Eitem Rhaglen

Tai Gofal Ychwanegol - Ardal Seiriol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn cynnwys crynodeb o'r atborth a gafwyd o'r broses ymgysylltu a'r argymhellion terfynol mewn perthynas â’r Cynllun Tai Gofal Ychwanegol arfaethedig ar safle Ysgol Biwmares yn ardal Seiriol. ‘Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llangoed ar 15 Ionawr, 2018 ac ymateb y Cyngor i'r materion a godwyd, ynghyd ag Adroddiad Dewis Safleoedd gan Uwch Swyddog Prisio’r Awdurdod ac atborth o holiadur ar-lein.

 

Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod ymrwymiad wedi ei wneud yn 2015 i ddatblygu darpariaeth Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol; nodwyd safle Ysgol Biwmares wedi hynny fel y safle mwyaf addas ar gyfer y datblygiad i drigolion ardal Seiriol ac ar gyfer De'r Ynys yn gyffredinol. Cefnogodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Gwaith y bwriad i ymgysylltu yn lleol yn ward Seiriol mewn perthynas â’r cynnig ac yn benodol ynghylch lleoliad y cynllun arfaethedig.  Cynhaliwyd y broses hon yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, 2017 a chafwyd cyfarfodydd gyda'r cynghorau tref a chymuned lleol, sesiynau galw heibio, arolwg ar-lein a chyfarfod cyhoeddus. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod yr ymatebion i'r cynnig yn gymysg ac er bod cefnogaeth gyffredinol i gynllun Tai Gofal Ychwanegol (TGY) fel ffurf o ddarpariaeth, mae anghytundeb ynghylch y lleoliad gorau ar gyfer datblygiad TGY yn Seiriol yn ogystal â phryderon am effaith y cynllun arfaethedig ar ddyfodol Cartref Preswyl Haulfre.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion gyflwyniad gweledol i'r Pwyllgor yn seiliedig ar y cyflwyniad a roddwyd i'r cynghorau tref a chymuned a’r cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llangoed ar 15 Ionawr, 2018. ‘Roedd y cyflwyniad yn mynd i'r afael â'r materion canlynol –

 

           Y dystiolaeth o blaid gofal ychwanegol yn hytrach na gofal preswyl. Mae gofal ychwanegol yn cefnogi bywyd annibynnol ac o ansawdd uwch ac, yn gyffredinol, mae’n rhatach i drigolion ac yn fwy cost-effeithiol i awdurdodau lleol.

           Prif nodweddion Tai Gofal Ychwanegol.

           Darpariaeth Gofal Ychwanegol yn Ynys Môn ar ffurf y Cynllun Gofal Ychwanegol a sefydlwyd ym Mhenucheldre, Caergybi a'r datblygiad a gynlluniwyd yn Hafan Cefni, Llangefni ac y rhaglennwyd y bydd yn agor yn haf 2018.

           Y safleoedd a ystyriwyd ar gyfer y cynllun Gofal Ychwanegol yn Ne Ynys Môn (ardal sy'n cynnwys ardal Seiriol) a’r sefyllfa yn dilyn gwerthuso a sgorio’r lleoliadau ar gyfer eu haddasrwydd.

           Y ddau opsiwn a ffefrir (Canolfan Gofal Dydd Biwmares ac Ysgol Biwmares) sydd ar safle Ysgol Biwmares. Ystyrir bod y rhain yn well oherwydd eu hygyrchedd i dref a mwynderau Biwmares; oherwydd eu lleoliad yng nghanol Ward Seiriol ac oherwydd bod digon o le i ddatblygu'r cynllun y tu ôl i'r ysgol pe bai'n parhau fel ysgol.

           Y model 3 ydd llawr arfaethedig ar gyfer y datblygiad ym Miwmares y dangoswyd lluniau ohono, yn ogystal ag enghraifft o fflat Tai Gofal Ychwanegol nodweddiadol

           Adborth o'r broses ymgysylltu y gellir ei grynhoi fel a ganlyn:

o          Cytundeb cyffredinol gyda'r cysyniad o Dai Gofal Ychwanegol ond nid gyda safle'r ysgol fel y lleoliad gorau;

o          Llawer o gefnogaeth i ddefnyddio safle Haulfre, gyda llawer o’r ymatebwyr yn credu bod angen y cartref preswyl o hyd ac y dylai’r datblygiad TGY fod ar safle Haulfre hefyd.

o          Gwrthwynebiad gan y gymuned i’r posibilrwydd o gau Ysgol Biwmares a gwrthwynebiad hefyd i safle'r ysgol fel yr un a ffefrir ar gyfer y datblygiad TGY, yn bennaf oherwydd ei leoliad ar ben bryn serth.

o          ‘Roedd Cyngor Cymuned Cwm Cadnant o blaid datblygu cyfleuster TGY ym Miwmares ond nid o reidrwydd ar safle'r ysgol fel yr opsiwn a ffefrir, gan nodi y dylid ystyried opsiynau eraill ym Miwmares hefyd.

 

Yn ogystal, dangosodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fideo fer yn dwyn sylw at y mwynderau sydd ar gael yn y cyfleuster TGY yn Cae Garnedd a agorodd yn ddiweddar ym Mhenrhosgarnedd, Bangor ynghyd â thystiolaeth a gafwyd gan rai o'r trigolion, y teuluoedd a’r staff ynghylch manteision byw yn y cyfleuster. Dywedodd y Swyddog, er ei fod yn cydnabod y pwyntiau pwysig a godwyd yn ystod y broses ymgysylltu a'r cyfarfod cyhoeddus, fod argymhellion y gwasanaeth yn aros yr un fath, a hynny am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad – sef bod safle Ysgol Biwmares yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r cynllun TGY yn ardal Seiriol, gan gymryd i ystyriaeth y pwyntiau a wnaed yn y broses ymgysylltu â'r gymuned, yn arbennig o ran sicrhau bod y safle’n hygyrch i bobl hŷn. Er bod llawer o bobl yn y gymuned yn ffafrio safle Haulfre, mae'n bwysig ailadrodd bod Biwmares yn fwy canolog i ardal Seiriol; mae'n fwy cyfleus o ran cael mynediad i fwynderau lleol ac mae'n rhoi cyfle gwell i ddatblygu'r safle fel hyb cymunedol. Argymhellir lleoliadau trefol yn gyson ar gyfer datblygu cyfleusterau TGY ac maent yn cefnogi’r ystyriaeth bod byw'n dda a byw'n annibynnol yn golygu cael mynediad at adnoddau. Strategaeth y Cyngor, fel y dywedir yn aml, yw cynnig mwy o opsiynau i bobl fyw'n annibynnol, gan leihau'r ddibyniaeth ar ddarpariaeth gofal preswyl. Mae'r ymagwedd hon yn gyson â thueddiadau cenedlaethol ac yn sicrhau annibyniaeth; byddai buddsoddiad pellach mewn darpariaeth gofal preswyl yn gam yn ôl o ran darparu model o ofal sy'n gynaliadwy i'r dyfodol. Wrth i nifer y bobl hŷn gynyddu, byddai parhau â lleoliadau preswyl fel y prif ddarpariaeth yn gam negyddol o ran gallu'r Awdurdod i reoli'r galw mewn ffordd sy'n cynnig llai o opsiynau sefydliadol i unigolion ac sy'n eu cynorthwyo i barhau i fod yn annibynnol yn y tymor hir. Mewn unrhyw broses i ddigomisiynu Cartref Preswyl Haulfre, byddai'r gwasanaeth yn cydweithio'n agos gydag unigolion a'u teuluoedd i sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus i'r ddarpariaeth TGY neu, yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn, i ddarpariaeth arall yn Ne'r Ynys. Nid yw safle'r ysgol yn berffaith ond, o’i ddylunio’n ofalus, ystyrir y gall gynnig darpariaeth dda ar gyfer yr ardal. Mae'r cynnig hefyd yn rhoi cyfle i'r Awdurdod fod yn uchelgeisiol wrth ariannu'r cynllun drwy'r Cyfrif Refeniw Tai gan olygu y gall y Cyngor reoli ei opsiynau tai a gofal ar gyfer pobl hŷn. Nid yw'r argymhelliad yn gwneud unrhyw ragdybiaeth o ran canlyniad yr ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol; mae'n cynnig cyfle i gyd-leoli'r ddarpariaeth ar gyfer pobl hŷn gyda'r ysgol pe bai’r Cyngor yn dymuno gwneud hynny.

 

Rhoddwyd cyfle i Rhian Jones, Ysgol Biwmares a'r Cynghorydd Jason Zalot, Cyngor Tref Biwmares i annerch y cyfarfod. Pwysleisiodd y ddau gryfder y teimladau o fewn y gymuned yn erbyn lleoli’r cyfleuster TGY ar safle'r ysgol, a hynny am nifer o resymau, gan gynnwys hygyrchedd. Awgrymwyd ganddynt y dylid buddsoddi yn Haulfre tra’n cadw'r ysgol gynradd ar agor. Yr arwyddion yw bod niferoedd y disgyblion yn Ysgol Biwmares ar gynnydd ac mae hynny’n rhoi’r argraff mai ymagwedd tymor byr sydd gan y Cyngor. ‘Roeddent yn pryderu bod y datblygiad TGY yn cael ei drafod cyn cau'r ymgynghoriad statudol ar ddyfodol yr ysgol. Ym marn y gymuned ‘roedd cysylltiad annatod rhwng y ddau.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Carwyn Jones, Lewis Davies ac Alun Roberts fel Aelodau Lleol. Tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol –

 

           Croesawyd y buddsoddiad yn yr ardal ond nid yn y lleoliad a gynigiwyd.

           ‘Roeddent yn anghytuno gyda’r asesiad mai safle Ysgol Biwmares oedd yr un mwyaf addas, ac awgrymwyd ganddynt yn hytrach y byddai Haulfre, Llangoed yn lle gwell i'r cyfleuster TGY ac y byddai'n darparu amgylchedd llawer mwy addas i bobl hŷn na safle ar ben bryn wrth Ysgol Biwmares.

           ‘Roeddent yn pryderu am y ddarpariaeth ar gyfer trigolion cartref Preswyl Haulfre yn y dyfodol pe bai’n cau, gan nad yw anghenion llawer ohonynt yn addas ar gyfer byw'n annibynnol. Pwysleisiwyd ganddynt bod angen darpariaeth breswyl yn yr ardal ac mai cau'r cartref fyddai’r golled ddiweddaraf yn ne'r Ynys ar adeg pan fo adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar adolygiad o ofal iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn 2018 yn cyfeirio at y ffaith y pery angen am gartrefi gofal preswyl a gofal nyrsio i ddarparu gofal hyblyg a hirdymor i'r rheini nad ydynt yn gallu byw yn eu cartrefi eu hunain.

           Nodwyd ganddynt fod angen dirfawr i fuddsoddi yn nhref Biwmares ond mai tai cymdeithasol ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc sydd eu hangen yn hytrach na thai gofal ychwanegol a fydd ond yn atgyfnerthu’r argraff fod Biwmares yn dref sy'n heneiddio. Byddai modd gwneud gwell defnydd o’r tir ar safle'r ysgol sydd wedi ei glustnodi ar gyfer tai gofal ychwanegol, sef trwy ei ddefnyddio ar gyfer datblygiad tai cymdeithasol, tra'n cadw'r ysgol ar ôl-troed llai.

           Y canfyddiad yn y gymuned yw bod y penderfyniad wedi ei wneud yn barod ar y mater, gan gynnwys ar ddyfodol yr ysgol. Er mwyn i'r broses ymgysylltu fod yn ystyrlon, dylai'r Cyngor wrando ar farn y gymuned a’r Aelodau Lleol a bod yn fodlon  newid ymagwedd ar sail yr hyn y mae'r bobl leol yn ei ddweud. Nid yw'r mwyafrif o'r bobl yn y gymuned a fynegodd farn yn credu mai Ysgol Biwmares yw'r safle cywir ar gyfer datblygiad TGY; nid yw llawer eisiau gweld Ysgol Biwmares na Chartref Preswyl Haulfre yn cau. Mae angen i'r penderfyniad gymryd y teimladau hynny i ystyriaeth.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gofynnodd am eglurhad / esboniad o'r materion a nodir isod -

 

           Nododd y Pwyllgor mai barn y gymuned leol yw bod cysylltiad rhwng dyfodol Ysgol Biwmares a datblygiad y cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol a bod llawer o bobl yn y gymuned o'r farn fod dod i benderfyniad ar ddatblygiad y TGY cyn i’r ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol ddod i ben yn golygu bod tynged yr ysgol wedi'i phenderfynu eisoes. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y rhesymeg y tu ôl i amseriad y prosesau ymgynghori a’r broses gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r ddau fater. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cyfleuster TGY yn cael sylw cyn gwneud penderfyniad ar ddyfodol yr ysgol oherwydd nad yw'r naill yn dibynnu ar y llall. Mae adroddiad y Swyddog yn egluro y byddai’r cynllun TGY yn gallu symud ymlaen pe bai’r ysgol yn aros yn agored neu pe bai’n cau. Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod wedi ceisio alinio'r ddwy broses ymgynghori a bod y broses ymgysylltu ar y cyfleuster TGY wedi'i chwblhau’n llawer cynt.

           Nododd y Pwyllgor y gefnogaeth gan lawer o bobl yn y gymuned leol i gadw Cartref Preswyl Haulfre. Nododd y Pwyllgor hefyd fod barn yn lleol y gellid defnyddio safle Haulfre ar gyfer datblygu Tai Gofal Ychwanegol. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y  rhesymau dros beidio â dynodi Haulfre, Llangoed fel yr opsiwn a ffefrir. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod safle Haulfre yn un o 7 safle a ystyriwyd ar gyfer y cynllun TGY. Fodd bynnag, mae ei bellter o fwynderau a diffyg mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus (sy'n safonau BREEAM pwysig yng nghyd-destun TGY) yn golygu nad oedd yn sgorio mor uchel â safle'r ysgol sydd yn fwy canolog i'r ardal ehangach. Dyna pam mae darpariaethau gofal ychwanegol yn aml wedi eu lleoli mewn pentrefi neu’n agos iddynt .

           Nododd y Pwyllgor y byddai’r datblygiad TGY yn cael ei ariannu drwy'r Cyfrif Refeniw Tai. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y rhesymau dros ddefnyddio'r CRT fel ffynhonnell ariannu ar gyfer y cynllun a gofynnodda oes mwy o beryglon wrth ddilyn y llwybr hwn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y CRT yn gwbl ar wahân i gyllidebau eraill y Cyngor a’i fod wedi ei ddynodi ar gyfer dibenion tai Cyngor yn unig. Ni ellir croes-sybsideiddio rhwng y CRT a chyllidebau eraill y Cyngor. Mae penderfyniad y Cyngor i dynnu allan o’r system cymhorthdal CRT ac i fod yn hunangyllidol yn golygu bod ganddo fwy o ryddid ynglŷn â sut mae'n rheoli ei dai, gan gynnwys y gallu i fenthyca (er bod cap ar y swm y gellir ei fenthyca) i ddatblygu tai newydd. Bydd yn rhaid i'r cynllun TGY arfaethedig ym Miwmares fod yn hunangynhaliol h.y. bydd yr incwm rhent a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio i'w gefnogi, a dyna felly pam mae angen i'r cynllun gynhyrchu cymaint o rent â phosib trwy sicrhau nad oes unedau gwag ynddo. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod grantiau tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau TGY fel y rhai a ddefnyddiwyd i ariannu’r datblygiad TGY ym Mhenucheldre yng Nghaergybi wedi lleihau'n sylweddol a bod y cynllun TGY diweddaraf yn Llangefni yn cael ei ariannu gan fenthyciadau preifat a gymerwyd gan y Gymdeithas Dai. Y risg fwyaf i'r CRT fyddai nifer fawr o unedau gweigion yn y cynllun TGY; mae'r risg yn cael ei lleihau drwy leoli'r cynllun mewn lleoliad trefol.

           Nododd y Pwyllgor mai'r bwriad yw cau cartref preswyl Haulfre a bod ei drigolion, lle bo'n briodol, yn trosglwyddo i'r cyfleuster TGY newydd ym Miwmares. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a sicrwydd y bydd darpariaeth briodol a digonol hefyd ar gyfer y trigolion hynny nad oes modd i’r cyfleuster TGY gwrdd â'u hanghenion ac y byddant yn derbyn gofal addas. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad hefyd ar effaith debygol cau Cartref Preswyl Haulfre ar y ddarpariaeth a gynigir yn Gerddi Heulfre a Blaen y Coed ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y gwasanaeth yn anelu at ymestyn yr opsiynau sydd ar gael i bobl y mae eu hanghenion yn fwy difrifol e.e.  yn Garreglwyd lle mae adnodd newydd ar gyfer pobl â dementia. Nid yw strategaeth y gwasanaeth yn dweud na fydd byth angen darpariaeth gofal preswyl, ond er yn cydnabod hyn, mae'r strategaeth yn ceisio darparu mwy o opsiynau i ganiatáu i bobl fyw'n annibynnol e.e. TGY. Bydd darpariaeth ar gyfer pobl ag anghenion arbenigol trwy ofal preswyl arbenigol, trwy ofal nyrsio a / neu ofal nyrsio EMI - dywedodd y Swyddog ei fod yn hyderus y bydd y mathau hyn o ddarpariaeth yn parhau, er efallai na fyddent ar gael o fewn cymuned uniongyrchol yr unigolyn. Mae'r gwasanaeth anabledd dysgu yn cael ei adolygu'n gyffredinol, a hynny gyda'r amcan o sefydlu'r model gorau ar gyfer darparu gwasanaeth anabledd dysgu; felly byddai'n gynamserol i geisio rhagweld canlyniad yr adolygiad mewn perthynas â  Gerddi Haulfre a Blaen y Coed.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y gwelliannau a ganlyn i'r argymhellion yn adroddiad y Swyddog –

 

           Oherwydd cryfder y teimlad ymysg y gymuned leol ac Aelodau Lleol, fod y Cyngor yn ailystyried sefydlu cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol ar safle Haulfre, Llangoed

           Ymgorffori Cartref Preswyl Haulfre o fewn y cynllun er mwyn darparu ar gyfer y rheini nad ydynt bellach yn gallu byw'n annibynnol

           Oherwydd prinder tir ar gyfer tai i bobl ifanc ym Miwmares, datblygu safle Ysgol Biwmares ar gyfer tai cymdeithasol tra'n cadw ysgol lai.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor, ac fe nododd, gan fod yr ymgynghoriad statudol ar ddyfodol Ysgol Biwmares yn parhau i redeg, nid yw’n gallu ystyried unrhyw gynigion sy'n cyfeirio at yr ysgol gynradd. O’r herwydd, tynnodd y Cynghorydd Lewis Davies y cyfeiriad at yr ysgol o'r trydydd cynnig a wnaed ganddo.

  

Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cyntaf a'r trydydd o'r gwelliannau uchod eu cario gan fwyafrif o aelodau'r Pwyllgor. O argymhellion y Swyddog, derbyniodd y Pwyllgor bod y cynllun TGY yn cael ei ariannu drwy'r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar ac yn ysgrifenedig, ynghyd â'r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod, PENDERFYNODD y Pwyllgor argymell i'r Pwyllgor Gwaith -

 

           Oherwydd cryfder teimladau’r gymuned leol a’r Aelodau Lleol, fod y Cyngor yn ailystyried sefydlu'r datblygiad Tai Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol ar safle Haulfre, Llangoed.

           Oherwydd prinder tir ar gyfer tai i bobl ifanc ym Miwmares, defnyddio safle Ysgol Biwmares i ddatblygu tai cymdeithasol.

           Ariannu'r datblygiad TGY drwy'r Cyfrif Refeniw Tai.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: