn elfen naturiol o'r gweithlu, gobeithir y bydd y strategaethau sy'n cael eu gweithredu yn ei gwneud hi'n haws i'r gwasanaeth gadw staff.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar a thrwy'r adroddiadau ysgrifenedig, PENDERFYNODD y Pwyllgor –

 

           Ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd, ei fod yn fodlon â chyflymder y cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yn hyn o fewn y Gwasanaethau Plant a, 

           Nododd y cynnydd a wnaed hyd yn hyn â gwaith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant

           Nododd yr ymddengys bod yr holl ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Gwella Gwasanaeth ar darged hyd yn hyn.

           Nododd nad oes unrhyw faterion ar hyn o bryd y mae angen i’r Panel eu huwch-gyfeirio i'w hystyried gan y rhiant-bwyllgor.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU PELLACH

Dogfennau ategol: