Eitem Rhaglen

Tai Gofal Ychwanegol, Seiriol – Ymgysylltu

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i ymgysylltu â chymuned Seiriol dros gyfnod o fis Tachwedd i fis Rhagfyr 2017 ar faterion sy’n ymwneud â datblygu darpariaeth gofal ychwanegol yn yr ardal.

 

Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn nodi'r rhesymau cyffredinol dros ddatblygu gofal ychwanegol fel model o ddarpariaeth; yn ne'r Ynys fe nodwyd ardal Seiriol fel y lleoliad a ffafrir pan wnaed ymrwymiad ym mis Hydref, 2015 i ystyried opsiynau ar gyfer safle yn ne Ynys Môn.  Mae'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu ar y mater ac mae’n cefnogi'r cynnig i ymgysylltu.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y Pwyllgor Gwaith, ym mis Rhagfyr 2013, wedi penderfynu y dylai buddsoddiad yn y dyfodol gael ei dargedu tuag at ddatblygu darpariaeth gofal ychwanegol fel rhan o’r cynllun corfforaethol, tra'n cadw'r dewis sydd ar gael o fewn y sefydliadau preswyl ar yr un pryd. Mae'r model tai gofal ychwanegol yn elfen allweddol o'r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion gan fod y gwasanaeth yn ceisio symud i ffwrdd o ddarpariaeth gofal preswyl mwy traddodiadol. Mae'r adroddiad a gyflwynir hefyd yn cynnwys arolwg o opsiynau ar gyfer safleoedd ac mae'n rhestru'r ffactorau sydd wedi dylanwadu ar yr asesiad a arweiniodd at ddynodi safle Ysgol Biwmares fel yr opsiwn a ffafrir.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Lewis Davies ac Alun Roberts fel Aelodau Lleol ac er eu bod yn cefnogi datblygu tai gofal ychwanegol mewn egwyddor, nid oeddent yn ffafrio'r safle a gynigiwyd i leoli'r ddarpariaeth yn yr ardal hon am resymau penodol, sef yn gyntaf am ei fod ar fryn, y tu allan i'r dref ac yn bellach o gyfleusterau hanfodol nag oedd yn ddelfrydol; ac yn ail oherwydd y byddai'n atgyfnerthu’r argraff fod Biwmares yn dref i bobl hŷn. Yr hyn y mae’r dref ei angen yw buddsoddiad mewn tai cymdeithasol i gadw a denu poblogaeth iau, nid yn lleiaf i gynnal ei ddiwydiant twristiaeth craidd. Roedd y ddau yn pryderu am oblygiadau'r datblygiad hwn i gartref preswyl Haulfre ac Ysgol Biwmares y mae eu dyfodol eisoes dan ystyriaeth.

 

Ategwyd y sylwadau uchod gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ac sydd hefyd yn Aelod Lleol, ac ychwanegodd fod angen gwneud gwaith pellach yn y broses ymgysylltu i addysgu pobl am y cysyniad gofal ychwanegol a'r hyn y mae'n ei olygu; dylid ystyried safleoedd eraill hefyd pe bai opsiynau o'r fath yn dod i'r amlwg o ganlyniad i’r ymgysylltiad. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod De Môn yn ardal fawr a holodd a dyllid, er enghraifft, ofyn am farn cymunedau Llanfair a Brynsiencyn hefyd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion mai'r ymrwymiad a wnaed yn 2015 oedd edrych ar ardal Seiriol; mae prinder o safleoedd addas ar gyfer y datblygiad yn Seiriol ond ar ôl ystyried y ffactorau a restrir yn yr adroddiad a thrwy weithio gyda'r gymuned leol, ystyrir y gall safle'r ysgol weithio'n dda a dod yn rhan o'r gymuned, yn enwedig fel rhan o hyb ehangach ar gyfer heneiddio’n dda. Ffafrir ardal Seiriol oherwydd mae'n cynnig cyfle i fwrw ymlaen o fewn amserlen resymol ac i ddatblygu model o ddarpariaeth y mae'r gwasanaeth yn dymuno ei ddatblygu ac sy’n cynnig dewis arall ar gyfer byw'n annibynnol i bobl hŷn .Bydd y cyfnod ymgysylltu yn caniatáu i unigolion weld tai gofal ychwanegol ac i siarad â phobl am eu profiadau o ofal ychwanegol o ran medru cynnal eu hannibyniaeth tra'n dal i fyw mewn amgylchedd sy'n darparu mynediad i gymorth.

 

Penderfynwyd y dylid cynnal cyfnod o ymgysylltu yn lleol yn ardal Seiriol yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â'r materion canlynol:

 

  Datblygu tai gofal ychwanegol yn ardal Seiriol er mwyn darparu o leiaf 39 o fflatiau hunangynhwysol yn unol â modelau darpariaeth a gymeradwywyd yn genedlaethol.

  Y safle sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y datblygiad hwn yw safle cyfredol Ysgol Biwmares naill ai wedi ei gydleoli gydag ysgol wedi’i haddasu neu fel yr unig ddefnydd ar gyfer y tir hwn.

  Bod y Cyngor yn mynd ar ôl opsiynau i gyllido’r datblygiad drwy’r Cyfrif Refeniw Tai fel bod y datblygiad yn cael ei ychwanegu at y stoc dai yn y sir gan ddarparu llety hanfodol ar gyfer pobl hŷn.

 

(Ymataliodd y Cynghorydd Carwyn Jones rhag pleidleisio)

 

Dogfennau ategol: