Eitem Rhaglen

Tai Gofal Ychwanegol - Ardal Seiriol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn amlinellu cynnig i ymgysylltu â chymuned Seiriol ynghylch datblygu tai gofal ychwanegol yn yr ardal.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod elfen allweddol o'r Rhaglen Trawsnewid i Oedolion yn ymwneud ag ailgyflunio darpariaeth llety a symud i ffwrdd o ofal preswyl traddodiadol tuag at fodel tai Gofal Ychwanegol. Ym mis Hydref, 2015, gwnaed ymrwymiad i ystyried opsiynau ar gyfer safle priodol yn Ne Ynys Môn i ddatblygu tai gofal ychwanegol, a nodwyd ardal Seiriol fel y lleoliad a ffafrir pe bai safleoedd ar gael yn yr ardal honno. Yn ystod 2016 comisiynwyd arolwg o safleoedd posibl trwy Wasanaethau Eiddo'r Cyngor a oedd yn ystyried y ffactorau a restrir yn yr adroddiad. Mae'r ffactorau hynny wedi dylanwadu ar y broses ar gyfer dewis safle ac adroddir ar y broses honno yn Atodiad A. ‘Roedd yr adroddiad yn nodi mai’r dewis a ffafrir yw datblygu Tai Gofal Ychwanegol ar safle'r ysgol gynradd gyfredol, naill ai i’w gydleoli gyda'r ysgol er mwyn  sicrhau defnydd effeithiol o’r tir, neu fel arall, fel yr unig denant. Aseswyd dau leoliad o fewn y safle, sef lleoliad y ganolfan ddydd sydd bellach yn wag, a'r llall y tu cefn i’r ysgol. Mae'r ail yn darparu ar gyfer gwneud gwell defnydd o'r ardal a allai, o bosib, gynorthwyo i sicrhau bod dyluniad yr adeilad yn gyson â statws rhestredig yr ysgol ac a allai ganiatáu rhannu cyfleusterau arlwyo gyda'r ysgol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies, fel Aelod Lleol, y byddai'r safle yn fwy addas i dai cymdeithasol sydd yn brin ym Miwmares. Mae’r bwriad i ddatblygu cyfleuster Gofal Ychwanegol ar y safle hwn yn cynyddu’r demograffig pobl hŷn ym Miwmares ac mae hynny, ynghyd â’r posibilrwydd o gau'r ysgol gynradd, yn atgyfnerthu’r argraff o’r dref fel lle i bobl hŷn yn bennaf. Pwysleisiodd y Cynghorydd Davies bwysigrwydd cael cynllun corfforaethol ar gyfer yr ardal i fynd i'r afael â’r ystyriaeth hon a’r ystyriaethau eraill sy'n berthnasol i ddyfodol yr ardal a'i ffyniant economaidd a'i hyfywedd.

 

Eglurodd y Cadeirydd y bydd cyfleoedd i wneud sylwadau ar y cynigion yn fanwl yn ystod y cyfnod ymgysylltu. Gofynnodd am adroddiad ar ganlyniad yr ymgysylltiad â'r ardal leol ar gyfer y Pwyllgor hwn cyn cyflwyno'r atborth i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnal cyfnod o ymgysylltu’n lleol yn ardal Seiriol yn ystod mis Tachwedd, 2017 ynglŷn â’r materion canlynol:

 

           Datblygu darpariaeth Tai Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol i ddarparu lleiafswm o 39 o fflatiau hunangynhaliol yn unol â’r modelau darpariaeth a gymeradwywyd yn genedlaethol

           Mai’r lleoliad a ffafrir ar gyfer y datblygiad hwn yw safle presennol Ysgol Biwmares naill ai fel cyfleuster wedi’i leoli ar y cyd ag ysgol wedi’i haddasu, neu fel y prif ddefnydd ar gyfer y tir hwn

           Bod y Cyngor yn mynd ar ôl opsiynau i ariannu’r datblygiad trwy’r Cyfrif Refeniw Tai fel bod y datblygiad yn dod yn stoc tai cyngor ychwanegol o fewn y sir gan ddarparu llety hollbwysig i bobl hŷn.

 

CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL A GYNIGIR: Y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i gyflwyno crynodeb o’r atborth o’r broses ymgysylltu i’r Pwyllgor hwn cyn y caiff ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

Dogfennau ategol: