Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Tachwedd, 2017 hyd at fis Mehefin 2018 i’w chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar newidiadau i'r Flaenraglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol fel a ganlyn -
Eitemau sy’n newydd i'r Flaenraglen Waith
• Eitem 2 – Cynllun Rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd 2017-22 – Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd – i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd, 2017.
• Eitem 9 – Trawsnewid Gwasanaethau Llyfrgell – i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017.
• Eitem 10 - Trawsnewid y Gwasanaeth Diwylliant yn Oriel Ynys Môn – i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017.
• Eitem 12 – Arolwg AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn – Adroddiad Cynnydd Chwarterol – i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017 .
• Eitem 14 – Dirprwyaethau sydd eu hangen ar gyfer cyfranogiad y Cyngor o ran archwilio ceisiadau Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru a Wylfa Newydd o dan Ddeddf Cynllunio 2008 – i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd, 2017.
• Eitem 21 – Moderneiddio Ysgolion yn Ardal Llangefni – Achos Strategol Amlinellol / Achos Busnes Amlinellol – i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr, 2017.
• Eitem 35 – Cynllun Rhanbarthol ar gyfer Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru - yn amodol ar gadarnhad – i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror 2018
• Eitem 36 – Tai Gofal Ychwanegol, Seiriol - yn amodol ar gadarnhad, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018.
• Eitem 37 – Moderneiddio Ysgolion yn Ardal Seiriol – yn amodol ar gadarnhad - i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018.
• Eitem 38 – Arolwg AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn – Adroddiad Cynnydd Chwarterol – i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018 .
• Arolwg AGGCC o Adroddiad Cynnydd Chwarterol ar Gynllun Gwella Gwasanaethau Plant Ynys Môn – a drefnwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018 .
• Eitem 45 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2017/18 – i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym Mai, 2018 ar ddyddiad i'w gadarnhau.
• Eitem 46 – Adroddiad Monitro Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Chwarter 4 2017/18
– i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Mai, 2018 ar ddyddiad i'w gadarnhau.
Yn ogystal, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor Gwaith fod eitem 26 (Adroddiad Monitro Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Chwarter 3, 2017/18 ) wedi cael ei ddwyn ymlaen o gyfarfod 26 Mawrth, 2018 y Pwyllgor Gwaith i'w gyfarfod ar 19 Chwefror 2018 fel y nodir ar y Rhaglen Waith.
Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Tachwedd, 2017 a Mehefin, 2018 fel y cyflwynwyd hi.
Dogfennau ategol: