Eitem Rhaglen

Strategaeth Rheoli Asedau - Tai Cyngor

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Strategaeth Rheoli ddrafft ar gyfer Asedau'r Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod 2018 i 2023.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Technegol Tai bod y strategaeth yn diffinio dull y Gwasanaeth Tai o reoli asedau'r Cyfrif Refeniw Tai; un o'i brif nodau yw cefnogi cynllun busnes blynyddol y gwasanaeth. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar dair thema allweddol mewn perthynas â buddsoddi yn y stoc er mwyn parhau i gwrdd â gofynion Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC); rheoli asedau yn rhagweithiol er mwyn gwella perfformiad eiddo a allai fod yn perfformio’n wael o safbwynt ffactorau cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol, a chefnogi amcanion ehangach er mwyn cyfrannu at flaenoriaethau corfforaethol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y strategaeth a gwnaeth y pwyntiau canlynol

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a yw'r Gwasanaeth Tai yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd am fenthyciadau i wneud gwaith atgyweirio mawr. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Technegol Tai fod y lwfans wedi ei hawlio yn llawn ar ddiwedd Chwarter 2 ac y gwariwyd cyfanswm o fwy na £2.6m yn ystod Chwarter 1 a Chwarter 2. Mae’r gwasanaeth yn cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion Llywodraeth Cymru i fonitro sut mae'r grant yn cael ei wario.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch yr hyn y mae’r Cyngor yn ei wneud os yw tenantiaid yn gwrthod gwaith gwella ar eu cartrefi, yn enwedig os ystyrir bod y gwaith yn hanfodol.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Technegol Tai bod SATC yn caniatáu i denantiaid wrthod gwaith ar eu cartrefi mewn rhai amgylchiadau e.e. os ydynt yn hapus â'r gegin sydd ganddynt a dim eisiau ei huwchraddio. Er bod pob awdurdod yn parchu hawl tenantiaid i wneud penderfyniadau am eu cartrefi eu hunain, rhaid cydbwyso hyn gyda'r angen i gwrdd â gofynion iechyd a diogelwch. Mae'r gwasanaeth yn cysylltu â thenantiaid sydd wedi gwrthod gwaith uwchraddio, a hynny er mwyn canfod a ydynt wedi newid eu meddwl ai peidio ac yn cytuno bellach i’r gwaith gael ei wneud. Mae unrhyw waith SATC sy'n weddill e.e. ceginau, ystafelloedd ymolchi, ailweirio ac ati yn cael ei wneud yn awtomatig fel mater o bolisi ar ddiwedd tenantiaeth a chyn ailosod y cartrefi. Yn aml gwelir mai tenantiaid hŷn sy’n gwrthod gwaith, a hynny oherwydd yr anhwylustod mawr yn mae’n ei olygu weithiau, ond gwelir bod llawer ohonynt wedi newid eu meddwl ers hynny. Mae'r gwasanaeth yn adrodd i'r Bwrdd Gwasanaethau Tai ar y strategaeth ar gyfer lleihau nifer y gwrthodiadau.

 

           Nododd y Pwyllgor fod tenantiaid weithiau yn gyndyn o gael ailweirio eu cartrefi’n llawn; gofynnodd y Pwyllgor a oedd unrhyw rai o'r gwrthodiadau y mae'r gwasanaeth yn gwybod amdanynt yn disgyn i'r categori hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Technegol Tai, er bod rhai tenantiaid wedi gwrthod gwaith ailweirio llawn, mae'r Cyngor fel landlord yn mynnu ei fod yn cael gwneud y gwaith y mae’n rhaid iddo ei wneud i gwrdd â gofynion iechyd a diogelwch a safonau cyfredol e.e. gosod byrddau dosbarthu trydanol newydd.

 

           Holodd y Pwyllgor a oes gan y Gwasanaeth dystiolaeth ddogfennol i ddangos bod tenant wedi gwrthod gwaith gwella ac i ddangos hefyd bod pob cartref yn cydymffurfio â'r safonau diogelwch gofynnol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Technegol Tai fod gan y gwasanaeth ffeiliau achos ar bob cartref a'i fod yn gwneud yr holl waith angenrheidiol i sicrhau bod cartrefi yn cwrdd â'r gofynion iechyd a diogelwch sylfaenol. Er enghraifft, gwneir gwaith ardystio diogelwch cyfarpar nwy bob blwyddyn. Mae'r Strategaeth yn amlinellu'r safonau cyfreithiol, rheoleiddiol a lleol y mae'n rhaid i'r Cyngor eu bodloni.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod gan y gwasanaeth ddigon o adnoddau a sgiliau i allu ymweld â'r stoc tai yn rheolaidd ar gyfer cynnal archwiliadau o gyflwr y cartrefi ac i ddwyn sylw at unrhyw ddiffygion y mae angen mynd i'r afael â nhw.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai y byddai'r gwasanaeth yn elwa o gael rhagor o swyddogion i gynnal ymweliad archwilio o leiaf unwaith y flwyddyn. Ar hyn o bryd mae gan y gwasanaeth 3 swyddog rheoli tai; yn ogystal, mae contractwyr sy'n cyflawni gwaith gwella ar stoc tai’r Cyngor wedi'u hyfforddi i nodi unrhyw beth amheus e.e. arwyddion o drais domestig. Mae'r gwasanaeth hefyd yn gwirio i weld a oes patrwm i’r galwadau am waith neu i weld a yw'r gwariant ar rai eiddo yn uwch nag ar eraill ac i sefydlu’r rhesymau am hynny.

 

Nododd y Pwyllgor felly fod angen mwy o adnoddau staffio yn y Gwasanaeth i fonitro a goruchwylio'r stoc tai.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar effaith cyflwyno’r Credyd Cynhwysol ar y gwaith o gynnal y stoc tai, os o gwbl.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cyngor wedi sefydlu rhaglen i baratoi a chynorthwyo tenantiaid mewn perthynas â newidiadau diwygio lles a wneir gan y  Llywodraeth fel eu bod yn ymwybodol o'r hyn i'w ddisgwyl. Mae credyd cynhwysol yn effeithio ar bobl mewn tenantiaethau preifat yn ogystal â'r rhai a gyflogir ar gontractau tymor byr ac ati. Fel rhan o’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r CRT, mae'r gwasanaeth yn gwneud gwaith i gynllunio ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd ac i roi prawf ar gadernid y Cynllun Busnes; bydd y Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor sgriwtini fis Chwefror nesaf i’w herio ac i sicrhau nad yw'r Cyngor wedi cymryd gormod o faich arno’i hun. Ystyrir bod y cynllun 30 blynedd yn gadarn. Mae'r gwasanaeth yn ymwybodol o rai o'r anawsterau a wynebir gan awdurdodau eraill o ran cynnydd yn y dyledion rhent a’r dyledion treth gyngor o ganlyniad i newidiadau diwygio lles ac mae'n disgwyl i hynny ddigwydd yn Ynys Môn hefyd ond dim ond yn y tymor byr. Mae'r gwasanaeth yn monitro datblygiadau yng nghynghorau Sir y Fflint a Thorfaen.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar gynllunio buddsoddiadau a holodd a yw’r gwasanaeth yn blaenoriaethu gosod systemau gwresogi newydd er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd / effeithlonrwydd ynni ac a yw'n gallu targedu'r eiddo hynny lle mae tenantiaid angen lleihau eu biliau tanwydd ac yn gallu gwneud hynny. Nododd y Pwyllgor ei bod yn hanfodol helpu aelwydydd a allai fod dan bwysau ariannol  oherwydd costau gwresogi eu cartrefi a phwysleisiodd y dylid ystyried dwyn ymlaen y cynlluniau adnewyddu ar gyfer yr aelwydydd hyn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Technegol Tai fod y gwasanaeth wedi cychwyn ar raglen fuddsoddi ar gyfer gosod boeleri newydd yn y 18 mis diwethaf. Mae'r gwasanaeth yn gweithio ar y sail y disgwylir i gylch oes boeleri fod yn 15 mlynedd.  Rhagwelir y bydd rhaglenni gosod boeleri newydd yn nodwedd amlwg yn y strategaeth bum mlynedd ar gyfer rheoli asedau.  Yn ogystal, mae'r mater wedi cael  sylw’n ddiweddar, gan gynnwys mewn ymweliad gan Swyddfa Archwilio Cymru fis diwethaf lle'r oedd y ffocws ar dargedau a SATC mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni. Nid yw canran uchel o dai Ynys Môn wedi eu cysylltu â'r rhwydwaith nwy naturiol a gall fod yn anodd cyrraedd y targedau ar gyfer yr eiddo hyn. Mae'r gwasanaeth wedi cytuno â SAC i baratoi adroddiad gwaith sy'n nodi sut mae'n bwriadu cynyddu nifer y tai sy'n cwrdd â’r safonau; caiff ei gyflwyno i'r Bwrdd Gwasanaethau Tai ar ddiwedd y mis.

 

Penderfynwyd derbyn y Strategaeth Ddrafft ar gyfer Rheoli Asedau'r Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod 2018/23 ac argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn ei mabwysiadu.

 

CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL A GYNIGIWYD: Y Gwasanaeth Tai i adrodd yn ôl i gyfarfod  y Pwyllgor Sgriwtini ym mis Ionawr 2018 ar ei gynlluniau i gynorthwyo aelwydydd sy'n dioddef o dlodi tanwydd ac / neu sydd mewn perygl o dlodi tanwydd.

Dogfennau ategol: