Eitem Rhaglen

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A i’r Ddeddf honno ac yn Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor fabwysiadu'r ddarpariaeth ganlynol:

 

"O dan Adran 100 (A) (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd. "

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mai mater i ddisgresiwn y Pwyllgor yw p'un a ddylid gwahardd y wasg a'r cyhoedd ai peidio o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar gynigion cyllidebol cychwynnol 2018/19. Nid yw'r adroddiad ar gynigion cychwynnol y Gyllideb wedi'i gyhoeddi eto ac argymhellir gan Swyddogion nad yw'n cael ei gyhoeddi at ddibenion y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor ac na ddylai'r drafodaeth ar y mater ddigwydd yn gyhoeddus ar hyn o bryd. Dywedodd y Swyddog, o ran gweithredu’r Prawf Budd y Cyhoedd, bod dwy elfen i'w hystyried, sef

 

           P'un a yw’r adroddiad yn cynnwys unrhyw sail statudol ar gyfer cau allan y wasg a’r cyhoedd. Fel y mae'r Prawf Budd y Cyhoedd yn ei nodi, mae dwy sail statudol y gall y Pwyllgor eu hystyried i benderfynu a ddylid cau allan y wasg a'r cyhoedd yn yr achos hwn ai peidio, e.e. sail statudol 15 yn Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy'n golygu bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n cyfeirio at faterion cyflogaeth a allai arwain at ymgynghoriadau neu drafodaethau neu at ystyried trafodaethau neu ymgynghoriadau ynglŷn â materion cysylltiadau llafur, a sail statudol 13 sy'n cyfeirio at wybodaeth o fewn yr adroddiad sy'n debygol o ddatgelu pwy yw’r unigolyn dan sylw. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at drafodaethau a allai gael effaith ar ddau grŵp o aelodau staff pe bai'r Cyngor yn bwrw ymlaen â'r cynigion. Mae'r grwpiau hyn yn gymharol fach ac felly mae modd darganfod pwy ydynt ac felly maent yn disgyn i gategori 13. Pe bai'r Cyngor Llawn yn bwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adroddiad byddai'n rhaid ymgynghori / negodi gyda'r ddau grŵp o staff yr effeithir arnynt.

 

           Y budd i'r cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth, o gofio'r ddau ffactor uchod. Bydd angen trafod y penderfyniad terfynol gyda'r staff cyn i'r cynnig gael ei gyhoeddi i'w drafod. Ar hyn o bryd, cynigion i ymgynghori arnynt yn unig yw’r rhain ac efallai na fydd y rhai sy'n ymwneud â staff yn rhan o'r cynigion arfaethedig. Felly, mae’n dilyn na ddylid pryderu grwpiau unigol o staff ynghylch y cynigion hyn oni bai neu hyd nes eu bod yn rhan annatod o'r gyllideb derfynol. Datgelir y cynigion ar gyfer y gyllideb maes o law ac erbyn hynny bydd yr awdurdod wedi cael cyfle i ymgynghori â’r unigolion dan sylw. Mae'n bwysig bod staff yn cael gwybod am unrhyw gynigion o'r fath gan y Cyngor ei hun ac nid o'r cyfryngau. Hefyd, bydd Aelodau'n gallu archwilio a thrafod yr opsiynau a'r cynigion gyda mwy o ryddid ac yn fwy agored mewn sesiwn gaeedig nag y byddent pe bai’r cyhoedd yn bresennol.

 

O ystyried y cyngor a ddarparwyd uchod, penderfynwyd dan Adran (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 cau allan y wasg a'r cyhoedd am y drafodaeth ar eitem 6 ar y rhaglen ar y sail ei bod yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.

Dogfennau ategol: