Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Chwefror, 2018 hyd at fis Medi, 2018.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar newidiadau a wnaed i'r Flaenraglen Waith ers y cyfnod adrodd blaenorol fel a ganlyn -
• Eitemau sy’n newydd i'r Flaenraglen Waith
• Eitem 1 - Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, dirprwyir y penderfyniad i'r
Aelod Portffolio perthnasol.
• Eitem 2 - Strategaeth Iechyd Meddwl: Bwrdd Iechyd, dirprwyir y
penderfyniad i'r Aelod Portffolio perthnasol.
• Eitem 14 - Rhenti 2018/19 – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod
ar 19 Chwefror, 2018.
• Eitem 20 - Y Cynllun Iechyd a Diogelwch – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith
yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018.
• Eitem 21 - Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2016/17, dirprwyir y
penderfyniad i'r Aelod Portffolio perthnasol.
• Eitem 26 - Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn: Datganiad
Cyfrifon 2016/17 – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 26 Mawrth,
2018.
• Eitem 33- Cynllun Adfywio Gogledd Cymru a Chyllid TRIP – ystyrir gan y
Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth, 2018.
• Eitem 38 - Arolygiad AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn:
Cynllun Gwella Adroddiad Cynnydd Chwarterol – ystyrir gan y Pwyllgor
Gwaith yn ei gyfarfod ym Mai, 2018.
• Eitem 43 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 1 2018/19 – ystyrir gan y
Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi, 2018
• Eitem 44 - Adroddiad Monitro Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Chwarter 1
2018/19 – ystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi, 2018
• Eitem 45 - Arolygiad AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn:
Cynllun Gwella Adroddiad Cynnydd Chwarterol – ystyrir gan y Pwyllgor
Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi, 2018.
• Eitemau a ohiriwyd i ddyddiad diweddarach ar y Rhaglen Waith
• Eitem 19 - Moderneiddio Ysgolion: Adroddiad Cynnydd (i gynnwys
ysgolion gyda llai na 120 o ddisgyblion) – eitem wedi'i haildrefnu i'w
hystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror, 2018 yn hytrach na 29
Ionawr, 2018.
• Eitem 29 - Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl - eitem wedi'i haildrefnu i'w
hystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 26 Mawrth, 2018 yn hytrach na 19
Chwefror, 2018.
• Eitem 30 - Cynllun Busnes 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai a rhaglen
gyfalaf 2018/19 - wedi'u haildrefnu i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar
26 Mawrth, 2018 yn hytrach na 19 Chwefror, 2018.
• Eitem 31 Moderneiddio Ysgolion yn Ardal Llangefni: Bydd yr adroddiad
yn dilyn yr ail ymgynghoriad yn cael sylw gan y Pwyllgor Gwaith ar 26
Mawrth, 2018 yn hytrach na 29 Ionawr, 2018.
Dywedodd y Swyddog hefyd fod dwy eitem arall wedi eu haildrefnu ers
cyhoeddi'r Rhaglen Waith, sef Eitem 18 – y Strategaeth Taclo Tlodi
(cymeradwyo strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori) a gyflwynir yn awr i'r
Pwyllgor Gwaith ar 30 Ebrill, 2018 yn lle 19 Chwefror, 2018, ac eitem 39 – y
Strategaeth Taclo Tlodi (cymeradwyo'r ddogfen yn dilyn yr ymgynghoriad) a
gyflwynir i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Gorffennaf, 2018 yn lle Mai, 2018.
Eglurodd y Cadeirydd, er gwybodaeth y rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn y mater, y bydd Eitem 31 ar y rhaglen waith mewn perthynas â moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni yn delio â dalgylchoedd Y Graig a Thalwrn.
Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn deall fod y Pennaeth Dysgu yn bwriadu adolygu pennawd yr adroddiad dan eitem 19 ar y rhaglen waith (Moderneiddio Ysgolion: Adroddiad Cynnydd i gynnwys ysgolion gyda llai na 120 o ddisgyblion) i adlewyrchu pwrpas yr adroddiad a gyflwynir i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Chwefror, 2018.
Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Chwefror i Fedi, 2018 yn amodol ar y newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Dogfennau ategol: