Eitem Rhaglen

Arian Wrth Gefn a Balansau

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar y defnydd o arian wrth gefn a balansau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod lefel y balansau cyffredinol, ar 31 Mawrth 2017 yn £8.355m, sef gostyngiad o £0.531m o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn 2016/17, crëwyd cronfa o £1m o’r balansau cyffredinol er mwyn ariannu prosiectau unigol a allai arwain at arbedion effeithlonrwydd i’r Cyngor. Mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn gyffredinol yn dda ar hyn o bryd gyda lefel dderbyniol o falensau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi fel y nodir yn Nhabl 4.2 yr adroddiad. Serch hynny, mae nifer o risgiau y mae’n rhaid eu hasesu wrth benderfynu ar lefel y balansau cyffredinol sydd eu hangen; nodir y rhain yn adran 3.3 yr adroddiad. Mae rheol gyffredinol y dylai lefel y balansau cyffredinol fod yn 5% o’r gyllideb refeniw (ac eithrio’r gyllideb sydd wedi ei datganoli i’r ysgolion). Fodd bynnag, oherwydd bod balansau’r ysgolion yn gostwng, cawsant eu cymryd i ystyried wrth weithio allan y lefel ar gyfer 2017/18. Yn seiliedig ar y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2018/19, byddai angen i falans y cronfeydd wrth gefn cyffredinol fod tua £6.5m, sy’n cyfateb i’r balans isaf a ragwelwyd ar gyfer 31 Mawrth 2018.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod dau fath o gronfeydd wrth gefncronfeydd wrth gefn cyffredinol a chronfeydd wrth gefn clustnodedig. Mae’r Swyddog Adran 151 yn adolygu ac yn penderfynu ar lefel y cronfeydd wrth gefn y mae’r Cyngor eu hangen bob blwyddyn drwy gymryd i ystyriaeth y risgiau y mae’n eu hwynebu ac o ystyried y rheol gyffredinol mai 5% o’r gyllideb net yw’r lefel dderbyniol. Mae’r Swyddog Adran 151 wedi asesu y dylai’r Cyngor, ar gyfer 2018/19, fod ag o leiaf £6.5m yn ei falensau cyffredinol; bydd y gronfa wrth gefn gyffredinol yn agos at y ffigwr hwnnw ar ddiwedd Mawrth, 2018. Caiff cronfeydd wrth gefn clustnodedig eu cadw ar gyfer prosiectau/ymrwymiadau penodol; mae’r rhain wedi cael eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r dibenion y bwriadwyd nhw ar eu cyfer ac mae canlyniadau’r adolygiad wedi eu nodi yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod yr adroddiad ar Gyllideb 2018/19 (eitem 12 ar y rhaglen) yn cyfeirio at nifer o eitemau y mae’n rhaid eu hariannu o’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn 2017/18 sy’n dod â lefel y balansau cyffredinol i lawr i £5.882m ac y bwriedir rhoi arian yn ôl i mewn i’r gronfa o’r arian wrth gefn a glustnodwyd. Esboniodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod y cronfeydd wrth gefn clustnodedig yn cynnwys £996k a gadwyd yn rhannol i gyllido cost Hawliadau Tâl Cyfartal. Mae’r rhan fwyaf o’r hawliadau wedi cael eu setlo ac mae Llywodraeth Cymru wedi awdurdodi i’r gwariant hwn gael ei gyfalafu sy’n golygu y bydd modd i’r Cyngor fenthyca i gwrdd â’r gost. Er bod angen gwneud rhywfaint o waith i gwblhau’r hawliadau sy’n weddill a thalu unrhyw ffioedd, mae’n debygol na fydd angen dros £700k o’r gronfa hon ac y bydd modd ychwanegu’r arian at y balansau cyffredinol gan ddod â nhw yn ôl i fyny i £6.56m, sef yr isafswm a argymhellir.

 

Penderfynwyd

 

  nodi’r polisi cyffredinol ynglŷn â balansau a chronfeydd a fabwysiadwyd ar 1 Mawrth 2016, fel y nodir hynny yn Atodiad A o’r adroddiad;

  Pennu isafswm balansau cyffredinol o £6.5m ar gyfer 2018/19 yn unol ag asesiad y Swyddog Adran 151;

  Cadarnhau parhad y cronfeydd presennol a glustnodwyd.

Dogfennau ategol: