Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

7.2  20C313AFfordd y Felin, Cemaes

7.3  24C300A/ECON – Tyn Rhos Fawr, Dulas

7.4  28C472ECartref, Ffordd y Stesion, Rhosneigr

7.5  38C180F/VAR – Gilfach Glyd, Mynydd Mechell

7.6  39C285D – Lon Gamfa, Porthaethwy

7.7  46C168D/DA – Trearddur House, Trearddur

Cofnodion:

7.1 20C310B/EIA/RE – Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, isadeiledd a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan i’r Pwyllgor, yn y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2017, benderfynu gwrthod y cais yn groes i argymhellion y Swyddog ar y sail nad yw’r cais yn eithriad digonol i ganiatáu gwyro oddi wrth bolisi ADN 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Ynys Môn a Gwynedd). 

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffiths, Aelod Lleol, ei fod yn annerch y Pwyllgor er mwyn gwrthwynebu’n gryf i’r cais hwn; roedd hefyd yn cynrychioli trigolion lleol Llanbadrig sydd â phryderon sylweddol mewn perthynas â’r cais hwn yn Rhyd y Groes. Nododd fod trigolion lleol yn cefnogi prosiect Wylfa Newydd ond y byddai’r datblygiad sylweddol hwn, sef fferm arae solar yn yr ardal yn rhoi straen gormodol ar y gymuned. Mae’r Cynghorau Cymuned lleol hefyd yn gwrthwynebu’r datblygiad hwn. Aeth ymlaen i ddweud bod amheuaeth am y pŵer a gaiff ei gynhyrchu gan y datblygiad hwn; mae’r ymgeisydd wedi dweud y bydd y capasiti o 49.9MW yn pweru 15,500 o gartrefi. Bydd y datblygiad arfaethedig, os caiff ei gymeradwyo, yn creu traffig trwm i ac o’r safle. Mynegodd y dylai’r panelau solar hyn fod ar doeau tai ac eiddo masnachol ac nid ar dir amaethyddol ac yn sicr nid mewn cymunedau gwledig. Gofynnodd y Cynghorydd Griffiths i’r Pwyllgor wrando ar bryderon trigolion lleol Llanbadrig ac i gadarnhau ei benderfyniad i wrthod y cais.     

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y rhesymau dros wrthod y cais yn y cyfarfod blaenorol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Nododd bod llythyrau o gefnogaeth hefyd wedi dod i law gan Gyfeillion y Ddaear a pherchnogion tir Rhyd y Groes. Roedd llythyrau gwrthwynebu pellach hefyd wedi eu derbyn gan drigolion Buarth y Foel a gan Gyngor Diogelu Cymru Wledig. Mae barn gyfreithiol annibynnol ar y penderfyniad i wrthod y cais yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn wedi cael ei gyflwyno gan yr ymgeisydd ac yn benodol ynghylch a yw’r cynnig yn cydymffurfio â pholisi ADN2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais a bod yr apêl yn y broses o gael ei dilysu cyn cael ei chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Nodwyd bod gan yr Awdurdod gyfnod o bedair wythnos er mwyn penderfynu ar y cais, unwaith y bydd yr apêl wedi’i dilysu, cyn iddi gael ei chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio i’w phenderfynu. Nododd ymhellach ei bod yn bwysig adrodd bod yr ymgeisydd wedi gofyn am Wrandawiad gan yr Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â’r cais a’u bod wedi nodi y byddant yn gwneud cais am gostau yn erbyn y Cyngor, ac y gallai’r costau hynny fod yn fod yn sylweddol.   

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach bod cyfarfod blaenorol y cyfarfod hwn ond wedi rhoi un rheswm dros wrthod sef nad yw’r cais yn eithriad digonol er mwyn gallu cyfiawnhau gwyro oddi wrth bolisi ADN2 o’r Cynllun Datblygu Lleol. Roedd y Pwyllgor yn ystyried mai’r unig fater yr oedd gan y datblygwr fel cyfiawnhad ar gyfer eithriad rhag polisi ADN2 oedd y cysylltiad â’r Grid Cenedlaethol. Mae’r adroddiad gan y Swyddog Cynllunio yn delio a’r mater o ran eithrio o bolisi ADN2 a gan nad oedd y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf yn ystyried bod gwyriad digonol oddi wrth bolisi ADN2, mae angen i’r Pwyllgor fod yn glir ar y mater cyn i’r cais gael ei ystyried fel rhan o’r broses apêl. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at bolisi strategol PS7 a pholisi ADN2 yn y Cynllun Datblygu. Mae adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor yn mynegi’n glir ei fod yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol wedi eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio sy’n caniatau datblygiadau y tu allan i “Ardaloedd Cyfle Posibl” a bod y cynllun o ganlyniad yn cyd-fynd â rhan gyntaf Polisi ADN2. Yn dilyn dewis y safle, mae polisi ADN2 yn dweud y bydd cynigion ar gyfer Ffermydd Solar PV o 5MW neu fwy a chynlluniau solar eraill o hyd at 5MW yn cael eu caniatáu ar yr amod bod y cais yn cydymffurfio â’r meini prawf a nodir yn adroddiad y Swyddog Cynllunio.   

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn cefnogi’r cais mewn perthynas â pholisi ADN2. Mae’r ymgeisydd wedi rhannu’r farn gyfreithiol â’r Cyngor yn dilyn gwrthod y cais yn y cyfarfod diwethaf. Mae asesiad manwl wedi’i gynnal mewn perthynas â’r cais hwn ac mae’r argymhelliad yn un o gymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ei fod wedi rhoi sylw dyledus i’r cais hwn yn dilyn gwrthod y datblygiad yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Nododd o fewn polisïau Llywodraeth Cymru, bod angen tir gwastad yn bennaf ar gyfer ffermydd arae solar a bod mwy o’r safle’n cydymffurfio â’r polisïau hyn nag yr oedd wedi’i feddwl i ddechrau. Holodd a fyddai modd rhoi amod ynghlwm â chaniatâd ar gyfer unrhyw gais i’r perwyl nad yw’r datblygwr yn codi paneli solar ar y mannau nad ydynt yn cydymffurfio â pholisïau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, roedd o’r farn fod polisïau Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ar fferm solar hyd at 5MW yn unig ond bod y datblygiad arfaethedig hwn yn llawer mwy.    

 

Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi ystyried polisïau Llywodraeth Cymru yn unol â’r ‘pecyn cymorth’ ar gyfer asesiad lefel uchel ar gyfer datblygiad o’r fath. Cafodd map o oleddf y tir ei ddangos i’r Pwyllgor, sy’n dangos nad yw rhan fach iawn yn cydymffurfio â pholisi. Nododd fod amod eisoes wedi’i osod ar unrhyw ganiatâd a roddir i’r cais o ran gosodiad y safle yn unol ag amod 4 yn yr adroddiad ysgrifenedig. Pwysleisiodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yn rhaid delio â’r cais yn ei gyfanrwydd fel y cafodd ei gyflwyno gan yr ymgeisydd. Mae’r datblygiad arfaethedig wedi ei asesu mewn perthynas â’r effaith cronnus ar ddatblygiadau eraill yn yr ardal sy’n cynnwys Fferm Wynt Rhyd y Groes. Aeth ymlaen i ddweud bod cyfeiriad wedi’i wneud at ansawdd tir amaethyddol y safle a nododd bod adroddiad Technegol wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn dweud bod y tir o safon 3B ac nad yw hynny’n atal datblygiad ar y tir hwn.     

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith a fyddai modd gosod amod bod ardal byffer yn cael ei sefydlu ger eiddo cymdogion. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen i resymau penodol gael eu defnyddio os yw amodau’n mynd i gael eu gosod ar unrhyw geisiadau cynllunio sy’n cael eu cymeradwyo. Dywedodd bod mesurau lliniaru yn rhan o’r cais hwn o ran yr effaith ar amwynderau ar eiddo cyfagos.   

 

Holodd y Cynghorydd Shaun Redmond os oedd y cais hwn i gael ei ganiatáu, a fyddai’n iawn felly i gwsmeriaid orfod talu mwy am eu trydan pan fydd ffermydd gwynt yn gorfod cau gan y bydd y fferm arae solar hon yn creu gormod o gapasiti ar gyfer y Grid. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl datblygiadau solar ac nad yw costau trydan i’r cwsmer yn fater i’r Pwyllgor.  

 

Holodd y Cynghorydd Dafydd Roberts a allai datblygiadau solar eraill ddadlau bod safle’n briodol oherwydd y gellir ei gysylltu i’r Grid Cenedlaethol. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod dwy elfen i bolisi ADN2 sef bod safleoedd o dros 5MW yn cael eu cyfeirio at ardaloedd penodol; er mwyn dangos eithriad i bolisi ADN2 mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddangos yr angen a’r lleoliad ac mae’n rhaid cydymffurfio gyda’r meini prawf angenrheidiol. Nodwyd mai mater i’r Grid Cenedlaethol fyddai penderfynu faint o’r trydan sy’n cael ei greu gan ddatblygiad o’r fath fyddai ei angen ar gyfer yr Ynys.  

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod yn rhaid i’r Pwyllgor yn gyntaf ystyried a yw’r rheswm dros wrthod y cais yn ystod cyfarfod blaenorol y Pwyllgor (nad yw’r cais yn cynnwys eithriad digonol er mwyn caniatáu gwyriad oddi wrth Bolisi ADN2) yn ddigonol o ystyried bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, sydd wedi llunio’r polisïau hyn o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, yn ystyried ei fod yn eithriad digonol er mwyn gallu rhyddhau caniatâd i wyro oddi wrth Bolisi ADN2. Nododd, os yw’r cais yn cael ei wrthod, y gallai fod yn anodd dod o hyd i dystiolaeth i gyfiawnhau’r rhesymau dros wneud hynny. Gallai hynny gael ei adlewyrchu o ran y costau o fewn y broses apelio. Os nad oedd y Pwyllgor am gadarnhau ei safbwynt blaenorol yna gallai un ai gynnig rhesymau eraill dros wrthod y cais neu gallai gymeradwyo’r cais.   

 

Yn dilyn trafodaeth bellach, ystyriwyd y dylid cynnal pleidlais wedi’i chofnodi.

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 y Cyfansoddiad, gofynnodd y nifer angenrheidiol o Aelodau am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Roedd y bleidlais wedi’i chofnodi fel a ganlyn:-

 

Cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog:-

 

Y Cynghorwyr John Griffith, Vaughan Hughes, Nicola Roberts, Robin Williams                                                                               (CYFANSWM 4)

 

Cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog:-

 

Y Cynghorydd Shaun Redmond                                                 (CYFANSWM 1)

 

Wedi Atal eu Pleidlais:-

 

Y Cynghorwyr Glyn Haynes, K P Hughes, Eric W Jones, Dafydd Roberts 

                                                                                                        (CYFANSWM 4)

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig a rhoi pwerau dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio ychwanegu, diwygio neu ddileu amodau fel y bydd angen.

 

7.2  20C313A – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi 14 o anheddau fforddiadwy, adeiladu mynedfa a ffordd fewnol newydd, ynghyd â gorsaf garthffosiaeth ar dir oddi ar Ffordd y Felin, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion o ganlyniad i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Ynys Môn a Gwynedd). Cymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion y cais ar 1 Mawrth, 2017 yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gydag ar amodau a chytundeb Adran 106 o dan Ddeddf 1990. Cafodd y cais ei benderfynu arno i ddechrau o dan bolisïau’r cynllun datblygu a oedd yn weithredol ar y pryd. Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu ar y Cyd, mae’r cais wedi cael ei ail asesu yn unol â’r polisïau sydd wedi eu cynnwys o fewn y cynllun datblygu presennol.     

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y safle bellach o fewn terfyn setliad Cemaes sydd bellach wedi’i adnabod ar gyfer datblygu tai mewn cydymffurfiaeth â pholisi T34 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae adroddiad y Swyddog Cynllunio i’r Pwyllgor yn nodi bod y cais hwn ar gyfer cynllun tai fforddiadwy 100% sydd mewn egwyddor dros y gofyniad o 30% sydd wedi’i nodi o fewn y Cynllun Datblygu. Nododd fod asesiad o’r isadeiledd wedi cael ei gynnal mewn perthynas â’r cais hwn a bod y Gwasanaeth Addysg wedi cadarnhau nad ydynt yn gofyn am gyfraniad gan y datblygwr ar gyfer cyfleusterau addysgol. Fodd bynnag, gofynnir am gyfraniad ariannol drwy gytundeb cyfreithiol A106 tuag at lecynnau agored sydd wedi eu hadnabod yn yr ardal. Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach bod gwaith wedi’i wneud ar y fynedfa yn ogystal â’r gwaith o glirio’r safle; mae’r cais bellach yn gais ôl-weithredol yn rhannol o ganlyniad i’r gwaith hwn. Fodd bynnag, mae’r cais yn cydymffurfio â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a’r argymhelliad yw un o ganiatáu.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffiths y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K.P. Hughes.  

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd â Chytundeb A106 i sicrhau y bydd yr unedau arfaethedig yn rhai fforddiadwy a chyfraniad ariannol sy'n ymwneud â’r ddarpariaeth o ran llecynnau agored.

 

 

7.3  24C300A/ECON – Creu llynnoedd i ddibenion pysgota / cychod hamdden, codi siop / caffi a storfa ategol ynghyd â ffyrdd mynediad cysylltiedig a mannau parcio, ynghyd â gosod tanc septig newydd ar dir sy'n rhan o Tyn Rhos Fawr, Dulas.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ogherwydd y cymeradwywyd y cais ym mis Gorffennaf 2016 gan y Pwyllgor ond ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Ynys Môn a Gwynedd) mae angen adolygu’r argymhelliad yn unol â’r polisïau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ac unrhyw newidiadau eraill o ran ystyriaethau perthnasol.  

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi’i gymeradwyo ym mis Gorffennaf 2016 yn amodol ar gytundeb cyfreithiol yn cynnwys darpariaethau sy’n cyfyngu’r defnydd o fadau dŵr modurol, cyflwyno cynllun teithio, gofynion bond er mwyn ariannu gwaith atgyweirio i’r A5025 dros y ffordd o ganlyniad i unrhyw ddifrod sy’n codi o ganlyniad i’r datblygiad a gofyniad i enwau lleoedd ac arwyddion busnes fod yn ddwyieithog. Mae drafft o’r cytundeb A106 wedi’i baratoi ond mae angen i’r cais gael ei ail asesu o ganlyniad i’r polisïau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae’r asesiad wedi’i gynnal yn benodol mewn perthynas â Pholisi TWR1 (Atyniadau ac Adnoddau Ymwelwyr) sy’n nodi y bydd cynigion i ddatblygu atyniadau ac adnoddau newydd ar gyfer ymwelwyr yn cael eu hannog er mwyn lleoli safleoedd o fewn y ffin datblygu. Nododd, pan gymeradwywyd y cais hwn yn flaenorol, bod safle’r cais o fewn Ardal Tirlun Arbennig ond nad yw hyn bellach yn berthnasol i’r ardal benodol honno.    

 

Holodd y Cynghorydd Robin Williams a oedd y datblygiad yn mynd i fod ar agor i’r cyhoedd. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod siop/caffi ar y safle ac y bydd ar agor i’r cyhoedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar  gwblhau cytundeb cyfreithiol a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

7.4  28C472E – Cais llawn i godi 2 annedd (un a fydd yn cynnwys balconi) ar dir ger Cartref, Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei fod wedi dod i’r amlwg bod y ffordd sy’n arwain i’r safle dan berchenogaeth wahanol ac felly y bydd angen i’r ymgeisydd gyflwyno’r hysbysiad angenrheidiol i’r perchnogion tir. Nododd mai’r argymhelliad yw un o ohirio’r cais.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais i ganiatáu i'r ymgeisydd gyflwyno'r hysbysiad angenrheidiol i’r tirfeddianwyr.

 

7.5  38C180F/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 38C180D (cais amlinellol ar gyfer codi annedd a mynediad i gerbydau) er mwyn caniatáu estyniad amser ar gyfer cyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl yn Gilfach Glyd, Mynydd Mechell

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd, 2017 penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. 

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Llinos M Huws, Aelod Lleol, bod y cais yn haeddiannol o gael ei gymeradwyo yn unol â’i sylwadau yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Cyfeiriodd at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd yn ddiweddar ac at y ffigyrau tai i’w datblygu a nododd bod y cais hwn wedi’i gynnwys yn y ffigyrau hynny a oedd eisoes wedi’u dyrannu i Ynys Môn. Nododd bod yr ymgeisydd yn derbyn y bydd angen dechrau ar y gwaith adeiladu o fewn blwyddyn.  

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog fel y nodir yn yr adroddiad. Nododd bod yr argymhelliad yn dal i fod yn un o wrthod y cais.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r penderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r penderfyniad i ganiatáu'r cais.

 

 

 

7.6  39C285D – Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn y gorffennol wedi gwyro oddi wrth Gynllun Lleol Ynys Môn. Fodd bynnag, mae’r safle bellach wedi’i adnabod fel safle datblygu preswyl o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd. 

 

Dywedodd y Cadeirydd bod cais wedi dod i law gan Aelodau Lleol am gael ymweld â’r safle. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Lleol, bod ardal y cais wedi dioddef llifogydd yn ddiweddar. Dywedodd fod y cais hwn wedi dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn 2013 i ddechrau ac ystyriodd y byddai’n fanteisiol i Aelodau’r Pwyllgor ymweld â’r safle. Cynigiodd y dylid cynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts. 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.

 

7.7  46c168D/DA – Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd sy'n cynnwys balconi ar dir yn Trearddur House, Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 1 Tachwedd, 2017 fe benderfynwyd ymweld â’r safle. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd ymweliad safle ar 15 Tachwedd, 2017. 

 

Dywedodd Mr. Steve Bond (o blaid y cais) ei bod hi’n bwysig cydnabod fod y cais sydd gerbron y cyfarfod yn gais ar gyfer materion a gadwyd yn ôl. Mae’r safle yn ddarn agored o dir ger Trearddur House sy’n agos i ganol y pentref. Fodd bynnag, ni ddylid gweld y tir hwn fel tir y dylid ei gadw fel llecyn gwyrdd agored gan fod ganddo ganiatâd cynllunio am dŷ mawr ar ei ben ei hun ers 1991 gyda’r caniatâd hwnnw wedi’i ddiogelu o ganlyniad i’r gwaith sydd wedi’i wneud ar y safle. Yn wreiddiol, roedd y tir yn ffurfio rhan o gwrtil Trearddur House a oedd yn eiddo i’r  perchennog rhwng 1982 a 2016 pan werthwyd Trearddur House ond y cadwyd y plot. Roedd y tŷ a ganiatawyd yn 1991 hefyd ar gyfer yr ymgeisydd presennol ond oherwydd newid mewn amgylchiadau personol nad aethant ymlaen i adeiladu’r tŷ er bod caniatâd cynllunio llawn yn parhau i fod ar y safle. Yn 2013, penderfynodd yr ymgeisydd ddatblygu cynigion ar gyfer eiddo llai ar y safle ac yn dilyn sefydlu â’r Adran Gynllunio y byddent yn ystyried cynigion amgen fe gyflwynwyd cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ac fe’i cymeradwywyd yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf 2014. Fel rhan o’r broses hon roedd angen iddynt ddynodi’n glir y lleoliad, ôl troed, cyfanswm maint ac uchder y datblygiad. Mae’r dyluniad sydd bellach wedi’i gynnig yn cydymffurfio’n llawn â’r paramedrau a gymeradwywyd gan y Cyngor ar y cam amlinellol. Mae’r dyluniad yn cynnwys nodweddion sy’n gyffredin i’r ardal ac o ddyluniad nad yw’n anarferol ym Mae Trearddur. Tra bo’r ymgeisydd yn ymwybodol bod gwrthwynebiadau wedi cael eu codi gan berchennog  eiddo cyfagos sef Bryn Hyfryd, a brynodd yr eiddo flwyddyn wedi i’r caniatâd cynllunio gael ei roi. Mae gwrthwynebiad hefyd wedi dod i law gan berchnogion Maes Eithin ond mae’r eiddo hwn tua 48 metr i ffwrdd o bwynt agosaf y cais ac nid yw hyd yn oed wedi’i gyfeiriadu tuag at y plot. Mae dau wrthwynebiad arall wedi dod i law gan ddeiliaid Wellington Court ond eto mae’r gofod sydd rhwng y lleoliad hwn a’r annedd newydd arfaethedig yn dderbyniol. Mae’r gwrthwynebiadau hyn wedi eu hystyried yn ofalus ac mae ymateb manwl wedi ei roi i’r Adran Gynllunio sy’n dangos yn glir nad oes unrhyw wir sail i’r gwrthwynebiadau a gyflwynwyd. Mae materion draenio ac ecoleg wedi cael sylw llawn ac yn groes i honiadau camarweiniol, ni fydd y datblygiad yn cynyddu’r risg o lifogydd i’r tir cyfagos. Nid yw’r Cyngor Tref, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd na CADW wedi codi unrhyw wrthwynebiad ynghylch dyluniad na lleoliad yr annedd arfaethedig.          

Nododd Mr Bond ymhellach bod y cais sydd gerbron y Pwyllgor rhyw 25% yn llai na’r tŷ sydd â chaniatâd cynllunio llawn ac yn ychwanegol at hynny bod yr ôl troed newydd ond yn cyfrif am 12% o gyfanswm ardal cyffredinol y plot felly bydd y rhan fwyaf o’r llecyn gwyrdd agored sy’n weladwy o’r pentref yn cael ei gadw a bydd unrhyw risg o or-ddatblygu'r plot yn cael ei osgoi. Mae’r annedd arfaethedig wedi’i gosod yn is na lefel Trearddur House ac mae ei gosodiad mewn perthynas ag eiddo eraill yn sicrhau y bydd yn eistedd o fewn y tirlun. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R. Thomas, Aelod Lleol fod ganddo bryderon mewn perthynas a cholli safleoedd tir glas ym Mae Trearddur ac am raddfa’r datblygiad. Dywedodd fod gan yr ymgeisydd wreiddiau yn ardal Bae Trearddur a chyfeiriodd ar Baragraff 4(iv) o fewn yr adroddiad o ran ‘dim patrwm penodol o ddatblygu yn yr ardal’, ac na fyddai’r datblygiad arfaethedig hwn yn niweidio’r tirlun. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod dau lythyr ychwanegol o gefnogaeth, ynghyd â llythyr gan yr Asiant, wedi dod i law ers cwblhau’r adroddiad hwn ar gyfer y Pwyllgor. Nododd bod caniatâd cynllunio llawn eisoes yn bodoli ar y safle hwn, sydd wedi’i ddiogelu gan y gwaith angenrheidiol. Roedd y caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer annedd fwy ar y safle ac roedd hefyd yn llawer agosach at yr eiddo cyfagos. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod pryderon wedi eu mynegi o ran materion draenio yn yr ardal; gellir delio â hyn drwy osod Amod ychwanegol ynghlwm ag unrhyw ganiatâd a roddir i’r cais.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol sy’n ymwneud â draenio.

 

 

Dogfennau ategol: