Eitem Rhaglen

Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2016/17

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 30 Hydref 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid a oedd yn ymgorffori’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) ar gyfer 2016/17 i’w ystyried gan y Pwyllgor.  Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor yn 2016/17 a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion gwella fel yr amlinellwyd nhw yn y 7 maes allweddol yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol am 2015/16.  Rhan allweddol o’r Adroddiad Perfformiad terfynol yw asesiad o berfformiad y Cyngor o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.  Mae’r adroddiad yn amlygu’r cyflawniadau a’r meysydd gwendid fel y nodwyd nhw gan Ddangosyddion Strategol Cenedlaethol (DSC) a Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (MAC).

 

Dywedodd yr Aelod Porttolio (Gwasanaethau Corfforaethol) bod gofyn i’r Cyngor baratoi a chyhoeddi ei Adroddiad Perfformiad blynyddol erbyn 31 Hydref bob blwyddyn.  Mae’r ddogfen statudol yn dadansoddi’r perfformiad dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y gwelliannau a’r blaenoriaethau hynny fel yr amlinellwyd nhw yn Nogfen Gyflawni Flynyddol 2016/17 a Chynllun Corfforaethol 2013/17.  Dywedodd mai calondid oedd medru adrodd am y gwelliant ym mherfformiad y Cyngor yn 2016/17.  Roedd yn dymuno diolch i Weinyddiaeth flaenorol y Cyngor (cyn y cynhaliwyd yr etholiadau llywodraeth leol ym Mai 2017) a staff y Cyngor am eu gwaith caled a olygodd, am y tro cyntaf erioed, fod Cyngor Sir Ynys Môn ymhlith y pedwar awdurdod lleol gorau yng Nghymru o ran perfformiad yn y Dangosyddion Perfformiad yn gyffredinol, ac yn seithfed o’r dau ddeg a dau o ran Dangosyddion Perfformiad yn y chwartel uchaf.  Dywedodd yr Aelod Portffolio (Gwasanaethau Corfforaethol) hefyd fod y cyfraddau absenoldeb staff wedi gostwng i 9.8 diwrnod am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn ar gyfer 2016/17 o gymharu â 12 diwrnod yn 2015/16.  Mae hyn yn dangos bod camau monitor a rheoli cyson wedi arwain at welliant yn y cyfraddau absenoldeb staff.  Cyfeiriodd ymhellach at lwyddiant ailgylchu ar yr Ynys gyda’r Cyngor Sir yn symud o’r chwartel canol isaf o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru (safle 13) yn 2015/16 i’r chwartel uchaf a’r 6ed safle yng Nghymru yn 2016/17.  Mae’r gwelliant hwn yn dangos y bwriad i wneud rhagor o gynnydd dros y blynyddoedd nesaf fel bod 70% o wastraff domestig Ynys Môn yn cael ei ailgylchu. 

 

Ychwanegodd yr Aelod Portffolio fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2017, wedi cyfeirio at un o’r nodau a ddatganwyd gan y Cyngor, sef ‘gyrru adfywio cymunedol trwy ddatblygu cynlluniau tref a chymuned cyfannol ar gyfer prif aneddiadau’r Ynys, gan flaenoriaethu Caergybi, Llangefni ac Amlwch’.  Roedd y Pwyllgor wedi nodi nad oedd sôn am y cynlluniau ar gyfer Amlwch fel un o’r aneddiadau blaenoriaeth a enwir ac nad oedd unrhyw gyfeiriad ‘chwaith at gynlluniau adfywio cymunedol ar gyfer Biwmares y credir y dylid eu cynnwys mewn unrhyw raglan adnewyddu.  Nododd y bydd yr Uwch Dm Arweinyddiaeth yn rhoi sylw i’r mater hwn.

 

Mewn ymateb i’r datganiad uchod ynghylch y ffaith fod trefi Amlwch a Biwmares wedi eu gadael allan o’r cynlluniau adfywio, dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers god angen dirfawr i fuddsoddi ym mhentref Niwbwrch hefyd a’i drawsnewid gan fod y pentref yn denu nifer fawr o dwristiaid i’r ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd A M Jones, ar ran Grŵp yr Wrthblaid, ei fod ef hefyd yn dymuno diolch i’r staff am eu gwaith caled; mae hefyd yn adlewyrchu’r perfformiad a gyflawnwyd dros y pedair blynedd diwethaf.  Cyfeiriodd at y gwaith cale a waned gan y cyn-Gynghorydd Alwyn Rowlands o ran materion Trawsnewid a hefyd gan y Cynghorydd J Arwel Roberts mewn perthynas â’r cynnydd mewn cyfraddau ailgylchu gwastaff ar yr Ynys.  Dywedodd y Cynghorydd Jones ymhellach fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2017 wedi nodi fod yr Adroddiad Perfformiad yn ymwneud â chyfnod y Weinyddiaeth flaenorol yn y Cyngor cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017 a gofynnodd am i hynny gael ei egluro yn yr adroddiad; ailadroddodd y dylid ymgorffori hynny yn fersiwn derfynol yr adroddiad sydd i’w gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd R.Ll. Jones at ddyheadau etholwyr yr Ynys o ran y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor ac anghenion y genhedlaeth hŷn yn arbennig.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei fod yntau hefyd yn dymuno diolch i’r Aelodau Etholedig, yr Uwch Dm Arweinyddiaeth, Prif Swyddogion a staff y Cyngor Sir am berfformiad y Cyngor.  Gofynnodd bod staff yn cael eu diolch am eu gwaith.

 

Ailadroddodd Arweinydd y Cyngor ei gwerthfawrogiad i staff y Cyngor am eu gwaith ac yn enwedig yn ystod cyfnod anodd a lymder a thoriadau i wasanaethau.  Nododd hefyd fod angen gwaith pellach i fynd i’r afael â meysydd yr amlygwyd eu bod yn tanberfformio sydd wedi gweld gostyngiad canrannol yn eu lefelau perfformiad.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn gwerthfawrogi’r sylwadau ynglŷn â’r gwelliant ym mherfformiad gwasanaethau o fewn y Cyngor ac ‘roedd ef hefyd yn dymuno diolch i’r Uwch Dm Arweinyddiaeth a’r staff am eu gwaith.  Dywedodd fod Aelodau Etholedig wedi gweithio’n llywddiannus gyda Swyddogion y Cyngor i sicrhau’r gwelliant a nodwyd yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2016/17 i’w gyhoeddi erbyn y dyddiad cau statudol, sef 31 Hydref, 2017.

Dogfennau ategol: