Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynigiad yn unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorwyr Aled M Jones a Kenneth P Hughes:-

 

“Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn annog y Cyngor Sir i fabwysiadu polisi sy’n cadarnhau ymrwymiad tymor hir i’r stad mân-ddaliadau amaethyddol.

 

I wneud hyn, bydd angen i’r Awdurdod roi’r gorau i gael gwared ar ddaliadau wrth iddynt ddod yn wag. Dim mân-ddaliadau sy’n fwy na 20 o erwau i gael eu gwerthu heb i hynny gael ei gymeradwyo mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn”.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorwyr Aled M. Jones a Kenneth P. Hughes:-

 

Yr ydym ni, y rhai a enwir isod, yn annog y Cyngor Sir i fabwysiadu polisi sy’n cadarnhau ymrwymiad hirdymor i’r stad mân-ddaliadau amaethyddol.

Mae hyn yn gofyn i’r Awdurdod roi’r gorau i werthu mân-ddaliadau gwag pan fyddant yn dod ar gael. Ni ddylid gwerthu unrhyw fân ddaliadau dros 20 acer heb gymeradwyaeth y Cyngor Llawn.”

 

Siaradodd y Cynghorydd Aled M. Jones o blaid y cynnig gan ddweud bod yn rhaid diogelu’r Stad Mân-ddaliadau er mwyn diogelu dyfodol pobl ifanc sy’n dymuno gallu cyfrannu at amaethyddiaeth drwy’r mân-ddaliadau hyn. Nododd fod y polisi presennol yn galluogi’r Deilydd Portffolio (Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff) a Swyddogion i werthu mân-ddaliadau hyd at 20 acer; gwerthwyd 2 fân-ddaliad yn ddiweddar. Mae’r Stad Mân-ddaliadau ar hyn o bryd yn cynnwys 98 o unedau, sef yr ail stad fwyaf yng Nghymru, sydd â 78 o anheddau ynghlwm â hi a rhenti blynyddol o £520k. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi gwneud gwaith ailwampio ac atgyweirio helaeth i’r stad, a oedd mewn cyflwr hynod o wael, yn dilyn trosglwyddo’r ystâd o Gyngor Gwynedd ym 1996. Pwysleisiodd yr angen i ddiogelu’r Stad Mân-ddaliadau ond bod angen i benderfyniadau mewn perthynas â gwerthu mân-ddaliadau neu anheddau hyd at 20 acer fod yn benderfyniadau i’r Cyngor llawn.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K.P Hughes a dywedodd efallai bod cyfiawnhad dros werthu rhai mân-ddaliadau yn y gorffennol oherwydd cyflwr echrydus y stad wedi iddi gael ei throsglwyddo gan Gyngor Gwynedd. Nododd fod y rhan fwyaf o’r Stad bellach wedi ei hailwampio a bod bellach angen ei diogelu ar gyfer dyfodol pobl ifanc sy’n dymuno ennill bywoliaeth o fewn amaethyddiaeth.

 

Nododd y Cynghorydd Peter Rogers ei fod yn ystyried bod y Stad Mân-ddaliadau wedi cael ei gadael i ddirywio ac nad yw’r modd y mae’r Cyngor yn rhedeg y stad yn addas i’r pwrpas.

 

Cynigiodd y Deilydd Portffolio (Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff) welliant i’r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd a cynigiodd y dylid gofyn i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol drafod nod y Polisi Gosod Mân-ddaliadau. Mae angen gwerthuso’r Polisi Gosod er mwyn galluogi’r stad mân-ddaliadau i fod mor effeithiol a ffrwythlon â phosibl fel bod pobl ifanc yn cael cyfle i fod yn denantiaid mân-ddaliadau ar yr Ynys ac i allu gwneud bywoliaeth o fân-ddaliadau ac yn fwy na hynny er mwyn gallu dod yn Reolwyr Unedau Ffermio Masnachol yn y dyfodol a sicrhau sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y Stad. Eiliwyd y gwelliant gan Arweinydd y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M. Jones ei fod o’r farn bod y stad mân-ddaliadau wedi cael ei huwchraddio ond nad oedd yn cytuno y dylid cyfeirio’r mater at y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar gyfer trafodaethau pellach gan fod y rhenti blynyddol ar gyfer y stad wedi cael eu gwarchod yn benodol ar gyfer gwneud y gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ar yr eiddo. Roedd dal o’r farn mai’r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gerbron y cynnig oedd y peth gorau ar gyfer dyfodol y Stad Mân-ddaliadau.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach, cafwyd pleidlais ar y gwelliant i’r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Deilydd Portffolio (Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff) a chadarnhawyd y gwelliant.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig diwygiedig ac fe gafodd ei gario.

 

PENDERFYNWYD y dylid trosglwyddo’r Rhybudd o Gynnig, fel y’i diwygiwyd, ymlaen ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.