Eitem Rhaglen

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2018/19 yn dod â cham cyntaf y broses o osod y gyllideb i ben. Mae hyn wedi golygu mewnbwn sylweddol gan Swyddogion ac Aelodau Etholedig mewn cyfarfodydd adolygu gwasanaeth a gweithdai cyllideb sydd wedi arwain at nodi oddeutu £3.3m o arbedion. Mae’r gwaith paratoadol wedi bod yn heriol ac mae’r Cyngor yn dal i wynebu diffyg posibl o £2m yng nghyllideb 2018/19 wedi cymryd i ystyriaeth y pwysau y mae’n rhaid iddo ymdopi â hwy o safbwynt chwyddiant cyflogau, chwyddiant cyffredinol, y cyflog byw cenedlaethol, gostyngiad mewn grantiau a phwysau eraill. Mae’r rhestr ddrafft o gynigion ar gyfer arbedion yn cynnwys nifer o opsiynau gyda hynny’n cynnig rhywfaint o hyblygrwydd o ran y penderfyniadau y bydd angen eu gwneud. Mae’n bwysig bod y Cyngor yn cyflwyno cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19, nid yn lleiaf oherwydd yr heriau ariannol sy’n debygol o godi yn y blynyddoedd dilynol a’r angen i’r Cyngor fod yn barod amdanynt. Er bod y setliad dros dro i Lywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn well na’r disgwyl i Ynys Môn, mae dal yn cynrychioli gostyngiad o 0.1% o gymharu â setliad 2017/18. Wedi cymryd i ystyriaeth yr holl newidiadau, addasiadau a chyfrifoldebau newydd, mae’r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2018/19 yn £132.337m, cynnydd o £6.179m o gymharu â chyllideb derfynol 2017/18 sy’n golygu y bydd raid i’r Cyngor, er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys, gwrdd â’r holl anghenion o’r gwasanaethau eu hunain a hynny ar ffurf toriadau, cynnydd mewn ffioedd neu arbedion effeithlonrwydd pellach. Mae’r cynigion yn cynnwys cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor ynghyd ag 1% yn ychwanegol i gyllido pwysau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yr ymgynghori cyhoeddus ar y cynigion cyllidebol yn cychwyn yn syth ar ôl y cyfarfod hwn ac yn parhau hyd ddiwedd Rhagfyr; bydd yr adborth o’r broses hon ynghyd â ffigyrau’r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn siapio’r cynigion terfynol ar y gyllideb a fydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith, Sgriwtini ac yna i’r Cyngor Llawn ar gyfer eu cymeradwyo ddiwedd mis Chwefror 2018.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, er bod y setliad dros dros yn well nag a ragdybiwyd yn y Cynllun Ariannol ar gyfer y tymor Canol gan olygu bod y bwlch cyllido yn £2m yn hytrach na £4m, erys risgiau sylweddol i’r gyllideb. Mae’r risgiau hyn yn cynnwys pwysau mewn perthynas â thâl – mae pwysau arbennig ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac os na fydd Llywodraeth Ganolog neu Lywodraeth Cymru’n cwrdd â’r rhain, bydd y Cyngor yn gorfod eu hysgwyddo.  Rhagwelir y bydd gorwariant o oddeutu £2m ar gyllideb gyfredol 2017/18 yn bennaf oherwydd pwysau sy’n gysylltiedig â’r galw am wasanaethau yn y Gwasanaethau Plant; nid yw’r gyllideb ddigyfnewid yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gorwariant hwn, felly bydd angen gweithio i ddod â chostau’r gwasanaethau hynny sy’n gorwario yn ôl o fewn y gyllideb. Ni wyddys beth fydd effaith Brexit ar lefel y toriadau gan lywodraeth ganolog ac o’r herwydd ar y setliad terfynol hyd oni cheir cyhoeddiad am Gyllideb San Steffan ym mis Tachwedd.  Er bod cyfanswm yr arbedion yn £3.296m sy’n fwy na’r diffyg o £2m yng nghyllideb 2018/19, mae’r sefyllfa ar gyfer 2019/20 yn waeth nag a ragwelwyd yn y CATC. Felly, er bod gan Aelodau rywfaint o hyblygrwydd wrth benderfynu ar gynigion ar gyfer arbedion, yn y pen draw, bydd angen gweithredu’r arbedion hynny yn 2018/19 neu 2019/20 oherwydd mae’r angen i wneud arbedion yn parhau er bod cyfanswm yr arbedion yn £6.8m dros y tair blynedd nesaf yn hytrach na’r £8.6m a nodwyd yn y CATC.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 31 Hydref lle trafodwyd y cynigion ar gyfer y gyllideb ac y bu hi’n bresennol ynddo.  Dywedodd bod y Pwyllgor Sgriwtini, tra’n dymuno cael eglurhad ynghylch effeithiau’r cynigion am arbedion ar gyfer trigolion Ynys Môn; yr effaith bosibl ar addysg a safonau addysgol, y £125k ar gyfer y Tîm Ynys Ynni; y premiwm ar dai gwag ac ail gartrefi ynghyd ag amheuon ynghylch clustnodi’n benodol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol y cyllid ychwanegol y byddai’r cynnydd 1% yn y Dreth Gyngor yn ei gynhyrchu, yn argymell y cynigion am arbedion i’r Pwyllgor Gwaith fel cynigion teg a rhesymol ar gyfer ymgynghori gyda’r cyhoedd yn eu cylch.

 

Ystyriodd y Pwyllgor gwaith y cynigion a’r ymateb gan Sgriwtini ac fe wnaed y pwyntiau isod –

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y Cyngor wedi bod yn ceisio gwneud mwy gyda llai ers rhai blynyddoedd yn awr wrth i’r hinsawdd o lymder barhau. Mae’r rhagolygon economaidd yn parhau i fod yn ansicr ac nid oes eglurder eto ynghylch goblygiadau Brexit.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith bod y dyranid o £125k tuag at y Tîm Ynys Ynni yn bwysig o ran gwarchod capasiti yn y Cyngor ar adeg hanfodol bwysig o ran datblygu prosiectau mawr.

  Mewn perthynas â’r cynnydd ychwanegol arfaethedig o 1% yn y Dreth Gyngor i’w glustnodi i gwrdd â phwysau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, nododd y Pwyllgor Gwaith ei bod yn bwysig i’r cyhoedd sylweddoli bod raid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ymateb i’r galw am y gwasanaeth, galw a ddaw yn aml gan bobl fregus. Oherwydd eu bod yn cael eu harwain gan y galw, mae’n anodd rhagweld beth fydd gwariant y Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd gall anghenion annisgwyl godi yn ystod y flwyddyn ac mae hynny’n digwydd. Felly er bod y gwasanaeth yn cael ei nodi fel un sy’n gorwario, mae angen egluro bod hyn i raddau helaeth oherwydd pwysau’r galw sydd arno.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y Panel Sgriwtini Cyllid wrthi’n edrych ar wariant a rheolaeth gyllidebol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol – yn enwedig y Gwasanaethau Plant.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod deall y gyllideb a’r modd y caiff ei rhoi at ei gilydd o’r gwahanol ffynonellau cyllidol sydd ar gael i’r Cyngor yn fater cymhleth ar ei orau; mae’n hanfodol felly bod y Cyngor yn gallu cyfleu’r sefyllfa – a’r angen i sicrhau arbedion – mor glir ag sy’n bosibl i’r cyhoedd ac er mwyn gwneud hynny, mae angen gwybodaeth lawn a dibynadwy arno. Nododd y Pwyllgor Gwaith nad yw o gymorth felly bod Llywodaeth Cymru wedi dweud bod arian ychwanegol wedi cael ei gynnwys yn y setliad, sef cynnydd o £62m a £42m ar gyfer elfennau ysgolion a gofal cymdeithasol yn y drefn honno pan nad yw hynny wedi cael ei drosi’n arian ychwanegol gwirioneddol ar gyfer yr awdurdodau lleol.

Dywedodd y Cadeirydd y codwyd y mater mewn cyfarfod o CLlLC yn ddiweddar pryd nodwyd y diffyg eglurder mewn perthynas â’r modd y dyrannwyd y cyllid ychwanegol hwn. Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 na chafwyd unrhyw eglurhad pellach am y modd y daethpwyd at y ffigyrau hyn nac ychwaith ynghylch sut/pryd y bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu i’r cynghorau. Dywedodd y Swyddog ei fod yn bwriadu ymateb yn ffurfiol i ddatganiad Llywodraeth Cymru ar y setliad i lywodraeth leol ac y gallai godi’r mater hwn fel rhan o’i ymateb. Cytunodd y Pwyllgor Gwaith y dylai’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mofyn eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y swm y bydd Ynys Môn yn ei dderbyn o’r arian ychwanegol a ddyrannwyd yn y setliad ar gyfer elfennau ysgolion a gofal cymdeithasol.

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith bod elfennau eraill o’r setliad nad oes eglurhad yn eu cylch,

e.e. gostyngiad mewn rhai grantiau cyfalaf, yn bennaf mewn perthynas â gwastraff a thrafnidiaeth a all, yn eu tro, effeithio ar y gyllideb refeniw. Cytunodd y Pwyllgor Gwaith y dylai’r Arweinydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar ei ran i fynegi ei bryderon ynghylch diffyg tryloywder mewn perthynas â’r cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol y cyfeirir ato uchod.

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith ei bod yn hanfodol bod y broses ymgynghori yn cyrraedd cymaint o’r cyhoedd ag sy’n bosibl ac y dylid gofyn nid yn unig am eu barn ynghylch y materion y maent yn eu hystyried fel blaenoriaethau ond hefyd am eu hamwgrymiadau ynglŷn â’r modd y gall y Cyngor gynhyrchu incwm, sef pwynt dygwyd sylw ato yn y Pwyllgor Sgriwtini.

 

Penderfynwyd –

 

  Bod swm o £125k yn cael ei gynnwys yn y gyllideb derfynol i gyllido’r Tîm Ynys Ynni a bod y swm hwn yn cael ei gadw yn y gyllideb am y cyfnod y bydd angen y Tîm fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

  Bod y grantiau sydd wedi eu hymgorffori yn y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) a'r cyllid ychwanegol ar gyfer cyfrifoldebau newydd yn cael eu dyrannu i'r cyllidebau priodol fel y caniatawyd ar gyfer hynny yn y gyllideb ddisymud yn unol â pharagraffau 5.4 a 5.5 yr adroddiad;

 

  Cadarnhau bod angen cyllideb wrth gefn o £600k i dalu unrhyw gostau tâl ychwanegol (fel y caniatawyd ar ei gyfer yn y gyllideb ddisymud). Adolygu gwerth y gronfa wrth gefn hon cyn penderfynu ar y cynigion ar gyfer y gyllideb derfynol (paragraff 6.1 yr adroddiad);

 

  Ymgynghori gyda’r cyhoedd ynghylch cynnydd ychwanegol o 1% yn y Dreth Gyngor uwchlaw’r cynnydd o 4% sydd wedi ei bennu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a bod y cyllid yn cael ei roi o’r neilltu i gyllido'r pwysau ychwanegol sydd ar y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â pharagraff 6.5 yr adroddiad;

 

  Cymeradwyo’r gyllideb ddisymud o £132.337m ar gyfer 2018/19 ac y dylai hyn fod yn sail ar gyfer cyllideb refeniw 2018/19 (paragraff 7.1 yr adroddiad);

 

  Bod y swm a neilltuwyd i brosiectau tai drwy’r premiwm ar gyfer tai gwag ac ail gartrefi yn aros ar yr un lefel â 2017/18 yn unol â pharagraff 9.2 yr adroddiad);

 

  Y dylai'r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud digon o arbedion yn 2018/19 i gydbwyso'r gyllideb refeniw heb orfod defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac er mwyn sicrhau bod yr arbedion y mae angen eu gwneud yn 2019/20 yn gyraeddadwy (paragraff  9.6 yr adroddiad);

 

  Bod y Pwyllgor Gwaith yn ceisio barn y cyhoedd ar yr arbedion arfaethedig ac yn gofyn am awgrymiadau ar gyfer cynhyrchu incwm.

 

  Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn ei ymateb i’r datganiad ar y setliad refeniw dros dro yn gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y swm a fydd yn cael ei ddyrannu i Ynys Môn o’r

£42m a’r £62m sydd wedi ei neilltuo ar gyfer Cymru gyfan ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol yn y drefn honno.

 

  Bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon y Pwyllgor Gwaith ynghylch diffyg tryloywder mewn perthynas â’r gostyngiad mewn rhai grantiau cyfalaf a fydd yn cael sgil-effaith ar y gyllideb refeniw, e.e. gwastraff a thrafnidiaeth ynghyd â diffyg eglurder o ran y cynnydd yn y ddarpariaeth ar gyfer elfennau ysgol a gofal cymdeithasol y cyfeirir atynt uchod.

 

 

 

Cynghorydd Llinos Medi Huws

Cadeirydd

Dogfennau ategol: