Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Seiriol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys canlyniad yr ymgynghoriad anstatudol ar foderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol. Roedd yr adroddiad yn nodi elfennau canlynol y broses –

 

           Y cyd-destun yn cynnwys y prif yrwyr newid ar gyfer moderneiddio’r ddarpariaeth o addysg gynradd yn Ynys Môn sy’n sail i’r rhaglen moderneiddio ysgolion gyffredinol ac a fydd yn dylanwadu ar y penderfyniad o ran y ddarpariaeth orau ar gyfer ardal Seiriol (adran 2)

           Y broses ymgynghori a gynhaliwyd rhwng 19 Mehefin 2017 a 30 Gorffennaf 2017.

           Y sylwadau a’r ymatebion a gafwyd gan staff, llywodraethwyr a rhieni ysgolion yn ystod y cyfarfodydd ymgynghori yn yr ysgolion a effeithir arnynt – Ysgol Biwmares, Ysgol Llandegfan ac Ysgol Llangoed (adran 4) 

           Y rhanddeiliaid eraill y cafodd y ddogfen ymgynghori ei chylchredeg iddynt (adran 5)

           Y rhestr estynedig o yrwyr newid y cafodd yr opsiynau eu sgorio allan o 10 yn eu herbyn (adran 9)

           Dadansoddiad manwl o 9 opsiwn yn cynnwys y rhai hynny a oedd wedi eu cynnwys yn y ddogfen ymgynghori yn ogystal ag eraill a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr ymarfer ymgynghori a’u sgorau (adran 9).

           Dadansoddiad cost o’r opsiynau a chrynodeb o’r sgorau ar ffurf tabl (adran 10)

           Argymhelliad ar y ffordd ymlaen o ran yr opsiwn/opsiynau a ffafrir er mwyn ffurfio sail i’r cam nesaf yn y broses ymgynghori (adran 11). 

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg mai’r ymgynghoriad ar ddarpariaeth addysg ysgol gynradd yn ardal Seiriol yw’r cam diweddaraf yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Môn ac mae’n dilyn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 21 Gorffennaf, 2016 i awdurdodi Swyddogion Addysg i barhau ag ymgynghoriad anstatudol ar y ddarpariaeth o addysg gynradd yn yr ardal ac i baratoi opsiynau i barhau â nhw. Mae nifer o opsiynau wedi eu hystyried ac wedi eu sgorio gyda 2 opsiwn yn cael yr un sgôr uchaf (79), sef – 

 

Cau Ysgol Biwmares a rhoi’r dewis i rieni anfon eu plant i’r ddwy ysgol arall , ailwampio’r ddwy ac efallai ffederaleiddio (opsiwn 2), a

 

Cau Ysgol Biwmares a rhoi’r dewis i rieni anfon eu plant i’r ddwy ysgol arall ac i adolygu’r dalgylchoedd (opsiwn 3)

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod wedi mynychu’r cyfarfodydd ymgynghori yn y tair ysgol a’i fod wedi treulio amser yn adlewyrchu ar yr holl ystyriaethau materol a'i fod wedi dod i’r casgliad anorfod bod y rhan fwyaf o’r opsiynau sy’n sgorio’n uchel yn erbyn y gyrwyr ar gyfer newid yn cynnwys cau Ysgol Biwmares. Er bod ystyriaeth wedi’i rhoi i ffyrdd o geisio osgoi’r opsiwn hwn, mae’r cyfuniad o ffactorau a’r sgorau terfynol yn dod i’r un canlyniad sef bod cau Ysgol Biwmares yn dod i’r amlwg yn yr opsiynau sy’n bodloni’r angen ar gyfer newid. Er hynny, ychwanegodd yr Aelod Portffolio Addysg ei fod yn dal yn agored i opsiynau amgen ymarferol.

 

Mewn ymateb i gais am esboniad gan y Cadeirydd am ddilysrwydd y broses gan fod yr ymgynghoriad wedi rhedeg i gyfnod y gwyliau ysgol, dywedodd y Pennaeth Dysgu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ac y mae’r adroddiad yn seiliedig arno yn ymgynghoriad anffurfiol ac anstatudol h.y. ei fod yn ymgynghoriad nad oes yn rhaid i’r Awdurdod ei gynnal yn gyfreithiol ond sydd yn gam ychwanegol y mae’r Awdurdod wedi penderfynu ei gymryd yma, fel y mae wedi’i wneud ym mhob ardal arall wrth ymgynghori ar foderneiddio’r ddarpariaeth ysgolion cynradd, fel mater o arfer dda. Gan mai ymgynghoriad anffurfiol ac anstatudol a gynhaliwyd nid oes rhaid i’r broses ymgynghori gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol felly nid yw dilysrwydd a/neu gyfreithlondeb y broses yn fater sy’n codi. Mae’r Awdurdod yn edrych i gynnal proses ymgynghori anffurfiol o fewn cyfnod o 6 wythnos. Er i’r broses yn y sefyllfa hon bara tan ddiwedd Gorffennaf fe gynhaliwyd y cyfarfodydd ymgynghori yn cynnwys staff, llywodraethwyr a rhieni’r disgyblion yn y tair ysgol a’r holl weithgareddau ymgysylltu yn ystod mis Mehefin, cyn diwedd y tymor ysgol.   

 

Aeth y Pennaeth Dysgu ymlaen i ddwyn sylw at nifer o ystyriaethau yn ogystal â’r prif benawdau y cyfeirir atynt uchod gan gynnwys yr isod –

 

           Cytunwyd a sefydlwyd y gyrwyr ar gyfer newid gan yr Awdurdod ers 2012 ac fe'u gweithredwyd yn gyson ym mhob un o'r ardaloedd y mae'r Awdurdod wedi ymgynghori â nhw ynghylch ailgyflunio'r ddarpariaeth ysgolion cynradd. Yn ogystal, wrth wneud achos busnes am gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion newydd a / neu addasiadau, mae'n rhaid i'r Awdurdod ddangos sut y bydd y cynigion yn cyfrannu at bethau eraill - effeithlonrwydd ynni, amser di-gyswllt i athrawon a llai o gostau oherwydd gwaith atgyweirio a chynnal a chadw sydd wedi cronni.

           Daeth un ar ddeg o syniadau ar gyfer opsiynau posib i'r amlwg o'r cyfarfodydd ymgynghori yn yr ysgolion ac o’r ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae'r rhain wedi'u rhestru ar dudalen 6 y ddogfen ar ganlyniadau’r ymgynghoriad sydd hefyd yn nodi a roddwyd ystyriaeth bellach iddynt ai peidio. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr opsiynau gwreiddiol a restrwyd yn y ddogfen ymgynghori. ‘Roedd ugain o opsiynau ar gael yn dilyn y broses hon ac fe'u haseswyd yn erbyn y meini prawf a sefydlwyd.

           ‘Roedd y ddogfen ymgynghori anstatudol hefyd yn ystyried yr angen posib am dai ychwanegol yn ardal Seiriol yn sgil y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a'r goblygiadau ar gyfer niferoedd disgyblion. Yn seiliedig ar y data yn y CDLl ar y Cyd ynglŷn â datblygiadau tai yn yr ardal a'r nifer o blant oed ysgol gynradd ar gyfartaledd ym mhob aelwyd (yn ôl fformiwla safonol), mae'r tabl ar dudalen 75 yr adroddiad yn dangos y byddai'n rhaid i Ysgol Llandegfan dderbyn  6 disgybl ychwanegol; 14 yn Ysgol Biwmares ac 8 yn Ysgol Llangoed. Wrth gymryd i ystyriaeth y lleoedd gwag yn yr ysgolion, gellir gweld bod lle ar gael yn Ysgol Biwmares ac Ysgol Llangoed ond y bydd Ysgol Llandegfan yn parhau i fod yn llawn dros y blynyddoedd i ddod. Yn seiliedig ar y fformiwla, byddai angen adeiladu 550 o dai newydd yn yr ardal i sicrhau y byddai Ysgol Biwmares yn llawn.

           Yn ogystal â sylwadau a wnaed yn uniongyrchol yn y cyfarfodydd ymgynghori, derbyniwyd gohebiaeth gan wahanol Benaethiaid, Cadeiryddion Cyrff Llywodraethu a / neu Lywodraethwyr, Cynghorau Tref / Cymuned a Phwyllgorau Cylchoedd Chwarae sy'n gysylltiedig â'r tair ysgol, yn ogystal â’r 3 Aelod Etholedig ar gyfer ardal Seiriol (roedd y sylwadau ynghlwm wrth yr adroddiad ar y canlyniadau ymgynghori). Mae'r Cynghorwyr Sir ar gyfer ardal Seiriol wedi tynnu sylw at yr angen am gynllun corfforaethol cydlynol i’r cyfan o’r gornel de-ddwyreiniol hon o’r Ynys fel ardal sydd wedi bod yn prysur golli gwasanaethau ac maent yn pwysleisio pwysigrwydd cadw'r tair ysgol.

           O'r ymarfer sgorio, mae’r ddau opsiwn sy’n sgorio uchaf (79 - opsiynau 2 a 3) yn golygu cau Ysgol Biwmares; mae'r nesaf uchaf (78 - opsiwn 16) hefyd yn cyfeirio at gau Ysgol Biwmares. O'r 9 opsiwn sy’n sgorio uchaf, mae 7 ohonynt yn golygu cau Ysgol Biwmares.

 

Gwahoddwyd cynrychiolwyr Ysgol Biwmares i annerch y cyfarfod fel yr ysgol yr oedd y ddau opsiwn a argymhellwyd yn cael yr effaith uniongyrchol fwyaf arni.

 

Cyfeiriodd Emma Taylor, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Biwmares at ohebiaeth a gylchredodd hi ar 29 Medi, a gododd bryderon ynghylch y materion a nodir isod ac   ymhelaethodd hi arnynt yn y cyfarfod –

 

           Dim digon o amser i ddadansoddi'r adroddiad ar y canlyniadau ymgynghori, yn enwedig o ystyried ei oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer addysg gynradd yn yr ardal;

           Mae'r opsiynau a argymhellir i gau Ysgol Biwmares yn tynnu’n groes i’r cyngor gan Lywodraeth Cymru y dylai awdurdodau lleol ystyried pob dewis arall cyn cau ysgolion gwledig.

           Anghysondebau yn y gyrwyr ar gyfer newid a ddefnyddir yn yr ymarfer sgorio.

           Mae’r mecanwaith sgorio yn broblemus o ran y rhesymeg dros ddewis yr 11 o yrwyr a restrir yn ogystal â'r rhesymeg o roi pwys cyfartal ar bob un ohonynt.

           Camgymeriadau ac anghysonderau yn y sgorau a ddyfarnwyd.

 

Dywedodd Rhian Jones, Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer ymateb i’r adroddiad, ei bod yn dymuno dwyn sylw at y materion a ganlyn –

 

           Er yn cydnabod bod llawer iawn o waith wedi ei wneud ar yr ymgynghoriad a'r ddogfen a gododd ohono, ystyriwyd bod yr adroddiad ar y canlyniad ymgynghori yn ddiffygiol gan ei fod yn seiliedig ar broses nad oedd yn dilyn y Côd Trefniadaeth Ysgolion na'r canllawiau y mae'n eu gosod ar gyfer cynnal ymgynghoriad o'r fath a'r ffactorau manwl y mae'n rhaid eu hystyried, gan gynnwys cael gwared ar dir.  Mae Ysgol Biwmares ar safle allweddol a chynigir gwneud defnydd ychwanegol ohono fel safle ar gyfer tai gofal ychwanegol hefyd, sef mater ar wahân a drafodir yn y cyfarfod hwn. Dylai'r gymuned fod wedi cael gwybod am y bwriadau ar gyfer y safle yn gyffredinol ac ni ddylid gwneud unrhyw benderfyniad ar sail un rhan o'r safle heb ystyried ac ymgynghori ar y defnydd o'r safle yn ei gyfanrwydd.

           Mae Band B yn y Cynllun Amlinellol Strategol drafft yn cyfeirio at 3 opsiwn ar gyfer ardal Seiriol, gan gynnwys cau ysgol gynradd ac adnewyddu un arall - sy'n ei gwneud yn anodd osgoi’r argraff bod y penderfyniad i gau Ysgol Biwmares wedi'i wneud yn barod.

           Mae'r ddogfen ymgynghori yn cyfeirio at gostau gwaith atgyweirio a chynnal a chadw sydd wedi cronni yn Ysgol Biwmares, sef gwerth cyfanswm o £ 971k ac sy'n ffactor a  adlewyrchir yn yr ymarfer sgorio. Ni roddir dadansoddiad o'r ffigwr hwn ac ni chrybwyllir y ffaith bod £190k yn gostau posib gyda'r gweddill yn gostau nad oedd raid eu talu i gyd ar unwaith.

 

Mynegodd y Cynghorwyr Frank Carr ac Alwyn Rowlands bryderon am yr effaith y byddai cau Ysgol Biwmares yn ei chael ar ddyfodol y dref fel cymuned hyfyw a ffyniannus a phwysleisiwyd y gwneid pob ymdrech i wrthsefyll unrhyw benderfyniad a gymerir i gau'r ysgol.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorwyr Carwyn Jones, Lewis Davies ac Alun Roberts (a oedd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol) fel Aelodau Lleol a, chyda’i gilydd, aethant ati i godi materion mewn perthynas â chostau addysg y pen, sef £4,356 yn Ardal Seiriol yn ôl adroddiadau - sy’n cymharu'n ffafriol gyda chyfartaledd Ynys Môn (£ 4,869) ac sydd ond ychydig bach yn uwch na chyfartaledd Cymru (£ 4,226); cymhlethdod a anghysondeb canfyddedig y system sgorio a ddefnyddiwyd yn yr ymarfer hwn; yr angen am gynllun adfywio corfforaethol ar gyfer cornel de-ddwyreiniol yr Ynys; effaith y posibilrwydd o golli ysgol ar ddemograffeg Biwmares fel tref a dyfodol ei phoblogaeth o bobl ifanc; y gostyngiad dros y blynyddoedd yn niferoedd y disgyblion yn Ysgol Biwmares a ph’un a oedd hyn wedi ei gynllunio; y posibilrwydd o gynnydd yn niferoedd y disgyblion yn y dyfodol gyda dyfodiad datblygiadau economaidd mawr ar yr Ynys, gan gynnwys Wylfa Newydd; y pwys a briodolir i faint y gefnogaeth ar gyfer Ysgol Biwmares; addasrwydd a photensial safle Ysgol Biwmares fel safle y byddai modd ei rannu ar gyfer darparu tai cymdeithasol y mae gwir angen amdanynt; yr angen i gymryd agwedd llawer ehangach a manylach at ddyfodol addysg gynradd yn yr ardal ar y cyd â dyfodol economaidd yr ardal ac i ganiatáu llawer mwy o amser i'r broses honno ddigwydd; absenoldeb unrhyw opsiwn cadarnhaol ar ffurf ysgol ardal newydd.

 

Gofynnodd y rheini a siaradodd o blaid cadw Ysgol Biwmares i'r Pwyllgor wrthod argymhellion yr adroddiad a chaniatáu mwy o amser i'r ysgol a'r gymuned ddatblygu opsiynau amgen.

 

Ailadroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg nad oedd unrhyw benderfyniad wedi'i wneud a’i fod ef yn parhau i fod yn agored i gynigion newydd er na allai weld bod unrhyw ddewisiadau amgen o'r fath wedi'u cyflwyno hyd yn hyn. Dywedodd fod dewis rhieni yn ffactor pwysig ac yn achos Ysgol Biwmares, dim ond 37 o ddisgyblion dalgylch yr ysgol sy'n mynychu'r ysgol gyda rhieni 34 o blant yn dewis anfon eu plant i ysgolion eraill. Mae'r gost fesul disgybl yn Ysgol Biwmares yn uwch sydd yn golygu felly bod darpariaeth addysg yn yr ysgol yn ddrutach nag yn y ddwy ysgol arall. Rhoddwyd ystyriaeth i'r ardaloedd ar yr Ynys lle byddai modd  sefydlu ysgol ardal newydd; casglwyd nad oedd yr opsiwn hwn yn addas ar gyfer ardal Seiriol.

 

Wrth ymateb i'r pwyntiau a godwyd amlygodd ac ailbwysleisiodd y Pennaeth Dysgu –

 

           Bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ymgynghoriad dewisol, anffurfiol ac anstatudol sy'n golygu nad yw'r cwestiwn o ran cyfreithlondeb a phriodoldeb y broses yn berthnasol. Rhoddodd yr ymgynghoriad gyfle i'r Awdurdod ymgysylltu'n anffurfiol â'r gymuned a chael barn a safbwyntiau fel man cychwyn cyn adrodd i'r Pwyllgor Gwaith ar yr angen i fwrw ymlaen i gam ymgynghori ffurfiol a statudol ai peidio. Os penderfynir cynnal proses ymgynghori ffurfiol a statudol, yna gwneir gwaith llawer manylach fel rhan o'r broses yn unol â'r canllawiau statudol.

           Wrth lunio Cynllun Amlinellol Strategol Band B, rhaid i'r Awdurdod roi gwybod i Lywodraeth Cymru am yr ardaloedd sydd i'w cynnwys ym Mand B yn ogystal ag amcangyfrif o swm yr arian y mae'n ymgeisio amdano. Er mwyn gallu gwneud hyn mae'n rhaid i'r Awdurdod gael syniad o'r posibiliadau o ran moderneiddio'r ysgolion yn yr ardaloedd ym Mand B ond nid yw'n golygu bod unrhyw benderfyniadau pendant wedi'u gwneud ymlaen llaw, dim ond bod yn rhaid i'r Awdurdod wneud achos busnes am gyllid ar gyfer Band B yn seiliedig ar yr ardaloedd a gynhwysir ym Mand B. Rhaid gwneud hyn cyn cynnal unrhyw ymgynghoriad.

           Rhaid ystyried costau. Mae'r gost fesul disgybl yn Ysgol Biwmares yn 50% yn uwch na’r gost yn Ysgol Llandegfan er enghraifft. Mae ceisio parhau i gyfiawnhau cost o'r fath yn golygu parhau â sefyllfa lle nad yw plant ysgol gynradd Ynys Môn yn derbyn cyfleoedd addysgol cyfartal - sy’n egwyddor allweddol yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Mae'r strategaeth o'r cychwyn wedi ceisio lleihau'r gwahaniaeth yn y costau fesul disgybl. Felly, mae'n rhaid cynnal trafodaethau gyda'r cymunedau a chanddynt ysgolion bach oherwydd bod ysgolion llai yn ddrutach i'w cynnal.

           Bod yna waith atgyweirio a chynnal a chadw y mae angen ei wneud ar ysgolion yr Ynys sy’n werth dros £15m. Bu methiant hanesyddol dros ddegawdau i fuddsoddi'n ddigonol mewn adeiladau ysgol, gan gynnwys nifer o adeiladau a oedd yn strwythurau modern yn y 19eg ganrif ond na ellir ystyried eu bod yn fodern ar gyfer yr 21ain ganrif. Cyfeiriwyd at y costau atgyweirio a chynnal a chadw sy'n gysylltiedig ag Ysgol Biwmares; amcangyfrifon yw’r rhain sy’n seiliedig ar raglenni hirsefydlog Gwasanaeth Eiddo’r Cyngor. Fodd bynnag, mae'n debygol y byddai’r gost o sicrhau bod Ysgol Biwmares yn cyrraedd safonau a ddisgwylir o ysgol fodren ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn fwy na'r amcangyfrifon hyn.

           Mae ystadegau a ddarparwyd gan Horizon yn awgrymu na fydd paratoadau ar gyfer Wylfa Newydd ond yn dod â 220 o blant ychwanegol i'r Ynys. Pe bai pob un o'r 220 yn ail-leoli i Fiwmares yna byddai hynny'n golygu bod yr ysgol yn llawn. Fodd bynnag, ni ellir dibynnu ar y posibilrwydd hwn wrth ystyried dyfodol Ysgol Biwmares. Fel y crybwyllwyd, byddai angen adeiladu 550 o gartrefi ychwanegol yn yr ardal i sicrhau bod yr ysgol yn llawn.

           Bod 37 o ddisgyblion oed ysgol statudol yn Ysgol Biwmares ar adeg yr ymgynghoriad. Fel y nodir yn yr adroddiad gwreiddiol rhagwelir y byddai 40-50 o ddisgyblion yno hyd at 2022.Felly, nid yw'r rhagolygon o ran nifer y genedigaethau yn yr ardal yn ffafriol ar hyn o bryd.

           Mae safle'r ysgol yn mesur o gwmpas 5 erw ac ystyrir nad yw hynny’n ddigon mawr ar gyfer adeiladu ysgol unllawr ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gan bod angen oddeutu 6.5 erw fel arferol i sefydliad o'r fath.

           Er bod yr Awdurdod yn cydymdeimlo mewn perthynas â’r gostyngiad yn niferoedd y disgyblion dros y blynyddoedd diwethaf yn Ysgol Biwmares, nid yw hynny wedi digwydd o ganlyniad i unrhyw strategaeth fwriadol. Mae unrhyw awgrym o'r fath yn annerbyniol ac mae'n awgrymu y byddai swyddogion yn barod i aberthu addysg plant i gyflawni amcan penodol ac nid yw hynny’n wir.

           Mae dewis rhieni yn ystyriaeth bwysig. Y llynedd, roedd 34 o blant o'r dalgylch yn mynychu ysgolion heblaw Ysgol Biwmares. Mae'r awdurdod hefyd wedi ystyried y tebygolrwydd na fyddai rhieni yn dewis gwneud y daith yn ôl i Fiwmares neu Langoed pe byddai Ysgol Llandegfan yn cau, neu pe bai ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yng nghanol y tri dalgylch.

Bod y gyrwyr y mae'r system sgorio wedi'u seilio arnynt wedi bod yn rhan o'r broses o'r cychwyn cyntaf; mae'r fethodoleg ar gyfer sgorio yn arfer a ddatblygwyd gan yr Awdurdod ers 2012. Mae Llywodraeth Cymru yn craffu ar y system sgorio a sut y gweithredir hi bob tro y caiff proses ad-drefnu addysg ei rhoi ar waith a chyflwynir dogfennau i'w harchwilio a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Ni chwestiyniwyd cywirdeb dull gweithredu’r awdurdod ar gyfer unrhyw un o'r prosesau y mae wedi eu cynnal hyd yn hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ei bedwaredd adolygiad Gateway gyda hyn a bydd hynny’n cynnwys cael ei holi ynghylch y prosesau ar gyfer ei strategaeth foderneiddio. Ystyrir bod y ffordd y mae'r Awdurdod yn Ynys Môn yn gweithredu yn arfer dda, yn arbennig wrth gynnal proses ymgynghori anffurfiol ychwanegol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr ei safbwynt ar y sefyllfa a gwnaeth y pwyntiau canlynol –

 

           Er bod yr Awdurdod yn cydnabod pwysigrwydd addysg ar lefel leol, mae'n rhaid iddo barhau i fynd i'r afael â’r mater lleoedd gwag fel cost na all ei fforddio yn y cyd-destun ariannol sydd ohoni ac fel mater y bydd yn parhau i gael ei herio arno gan Estyn.

           Mae’r dull sgorio wedi bod yn gyson ers dechrau'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

           Dylai'r Bwrdd Llywodraethwyr hefyd fod yn gyfrifol am herio Ysgol Biwmares ynghylch mynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n dewis cael eu haddysgu yn yr ysgol.

           Yn yr ardaloedd hynny lle sefydlwyd ysgol newydd fel rhan o'r rhaglen foderneiddio, nid oedd ysgol newydd yn cael ei gweld fel datrysiad cadarnhaol pan gynhaliwyd yr ymgynghoriad. Mae'r opsiynau a gynigir bellach ar gyfer ardal Seiriol yn cynnig buddsoddiad a manteision sylweddol i ddwy o ysgolion cynradd yr ardal, a hynny gyda'r nod o sicrhau darpariaeth addysg gynaliadwy ar gyfer yr ardal yn y blynyddoedd i ddod.

           Y gallai ardal dde-ddwyreiniol yr Ynys, sy'n cynnwys ward Seiriol, elwa o gynllun corfforaethol penodol o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Fodd bynnag, byddai'n rhaid i gynllun o'r fath lunio strategaeth ar gyfer codi niferoedd y disgyblion o 40 i 150 er mwyn i'r ardal gael ysgol a ddiffinnir fel un hyfyw; mae hynny’n her sylweddol.

           Mae'r ffaith bod 34 o ddisgyblion o ddalgylch Biwmares a 29 o Langoed yn mynychu ysgolion yn rhywle arall yn ystyriaeth allweddol y mae'n rhaid rhoi pwys arni.

           Er nad cost y ddarpariaeth yw'r prif reswm dros geisio moderneiddio addysg gynradd ar yr Ynys, mae'n rhaid ystyried sut y defnyddir adnoddau. Mae'r costau yn Ysgol Biwmares yn £55k yn uwch na'r rheini mewn ysgolion eraill sy'n golygu bod llai o adnoddau ar gael i ddisgyblion ysgolion eraill. Mae hynny’n groes i’r egwyddor o gyfle cyfartal.

           Mae codi a chynnal safonau addysgol yn yrrwr allweddol yn y rhaglen moderneiddio ysgolion. Mae safonau yn y Cyfnod Sylfaen ac yn CA2 yn Ysgol Biwmares wedi bod yn amrywio o gymharu â’r chwarteli am gyfnod o 3 blynedd neu fwy.

           Rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod capasiti arweinyddiaeth digonol a phriodol yn ysgolion yr Ynys ac mae hynny’n parhau i fod yn her.

           Dylai'r Pwyllgor, wrth ddod i argymhelliad, ystyried y mater yng nghyd-destun yr Ynys yn gyffredinol; mae'r broses anstatudol anffurfiol wedi ystyried nifer o opsiynau, gan gynnwys y rheini sydd wedi deillio o’r gymuned, yn ogystal â’r ystod o ffactorau sy'n gysylltiedig ag addysg ac sy'n gyffredin i'r rhaglen foderneiddio fel y gweithredir hi ledled yr Ynys.

 

Wrth iddo ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar ac ar bapur gwnaed y pwyntiau a ganlyn gan y Pwyllgor 

 

           Nododd y Pwyllgor fod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn broses anffurfiol a oedd yn caniatáu i'r Awdurdod glywed barn trigolion yr ardal. ‘Roedd y Pwyllgor yn deall hefyd bod angen i'r Awdurdod fod wedi llunio opsiynau  cyn i'r ymgynghoriad ddigwydd er mwyn sefydlu faint o arian y gall y bod ei angen arno wrth gyflwyno’r Cynllun Amlinellol Strategol Band B ac achos busnes cysylltiedig i Lywodraeth Cymru,

           Nododd y Pwyllgor fod cost addysg y pen yn Ysgol Biwmares yn uchel ac yn gymesur ag ysgol sydd â llawer iawn mwy o ddisgyblion. Nododd y Pwyllgor ymhellach fod darpariaeth addysg yn Ysgol Biwmares yn ddrud ac felly'n anghynaliadwy yn y tymor hir.

           ‘Roedd y Pwyllgor yn derbyn pwysigrwydd sicrhau chwarae teg ar gyfer pob ysgol gynradd ar yr Ynys a chyfleoedd addysgol cyfartal ar gyfer plant oed cynradd ar yr Ynys.

           Cydnabu'r Pwyllgor nad ysgolion bach yw’r rhai mwyaf addas ar gyfer cynnig safonau ac arferion addysg modern ac ‘roedd yn cefnogi’r Awdurdod yn ei ddymuniad i sicrhau bod plant yr Ynys yn cael y safon addysg orau bosib i fedru cystadlu'n llwyddiannus yn y farchnad swyddi ehangach o fewn amgylchedd sy'n darparu cyfleusterau cyfoes.

           ‘Roedd y Pwyllgor yn derbyn nad yw ymrwymo gwariant i gynnal hen adeiladau ysgol yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau prin.

           Nododd y Pwyllgor fod y gostyngiad yn nifer y disgyblion yn Ysgol Biwmares yn ffactor arwyddocaol sy'n anodd ei esbonio. Nododd y Pwyllgor ymhellach bod 34 o blant y dalgylch ar hyn o bryd yn mynychu ysgol mewn mannau eraill ac ‘roedd o’r farn bod hwn hefyd yn ffactor arwyddocaol.

           Er ei fod yn cydnabod ac yn cydymdeimlo â chryfder y teimladau yng nghymuned Biwmares mewn perthynas â'r opsiwn o gau ysgol y dref - opsiwn yr oedd y Pwyllgor yn ystyried ei fod yn un anodd iawn - roedd mwyafrif y Pwyllgor, am y rhesymau uchod, o'r farn nad oes modd cynnal pob un o'r tair ysgol ac felly nid yw cynnal y status quo yn opsiwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard O. Jones fod y Pwyllgor yn derbyn y dewisiadau a argymhellir yn yr adroddiad i'w hanfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Griffiths.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Shaun Redmond welliant, sef y dylid rhoi ystyriaeth bellach i opsiwn ychwanegol, sef ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Biwmares, Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan; yr ysgol newydd i'w lleoli ar y safle lle mae Ysgol Biwmares ar hyn o bryd ond ar ôl-troed llai fel bod modd ystyried cydleoli tai fforddiadwy ar yr un safle. Y rhesymeg y tu ôl i’r cynnig oedd diogelu gwerth, bwrlwm a ffyniant Biwmares i’r dyfodol fel tref uchel ei pharch ar yr Ynys.  Ni chafwyd eilydd i’r cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Alun Roberts welliant pellach, sef gofyn i'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes ailystyried yr opsiynau yng ngoleuni'r drafodaeth yn y pwyllgor hwn ac adrodd yn ōl i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Aled M. Jones.

 

Gwrthodwyd yr ail welliant gan y Pwyllgor a chafodd y cynnig gwreiddiol ei gario gan y mwyafrif. Ymataliodd y Cynghorydd Shaun Redmond ei bleidlais.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor yn –

 

           Derbyn yr adroddiad ar yr ymgynghoriad anstatudol yn ardal Seiriol ac yn argymell yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith.

           Cefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad mewn perthynas â'r opsiynau a ffafrir, sef cynnal ymgynghoriad statudol ar y canlynol -

 

Opsiwn 2 - Cau Ysgol Biwmares a rhoi'r dewis i'r rhieni anfon eu plant i'r ddwy ysgol arall, adnewyddu'r ddwy ysgol a'u ffederaleiddio o bosib;

Opsiwn 3 - Cau Ysgol Biwmares a rhoi'r dewis i'r rhieni anfon eu plant i'r ddwy ysgol arall ac adolygu'r dalgylchoedd.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU PELLACH

Dogfennau ategol: