Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant

·        Cyflwyno diweddariad ar gynnydd o’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant

 

·        Cyflwyno adroddiad cynnydd gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

           Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori diweddariad cynnydd ar waith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant er mwyn i’r Pwyllgor ei ystyried. Rhoddodd yr adroddiad grynodeb o'r materion sydd wedi derbyn sylw'r Panel dros y ddau fis diwethaf.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Richard Griffiths ei fod yn ymddangos fod yr holl ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Gwella Gwasanaeth ar darged hyd yn hyn. Fodd bynnag, er bod cynnydd da wedi'i wneud ar weithredu'r strwythur staffio diwygiedig, mae'r Panel yn dwyn sylw’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol at y ffaith fod swyddi yn parhau i fod yn wag. Mae angen mynd i'r afael â hyn cyn gynted ag y bo modd.

 

           Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Plant yn nodi'r cynnydd hyd yma ynghylch gweithredu'r Cynllun Gwella Gwasanaeth Plant. Roedd yr  adroddiad yn amlinellu ffocws y gwaith a wnaed hyd yma mewn perthynas â'r agweddau canlynol

 

           Ailstrwythuro'r Gwasanaeth

           Recriwtio

           Strategaeth Goruchwylio’r Gweithlu

           Fframwaith Sicrhau Ansawdd

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r wybodaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed o ran gwella’r gwasanaeth ac, yn unol â'r argymhelliad a wnaed gan Banel Gwella'r Gwasanaethau Plant a oedd wedi amlygu'r broblem bod swyddi’n parhau i fod yn wag, gofynnodd am eglurhad gan y gwasanaeth ynghylch ei ddull recriwtio gan gyfeirio'n benodol at y pwyntiau canlynol

 

           A yw'r gwasanaeth yn hyderus y bydd yn gallu llenwi'r swyddi sy'n wag heb oedi gormodol

           A yw'r Gwasanaeth wedi ystyried cymryd ymagwedd fwy ragweithiol tuag at recriwtio trwy hyrwyddo gwaith cymdeithasol fel gyrfa yn uniongyrchol gydag ysgolion ac mewn ffeiriau gyrfaoedd.

           Yn ogystal, a yw'r gwasanaeth wedi ystyried dwysáu’r dull recriwtio trwy farchnata'r Cyngor yn uniongyrchol i brifysgolion fel cyflogwr cefnogol a lle cadarnhaol i weithio ynddo ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd a phrofiadol.

           O ystyried cymhlethdod Gwaith Cymdeithasol yn y maes Plant, y camau y mae'r gwasanaeth wedi'u cymryd i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i staff i'w helpu i ddelio â heriau’r gwaith ac i ddatblygu'n broffesiynol.

           Y cydbwysedd rhwng gweithwyr cymdeithasol profiadol a dibrofiad o fewn y gwasanaeth.

 

Dywedodd y Swyddogion fod y gwasanaeth yn hysbysebu’n barhaus am weithwyr cymdeithasol yn y maes plant a theuluoedd ac, yn y cyfamser, mae gweithwyr cymdeithasol asiantaeth yn darparu gwasanaeth lle bo angen. Mae recriwtio gweithwyr cymdeithasol yn parhau i fod yn her i awdurdodau lleol yn rhanbarthol. Mae'r gwaith mewn perthynas â gweithredu'r Strategaeth Gweithlu yn parhau beth bynnag, a bydd hynny o gymorth i recriwtio yn y dyfodol. Yn ogystal â mynd ati i recriwtio o ffynonellau allanol, mae'r gwasanaeth hefyd yn datblygu ymagwedd "datblygu ein gweithwyr ein hunain" gyda'r nod o sicrhau gweithlu cynaliadwy dros amser. I'r perwyl hwn mae'r gwasanaeth wedi cyflogi staff sydd newydd gymhwyso yn ogystal â staff y disgwylir iddynt gymhwyso’n fuan. Bydd eu llwyth achosion yn llai yn y dechrau i'w helpu i ymgynefino â’r gwaith. Elfen arall o'r cynllun recriwtio yw uwch-sgilio gweithwyr cymorth fel y gallant gymryd mwy o gyfrifoldeb. Mae'r gwasanaeth yn cydweithio'n agos â Phrifysgol Bangor i ddarparu profiad gwaith, ac er yn ymwybodol o’r angen i recriwtio gweithwyr cymdeithasol dwyieithog er mwyn darparu gwasanaeth priodol i deuluoedd, mae'r Awdurdod wedi bod yn ystyried hysbysebu'n genedlaethol gyda'r nod o ddenu unigolion o’r ardal hon yn ôl i ogledd Cymru a all fod yn gweithio yn Lloegr ar hyn o bryd.

 

Yn ogystal â recriwtio, mae'r Strategaeth Gweithlu yn rhoi pwyslais ar greu diwylliant cefnogol fel y bydd staff eisiau aros gyda'r Cyngor. Mae strwythur newydd y gwasanaeth  ynghyd â'r Polisi Goruchwylio newydd yn golygu bod gan reolwyr well ymwybyddiaeth o’r llwythi achos, gan gynnwys unrhyw achosion sy'n peri problemau. Mae Arweinwyr Ymarfer yn fwy ymwybodol o'r gwaith sy'n golygu y gallant roi cyngor a, thrwy'r broses oruchwylio ffurfiol, gallant adolygu achosion ac arferion yn rheolaidd. Mae'r camau hyn yn ychwanegol at drefniadau corfforaethol y Cyngor ar gyfer rheoli perfformiad. Mewn achosion anarferol neu eithriadol, mae'r gwasanaeth wedi datblygu protocol ar gyfer staff i'w helpu i sicrhau bod y rheini’n cael eu trin yn briodol ac yn gywir. Er mwyn bod o gymorth pellach i staff mae'r gwasanaeth yn datblygu rhaglen gynefino gyson ac effeithiol.

 

O ran y gymysgedd o weithwyr cymdeithasol profiadol a dibrofiad, mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn cyflogi 29 o weithwyr cymdeithasol, ac mae 22 ohonynt wedi cymhwyso  rhwng 2 a 10 mlynedd yn ôl; mae 1 wedi bod yn gymwys am flwyddyn ac mae 6 wedi bod yn gymwys am lai na blwyddyn. 

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd trwy'r adroddiadau ysgrifenedig ac ar lafar gan y Swyddogion, penderfynodd y Pwyllgor –

 

           Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma gyda gwaith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant

           Nodi ei fod yn ymddangos bod yr holl ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Gwella Gwasanaeth ar darged hyd yn hyn.

           Nodi a chydnabod pryder y Panel am y swyddi sy’n parhau i fod yn wag yn y  gwasanaeth.

           Bod y Pwyllgor yn fodlon â'r camau a gymerwyd a chyflymder y cynnydd a wneir gan y Gwasanaethau Plant mewn perthynas â gweithredu'r Cynllun Gwella Gwasanaeth yn amodol ar nodi bod angen mynd i'r afael â’r swyddi sy’n parhau i fod yn wag.

 

CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL A GYNIGIWYD: Ymgorffori awgrymiadau'r Pwyllgor i fabwysiadau ymagwedd fwy uniongyrchol a rhagweithiol tuag at recriwtio yn y Strategaeth Recriwtio e.e. gydag ysgolion a phrifysgolion

Dogfennau ategol: