Eitem Rhaglen

Cynllun Ymgynghori ar y Gyllideb 2018/19

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol a oedd yn ymgorffori cynllun arfaethedig ar gyfer cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gyllideb 2018/19 o'r wythnos sy’n dechrau ar 6 Tachwedd hyd at 29 Rhagfyr, 2017.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod y cam gyntaf yn y broses ymgynghori wedi’i gwblhau, sef yr ymgynghoriad mewnol cychwynnol ar y Gyllideb h.y. gydag Aelodau Etholedig a Swyddogion o fewn y Cyngor. Mae'n rhaid i'r ail gam, sy'n cynnwys ymgynghori â dinasyddion Ynys Môn ar y cynigion, fod mor bellgyrhaeddol, cynhwysol a thrylwyr â phosib a rhaid cynnwys yr Ynys gyfan. Mae'r broses yn dilyn y patrwm a osodwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sef defnyddio amrywiaeth o sianeli i gyrraedd cymaint o ddinasyddion â phosib, gan gynnwys cynghorau tref a chymuned, gweithdai i randdeiliaid, y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol, y panel dinasyddion a gweithdai i blant a phobl ifanc. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn rhagweld y byddai'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan amlwg yn yr ymgynghoriad eleni a’r flwyddyn nesaf fel ffordd o dderbyn sylwadau gan ddinasyddion. Fodd bynnag, un o'r amcanion allweddol yw sicrhau bod y broses yn ymgysylltu â'r grwpiau mwy bregus yn y gymuned a bod eu barn yn cael ei chlywed.

 

Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol fod y Bwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori Corfforaethol wedi gwneud cryn dipyn o waith i adolygu'r broses yn dilyn yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus y llynedd ac i sicrhau bod y Cyngor yn ymwybodol o ffyrdd newydd o ymgysylltu ac yn eu defnyddio i ymgynghori â dinasyddion Ynys Môn ar bob lefel.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr Ymgynghoriad / Cynllun Cyfathrebu arfaethedig ar y Cynigion Ariannol a gwnaed y pwyntiau canlynol

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch sut mae'r Cyngor yn monitro ac yn parhau i gadw i fyny â’r sylwadau a wnaed trwy Facebook a Twitter.

 

Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol fod ymateb i sylwadau a wnaed trwy gyfrwng sianeli cyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o waith Uned Gyfathrebu'r Cyngor. O ran y cynigion ariannol, y bwriad yw gofyn amrywiaeth o gwestiynau i’r ymatebwyr iddynt nodi a ydynt yn cytuno neu'n anghytuno, fel bod modd i’r Cyngor gael gwell syniad o deimladau dinasyddion am gynigion penodol. Felly, mae'r elfen hon o'r ymgynghoriad yn weddol hawdd i’w thracio a’i choladu. Mae’r Uned Gyfathrebu hefyd wedi arfer delio gydag ymatebion sylweddol i faterion y Cyngor fel rhan o'i gwaith dydd i ddydd ac felly bydd ymatebion o'r fath i'r cynigion ariannol yn cael sylw yn y ffordd arferol.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y Cyngor wedi cynnal adolygiad o’r broses ymgynghori a ddilynwyd y llynedd i ymgynghori ar y gyllideb er mwyn sefydlu beth oedd wedi gweithio a’r hyn y gellid ei wella. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y casgliadau y daethpwyd iddynt a'r gwelliannau a wnaed o ganlyniad i'r ymarfer adolygu.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod y Bwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori, wrth iddo ystyried y cynllun ymgynghori ar y Gyllideb eleni yn ei gyfarfod ar 12 Medi, 2017, wedi nodi y gellid gwella’r ymgysylltu â phartneriaid y Cyngor a’r ymatebion ganddynt. I'r perwyl hwnnw, bydd pwyslais ar gynnull Fforwm Partneriaid fel y gall y drafodaeth hon ddigwydd ar y sail bod y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yn parhau i weithredu o fewn amgylchedd ariannol sy’n gynyddol heriol ac felly mae’n  bwysig gallu cydweithio i sicrhau'r ymatebion gorau posib. Yn ogystal, fel rhan o’r ymarfer eleni, bydd y Cyngor yn mynd ati’n wythnosol i ofyn cyfres o gwestiynau penodol a dargedwyd ar gyfer dinasyddion Ynys Môn, gan gynnwys ar Facebook a chyfryngau cymdeithasol eraill; mae hyn ynddo'i hun yn ddull newydd a gwell o weithredu o gymharu â’r hyn a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf pan ymgynghorwyd gyda’r cyhoedd ynghylch yr holl gynigion gyda’i gilydd.

 

           Nododd y Pwyllgor mai bwriad y Cyngor yw ceisio ymgynghori â'r holl ran-ddeiliaid. Nododd y Pwyllgor hefyd fod ymgysylltu'n effeithiol â grwpiau sy’n anoddach eu cyrraedd yn her; gofynnodd y Pwyllgor felly am wybodaeth am y camau y mae'r Cyngor wedi'u cymryd i adnabod y grwpiau hynny a'r mesurau y mae wedi'u rhoi ar waith i ymgysylltu â hwy.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod gwaith i ddatblygu’r broses ymgysylltu ac ymgynghori a wnaed gan y Bwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori Corfforaethol wedi arwain at bartneriaeth gref gyda Medrwn Môn ac yn benodol, o fewn y sefydliad hwnnw, gyda'r prosiect Lleisiau Lleol sy'n ddolen gyswllt gyda rhan-ddeiliaid sy'n anoddach eu cyrraedd. O ganlyniad i'r bartneriaeth hon, a'r fforwm hwn yn benodol, mae'r Cyngor mewn sefyllfa well i allu cywain barn yr unigolion hyn nad yw eu lleisiau yn cael eu clywed fel arall.

 

           Nododd y Pwyllgor y cyflwynir sylwadau drwy gyfrwng gweithdai i blant a phobl ifanc fel rhan o'r Cynllun Ymgynghori. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod y gweithdai hyn yn cael y wybodaeth angenrheidiol i alluogi'r cyfranogwyr i gynnig barn ystyrlon ar gynigion y Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol fod Llais Ni, ynghyd â nifer o bartneriaid eraill, yn aelod parhaol o Fwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori corfforaethol y Cyngor, sy'n sicrhau bod persbectif y Cyngor ar ymgysylltu ac ymgynghori mor gynhwysol a thrylwyr â phosib.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Llais Ni (Cyngor Ieuenctid Môn) yn ymweld â'r Cyngor unwaith y flwyddyn (yn ystod cyfnod gosod y Gyllideb). ‘Roedd yn credu y dylai'r ymweliadau hyn ddigwydd o leiaf ddwywaith y flwyddyn fel mater o arfer da ac y  dylent gynnwys ymgysylltu’n rheolaidd â'r Pwyllgor Sgriwtini a’r Pwyllgor Gwaith.

 

           Nododd y Pwyllgor y beirniadwyd y cynllun ymgynghori mewn rhai blynyddoedd oherwydd iddo gael ei ysgrifennu mewn iaith sy’n anodd ei deall weithiau ac oherwydd nad oedd digon o fanylion ynddo i egluro rhai cynigion a’r hyn y maent yn ei olygu.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes fod yr adborth a gafwyd o’r cynllun ymgynghori y llynedd yn nodi nad oedd y cyhoedd yn deall rhai o’r cynigion yn iawn. Gofynnwyd am farn y Pwyllgor ynglŷn â pha mor eglur a dealladwy yw’r cynllun ymgynghori drafft eleni.

 

Ar ôl ystyried y Cynllun, ac wedi iddo gael ei fodloni ynghylch y pwyntiau o eglurhad a godwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid gweithredu’r cynllun. Penderfynwyd cytuno ar y Cynllun Ymgynghori ar y Gyllideb ar gyfer 2018/19 ac argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn ei fabwysiadu.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: