Eitem Rhaglen

Safonau Addysg Grefyddol

Cyflwyno gwybodaeth mewn perthynas â'r uchod:-

 

  Asesiadau Athrawon  CA3 (Haf 2011)

  Canlyniadau arholiadau allanol (Haf 2011)

  Arolygiadau ysgol

  Hunan arfarniadau ysgol

Cofnodion:

Asesiadau Athrawon CA3 – heb eu trafod.

Canlyniadau Arholiadau Allanolheb eu trafod.

 

Arolygon Ysgolion

 

Cyflwynwyd gwybodaeth o adroddiadau Arolygu Estyn a gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Dwyran, Ysgol Gynradd Henblas, Ysgol Gynradd Pencarnisiog ac Ysgol Uwchradd Caergybi ar gyfer ystyriaeth y CYSAG.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Rhian Hughes, Pennaeth Ysgol Pencarnisiog i'r cyfarfod.

 

Adroddodd y Pennaeth fod arolwg Estyn llawn wedi’i gynnal yn Ysgol Pencarnisiog ym mis Chwefror, 2016, yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd yn arweinyddiaeth yr ysgol. 

 

Nodwyd bod adroddiad Estyn wedi gwneud pum argymhelliad, y bu'n rhaid i'r ysgol ymateb iddynt o fewn deuddeng mis. Roedd argymhelliad 3 yn adroddiad Estyn yn dweud y dylai'r ysgol:

 

"Sicrhau bod cynlluniau gwaith yn ymateb yn llawn i ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r maes llafur ar gyfer Addysg Grefyddol."

 

Dywedodd y Pennaeth wrth y CYSAG fod Estyn wedi dychwelyd i'r ysgol ar ôl deuddeng mis i fonitro cynnydd yn erbyn yr argymhellion.

 

Yn ystod yr arolwg Estyn, bu'r Pennaeth yn gweithio'n agos iawn gyda'r Ymgynghorydd Cymorth Ysgolion a'r Ymgynghorydd Cymorth GwE sy'n gwasanaethu CYSAG Ynys Môn, a wnaeth yn siŵr bod yr ysgol yn ymateb i argymhellion Estyn. Sefydlwyd Cynllun Gweithredu ôl-arolwg yn yr ysgol, a chydweithiodd staff a mapiwyd trosolwg cyffredinol ar gyfer AG, gan sicrhau bod eu cynlluniau ar draws yr ysgol yn bodloni'r gofynion AG. Defnyddiodd yr ysgol ganllawiau AG Llywodraeth y Cynulliad yn y Cyfnod Sylfaen a CA2 ar gyfer cynllunio ymlaen, a defnyddiwyd adnoddau a oedd ar gael ar wefan Cynnal.

 

Rhoddwyd cyflwyniad manwl gan y Pennaeth ar y camau a gymerwyd gan Ysgol Pencarnisiog i fodloni gofynion Estyn. Nodwyd bod gwaith i wella safonau yn yr ysgol yn parhau, ond mae’r ysgol wedi'i thynnu oddi ar y rhestr o ysgolion y mae angen i Estyn eu monitro. Diolchodd y Pennaeth i'r Ymgynghorwyr GwE am eu cymorth a'u cyfarwyddyd ardderchog yn ystod yr amser anodd hwn.

 

Llongyfarchodd y CYSAG y Pennaeth am y gwaith da a'r cynnydd a wnaed yn yr ysgol, a diolchodd iddi am ei chyflwyniad heddiw.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwilym O Jones ei fod wedi mynychu sesiwn addoli ar y cyd yn yr ysgol, ac roedd y plant yn ymateb yn dda yn ystod y drafodaeth ac  yn cael eu gwobrwyo am eu hymdrech.

 

Ysgol Gynradd Dwyran

 

Dywedodd y Swyddog Addysg fod gan Ysgol Gynradd Dwyran gynlluniau gwaith priodol sy'n ymateb i ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r Maes Llafur Cytûn ar gyfer AG. Nodwyd bod gwersi yn cael eu cynllunio yn y tymor byr, y tymor canol a’r tymor hir a bod yr addysgu yn yr ysgol wedi'i strwythuro.

 

Mae gweithgareddau allgyrsiol ar gael i ddisgyblion, ac mae'r ysgol yn meithrin datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol a chymdeithasol y disgyblion yn llwyddiannus, ac yn myfyrio ar bynciau megis Syria. Nodwyd o adroddiad Estyn bod safon yr addysgu yn yr ysgol yn dderbyniol iawn.

 

Ysgol Henblas

 

Adroddodd y Swyddog Addysg fod Ysgol Henblas yn bodloni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ac AG. Mae'r ysgol yn hyrwyddo datblygiad moesol, cymdeithasol ac ysbrydol disgyblion yn effeithiol, ac mae sesiynau Addoli ar y Cyd yn atgyfnerthu'r gwerthoedd hyn.

 

Nodwyd bod Estyn wedi gosod Ysgol Henblas yn y categori 'gwelliannau sylweddol', a bydd yn dychwelyd o fewn deuddeng mis i fonitro cynnydd yr ysgol.

 

Ysgol Uwchradd Caergybi

 

Adroddodd y Swyddog Addysg fod Ysgol Uwchradd Caergybi yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys. Mae'r rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol yn cyfrannu'n dda at ddatblygiad ysbrydol, moesol a diwylliannol y disgyblion.

 

Nododd y Cadeirydd fod gwaith Gobaith Môn yn cael ei gydnabod yn adroddiad Estyn, er nad oedd y sefydliad ei hun wedi'i enwi. Mae Adran 11 o adroddiad Estyn yn nodi: -

 

"Mae'r ysgol yn gweithio'n dda mewn partneriaeth â rhaglen ymgysylltu ieuenctid sy'n canolbwyntio ar adeiladu gwaith tîm a sgiliau arwain. Mae hyn wedi helpu i wella lles a chyrhaeddiad disgyblion ".

 

Atgoffodd y Cadeirydd y CYSAG o gyflwyniad Mr Joe Morino ar ran Gobaith Môn yng nghyfarfod diwethaf y CYSAG, a chyfeiriodd at y ganmoliaeth a gafodd Gobaith Môn gan y Pennaeth.

 

Cytunwyd i nodi'r wybodaeth.             

 

Adroddiadau Hunan-arfarnu Ysgolion

 

Nid yw'r CYSAG wedi derbyn unrhyw adroddiadau hunan-arfarnu ers ei gyfarfod diwethaf. Roedd yr Aelodau'n pryderu nad yw ysgolion yn ymateb, a thrafodwyd  ffyrdd o gael ysgolion i gydweithredu a chyflwyno eu hadroddiadau hunan-arfarnu. Awgrymwyd y dylid enwi’r ysgolion nad oeddent wedi cymryd rhan a chytunodd y CYSAG y dylid gwneud hynny.

 

Gweithredu:

 

Bod y Swyddog Addysg yn ysgrifennu at yr ysgolion yn gofyn iddynt baratoi adroddiad hunan-arfarnu erbyn cyfarfod nesaf y CYSAG. Byddai ysgolion sy’n cydymffurfio / ddim yn cydymffurfio yn cael eu henwi.

Dogfennau ategol: