Eitem Rhaglen

Yr A545 o Borthaethwy i Fiwmares

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo darparu cyllid i benodi peirianwyr ymgynghorol i ddylunio gwelliannau i gryfhau ffordd yr A545.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod hanes o dirlithriadau ar hyd yr A545 rhwng Glyn Garth a Biwmares, a bod y diwethaf ohonynt wedi digwydd ar 22 Tachwedd, 2017 ac wedi arwain at flocio ceuffos a difrod gan ddŵr i wal gynnal a gardd.  Dechreuodd gwaith adfer ar unwaith fel y gallai'r ffordd ailagor cyn gynted ag y bo modd a disgwylir y bydd y gwaith angenrheidiol arall wedi ei gwblhau erbyn yn gynnar ym mis Chwefror. Rhaid canmol y Gwasanaeth Priffyrdd am ei ymateb prydlon. Erys yr angen i wneud gwaith adfer i sefydlogi'r llethr mewn cysylltiad â thirlithriad Mynwent Biwmares a ddigwyddodd yn 2015. Amcangyfrifir y bydd y gwaith hwn yn costio £180k. Mae'r trafodaethau cychwynnol a gafwyd gyda’r  Gweinidog ar gyfer yr Economi ac Isadeiledd yn Llywodraeth Cymru, ynghyd â Swyddogion Llywodraeth Cymru, yn nodi y byddai cyllid ar gael dros y blynyddoedd nesaf i wneud cyfuniad o waith  sefydlogi llethrau a lledu’r ffordd i gryfhau a gwella rhannau o'r A545 o Glyn Garth i Fiwmares. Mae'r tirfeddiannwr sydd biau’r tir uwchlaw ac islaw'r A545 wedi nodi ei fod yn gefnogol i welliannau o'r fath a’i fod yn barod i ryddhau'r tir angenrheidiol. Disgwylir y bydd y gwaith dylunio a’r cyfraniad tuag at y gwaith ym mynwent Biwmares yn costio oddeutu £95k. Y dewis arall yn lle gwella a chryfhau'r A545 yw adeiladu ffordd newydd ar gost o tua £30m.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) mai'r nod yw bwrw ymlaen â gwaith i sefydlogi’r llethrau ym Mynwent Biwmares ym mis Chwefror, 2018 yn amodol ar gael  cyllid gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Tref Biwmares a Chyngor Sir Ynys Môn.

 

Mynegodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ac Aelod Lleol ar gyfer yr ardal eu diolchiadau i'r Gwasanaeth Priffyrdd am ei ymdrechion ar ôl y tirlithriad ym mis Tachwedd. Dywedodd fod angen dod o hyd i ateb hirdymor i'r problemau ar yr A545 i wneud y ffordd yn ddiogel i'r dyfodol a hefyd i sicrhau bod tref hanesyddol Biwmares - yr effeithiwyd yn arbennig ar ei thrigolion gan y tirlithriadau diweddar - yn parhau i fod yn hygyrch.  Mae’r ffordd yn ffordd strategol bwysig ac mae'n rhan o'r profiad o ymweld â Biwmares. Fodd bynnag, mae'r gymuned ar adegau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn teimlo bod yr ardal wedi cael ei hynysu oherwydd tirlithriadau rheolaidd ar yr A545. Y teimlad yn lleol yw y dylid ymgymryd â gwaith ar Fynwent Biwmares fel blaenoriaeth. Gofynnodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd am eglurhad mewn perthynas â'r materion canlynol -

 

  Yr amserlen ar gyfer comisiynu ymgynghorwyr dylunio i ymgymryd â'r gwaith gwella;

  Y rhagolygon realistig o gael ffordd newydd;

  Dichonoldeb adeiladu ffordd arall ar stiltiau o safbwynt dylunio a pheirianneg

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) ei fod o'r farn ei bod yn annhebygol y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffordd newydd am gost amcangyfrifedig o £30m. Byddai’n rhaid cynnal yr A545 beth bynnag, a hynny er mwyn y tai a’r traffig yn yr ardal honno. Byddai cost adeiladu ffordd ar stiltiau hefyd yn debygol o fod yn llawer rhy ddrud i’w wneud. O ran yr amserlen, os bydd cyllid yn caniatáu, y bwriad yw dechrau'r gwaith ar y Fynwent y mis nesaf a bwrw ymlaen wedyn ar y sail bod cynlluniau yn barod i fynd pan fydd unrhyw danwariant ar gael, a hynny fel y gellir gweithredu’r cynlluniau hynny pan fydd arian ar gael. Bydd yr holl opsiynau'n cael eu hystyried ar gyfer gwella'r A545 bresennol a dyna pam y comisiynwyd yr ymgynghorwyr dylunio.

 

Penderfynwyd bod y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn derbyn cyllid o £95k i benodi peirianwyr ymgynghorol i ddylunio gwelliannau i gryfhau’r A545 rhwng Glyn Garth a Biwmares, a hefyd i gyfrannu tuag at y gost o gryfhau'r llethr islaw Mynwent Biwmares ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Chyngor Tref Biwmares.

Dogfennau ategol: