Eitem Rhaglen

Perfformiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2016/17

·        Derbyn cyflwyniad gan y AGGCC

 

·        Cyflwyno ymateb Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes / Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) bod mynd i’r afael ag anghenion gofalwyr ifanc wedi’i nodi fel eitem 12 yn y Cynllun Blaenoriaethau ar gyfer Gwella; mae opsiynau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd sy’n cynnwys gweithio rhanbarthol ac isranbarthol. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol

 

           Nododd y Pwyllgor gynnwys y llythyr; gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad a oedd lefel y pryder, o ochr y Rheoleiddiwr mewn perthynas ag agweddau penodol ar y ddarpariaeth gwasanaeth, wedi lleihau wrth i’r Awdurdod symud ymlaen â’r gwaith.

 

Dywedodd Arolygydd Arweiniol CSSIW, tra bo pryder wedi’i fynegi am rai pethau fel a nodir yn y llythyr e.e. cynnydd araf yn y ffordd mae gwasanaethau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yn cael eu comisiynu, mae’r Arolygiaeth yn ymwybodol o’r gwaith sy’n cael ei wneud, yn enwedig ar y cyd â phartneriaid, er mwyn datblygu materion yn y maes hwn. Mae’r Awdurdod yn asesu sut mae’r risgiau mewn perthynas â gofal cartref yn cael eu rheoli; tra bo’r Awdurdod yn cymryd agwedd systematig tuag at y mater mae’r canlyniad yn anodd ei ddarogan gan fod y sefyllfa yn datblygu ac yn parhau’n fyw. Mae’r Arolygiaeth o’r farn bod perfformiad mewn perthynas â threfniadau diogelu rhag colli rhyddid yn broblem casglu data yn bennaf a does dim tystiolaeth i awgrymu bod defnyddwyr gwasanaeth wedi dioddef effaith anffafriol o ganlyniad i’r mater hwn. Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud yn seiliedig ar y Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant manwl ac er bod gan yr Arolygiaeth bryderon o hyd am y Gwasanaethau Plant, mae’n cydnabod fod cynnydd wedi’i wneud, yn enwedig mewn perthynas â’r agwedd strategol tuag at wasanaethau ataliol a thuag at faterion gweithlu a sicrwydd ansawdd.   

 

           Gofynnodd y pwyllgor am gadarnhad o ddefnydd yr Arolygydd o’r gair gofal (caution) yn y rhan o’r llythyr sy’n cyfeirio at wasanaethau i bobl hŷn a darpariaeth breswyl i gefnogi pobl sydd â dementia ac anghenion cymhleth. Cadarnhaodd yr Arolygwyr fod yr angen i fod yn ofalus yn ymwneud ag ailgomisiynu gofal cartref ar sail ardal (mae Awdurdodau eraill yng Nghymru wedi ceisio gwneud hyn ond wedi cael problemau) ac nid mewn perthynas â’r agwedd tuag at ofal preswyl ar gyfer pobl â dementia, rhywbeth nad oes gan yr Arolygwyr bryderon amdano. Mae risgiau mewn perthynas â throsglwyddo’r bobl gywir i ddarpariaeth gofal ychwanegol; mae’r Awdurdod yn ymwybodol o hyn ac yn defnyddio’i brofiad blaenorol o leoli unigolion mewn darpariaeth gofal ychwanegol. Mae’r Awdurdod hefyd yn ymwybodol o'r angen i barhau i ddarparu gofal priodol ar gyfer pobl hŷn fregus yn eu cartrefi eu hunain.     

 

           Nododd y Pwyllgor y bydd y Panel Plant yn ystyried y gweithredoedd o fewn y Cynllun Blaenoriaethau Gwella sy’n benodol i Wasanaethau Plant ac y bydd yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Gwelliant Manwl ym mis Tachwedd. Nododd y Pwyllgor hefyd fod angen iddo gael diweddariadau yn yr un modd am gynnydd mewn perthynas â materion Gwasnaethau Oedolion a gofynnodd am ddiweddariad cyffelyb ar Wasanaethau Oedolion yng nghyfarfod mis Tachwedd.  

 

           Nododd y Pwyllgor nad yw rhai o’r blaenoriaethau ar gyfer gwella sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu yn cynnwys dyddiad targed ar gyfer eu gweithredu. Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd nodi amserlenni ac o beidio â gadael materion yn ben agored ac felly risg nad yw pethau’n cael eu gwneud mewn modd amserol. Dywedodd y Pennaeth Gwasnaethau Oedolion nad oes dyddiadau targed wedi eu nodi ger rhai pethau am resymau penodol e.e. oherwydd eu bod yn ddilyniant i weithredoedd eraill e.e. mae pwynt gweithredu 1 yn ddibynnol ar dderbyn adroddiad gan AGGCC. Dywedodd y Swyddog y gellir ymgorffori’r dyddiadau cwblhau yn y diweddariadau ar y ddau wasanaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd.  

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor –

 

           Yn derbyn ac yn nodi cynnwys y Llythyr Adolygiad Perfformiad Blynyddol gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ym Mehefin, 2017 fel adlewyrchiad o gynnydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2016/17.

           Yn cefnogi’r Cynllun Gweithredu Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymateb i’r Llythyr Adolygu Perfformiad Blynyddol.

           Yn gofyn am i adroddiad cynnydd yn erbyn y gweithredoedd blaenoriaeth o fewn Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant gael ei gyflwyno i gyfarfod mis Tachwedd y Pwyllgor.  

 

GWEITHRED YCHWANEGOL A GYNIGIWYD: Bod y diweddariadau ar Wasanaethau Plant ac Oedolion i gyfarfod mis Tachwedd yn cynnwys dyddiadau gweithredu ar gyfer yr holl weithredoedd blaenoriaeth. 

Dogfennau ategol: