Eitem Rhaglen

Cyllideb Gyfalaf 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn codi’r cynigion terfynol ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2018/19 eu cyflwyno er sylw’r Pwyllgor Gwaith ac ar gyfer eu hargymell i’r Cyngor llawn ar 28 Chwefror, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei fod, yn wyneb y strategaeth gyfalaf a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref 2017, yn argymell y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2018/19 i’r Pwyllgor Gwaith fel y’i cyflwynwyd. Dygodd sylw at y ddau brosiect Buddsoddi i Arbed yn adran 4 yr adroddiad; mae angen i’r Pwyllgor Gwaith benderfynu a fydd yn cefnogi’r naill neu’r llall, neu’r ddau ohonynt. Mae angen i’r Pwyllgor Gwaith wneud penderfyniad hefyd ar y ddau gais gan y Gwasanaeth Hamdden am fenthyciadau di-gefnogaeth - gosod cae pêl-droed 3G yn lle’r cae pêl-droed artiffisial sydd yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur ar hyn o bryd a diweddaru’r offer ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Caergybi - gweler y crynodeb yn adran 5 yr adroddiad a’r manylion llawn yn Atodiad 5.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y cyllid a dderbynnir drwy’r Grant Cyfalaf Cyffredinol a lefel y benthyca â chefnogaeth sydd heb ei neilltuo ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy elfen ariannu cyfalaf yr Asesiad Gwario Safonol wedi aros yr un fath i bob bwrpas dros nifer o flynyddoedd ac mae’n arwydd o newid yn ymagwedd Llywodraeth Cymru, sef ariannu prosiectau cyfalaf drwy grantiau cyfalaf penodol  e.e. ysgolion newydd. Mae’r cyllid hwn felly wedi gostwng mewn termau gwirioneddol ac yn y strategaeth gyfalaf, cynigiwyd y dylai’r arian hwn gael ei ddefnyddio i gynnal a chadw’r asedau cyfredol. Roedd y strategaeth hefyd yn cynnwys oddeutu £600k ar gyfer Priffyrdd. Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cymorth grant ychwanegol gwerth £30m ar gael am 2017/18 ac roedd cyfran Ynys Môn o’r cyllid hwn yn £910k. Gellir defnyddio’r arian hwn i gefnogi cyllid lleol ar gyfer unrhyw brosiect yn 2017/18 ar yr amod ei fod wedyn yn cael ei ddefnyddio i atgyweirio ffyrdd yn 2018/19. Daw hyn â chyllid ychwanegol o £910k yn 2018/19 uwchlaw’r grant cyfalaf cyffredinol. Mewn perthynas â’r ddau brosiect gan y Gwasanaeth Cyllid i’w cyllido drwy fenthyciadau digefnogaeth, mae’r gwasanaethau yn hyderus y bydd yr incwm cynyddol a gynhyrchir drwy’r buddsoddiad yn ddigonol i gwrdd â’r costau cyllido cyfalaf.

 

Wedi ystyried yr achos busnes a gyflwynwyd ar gyfer pob prosiect, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r ddau gais ar gyfer benthyca digefnogaeth a gyflwynwyd gan y Gwasanaeth Hamdden ar y sail eu bod yn cynrychioli buddsoddiad y mae gwir ei angen yn y ddarpariaeth hamdden ac oherwydd y disgwylir iddynt gynhyrchu incwm ychwanegol a fydd yn gostwng y costau benthyca ar yr ochr refeniw.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith, tra’n cefnogi’r ddau brosiect ar gyfer cyllid buddsoddi i arbed, yn nodi bod cost y ddau gyda’i gilydd yn uwch na’r gronfa o £250k a glustnodwyd i’r pwrpas hwn. Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y8 gellid cyllido’r ddau naill ai drwy dynnu arian pellach o’r gronfa wrth gefn neu drwy glustnodi llai ar gyfer y cais mwy, sef Effeitholrwydd Ynni mewn Adeiladau Corfforaethol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach ei siom mai dim ond dau gais oedd wedi eu derbyn dan y fenter Buddsoddi Arbed; roedd hyn yn tanlinellu’r angen i wneud mwy yn y dyfodol i annog gwasanaethau i nodi cyfleoedd ar gyfer syniadau buddsoddi i arbed.

 

Penderfynwyd

 

Argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol i’r Cyngor llawn ar gyfer 2018/19:-

 

                                                               £’m

 

Cynlluniau Ymrwymedig a

Ddygwyd Ymlaen o 2017/18        23.399

 

Buddsoddi mewn Asedau              2.518

Presennol

Prosiectau Buddsoddi i Arbed      0.258

Cynnal a Chadw Priffyrdd               1.592

Ysgolion 21ain Ganrif                     8.850

 

Cyfanswm Cynlluniau Cyfalaf

y Gronfa Gyffredinol                      36.609

 

Cynlluniau Cyfalaf CRT               12.417

 

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf         49.034

Arfaethedig 2018/19

 

Cyllidir drwy:-

 

Cyllid a ddygwyd ymlaen              1.040

o 2017/18

Grant Cyfalaf Gyffredinol              1.334

Derbyniadau Cyfalaf                      0.500

Benthyca a Chefnogaeth              2.192

Benthyca Digefnogaeth -

Ysgolion 21ain Ganrif                    3.734

Benthyca a Chefnogaeth -

Ysgolion 21ain Ganrif                   1.279

Grantiau Allanol                             28.030

Arian Cyfalaf wrth gefn                0.258

Grant Atgyweirio Priffyrdd          0.910

Cyllid CRT                                       9.757

 

Cyfanswm Cyllid                           49.034

 

  Cefnogi’r ddau gais ar gyfer cyllid Buddsoddi i Arbed a gyflwynwyd fel a ganlyn -

 

Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Corfforaethol      £250,000

Uwchraddio’r WiFi yng Nghanolfan Byron                              £8,750

 

  Cefnogi’r prosiectau benthyca digefnogaeth canlynol ar gyfer eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf 2018/19 -

 

   Adeiladu cae 3G newydd yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur

 

   Prynu offer ffitrwydd newydd i Ganolfan Hamdden Caergybi

Dogfennau ategol: