Eitem Rhaglen

Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2016/17

Cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol am 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2016/17. Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor ar gyfer 2016/17 ac yn benodol y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion gwelliant a nodir yn y 7 maes allweddol o fewn Dogfen Darpariaeth Flynyddol 2015/2016.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol bod yr Adroddiad Perfformiad blynyddol yn cyfleu neges gadarnhaol am berfformiad y Cyngor yn 2016/17. Llwyddodd y Cyngor i barhau i gyflawni nifer o’i ymrwymiadau mewn nifer o feysydd blaenoriaeth gan gynnwys o fewn Gwasanaethau Oedolion, Addysg, Datblygiad Economaidd a Chymunedol a Thai. Mae’r llwyddiannau hyn yn cael eu trafod yn fanylach o fewn naratif yr adroddiad. Gwelwyd gwelliant mewn dros 64% o Ddangosyddion Perfformiad y Cyngor (DP) yn ystod y flwyddyn a tra gwelwyd gostyngiad ym mherfformiad rhai DP, mae canran y rheini hefyd i lawr o 45% yn 2015/16 i 24% yn 2016/17. Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol ei fod yn falch iawn o allu adrodd bod Cyngor Sir Ynys Môn, am y tro cyntaf erioed, ymysg y pedwar awdurdod lleol gorau yng Nghymru mewn perthynas â pherfformiad DP cyffredinol ac yn seithfed o’r cyfanswm o 22 awdurdod lleol o ran perfformiad yn y chwartel uchaf. Mae hyn heb os yn gyrhaeddiad sylweddol a chlodwiw yn enwedig yng nghyd-destun y newidiadau sydd wedi digwydd yn y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf a’r sefyllfa ariannol gynyddol heriol.

 

Dywedodd yr Arweinydd bod y Cyngor blaenorol wedi gweithio’n ddiwyd dros gyfnod y Cyngor diwethaf er mwyn gallu symud y Cyngor yn ei flaen a drwy wneud hynny gosodwyd her i’r Cyngor newydd gynnal yr un momentwm. Nododd bod angen diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant a bod yr Adroddiad Perfformiad yn glod iddynt.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ac fe nodwyd y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cyflawni’r amcanion a osodwyd gan y Cyngor yn 2016/17 a oedd hefyd wedi nodi diwedd cyfnod Cynllun Corfforaethol 2013/17. Nododd y Pwyllgor ymhellach tra mai un o’r dyheadau a nodir gan y Cyngor oeddgyrru adfywio cymunedol drwy ddatblygu cynlluniau tref a chymuned holistig ar gyfer prif aneddiadau’r Ynys gan flaenoriaethu Caergybi, Llangefni ac Amlwch”, nid oedd unrhyw sôn am y cynlluniau ar gyfer Amlwch fel un o’r aneddiadau  blaenoriaeth a enwir ac nid oedd yn gysylltiedig â’r cynlluniau y cyfeiriwyd atynt yn y rhestr o gyraeddiadau. Yn ychwanegol at hynny, nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gyfeiriad at gynlluniau adfywio cymuned ar gyfer Biwmares fel y brif dref yng nghornel de-ddwyreiniol yr Ynys ac ‘roedd o’r farn y dylid ei gynnwys mewn unrhyw raglen adnewyddu.    

 

Nododd y Pwyllgor mai’r cyfnod y mae’r Adroddiad Perfformiad yn berthnasol iddo yw cyfnod Gweinyddiaeth flaenorol y Cyngor cyn yr Etholiadau Llywodraeth leol ym Mai 2017 a gofynnwyd am gadarnhau hynny yn yr adroddiad. 

 

 

Yn dilyn ystyried yr adroddiad fe benderfynodd y Pwyllgor ei fod yn cytuno y dylid cyhoeddi fersiwn o Adroddiad Perfformiad 2016/17 erbyn y dyddiad cau statudol ym mis Hydref ac y dylid ei gwblhau gan Swyddogion mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio ar gyfer ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor gyda’r amod y dylid cadarnhau fod yr adroddiad yn cyfeirio ar y Weinyddiaeth flaenorol.  

 

CYNNIG GWEITHRED YCHWANEGOL: Gwahodd y Pennaeth Gwasnaeth  (Adfywio Cymunedol a Datblygiad Economaidd) i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar gynnydd y cynllunio adfywio cymuned ar gyfer Amlwch fel anheddiad blaenoriaeth a enwir a ph’un a oes unrhyw gynlluniau ar y gweill ar gyfer Biwmares. 

Dogfennau ategol: