• Cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2016/17.
• Arfarnu Cynllun Gweithredu CYSAG.
Cofnodion:
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2016/17 i'r Awdurdod i'w ystyried. Diolchodd y Cadeirydd i Miss Bethan James, yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella (GwE) am ei hymdrechion yn paratoi'r adroddiad. Mae'r Adroddiad Blynyddol yn crynhoi gwaith y Pwyllgor hwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Tynnodd yr Ymgynghorydd Cymorth sylw at y pwyntiau canlynol o'r adroddiad:
• Cyflwynwyd 11 o adroddiadau hunan-arfarnu yn ystod y flwyddyn, sy'n cyfateb i 21% o Ysgolion Môn ac sy’n gyson â'r nifer a gyflwynwyd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae yna ysgolion sydd dal heb gyflwyno eu hadroddiadau hunan-arfarnu yn dilyn llythyrau anfonwyd atynt ar 1 Gorffennaf, 2016, 23 Ionawr a 26 Medi, 2017.
• Dywedodd bron pob ysgol fod eu safonau, eu darpariaeth a'r Addoli ar y Cyd yn dda. Roedd un ysgol wedi bod yn onest iawn a dweud bod ei safonau a'i darpariaeth yn ddigonol. Nodwyd bod pwyntiau gweithredu'r ysgol yn deg ac yn ddilys, ac roedd y CYSAG yn gwerthfawrogi parodrwydd yr ysgol i rannu ei chynlluniau gyda'r Pwyllgor.
Rhoddodd yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella grynodeb o'r prif bwyntiau y mae pob ysgol neu grŵp o ysgolion wedi eu gwneud. Mae tueddiadau wedi dod i'r amlwg eleni oherwydd y defnydd o'r teclyn tracio. Nodwyd materion sydd angen sylw pellach yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Bwriad yr athrawon oedd: -
• sicrhau bod disgyblion, erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen, yn datblygu ac yn deall effaith crefydd ar gredinwyr;
• datblygu sgiliau rhesymu disgyblion wrth iddynt drafod cwestiynau crefyddol mawr;
• datblygu gallu disgyblion i ddadansoddi a dehongli haenau o ystyr.
Mewn perthynas â darparu AG mewn ysgolion, nododd y CYSAG arferion da, sy'n dangos natur y profiadau y mae plant yn eu cael yn yr ysgol. Maent yn cynnwys mynychu ymweliadau addysgol; canolbwyntio ar sgiliau holi a gwneud gwaith ffilmio. Dywedodd yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella ei bod yn dda gweld plant ysgol uwchradd yn CA3 yn delio â chwestiynau mawr, sylfaenol.
Nododd CYSAG fod pob ysgol yn cydnabod eu bod yn deall natur Addoli ar y Cyd ac yn cydymffurfio â'r gofynion statudol.
Yn y crynodeb o argymhellion yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella ar gyfer y Cyngor, rhoddwyd pwyslais arbennig ar annog yr Awdurdod i helpu cydlynwyr i wella canlyniadau AG mewn ysgolion, a chael mynediad at arweiniad ac arferion da.
Gan gyfeirio at ganlyniadau arholiadau allanol, argymhellwyd bod athrawon ysgol uwchradd yn parhau i weithio gyda'i gilydd. Mae dwy athrawes yn Ynys Môn, sef Mrs Mefys Edwards a Mrs Angharad Derham o Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch yn Ymarferwyr Arweiniol ar draws y Gogledd, ac wedi gwneud gwaith ardderchog yn cydlynu athrawon yn Ynys Môn a Gwynedd yn benodol i weithio gyda'i gilydd i baratoi ar gyfer y maes llafur TGAU newydd.
Dywedwyd mai ychydig iawn o wybodaeth sy’n ymwneud ag AG yn yr
Adroddiadau Arolygu gan Estyn. Dim ond pedwar adroddiad Estyn a gyflwynwyd eleni, tri yn y sector cynradd ac un yn y sector uwchradd.
Cyflwynwyd Cynllun Gweithredu’r CYSAG i'w ystyried a chyfeiriwyd yn benodol at gyflawniad y CYSAG yn erbyn y blaenoriaethau a'r canlyniadau o fewn y Cynllun Gweithredu. Cytunodd aelodau’r CYSAG fod Adran Addysg Ynys Môn wedi gwneud cynnydd da mewn ymateb i flaenoriaethau Cynllun Gweithredu 2015-17. Fodd bynnag, nid yw’r CYSAG wedi bod yn rhagweithiol iawn yn gyrru'r rhaglen ymlaen mewn perthynas â mynychu sesiynau Addoli ar y Cyd mewn ysgolion. Felly, cynigiwyd a chytunwyd y dylid gwneud trefniadau i bedwar aelod o'r CYSAG ymweld ag ysgolion mewn gwahanol ddalgylchoedd i arsylwi Addoli ar y Cyd ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.
Gweithredu:
Y Swyddog Addysg i dargedu ysgolion mewn gwahanol ddalgylchoedd ac ysgrifennu at Benaethiaid yn gofyn bod aelodau’r CYSAG yn cael cyfle i fynychu sesiynau Addoli ar y Cyd yn eu hysgolion.
TGAU Astudiaethau Crefyddol (diweddariad wedi'i rannu gan yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella ar ran Mrs Mefys Edwards)
Ers mis Medi, cyhoeddwyd adnoddau dwyieithog ar wefan GwE i ategu'r maes llafur TGAU newydd ar gyfer Astudiaethau Crefyddol. Mae athrawon AG yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi gweithio'n galed iawn ar y prosiect, a rhaid canmol eu hymdrechion. Mae'r athrawon yn bwriadu parhau â'u gwaith y flwyddyn nesaf a chynhyrchu deunydd sy'n mynd law yn llaw â’r cwrs, ac yn gobeithio darparu canllawiau i blant ar sut i ateb cwestiynau arholiad. Roedd Mrs Mefys Edwards wedi mynegi pryder nad yw'r gwerslyfrau sydd ar gael gyda'r cyrsiau TGAU a Lefel A newydd wedi eu cyhoeddi yn y Saesneg hyd yma, gyda'r fersiynau Cymraeg i ddilyn.
Roedd y CYSAG yn falch gyda’r canlyniadau wrth gefnogi athrawon uwchradd i baratoi a chyflwyno'r maes llafur TGAU newydd.
Cynllun Gweithredu CYSAG Ynys Môn
Argymhellodd yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella bod y CYSAG yn cadw ei flaenoriaethau am gyfnod o flwyddyn i wella arweinyddiaeth AG, yn enwedig i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd wrth i ysgolion yng Nghymru ymateb i argymhellion a wnaed gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad, 'Dyfodol Llwyddiannus'.
Cyfeiriodd Mr Rheinallt Thomas, yr aelod cyfetholedig, at y modd y mae'r cwricwlwm AG yn datblygu ar hyn o bryd, a sut mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweld AG yn berthnasol i faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Nodwyd y bydd grŵp o gynrychiolwyr o ysgolion arloesol yn amlinellu egwyddorion y maes Dyniaethau yn y Cwricwlwm Dysgu a Phrofiad i ysgolion.
Rhoddodd yr Ymgynghorydd Cymorth Gwella ddiweddariad ar y Maes Llafur Cytûn ar gyfer AG. Nodwyd bod gan CYSAG Ynys Môn a Llywodraeth Cymru berthynas dda wrth drafod materion y Dyniaethau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu arbenigwyr allanol i baratoi papurau ar bob pwnc. Comisiynwyd Ms Barbara Wintersgill i ddarparu papur ar AG, yn arbennig syniadau mawr AG. Ei themâu yw: parhad, newid ac amrywiaeth; geiriau a thu hwnt; bywyd da; gwneud synnwyr o brofiadau bywyd; dylanwadu ar y gymuned, diwylliant a grym, a'r darlun mawr.
Comisiynwyd Cymdeithas CYSAGau Cymru hefyd i gynhyrchu papur cynghori ar gyfer Grŵp Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Mae'r egwyddorion yn cyfeirio at y tri mater pwysig canlynol yn AG: -
• ymwybyddiaeth o brofiadau bywyd a'r cwestiynau sy'n codi ohonynt;
• addysgu credoau ac arferion;
• archwilio ac ymateb personol.
Mae dogfen Cymdeithas CYSAGau Cymru yn cyfeirio at gyfraniad AG i sgiliau, fel llythrennedd, rhifedd a TGCh, ac mae'n cynnwys awgrymiadau ar y profiadau AG y gallai plant eu cael i’w cyfoethogi ar wahanol adegau yn yr ysgol.
Awgrymwyd y dylid cynnal cyfarfod busnes neu weithdy yn lle un cyfarfod CYSAG yn y flwyddyn academaidd hon er mwyn paratoi athrawon ac aelodau’r CYSAG am faes llafur diwygiedig sydd wedi’i gytuno’n lleol, a gofynnwyd am farn y CYSAG ar y cynnig. Gan mai dim ond unwaith y tymor mae’r CYSAG yn cyfarfod, teimlai'r aelodau nad oeddent eisiau colli cyfarfod, ac felly, cynigiodd gynnal gweithdy yn y bore a chyfarfod fel Pwyllgor yn y prynhawn.
Croesawodd aelodau'r CYSAG y syniad o weithdy fel ffordd o symud ymlaen a rhannu'r gwaith da a wnaed yn ysgolion Ynys Môn. Byddai athrawon yn cael eu gwahodd i'r gweithdy i drafod eu sylwadau a'u gwaith. Y consensws oedd y dylai’r CYSAG fabwysiadu dull gweithdy, i ddechrau yn y gwanwyn / haf 2018.
Cynigiodd y Cadeirydd y dylid llunio Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer y cyfarfod nesaf i fynd i'r afael ag unrhyw argymhellion ychwanegol, a chytunodd y CYSAG i'r cynnig.
Gweithredu:
• Y Swyddog Addysg i: -
• ysgrifennu at athrawon AG yn ysgolion Ynys Môn i ddiolch iddynt am eu cyfraniad wrth baratoi a chyflwyno'r maes llafur TGAU newydd; ac,
• ysgrifennu at Mrs Mefys Edwards yn diolch iddi am ei chyflwyniad ardderchog yng nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru.
• Bod yr Ymgynghorydd Cymorth GwE yn paratoi Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer cyfarfod nesaf y CYSAG.
• Bod yr Ymgynghorydd Cymorth GwE yn trefnu gweithdy i'r CYSAG yng ngwanwyn / haf 2018.
Cytunwyd i dderbyn Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2016/17 yn amodol ar yr uchod.
Dogfennau ategol: