Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1  12C49P/DEL – Casita, Biwmares

 

13.2  Gorchymyn Rheoli Traffig ar gyfer Niwbwrch a Phenlon

 

Cyflwynoadroddiad gan y Pennaeth Priffydd, Gwastraff ac Eiddo mewn perthynas a’r uchod.

Cofnodion:

13.1  12C49P/DEL – Cais dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y

preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Ebrill, 2017 wedi gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Mae apêl wedi’i chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio a gofynnir i’r Pwyllgor enwebu 2 Aelod i gymryd rhan yn yr apêl ar ran y Cyngor. Nid yw'r Cynghorydd Lewis Davies, a gynigiodd y dylid gwrthod y cais, bellach yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r Cynghorydd John Griffith yw’r unig Aelod o’r Pwyllgor a bleidleisiodd i wrthod y cais.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gofyn i’r Cynghorydd Lewis Davies a fyddai’n fodlon cyfrannu at yr apêl ar ran y Cyngor gan ei fod yn Aelod Lleol ar gyfer yr ardal. Yn ogystal, enwebodd John Griffith fel yr ail Aelod i gyfrannu at yr apêl.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’n rhoi ei henw ymlaen pe na fyddai’r Cynghorydd Lewis Davies yn gallu cynrychioli’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Darganfod yn y lle cyntaf a yw’r Cynghorydd Lewis Davies (cyn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac Aelod Lleol) yn fodlon cyfrannu at yr apêl ar ran y Cyngor ar y cyd â’r Cynghorydd John Griffiths.

 

·           Y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cyfrannu at yr apêl ar y cyd â’r Cynghorydd John Griffiths os nad yw’r Cynghorydd Lewis Davies ar gael.

 

13.2  Gorchymyn Rheoli Traffig ar gyfer Niwbwrch a Phenlon.

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn perthynas â’r Gorchymyn Rheoli Traffig ar gyfer Niwbwrch a Phenlon.

 

Adroddodd yr Uwch Beiriannydd (Traffig a Pharcio) y cynigiwyd y Gorchymyn mewn ymateb i gwynion a gafwyd mewn perthynas â pharcio a thagfeydd traffig yn Niwbwrch ynghyd â phryderon ynghylch diogelwch y ffordd ar hyd yr A4080 yn ardal Penlon. Cyflwynwyd y Gorchymyn arfaethedig ym Mawrth 2017, a oedd yn cynnwys darparu llinellau melyn dwbl o amgylch cylchfan Penlon a llinellau dwbl melyn yn lle’r llinellau melyn sengl tymhorol ym mhentref Niwbwrch a newidiadau i’r cyfyngiadau stopio tu allan i siopau’r pentref. Dywedodd bod nifer o wrthwynebiadau wedi dod i law mewn perthynas â’r Gorchymyn a oedd wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad. Cynhaliwyd cyfarfod â Chyngor Cymuned Rhosyr a’r Aelodau Etholedig Lleol ac ystyriwyd y dylid diwygio’r cynnig gwreiddiol ac mai dim ond y llinellau melyn sengl tymhorol presennol y dylid eu newid yn llinellau dwbl ac eithrio’r rhai y tu allan i’r siop Pysgod a Sglodion, er mwyn gwella llif y traffig allan o Stryd yr Eglwys i Stryd y Capel ac i’r amser hiraf y caniateir aros yn y llecynnau amser cyfyngedig ger y sgwâr gael ei ostwng o 30 munud i 20 munud (mae’r Gorchymyn Rheoliad Traffig diwygiedig wedi’i nodi yn 3.1 yr adroddiad)      

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith a oedd cyfleusterau parcio ar gael i drigolion Niwbwrch o ganlyniad i’r cyfyngiadau parcio hyn. Ymatebodd yr Uwch Beiriannydd (Traffig a Pharcio) gan ddweud bod dau faes parcio ger y toiledau cyhoeddus. Fodd bynnag, nododd fod y toiledau cyhoeddus a’r maes parcio wedi eu gwerthu’n ddiweddar a rhagwelir na fydd unrhyw ddatblygiad ar y safle’n cynnwys maes parcio cyhoeddus.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, fel Aelod Lleol, ei fod yn croesawu’r Gorchymyn Traffig ond pwysleisiodd bod angen gwella arwyddion y meysydd parcio yn Niwbwrch.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r Gorchymyn Rheoli Traffig ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig diwygiedig sydd yn yr adroddiad a mynd ati i gadarnhau’r Gorchymyn Rheoli Traffig a’r Cynllun yn seiliedig ar Adran 3.1 ac Atodiad 3 o’r Adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: