Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 17C503B/VAR – Rhos Bella, Llansadwrn

 

10.2 25C259B/VAR – Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd

Cofnodion:

10.2 17C5O3B/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (04) (gwaith datblygu i gael ei wneud yn gwbl unol â’r cynllun(iau) a gyflwynwyd ar 01/12/2015 a 19/01/2016 a’r arolwg o rywogaethau a ddiogelir dyddiedig 21/06/2015) o ganiatâd cynllunio rhif 17C503 (addasu, addasu ac ehangu fferm adfeiliedig) fel y gellir cyflwyno cynlluniau diwygiedig yn Rhos Bella, Llansadwrn.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu lleol ar y Cyd (JLDP) ond yn un y mae’r Awdurdod lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i amrywio amod (04) ar ganiatâd cynllunio a ryddhawyd yn 2016 ar gyfer addasu hen fferm i fod yn annedd fel y gellir cyflwyno cynlluniau diwygiedig. Mae’r gwelliannau a gynigir yn gysylltiedig â deunyddiau a dyluniadau ac nid ydynt yn cael eu hystyried yn sylweddol ac yn ogystal, maent yn well na’r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol. Dywedodd y Swyddog mai’r dyddiad terfynol ar gyfer derbyn ymatebion oedd 9 Ionawr, 2018; ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau'r naill fordd na’r llall. Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn disgwyl am arolwg rhywogaethau a warchodir fel rhan o’r cais; bydd hefyd angen sicrhau bod mesurau lliniaru yn cael eu gweithredu cyn i unrhyw waith trawsnewid gael ei gwblhau. Bydd y rhain yn cael eu cynnig fel amodau ychwanegol yn unol â threfniadau Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd y Swyddog, er bod y cais yn groes i Bolisi TAI7 y JLDP o ran ei fod yn ymwneud ag addasu adeilad traddodiadol ar gyfer defnydd preswyl yn hytrach na chyflogaeth ac o ystyried bod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer addasu ac ehangu adeilad allanol i fod yn annedd a bod y cynllun diwygiedig yn well na’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol, argymhelliad y Swyddog yw un o ganiatáu.    

 

Nododd y Pwyllgor mai newydd ddod i ben oedd y cyfnod ymgynghori y diwrnod cynt ac nad oedd hynny’n rhoi amser realistig ar gyfer ystyried unrhyw adborth a allai fod wedi’i gyflwyno ar y pryd gan fod yr adroddiad ysgrifenedig wedi’i baratoi cyn y dyddiad cau. Holodd y Pwyllgor a yw hyn yn cyfleu difaterwch mewn perthynas â’r broses ymgynghori.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, oherwydd natur y system gynllunio a’r amserlenni perthnasol, fod hyn yn digwydd o bryd i’w gilydd. Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn ceisio dod â cheisiadau i’r Pwyllgor yn brydlon ac yn unol â’r amserlen dynn ar gyfer delio â cheisiadau. Petai gwrthwynebiadau i’r cais neu unrhyw adborth arall wedi dod i law, byddai’r Pwyllgor wedi derbyn diweddariad ar lafar yn y cyfarfod hwn. Petai unrhyw fater wedi cael ei godi na chafodd sylw yn adroddiad y Swyddog yna byddai argymhelliad wedi’i wneud i ohirio’r cais er mwyn rhoi amser i ddod ag adroddiad pellach i’r cyfarfod er mwyn sicrhau bod yr holl faterion yn sylw yn y modd priodol. 

 

Ar sail y sefyllfa wrth gefn a’r ffaith bod hwn yn welliant ar y cynllun gwreiddiol, cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn dilyn derbyn arolwg a chamau lliniaru diweddar a derbyniol ar rywogaethau a ddiogelir ac amodau ychwanegol sy’n nodi bod yn rhaid i’r mesurau lliniaru hynny gael eu gweithredu cyn i unrhyw waith addasu gael ei wneud yn unol â gofynion trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

10.2    25C259B/VAR - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (11) o ganiatâd cynllunio rhif 25C259 (newid adeilad allanol yn annedd) er mwyn diwygio dyluniad yr annedd ar dir gyferbyn â Bryn Gollen Newydd, Llannerchymedd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu lleol ar y Cyd (JLDP) ond yn un y mae’r Awdurdod lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un ar gyfer amrywio amod ar ganiatâd cynllunio blaenorol i drawsnewid adeilad yn annedd er mwyn diwygio dyluniad yr annedd arfaethedig. Mae’r diwygiadau yn cynnwys gosod 4 ffenestr ychwanegol ac ystyrir bod y newidiadau yn fychan iawn ac na fyddant yn cael unrhyw effaith negyddol ar eiddo cymdogion ac maent yn cynnal nodweddion pensaernïol yr adeilad gwreiddiol. Nid oes unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law, ac roedd y dyddiad cau ar gyfer derbyn unrhyw ymatebion wedi dod i ben ar 29 Rhagfyr, 2017. Mae’r Cyngor Cymuned hefyd wedi cadarnhau nad yw’n gwrthwynebu’r cais. Er bod y cais yn groes i Bolisi TAI 17 o’r JLDP, o gofio’r sefyllfa wrth gefn, sef bod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer addasu adeilad allanol yn annedd a’r hyn y mae’r gwelliannau yn eu cynnig, argymhelliad y Swyddog yw y dylid caniatáu’r cais. Os rhoddir caniatâd, gosodir amod ar y caniatâd a fydd yn atal gweithrediad y caniatâd blaenorol.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

Dogfennau ategol: