Eitem Rhaglen

Strategaeth Gyfalaf 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi'r strategaeth gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2018/19 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae'r adroddiad yn nodi'r gofynion ar gyfer gwariant cyfalaf yn y dyfodol, yn asesu'r effaith ar elfen cyllid cyfalaf y cyfrif refeniw ac yn pennu'r cyllid sydd ar gael i ariannu cynlluniau cyfalaf newydd yn 2018/19.

 

Er mwyn i'r Cyngor benderfynu pa brosiectau i’w cynnwys yn rhaglen gyfalaf 2018/19, dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid bod gofyn i'r Pwyllgor Gwaith roi arweiniad ar lefel yr arian a fydd ar gael, gan gofio effaith y rhaglen gyfalaf ar yr elfen cyllid cyfalaf yng nghyllideb Refeniw’r Cyngor. Ariennir y rhaglen gyfalaf o nifer o ffynonellau sydd wedi'u rhestru yn yr adroddiad. Ym mis Hydref, 2016, cytunodd y Pwyllgor Gwaith i nifer o egwyddorion mewn perthynas â'r strategaeth gyfalaf ac amlinellir y rhain yn adran 3 yr adroddiad. Gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith gadarnhau'r egwyddorion hynny i ddibenion strategaeth gyfalaf 2018/19.

 

Mae'r Cyngor wedi cychwyn cynllun uchelgeisiol i foderneiddio a diweddaru ei ysgolion trwy’r Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain ar gost gyfalaf o tua £120m. Ariennir Band A y rhaglen ar sail 50% o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a 50% trwy fenthyca digymorth. Yn amodol ar gadarnhad, rhagwelir y bydd cyfraniad Llywodraeth Cymru i Band B yn parhau i fod yn 50% ar gyfer y cynlluniau a ariennir yn draddodiadol ond cyflwynir elfen o gyllid sector preifat hefyd trwy fodel buddsoddi ar y cyd. Wrth geisio lleihau gwariant refeniw i sicrhau cyllideb gytbwys, mae'n rhesymol hefyd edrych ar leihau'r cynnydd yn y gyllideb cyllid cyfalaf trwy ei gyfyngu i lefel y gellir ei ariannu gan y setliad blynyddol h.y. y Grant Cyfalaf Cyffredinol a benthyca â chymorthdisgwylir i’r rhain fod o gwmpas £1.3m a £2.2 miliwn (yn y drefn honno) fel yn 2017/18. Bydd grantiau cyfalaf ar gael yn 2018/19 i ariannu cynlluniau penodol e.e. cwblhau Ffordd Gyswllt Llangefni, cynlluniau lliniaru llifogydd, cynlluniau isadeiledd a Cham 2 Prosiect Neuadd y Farchnad Caergybi ymhlith eraill, a hynny ar gost o £23.4m. Efallai hefyd y bydd yn rhaid ystyried ariannu nifer o gynlluniau posib eraillnodir y rhain yn adran 7.3 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod yr arian sydd ar gael i gynorthwyo cynlluniau cyfalaf yn dynn; mae'n adlewyrchu newid ymagwedd gan Lywodraeth Cymru lle mae cynlluniau cyfalaf llywodraeth leol yn cael eu hariannu fwyfwy trwy grantiau penodol. Nid yw’r grant cyfalaf cyffredinol a'r elfen fenthyca yn yr arian cyfalaf wedi newid fawr ddim dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf sy’n golygu bod llai o arian ar gael ar gyfer prosiectau cyffredinol y Cyngor. Dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig i’r Cyngor barhau i fuddsoddi yn ei asedau cyfredol trwy eu cynnal a’u cadw a’u huwchraddio, a hynny er mwyn osgoi costau llawer uwch yn nes ymlaen oni fyddir yn gwneud hynny. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn adlewyrchu'r amcan hwn ac, ar ôl ymrwymo i gynnal yr asedau cyfredol, ychydig iawn o gyllid ychwanegol sydd ar ôl i ddechrau ar gynlluniau newydd er gwaethaf pwysau i adnewyddu a / neu fuddsoddi yn y cynlluniau hynny a nodir ym mharagraff 7.3 yr adroddiad. Fodd bynnag, nid yw'r cyllid sydd ar gael yn ddigonol i gefnogi dim y tu hwnt i'r cynlluniau hynny a glustnodwyd eisoes a chynnal a chadw asedau megis priffyrdd. Mae’r gyllideb refeniw ar gyfer Priffyrdd wedi gostwng dros amser a'r strategaeth a ddilynwyd yn y gorffennol oedd defnyddio cyllid cyfalaf i ariannu'r elfen refeniw. Gan fod y gyllideb refeniw ar gyfer Priffyrdd yn parhau i fod yn dynn, bwriedir parhau â'r strategaeth hon a defnyddio arian cyfalaf craidd i fuddsoddi £700k i gynnal priffyrdd.

 

Yr unig gyfle i ddefnyddio arian ychwanegol yw trwy'r gronfa gyfalaf a adeiladwyd beth amser yn ôl o gyllidebau refeniw a oedd heb eu gwario. Mae'r balans sydd heb ei ymrwymo yn £500k a defnyddir y gronfa’n bennaf ar gyfer gwaith brys neu lle mae cyfraniad bychan gan y Cyngor yn caniatáu mynediad at gyllid grant. Er bod angen cadw balans yn y gronfa felly, gellid rhyddhau £250k yn 2018/19 i ariannu rhywfaint o'r pwysau ychwanegol a ddisgrifir yn adran 7.3 yr adroddiad e.e. cynlluniau buddsoddi i arbed bychan fel oedd yn digwydd yn 2017/18.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a gwnaeth y pwyntiau canlynol -

 

  Ceisiodd y Pwyllgor Gwaith sefydlu a yw'r Awdurdod yn cael y mwyaf o’i asedau cyn ail-fuddsoddi ynddynt e.e. y bwriad i wario £150k ar gerbydau a fyddai’n cyfateb i tua 50 o gerbydau ar brydles yn seiliedig ar y costau cyfredol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod y £150k ar gyfer prynu cerbydau newyddmae cerbydau ar brydles yn dod o dan y gyllideb refeniw.

 

  Credai’r Pwyllgor Gwaith nad oedd mewn sefyllfa ar hyn o bryd i fedru penderfynu sut gellid ariannu costau cyfalaf ychwanegol net Band B Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain o ystyried nad yw'r Achos Busnes ar gyfer Band B wedi ei gymeradwyo eto gan Lywodraeth Cymru. (Argymhelliad 2 yr adroddiad). Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno y dylai ailymweld â'r mater hwn pan roddwyd y gymeradwyaeth.

  Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno y dylid rhyddhau £250k yn 2018/19 o'r gronfa gyfalaf wrth gefn i gwrdd â rhywfaint o'r pwysau ychwanegol ac, fel y  llynedd, dylid ei ddyrannu ar gyfer prosiectau buddsoddi i arbed am y rheswm bod y rhain wedi eu dylunio i ddarparu arbedion refeniw parhaus i'r Cyngor.

 

Penderfynwyd -

 

  Ail-gadarnhau egwyddorion y strategaeth gyfalaf a nodir ym mharagraff 3 yr adroddiad.

  Cadarnhau y bydd y cyllid ar gyfer rhaglen gyfalaf 2018/19 yn cael ei gyfyngu i gyfanswm y grant cyfalaf cyffredinol a’r benthyca â chymorth (fel y penderfynir gan Lywodraeth Cymru) a gwerth amcangyfrifiedig unrhyw dderbyniadau cyfalaf a dderbynnir.

  Cadarnhau bod yr ymrwymiadau prosiect cyfredol (Tabl 5 yr adroddiad) a’r cyllid ar gyfer adnewyddu/uwchraddio asedau cyfredol ar gyfer 2018/19 fel y gwelir yn Nhabl 6 yr adroddiad, yn amodol ar gynnwys £250k yn ychwanegol i’w ryddhau yn 2018/19 o’r gronfa gyfalaf wrth gefn i’w ddyrannu i Brosiectau Buddsoddi i Arbed.

Dogfennau ategol: