Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion – Ardal Seiriol – Ymgynghoriad Anffurfiol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys canlyniad yr ymgynghoriad anffurfiol, anstatudol ar foderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn nodi'r cyd-destun o ran y gyrwyr am newid; yr ymatebion o'r tri chyfarfod ymgynghori a gynhaliwyd gyda staff, llywodraethwyr a rhieni disgyblion y tair ysgol yr effeithir arnyntBiwmares, Llandegfan a Llangoed yn ogystal â rhan-ddeiliaid eraill; dadansoddiad o'r opsiynau ar gyfer newid a wnaed yn unol â system sgorio sefydledig a'r opsiwn yr argymhellwyd y dylid bwrw ymlaen i gynnal  ymgynghoriad statudol yn ei gylch.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg fod y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno bod Swyddogion y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn cynnal ymgynghoriad anffurfiol neu anstatudol ar y ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol yn ôl ym mis Mehefin, 2016. Cynhaliwyd y broses hon dros y cyfnod rhwng 19 Mehefin a 30 Gorffennaf 2017, pan gafwyd tri chyfarfod â rhan-ddeiliaid yn Ysgolion Llangoed, Biwmares a Llandegfan. ‘Roedd wedi mynychu’r cyfarfodydd hynny. Dywedodd yr Aelod Portffolio hefyd fod y mater hwn wedi cael sylw manwl gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yr wythnos flaenorol, ac ar ôl ystyried a thrafod yn ofalus, fod y Pwyllgor wedi cefnogi'r argymhellion a gyflwynwyd a oedd yn cynnwys cynnal ymgynghoriad statudol ar gau Ysgol Biwmares. Yn nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini, roedd wedi amlinellu'r sail ar gyfer yr argymhelliad, gan gynnwys, ymhlith ffactorau eraill; y gostyngiad yn nifer y disgyblion; y lleoedd dros ben yn Ysgol Biwmares a chost uchel y ddarpariaeth yn sgil hynny; ynghyd â maint y buddsoddiad y mae angen ei wneud yn adeilad yr ysgol. Roedd yr holl opsiynau a sgoriodd uchaf yn erbyn y ffactorau hyn ar gyfer newid yn cynnwys cau Ysgol Biwmares. Roedd wedi datgan yn y cyfarfod ei fod yn agored i unrhyw opsiwn ymarferol arall yn hytrach na chau’r ysgol ac roedd  hynny'n parhau. Fodd bynnag, hyd yn hyn ni chyflwynwyd unrhyw opsiynau amgen o’r fath. Cydnabu fod hwn yn benderfyniad anodd ond o ystyried yr amgylchiadau ariannol heriol y mae awdurdodau lleol yn gorfod gweithio ynddynt, a'r newid ymagwedd y mae hynny’n ei olygu, mae'n annhebygol mai hwn fydd y penderfyniad anodd olaf y bydd angen ei wneud.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod yr ymgynghoriad cychwynnol a gynhaliwyd yn broses anffurfiol a gynlluniwyd i gael sylwadau a barn y gymuned leol, yn ogystal ag unrhyw syniadau newydd, a’i fod yn gam ychwanegol yr oedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi ei gymryd o ddewis ac ystyrir ei fod yn arfer da. Pan gynhaliwyd y broses moderneiddio ysgolion yn y gorffennol, mae'r safbwyntiau a'r sylwadau a fynegwyd yn y cam anffurfiol, anstatudol wedi cyfrannu at lunio'r penderfyniad a wnaed yn y pen draw.  Yn achos ardal Seiriol, cyflwynwyd nifer o sylwadau ac opsiynau ychwanegol yn ystod yr ymgynghoriad anffurfiol a chafodd y rhain eu hystyried. Derbyniwyd gohebiaeth hefyd gan ysgolion a chyrff llywodraethu'r tair ysgol a chan yr Aelodau Lleol hefyd. Mae'r pryderon a'r materion a fynegwyd yn y llythyrau hyn wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol gan y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes ac maent wedi eu hatodi i'r adroddiad. Fodd bynnag, rhaid nodi nad yw'r pwyntiau a godwyd yn newid sut mae'r opsiynau wedi'u pwysoli a’u sgorio a bod yr holl opsiynau sy’n sgorio’n uchel yn nodi mai cau Ysgol Biwmares sy’n cwrdd yn llawnaf â’r meini prawf ar gyfer newid e.e. cost uchel fesul disgybl; lleoedd gwag; cyflwr adeilad yr ysgol, capasiti arweinyddiaeth yr ysgol .’Roedd y gwasanaeth wedi gweithio'n galed wedyn i lunio opsiwn ar gyfer ymgynghoriad statudol sy’n eglur ac yn ddiamwys.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Alun Roberts a Carwyn Jones yn rhinwedd eu swyddi fel Aelodau Lleol. Daethant â'r materion canlynol i sylw'r Pwyllgor Gwaith -

 

  Y byddai cau Ysgol Biwmares yn gwneud y dref yn dlotach yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae gan bob un o'r 170 o drefi yng Nghymru ysgolni fyddai cael gwared â'r ysgol sydd â hanes hir ym Miwmares ond yn tanseilio'r dref a'i rhagolygon i’r dyfodol.

  Mai tref gynaliadwy yw tref gydag ysgol. Bydd cau'r ysgol yn atgyfnerthu argraff o dref Biwmares fel tref "sy’n heneiddio" gyda chanran uchel o bobl hŷn. Er mwyn denu a chadw teuluoedd a phobl iau sydd hefyd yn hanfodol i ffyniant diwydiant twristiaeth craidd y dref, rhaid cadw'r ysgol.

  Bod ardal De Ynys Môn, ar sail raddol, wedi gweld colli ystod o wasanaethau. Mae angen cynllun adfywio cynhwysfawr ac integredig ar gyfer yr ardal sy'n mynd i'r afael ag anghenion adnewyddu cymdeithasol ac economaidd. Ni ddylid ystyried ffurf y ddarpariaeth addysg gynradd yn yr ardal tan i’r cynllun hwnnw fod wedi ei roi ar waith a hyd nes y mae anghenion ehangach yr ardal yn glir. Felly, mae'r broses ymgynghori statudol arfaethedig yn gynamserol.

  Bod y cynigion a gyflwynir yn ddi-uchelgais a bod diffyg gweledigaeth ar gyfer addysg gynradd yn ardal Seiriol. Nid oes opsiwn ar gyfer ysgol newydd ac mae hynny’n wahanol i’r ardaloedd eraill lle ymgynghorwyd ar foderneiddio ysgolion.

  Bod gwendidau yn y meini prawf a ddefnyddiwyd i ddatblygu opsiynau ac mae'n ymddangos eu bod wedi'u pwysoli tuag at gau Ysgol Biwmares.

  Mae niferoedd y disgyblion yn Ysgol Biwmares yn codi.

  Pe bai Ysgol Biwmares yn cau nid oes sicrwydd y bydd rhieni'n dewis anfon eu plant i Ysgol Llandegfan neu Ysgol Llangoed; efallai y byddant yn dewis mynd â’u plant i ysgolion y tu allan i'r sir a byddai hynny’n golygu bod yr Awdurdod yn colli cyllid.

  Y dylai barn y gymuned leol gael cymaint o bwys â’r ffactorau eraill a dylai pobl leol gael y cyfle i ddatblygu opsiwn yn seiliedig ar sut y maent yn gweld dyfodol y dref a'u profiadau a'u gwybodaeth ohoni.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod y ddogfen wreiddiol yr ymgynghorwyd arni’n anffurfiol yn cadarnhau y bydd y lleoedd gwag yn Ysgol Biwmares yn parhau ar lefel o rhwng 60% a 70% tan 2022 ar sail y cyfraddau geni cyfredol yn yr ardal a hefyd ar ôl cymryd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd i ystyriaeth sy'n rhagweld 14 o blant ychwanegol yn yr ardal yn y cyfnod.

 

Penderfynwyd -

 

  Bod argymhelliad yr adroddiad ar yr ymgynghori anstatudol yn ardal Seiriol yn cael ei weithredu.

  Awdurdodi Swyddogion y Gyfadran Dysgu Gydol Oes i fynd allan i ymgynghori’n statudol ar y cynigion dan sylw fel a ganlyn :

  Cau Ysgol Biwmares ac i rieni’r disgyblion sydd ar y gofrestr ar yr adeg pan fydd y Pwyllgor Gwaith yn gwneud y penderfyniad ddatgan eu dewis am naill ai Ysgol Llandegfan neu Ysgol Llangoed yn unol â’r polisi mynediad ysgolion.

  Adolygu dalgylchoedd cyfredol y tair ysgol gyda’r bwriad o weithredu unrhyw newidiadau pan fydd Ysgol Biwmares yn cau.

  Adnewyddu Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan; ac

  Ystyried ffederaleiddio Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan ar ddiwedd y broses hon.

 

(Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Carwyn Jones ar y mater)

Dogfennau ategol: