Eitem Rhaglen

Cyllideb 2018/19 - Y Broses Hyd Yma

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu cyd-destun y broses gosod cyllideb ar gyfer 2018/19. Roedd Atodiad 1 yn cynnwys adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb 2018/19. Roedd yr adroddiad yn cynnwys datganiad ar y sefyllfa mewn perthynas â’r materion canlynol –

 

           Cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb

           Setliad cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol

           Y Dreth Gyngor

           Y sefyllfa mewn perthynas â‘r cronfeydd wrth gefn a'r balansau cyffredinol

           Cynigion ar gyfer arbedion

           Pwysau a blaenoriaethau cyllidebol

           Risgiau

           Effaith ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod yr adroddiad uchod yn dod â cham cyntaf y broses gosod cyllideb i ben, sef y broses fewnol a gynhaliwyd yn y Cyngor. Mae’r broses honno wedi cynnwys cael mewnbwn sylweddol gan Swyddogion ac Aelodau Etholedig mewn cyfarfodydd adolygu gwasanaethau a gweithdai cyllideb lle craffwyd ar bob un o’r cynigion ar gyfer arbedion a’u trafod a’u herio. Nid yw'r gwaith paratoadol hwn wedi bod yn hawdd, yn enwedig gan fod diffyg ariannol oddeutu £2m yn y gyllideb ddigyfnewid ar ôl cymryd i ystyriaeth y gwahanol bwysau ariannol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu mewn perthynas â chwyddiant cyflog, chwyddiant cyffredinol, y cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol, gostyngiad yn y gronfa grantiau a chwyddiant costau ynni. Mae'r rhestr o gynigion, er yn sylweddol, yn cynnig opsiynau  ac felly'n rhoi elfen o hyblygrwydd o ran y penderfyniadau sydd angen eu gwneud.

 

Mae'n rhaid i’r Cyngor gyflwyno cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19; mae hyn hefyd yn bwysig o ran sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn ddigon gwydn i fedru cwrdd â’r heriau ariannol yn y blynyddoedd i ddod. Roedd y gwaith cychwynnol ar y gyllideb a adlewyrchwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a gymeradwywyd ym mis Medi, 2017 yn amcangyfrif y byddai angen  cyfanswm o £8.6m o arbedion dros y cyfnod 2018/19 i 2020/21. Rhagwelwyd hefyd y byddai'r bwlch ariannol yn 2018/19 yn £4m sy'n golygu y byddai gofyn i wasanaethau ddarganfod arbedion o 4%. O ganlyniad, roedd Penaethiaid Gwasanaeth wedi nodi arbedion posib o £3.296m.

 

Er yn well na'r disgwyl, roedd y setliad amodol i lywodraeth leol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Hydref, 2017 yn ostyngiad o 0.1% ar y swm a ddyrannwyd i Ynys Môn yn y flwyddyn flaenorol. O ystyried yr holl newidiadau i’r gyllideb y gwyddys amdanynt, gan gynnwys incrementau cyflog, chwyddiant, dyfarniad tâl, grantiau a chyfrifoldebau newydd, mae'r cyllid sydd raid wrtho i fedru cynnal cyllideb ddigyfnewid wedi cynyddu o £126m yn 2017/18 i £132m ar gyfer 2018/19. Roedd y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol hefyd yn cyfeirio at £100m ychwanegol o fewn y setliad ar gyfer Cymru gyfan ynghylch elfennau ysgolion a gofal cymdeithasol (£62m a £42m yn y drefn honno). Fodd bynnag, ni chafwyd esboniad ar sut y cyrhaeddwyd y ffigurau hyn na'r swm ar gyfer Ynys Môn. Mae'n amlwg o'r ffigyrau nad yw'r ddarpariaeth ychwanegol a nodir wedi golygu arian ychwanegol hyd yma ar gyfer awdurdodau lleol.

 

Felly, bydd yn rhaid i'r Cyngor gwrdd â’r holl bwysau ychwanegol er mwyn cydbwyso cyllidebau gwasanaethau naill ai trwy wneud toriadau, cynyddu ffioedd a thaliadau neu drwy arbedion effeithlonrwydd pellach ar ben y cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor y darperir ar ei gyfer yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol. Fodd bynnag, bwriedir ymgynghori â'r cyhoedd ar gynnydd ychwanegol o 1% yn y Dreth Gyngor a chlustnodi’r £338k ychwanegol y byddai hynny’n ei greu er mwyn ymateb i’r galw yn y Gwasanaethau Cymdeithasol lle mae gwariant ar blant sy'n derbyn gofal a’r lleoliadau all-sirol cysylltiedig yn golygu bod y gyllideb yn gorwario.

 

Er bod y setliad amodol yn well nag a ragwelwyd, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod yr hinsawdd o lymder yn dal i fodoli ac nad yw'r angen i'r Cyngor ddarganfod a gwneud arbedion wedi mynd i ffwrdd. Er bod y bwlch cyllidebol posib yn 2018/19 bellach yn £2m yn hytrach na'r £4m a ragwelwyd yn wreiddiol yn y CATC, nid yw'r prognosis ar gyfer 2019/20 cystal. Er bod y setliad dros dro ar gyfer 2018/19 yn nodi y bydd y setliad posib ar gyfer 2019/20 yn gweld gostyngiad pellach o 1.5% sy'n gyson â'r rhagdybiaeth a wnaed yn y Cynllun gwreiddiol, mae’r sefyllfa o ran newidiadau sy'n gysylltiedig â thâl a'u heffaith ar y gyllideb yn waeth na'r disgwyl erbyn hyn h.y. codiadau cynyddrannol yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r posibilrwydd y ceir gwared ar y cap 1% ar y dyfarniad cyflog ar gyfer y sector cyhoeddus. Bydd y rhain yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gyllideb yn 2019/20. Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canol wedi'i ddiwygio i adlewyrchu'r ffaith y bydd gofyn gwneud llai o arbedion dros y tair blynedd nesaf, sef £6.8m. Serch hynny, mae hwn yn parhau i fod yn swm sylweddol a heriol. Mae'r cynigion arbedion a gyflwynir yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd ac maent yn gyfanswm o £3.3m er mai’r swm y bydd ei angen bellach am 2018/19 yw £2m. Fodd bynnag, pe bai'r Cyngor yn penderfynu gwneud cymaint â phosib o’r arbedion hyn yn 2018/19 byddai'n helpu i leddfu'r baich ar gyllideb 2019/20.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y Panel Sgriwtini Cyllid, yn ei gyfarfod ar 25 Hydref, 2017, wedi ystyried y broses flynyddol ar gyfer gosod y gyllideb ac wedi nodi'r canlynol -

 

           Bod mwy a mwy o grantiau refeniw yn cael eu trosglwyddo i'r setliad llywodraeth leol (£91.7m yn 2018/19). Yn achos Ynys Môn, trosglwyddwyd gwerth £2.343m o grantiau yn 2018/19 sy’n golygu nad yw'r setliad gwirioneddol ar gyfer Ynys Môn cystal ag y mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf.

           Bod y tybiaethau y mae'r gyllideb yn seiliedig arnynt yn gadarn ac yn realistig a rhoddwyd sylw da i’r risgiau.

           Er na fydd yn hawdd ymgynghori â'r cyhoedd ar sail cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor, cytunodd y Panel gyda'r egwyddor na ddylid defnyddio'r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol i leihau lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor.

           Nid oedd y Panel yn unfrydol y dylai'r arian a gynhyrchir gan y cynnydd ychwanegol o 1% yn y Dreth Gyngor gael ei glustnodi ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol. Os yw'r sefyllfa ariannol yn golygu bod angen cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor yna gellid gwneud achos na ddylai'r cynnydd o 1% fod wedi’i neilltuo ar gyfer adran benodol ac y dylai fod ar gael i’w ddefnyddio ar draws holl wasanaethau’r Cyngor.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaeth y pwyntiau canlynol –

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar effaith yr arbedion arfaethedig cychwynnol ar drigolion Ynys Môn a'r gwasanaethau a ddarperir iddynt. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, er y bydd rhai o'r cynigion yn cael effaith ar ysgolion, ystyrir mai hon yw’r gyllideb ddiwethaf na fydd yn cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar drigolion, a hynny gan nad oes cynnig i gau cyfleuster neu i ddod â gwasanaeth i ben. Mae cyllideb 2019/20 yn debygol o fod yn llawer mwy o her oherwydd y pwysau ychwanegol nad oes modd eu mesur ar hyn o bryd ar gyllidebau tâl. 

           Nododd y Pwyllgor y bydd yr effaith yn 2019/20 yn debygol o fod yn fwy difrifol os yw'r Cyngor yn penderfynu defnyddio'r setliad gwell na'r disgwyl i leihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor a / neu’r arbedion yn 2018/19. Gwell ceisio cyflawni'r cynigion yn llawn er mwyn lliniaru'r effeithiau yn 2019/20 a chryfhau gwytnwch y Cyngor i gwrdd â heriau yn y dyfodol.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y posibilrwydd y byddai’r gyllideb yn cynnwys  £125k ar gyfer y Tîm Ynys Ynni fel parhad o'r £125k a ddarparwyd yn 2017/18 ond a dynnwyd o'r gyllideb ddigyfnewid ers hynny ar y sail na roddwyd caniatâd pellach gan y Pwyllgor Gwaith. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd cynnwys yr arian hwn yn y gyllideb yn rhoi sicrwydd a dilyniant, a hynny yn ôl yr un egwyddor ag a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor Gwaith blaenorol. Byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i gydlynu cyfrifoldebau cydsynio statudol y Cyngor a gweithgareddau anstatudol sy'n deillio o'r prosiectau mawr arfaethedig cyhyd â bod angen y tîm.

           Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion am yr arian a gynhyrchwyd gan y premiwm ail gartrefi ac awgrymodd na ddylai hyn fod yn rhan o'r gyllideb refeniw. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y gyllideb wedi'i gosod yn wreiddiol ar £564k ond mai’r debyd ychwanegol gwirioneddol a godwyd gan y premiwm oedd £984k a bod y ffigwr hwn wedi bod yn weddol gyson ers dechrau'r flwyddyn ariannol. Mae'r ffigyrau'n dangos bod y mwyafrif o’r trethdalwyr sy'n gorfod talu'r premiwm wedi gwneud hynny; fodd bynnag, y bwriad yw cynyddu'r gyllideb i 80% o'r ffigwr hwn er mwyn darparu ar gyfer y risg y bydd yr arian a godir gan y premiwm yn lleihau.

           Roedd gan y Pwyllgor amheuon ynghylch clustnodi'r cynnydd ychwanegol o 1% yn y Dreth Gyngor i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a hynny, yn y lle cyntaf, oherwydd y gofynnwyd i'r Gwasanaeth gynhyrchu mesurau lliniaru i atal y gorwariant a dylai orfod adrodd ar y rhain; ac yn ail, gallai gwybod bod arian ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol olygu bod llai o gymhelliant i'r gwasanaeth gynhyrchu mesurau lliniaru; ac yn drydydd, mae amddiffyn gwasanaeth penodol yn annheg i’r gwasanaethau eraill nad oes ganddynt unrhyw rwyd diogelwch o'r fath. Os oes pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol yn genedlaethol ac yn benodol ar y Gwasanaethau Plant oherwydd bod mwy o alw, yna dylid cysylltu â Llywodraeth Cymru trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod nifer y plant y mae'r Awdurdod yn gofalu amdanynt wedi cynyddu o 80 ym mis Mawrth, 2015 i 142 ar hyn o bryd, ac er ei fod wedi sefydlogi ers hynny, mae'r risg o gynnydd pellach yn parhau. Mae'r patrwm hwn yn cael ei ailadrodd yn genedlaethol a bu trafodaethau ar lefel ranbarthol ynghylch codi'r mater â Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, y consensws ar hyn o bryd yw y dylid ystyried y mater ymhellach. Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaethau Plant yn benodol yn ymwybodol bod angen mynd i'r afael â'r mater ac yn arbennig y lleoliadau all-sirol arbenigol sy’n gallu costio’n sylweddol. Gall un lleoliad o'r fath gostio hyd at £250k y flwyddyn ac mae’n cael  effaith gysylltiedig ar gost y ddarpariaeth addysg. Mae'r gwasanaeth wedi adolygu pob lleoliad ac mewn ymateb i'r Panel Sgriwtini Cyllid mae'n paratoi papur ar gostau lleoliadau all-sirol yn y Gwasanaethau Plant yn ogystal â'r Gwasanaeth Dysgu; bydd y papur hefyd yn ceisio adnabod y rhesymau dros y gwariant yn y maes hwn a’r mesurau y gellir eu cymryd. Nid yw hon yn dasg hawdd o gofio bod hwn yn gyfrifoldeb statudol a bod y gyllideb yn cael ei harwain gan y galw, sy'n ei gwneud yn anoddach i geisio rhagweld lefel y gwariant gydag unrhyw sicrwydd.

 

           Nododd y Pwyllgor y gallai'r cynigion effeithio'n negyddol ar ysgolion, yn enwedig yr ysgolion hynny sydd â dim ond ychydig o arian wrth gefn ac a allai orfod adolygu eu cyllidebau staffio i gwrdd â gofynion ychwanegol. Gallai hyn, yn ei dro, gael effaith ar safonau addysg ar adeg pan fo’r Awdurdod yn canolbwyntio ar godi safonau a pherfformiad ysgolion. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, unwaith y bydd cwantwm ysgolion wedi lleihau, yna caiff y toriadau eu gweithredu yn ôl fformiwla  ac ni ellir eu pwysoli na'u targedu i ysgolion unigol. Serch hynny , mae gan y sector cynradd yn Ynys Môn y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn yng Nghymru, er y gall bod gan ysgolion unigol o fewn y sector ddiffygion ariannol.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y cynnig i ddirprwyo mwy o'r gyllideb atgyweirio a chynnal a chadw i ysgolion. Dywedodd y Pennaeth Dysgu mai'r bwriad yw lleihau'r rhan honno o'r gyllideb atgyweirio a chynnal a gedwir yn ganolog a dirprwyo mwy o'r arian I’r ysgolion fel bod ganddynt fwy o reolaeth dros y ffordd y caiff eu hanghenion atgyweirio a chynnal a chadw eu diwallu, gan arwain at arbedion posibl ar eu cyfer. Awgrymodd y Pwyllgor y gellid esbonio'r cynnig yn well cyn iddo gael ei gyflwyno i'r cyhoedd. Awgrymodd y Pwyllgor ymhellach, er mwyn eglurder ac i osgoi camddealltwriaeth, y dylid newid y cyfeiriad cyntaf at glwb brecwast ysgol yn llinell 6 y cynigion i ddarllen clwb "gofal plant".

           Er bod y Pwyllgor yn nodi y byddai wedi hoffi gweld mwy o gynigion yn y rhestr a fyddai’n cynhyrchu incwm i'r Cyngor, roedd yn fodlon bod y cynigion yn gyffredinol yn darparu ystod deg, resymol a phriodol o opsiynau ar gyfer symud ymlaen i ymgynghori â'r cyhoedd.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ynghyd â’r safbwyntiau a fynegwyd, penderfynodd y Pwyllgor argymell y cynigion arbedion ar gyfer 2018/19 i’r Pwyllgor Gwaith.  (Ymataliodd y Cynghorydd Aled Morris Jones rhag pleidleisio)

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL