Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  19C1207 – Pentowyn, Caergybi

12.2  19LPA1037/CC – 9a Cil Peibio, Caergybi

Cofnodion:

12.1  19C1207 – Cais llawn i ddymchwel annedd a garej ac i godi annedd newydd  sy'n cynnwys balconi a garej newydd yn Pentowyn, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Dywedodd Mr Tudur Thomas (o blaid y cais) bod Pentowyn wedi bod yn wag ers o leiaf 2014 ac yn dilyn cyngor proffesiynol ei fod yn glir mai’r unig opsiwn ymarferol a chost effeithiol oedd dymchwel yr adeilad presennol ac adeiladu adeilad newydd yn ei le. Does dim gwrthwynebiad yn lleol wedi bod i’r datblygiad ac nid oedd gan Gyngor Tref Caergybi unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Medi, 2017. Yn dilyn cyfarfod â Swyddogion Cynllunio, penderfynwyd lleihau maint dyluniad yr annedd arfaethedig a olygodd ostyngiad o 20%. Mae Pentowyn wedi’i leoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae llawer o ystyriaeth wedi’i roi i’r dyluniad a’r lleoliad er mwyn sicrhau nad yw’r cais yn cael unrhyw  effaith andwyol ar yr ardal leol. Bydd yr annedd arfaethedig rŵan yn cael ei gorffen â deunyddiau naturiol, llechi, cladin pren a charreg.       

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer dymchwel annedd bresennol a chodi annedd newydd yn ei lle. Mae’r safle o fewn AHNE a ger Llwybr yr Arfordir. Mae’r cynlluniau gwreiddiol a gyflwynwyd wedi eu diwygio ac wedi lleihau o ran graddfa. Mae’r balconi llawr cyntaf ar ochr ogledd ddwyreiniol talcen yr annedd arfaethedig bellach wedi’i ddisodli gan garej gysylltiedig sy’n cynnwys ardal teras fel lefel llawr cyntaf tu ôl i do llechi. Fel rhan o'r cynllun diwygiedig mae gwaith cerrig wedi’i gynnig ar gyfer rhan o’r drychiad blaen yn ogystal â rendrad llyfn wedi’i baentio a chladin fertigol a llechi naturiol ar gyfer to’r annedd. Cynigir codi gwrychyn ar hyd y ffin er mwyn iddo integreiddio yn dda gyda’r hyn sydd o’i amgylch. Mae’r Swyddog AHNE bellach wedi cyflwyno ei sylwadau mewn perthynas â’r cynlluniau diwygiedig i leihau ôl-troed yr annedd, nododd y byddai graddfa lai’r datblygiad yn golygu y bydd yn integreiddio’n well ac yn gwella harddwch naturiol yr ardal.    

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond bod ôl-troed y datblygiad arfaethedig yn rhannol ar ôl-troed yr adeilad presennol a’i fod wedi’i osod yn ôl ymhellach yn ardal yr ardd; mae hyn yn groes i bolisi TAI13 – Ail-adeiladu Tai. Cyfeiriodd hefyd at faint yr annedd arfaethedig ac y byddai’n edrych dros faes carafanau sydd eisoes yn bodoli. Tra ei fod yn gwerthfawrogi bod maint a dyluniad yr annedd arfaethedig wedi ei leihau, bydd y drychiad cefn yn 7.3 metr o derfyn y safle carafanau. Mae’r Dyluniad SPG fel arfer yn gofyn am 10.5 metr ond mae hyn i’w weld yn dderbyniol gan y Swyddog Cynllunio. Holodd a fyddai caniatáu gostyngiad yn y pellter hwn yn gosod cynsail ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, o ran ôl troed yr annedd arfaethedig ar y safle, ei fod yn rhannol ar ôl-troed yr eiddo presennol. Ystyrir y bydd yr ôl-troed arfaethedig yn welliant gan y bydd yn fwy addas ar gyfer y plot. O ran gosod cynsail wrth ganiatáu gostyngiad yn y pellter rhwng ffiniau cymdogion fe nododd bod y maes carafanau ger yr annedd arfaethedig yn safle carafanau symudol ac yn dilyn ystyriaeth gan y Swyddogion Cynllunio, ni ystyrir y bydd lleihau’r pellter rhwng yr annedd a’r terfyn yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r eiddo cyfagos ac nid yw’n ddigonol i gyfiawnhau gwrthod y cais.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John Griffith at faint yr annedd arfaethedig sydd â chyfanswm arwynebedd o 252m2 o gymharu â’r annedd bresennol sy’n 137m2 a holodd a oedd y garej wedi’i chynnwys yng nghyfanswm arwynebedd y safle. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio gan ddweud bod y garej wedi ei chynnwys yng nghyfanswm arwynebedd y safle a bod asesiad wedi’i gynnal o fewn y polisïau perthnasol sy’n ystyried maint yr annedd bresennol.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond ei fod wedi edrych ar hen fapiau o’r ardal a’i fod yn ymddangos bod llwybr cyhoeddus yn mynd yn agos i neu drwy eiddo Pentowyn. Holodd a fydd cais i ailgyfeirio neu ddiddymu’r llwybr troed. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oes unrhyw sylwadau wedi eu codi gan yr Awdurdod Priffyrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  19LPA1037/CC – 19LPA1037/CC – Cais llawn i newid defnydd yr adeilad presennol o fod yn ystafelloedd cymunedol i fod yn annedd yn 9a Peibio Close, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn un sy’n cael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn cynnwys newid defnydd cyn swyddfeydd un llawr yn annedd breswyl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Shaun Redmond y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Dogfennau ategol: