Eitem Rhaglen

STEM Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

(Cynllun Busnes - Fersiwn 6, Fersiwn 9 yn Saesneg).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn ymgorffori gwybodaeth a phapurau ategol mewn perthynas â phrosiect STEM Gogledd Cymru a'i bwrpas .’Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyfranogiad Ynys Môn yn y prosiect a’i gyfraniad iddo.

 

Dywedodd y Cadeirydd mai cwricwlwm yw STEM sy’n seiliedig ar y syniad o addysgu myfyrwyr mewn pedair disgyblaeth benodol, sef Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae STEM Gogledd Cymru yn brosiect 4 blynedd sydd yn werth £2,000,000 ac sy'n gwneud cais am gymorth ariannol o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sef Blaenoriaeth Echel 3: Cyrhaeddiad a Chyflogaeth Ieuenctid, a hynny er mwyn cynyddu nifer y plant rhwng 11 a 19 sy’n dilyn pynciau STEM ac i wella eu canlyniadau ynddynt. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar Ogledd-Orllewin Cymru, Ynys Môn, Conwy a Gwynedd trwy ystod o ymyriadau a fydd yn ategu gwasanaethau.  Bydd STEM  Gogledd yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd a'i gyd-fuddiolwyr, sef Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'r adroddiad yn crynhoi trefniadau llywodraethu arfaethedig y prosiect ac yn cysylltu'r prosiect â’r cyd-destun Ynys Ynni. Ceir manylion pellach yn Atodiad C i'r adroddiad. Mae’r Cynllun Busnes STEM yn amlinellu amcanion y prosiect o ran rheoli a chyflawni, tra bod Atodiad B yn rhoi trosolwg ar allbynnau arfaethedig y prosiect.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod buddsoddi yn y prosiect STEM Gogledd yn hynod o bwysig yng nghyd-destun y datblygiadau Ynys Ynni arfaethedig; efallai y bydd y prosiect yn helpu i ymgysylltu â'r plant a'r bobl ifanc hynny na fyddai fel arall yn cael eu denu i’r pynciau STEM ac mae hynny’n cyd-fynd ag amcanion addysg yr Awdurdod ei hun. Disgwylir i’r datblygiadau Ynys Ynni ddod â llu o gyfleoedd dros y blynyddoedd nesaf, sef rhai y bydd angen ystod eang o sgiliau a galluoedd i fanteisio arnynt.  Yn y cyd-destun hwn, mae’r prosiect STEM Gogledd yn hollbwysig felly. Yn ogystal, mae’r sector preifat wedi dangos diddordeb yn y prosiect a, phe bai’r diddordeb hwnnw’n troi'n gymorth ariannol, gallai  leihau lefel yr arian cyfatebol y byddai angen i’r Cyngor ei gyfrannu.

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau y dylid pwysleisio bod angen ymgorffori'r amcanion a'r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect STEM Gogledd o fewn y system addysg prif ffrwd i fod yn rhan annatod o'r broses fel bod  cyfranogiad disgyblion mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn cael ei annog yn hytrach na chael ei weld fel rhywbeth y mae angen buddsoddiad ychwanegol ar ei gyfer. Bu ymdrechion yn y gorffennol i geisio annog mwy o ddisgyblion i ddilyn pynciau sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth a thechnoleg; dylai fod yn nod y tro hwn i sicrhau bod y syniadau a amlygir gan y prosiect STEM yn gwreiddio mewn arferion addysg prif ffrwd.

 

Penderfynwyd -

 

  Cefnogi a chymeradwyo partneriaeth Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) ym mhrosiect STEM Gogledd Cymru a ariennir drwy’r UE (gyda’r pwrpas o gynyddu cyrhaeddiad pobl ifanc 11-16 oed mewn pynciau STEM).

  Bod £150,000 yn cael ei glustnodi fel cyfraniad CSYM (£37,500 y/f dros 4 blynedd o 2018 i 2022).

  Mai’r Gwasanaeth Addysg fydd yn gyfrifol am y cyllid, dylanwadu ar gyflawniad, allbynnau a gwaith monitro.

  Bod y Gwasanaeth Addysg yn adrodd yn ôl ar y cynnydd bob tri mis i Ddeilyddion   Portffolio Addysg a Rheoleiddio a Datblygu Economaidd; bob chwe mis i’r Bwrdd Trawsnewid Addysg ac yn flynyddol i Sgriwtini.

Dogfennau ategol: