Eitem Rhaglen

Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol 2017/18 - 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Cynllun Ariannol Tymor Canol ar gyfer 2018/19 i 2020/21 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol (CATC) yn gosod allan strategaeth gyllideb y Cyngor am y tair blynedd nesaf ac yn gosod allan y tybiaethau a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i’r broses flynyddol o osod y gyllideb. Ar hyn o bryd mae nifer o ffactorau yn ei gwneud yn arbennig o annod rhagweld y dyfodol gydag unrhyw hyder; hefyd, mae’r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi aildrefnu ei phrif ddatganiad cyllideb o fis Mawrth i fis Tachwedd yn golygu na fyddwn yn gwybod beth yw’r gyllideb a gaiff Llywodraeth Cymru tan ar ôl y dyddiad pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei setliad dros dro, sef 10 Hydref, 2017 ar hyn o bryd.

 

O 2014/15 i 2016/17 mae’r Cyngor wedi gweld gostyngiadau yn y grant mae’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru fel y gwelir yn Nhabl 1 yr adroddiad. Fe drodd y duedd hon o chwith yn 2017/18 pan dderbyniodd y Cyngor setliad fymryn yn uwch yn nhermau arian parod. Mae hyn yn cynrychioli lleihad cyffredinol yn y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) o 8.1% rhwng y lefel yn 2013/14 a’r lefel yn 2017/18. Er mwyn lliniaru effaith y golled hon, mae’r Cyngor wedi cynyddu’r Dreth Gyngor ar gyfradd uwch na chwyddiant dros yr un cyfnod (Tabl 2 yr adroddiad) gan olygu bod y Dreth Gyngor fel canran o gyfanswm cyllid y Cyngor wedi codi i 26.6% erbyn 2017/18. Gan gofio’r ansicrwydd ynglŷn ag economi’r DU, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ysgwyddo rhagor o doriadau mewn cyllid, o bosib i’r graddau 3.3% yn 2018/19 a 2.6% yn 2019/20 – gostyngiad yn nhermau ariannol o £5.4m dros y ddwy flynedd mewn AEF.

 

Yn ychwanegol at hyn, mae llywodraeth leol yn gyffredinol yn wynebu nifer o bwysau cyllidebol; bydd Ynys Môn hefyd yn wynebu ei phwysau cyllidebol unigryw ei hun a bydd angen ymgorffori hynny fel ffactor yn y CATC. Ceir manylion am y rhain yn adran 5 yr adroddiad ac ynghyd â’r Cyflog Byw Cenedlaethol a Chodiad Cyflog y Sector Cyhoeddus, maent yn cynnwys pwysau mewn gwasanaethau penodol mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Plant sy’n Derbyn Gofal, Moderneiddio Ysgolion, Cynnal a Chadw Priffyrdd ac ariannu’r Cynllun Corfforaethol wrth i’r Cyngor fynd ymlaen i’w weithredu. Mae’r broses gosod y gyllideb hefyd yn edrych ar y chwyddiant a ragamcennir dros nifer o wahanol feysydd gwariant, ac mae hynny’n uwch mewn ambell i faes e.e. ynni. Mae’r rhain wedi eu nodi yn adran 6 yr adroddiad.

 

Gan gymryd i ystyriaeth yr holl bwysau ar y gyllideb y gwyddom amdanynt, a’r rhagdybiaethau o ran chwyddiant a ffactorau eraill, mae’n bosibl pennu cyllideb ddisymud am y cyfnod 2018/19 i 2020/21. Y gyllideb ddisymud yw'r costau diwygiedig o barhau i ddarparu gwasanaethau i'r un lefel ac yn yr un modd ag y cawsant eu darparu yn 2017/18.

 

Mae'r gyllideb ddisymud a amcangyfrifir ar gyfer y cyfnod tair blynedd nesaf i’w gweld yn Nhabl 5 yr adroddiad.

 

Yn wyneb y bwlch cyllido rhwng y gyllideb ddisymud a ragamcennir (Tabl 6) a’r amcangyfrif o’r cyllid sydd ar gael (Tabl 7), rhagwelir y bydd angen arbedion o thua £8.68m dros y 3 blynedd o gyllidebau gwasanaethau, i roi cyfanswm o £106.7m (cyllideb 2017/18). Mae hyn gyfwerth ag arbedion o 8.1% dros 3 blynedd. Mae’n rhaid diolch i staff y Cyngor sydd hyd yma wedi ceisio adnabod a gwireddu arbedion yn flynyddol. Yn dilyn adolygiad o gyllidebau gwasanaethau a’r Polisi MRP mae cyfanswm yr arbedion posib a adnabuwyd hyd yma yn tua £4.7m sydd dal tua £4m yn is na’r arbedion yr amcangyfrifwyd sydd eu hangen.

 

I gloi, dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, er mwyn cyflawni’r arbedion sydd eu hangen yn y dyfodol, y bydd raid i’r Cyngor wneud penderfyniadau mwy anodd, gan gynnwys ystyried stopio darparu gwasanaethau anstatudol, cau cyfleusterau a chynyddu’r cyfraniad a wneir gan drigolion Ynys Môn at y gwasanaethau maent yn eu derbyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 y daw darlun mwy clir i’r golwg unwaith y cyhoeddir y setliad; fodd bynnag, mae’r CATC yn gosod y cyd-destun ehangach ar adeg pan fydd raid gwneud nifer o benderfyniadau anodd er mwyn cyflawni cyllideb gytbwys.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y canlynol

 

  At ddibenion y CATC, caniatawyd ar gyfer cynnydd tybiedig o 4% yn y Dreth Gyngor ym mhob un o’r 3 blynedd. O ystyried y pwysau aruthrol ar wasanaethau a dymuniad y Cyngor i amddiffyn pobl fregus a chynnal ansawdd gwasanaethau, efallai y bydd rhaid ystyried ymgynghori ar gynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor. Efallai y daw i’r amlwg ar ôl gwneud yr holl gyfrifiadau ynghylch y gyllideb, na fydd angen cynnydd ar y lefel hon, ond byddai’n ddoeth cynllunio ar sail y sefyllfa waethaf un ac wedyn os yw’r amgylchiadau’n caniatáu, gallu cynnig cynnydd is yn y Dreth Gyngor.

  Bod angen i’r cyhoedd fod yn llwyr ymwybodol fod y Cyngor fwy neu lai wedi gwneud popeth y gall o fewn y trywydd hanesyddol o gyflawni arbedion trwy leihau cyllidebau a oedd heb eu defnyddio a/neu heb eu gwario, a bod swyddogaethau ystafell gefn hefyd wedi cael eu rhesymoli cymaint â phosib. Prif nod y Cyngor erioed fu gwarchod y gwasanaethau craidd rheng flaen rhag y gwaethaf o’r toriadau ariannol; trwy weithredu arbedion nid yw’n dewis torri gwasanaethau, ond mae yn ceisio gwneud y gorau y gall o fewn y setliad ariannol a roddir iddo.

  Ei bod yn hanfodol fod yr ymarfer ymgynghori ar y gyllideb yn cyrraedd cynifer o drigolion Ynys Môn â phosib ac y cânt eu hannog i roi eu barn ar feysydd y credant y dylid eu blaenoriaethu.

  Bod adroddiad monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 ar gyfer Chwarter 1 yn rhagamcanu bwlch ariannol ar ddiwedd y flwyddyn o £2.119m. Petai hyn yn dod yn wir, yna yn fwy na thebyg byddai’n rhaid mynd i gronfeydd wrth gefn y Cyngor i dalu am y gwahaniaeth gan felly ostwng lefel y Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol, a gwneud lefel uwch o gynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19 yn opsiwn mwy tebygol.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canol 2018/19 i 2020/21 a chymeradwyo’r rhagdybiaethau a wnaed.

Dogfennau ategol: