Eitem Rhaglen

Panel Sgriwtini Cyllid

Cyflwyno adroddiad y Panel Sgriwtini Cyllid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn rhoi diweddariad ar y materion a gafodd sylw gan y Panel Sgriwtini Cyllid yn ei gyfarfodydd ar 17 Awst a 29 Medi, 2017.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y Panel wedi'i sefydlu fel y gallai grŵp o Aelodau Sgriwtini roi sylw manylach i faterion ariannol nag a ganiateir gan amserlen a rhaglen waith y rhiant-bwyllgor, a thrwy hynny ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r naratif y tu ôl i'r data cyllidebol ac ariannol a gyflwynir. Mae'r Panel wedi cyfarfod dair gwaith hyd yma ac er ei fod yn dal yn ddyddiau cynnar o ran y broses hon, ystyrir bod y panel yn gam cadarnhaol ymlaen wrth ddatblygu gwaith sgriwtini.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, cynrychiolydd o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar y Panel Sgriwtini Cyllid, fod y Panel wedi canolbwyntio ar fonitro'r Gyllideb ac, ar ôl dadansoddi adroddiad Chwarter 1 2017/18 ar y Gyllideb Refeniw, mae wedi nodi'r gorwariant yn y Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Dysgu fel meysydd sy'n peri pryder ac wedi gofyn i'r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol roi esboniad o'r mesurau lliniaru a gymerir i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Mae'r Panel hefyd wedi craffu ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol, yn enwedig yr egwyddorion a'r tybiaethau sy'n sail i'r cynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf. Yn ei gyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 25 Hydref, edrychodd y Panel ar y broses o osod y gyllideb flynyddol, gan gynnwys craffu yn fanwl ar y cynigion cyllidebol cychwynnol.

 

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a gafwyd yn ôl gan y Panel Sgriwtini Cyllid a nododd hefyd fod y Panel yn dilyn i fyny’r pryder a fynegwyd ganddo mewn perthynas ag agweddau ar reolaeth gyllidebol yn y Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Dysgu. Cyfeiriodd y Pwyllgor at y defnydd o ynni a wneir gan y Cyngor a’r gwariant ar ynni a holodd a oedd unrhyw waith yn cael ei wneud ar y maes hwn. Nododd y Pwyllgor y gallai hwn fod yn faes cynhyrchiol ar gyfer sgriwtini, yn enwedig o ran y potensial am arbedion effeithlonrwydd, ac mai ynni yw un o'r gorbenion mwyaf y gellir eu rheoli o fewn adeiladau'r Cyngor.

Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol fod gan y Cyngor Strategaeth Rheoli Ynni a fabwysiadwyd yn ddiweddar ac yr adroddir arni’n rheolaidd i'r Grŵp Asedau Tir ac Adeiladau Corfforaethol er mwyn sicrhau cynnydd yn erbyn y cynllun effeithlonrwydd ynni ac fel bod effeithlonrwydd ynni yn ystyriaeth allweddol wrth gynllunio ar gyfer asedau yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n ymdrechu i sicrhau bod y mater yn cael sylw fel y byddai Blaenraglen Waith y Pwyllgor yn ei ganiatáu.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma â gwaith y Panel Sgriwtini Cyllid.

           Nodi yr ymddengys bod prosesau sy'n ymwneud â monitro cyllideb 2017/18 a gosod cyllideb 2018/19 ar y trywydd iawn.

           Nodi'r pryder a fynegwyd gan y Panel ynglŷn â'r gorwariant yn y Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Dysgu a chymeradwyo'r camau dilyn-i-fyny a gymerir gan y Panel i sefydlu pa fesurau unioni sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r gorwariant.

           Yn seiliedig ar y sicrwydd a ddarparwyd gan y Panel, argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod yr egwyddorion a'r tybiaethau sy'n sail i'r Cynllun Ariannol Tymor Canol arfaethedig yn gadarn ac yn seiliedig ar y wybodaeth orau sydd ar gael.

 

CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL A GYNIGIR: Bod y Rheolwr Sgriwtini, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, yn ystyried sut y gellid ymgorffori’r pwnc Rheoli Ynni ar gyfer sgriwtini o fewn cyfyngiadau'r Rhaglen Waith Sgriwtini.

 

Dogfennau ategol: