Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 28C472E – Cartref, Ffordd Stesion, Rhosneigr

Cofnodion:

7.1       28C472E – Cais llawn ar gyfer codi 2 annedd (un sydd yn cynnwys balconi) ar dir ger Cartref, Station Road, Rhosneigr

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu leol ar y Cyd (JLDP) ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cafodd y drafodaeth ar y cais ei gohirio yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor ym mis Rhagfyr, 2017 fel y gallai’r ymgeisydd gyflwyno rhybudd o’r cais ar berchennog y tir lle mae’r ffordd fynediad i safle’r cais wedi ei lleoli. Mae’r tystysgrifau perchnogaeth perthnasol bellach wedi eu cyflwyno. Mae’r cais fel y’i cyflwynir ar gyfer dyluniad diwygiedig i gynllun sy’n cynnwys codi dwy annedd ar y safle a gymeradwywyd yn flaenorol ym Medi 2015 o dan y cyfeirnod cynllunio 28C472B; dyma’r sefyllfa wrth gefn. Mae gwrthwynebiadau i’r cais ac mae crynodeb ohonynt i’w gweld yn yr adroddiad ysgrifenedig. Hefyd, mae llythyr ychwanegol wedi dod i law gan ddeiliaid yr annedd y cyfeirir ati fel Cartref ac sy’n ailadrodd y gwrthwynebiadau blaenorol a godwyd yn ogystal â dwyn sylw at bryderon am agosrwydd y tanc storio nwy, sy’n gwasanaethu Cartref, i’r datblygiad. Tynnodd y Swyddog sylw'r Pwyllgor at y ffaith bod caniatâd cynllunio yn amodol ar wneud gwaith sgrinio ar hyd ffin safle’r datblygiad gyda’r eiddo cyfagos gan gynnwys Cartref. Mae Swyddogion yn disgwyl y bydd rheoliadau Iechyd a Diogelwch perthnasol yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud y gwaith sgrinio.  

   

Dywedodd y Swyddog, o ran polisi, nad yw’r cais yn cydymffurfio’n ddigonol â pholisïau presennol y JLDP, yn enwedig Polisi TAI 5 sy’n nodi mai dim ond tai marchnad leol y gellir eu cefnogi mewn ardaloedd a nodir fel Canolfannau Gwasanaeth Lleol a bod Rhosneigr wedi’i adnabod fel Canolfan o’r fath. Hefyd, lle mae datblygiad yn cynnwys dau neu fwy o dai, rhaid cael darpariaeth tai fforddiadwy fel rhan o’r cynllun. Fodd bynnag, o ystyried bod caniatâd Cynllunio yn bodoli am annedd ar y safle ac mai’r tebygolrwydd yw y bydd hyn yn cael ei weithredu, ynghyd â’r ffaith yr ystyrir bod y newidiadau arfaethedig yn well na’r cynllun a gymeradwywyd yn wreiddiol, argymhelliad y Swyddog yw y dylid cymeradwyo’r cais.

 

Mewn ymateb i’r sicrwydd a geisiwyd gan y Pwyllgor fod y mater o berchnogaeth tir bellach wedi’i ddatrys, cadarnhaodd y Swyddog, fel rhan o’r broses o ddilysu cais bod rhybuddion priodol yn gorfod cael eu rhoi i’r perchnogion tir perthnasol; mae hynny bellach wedi’i wneud mewn perthynas â’r cais o dan sylw. Mewn ymateb i gais y Pwyllgor am gadarnhad ar y sefyllfa tai fforddiadwy, dywedodd y Swyddog, o ystyried y bod caniatâd cynllunio am ddwy annedd eisoes ar y safle ac y gallai’r caniatâd hwnnw fodd wedi’i weithredu, na fydd yr Awdurdod Cynllunio yn gofyn i’r datblygwr gwrdd â’r gofyniad tai fforddiadwy sydd fel arall yn ofynnol dan y polisi presennol. 

Ar sail y sefyllfa wrth gefn a’r gwelliant y mae’r cynllun diwygiedig yn ei gynnig i’r sefyllfa wrth gefn, cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: