Eitem Rhaglen

Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant - Adroddiad Cynnydd

·        Cyflwyno adroddiad cynnydd gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

·        Cyflwyno diweddariad o’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

           Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu'r Cynllun Gwella ar gyfer y Gwasanaeth Plant. ‘Roedd yr adroddiad yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma yn y meysydd ffocws canlynol

 

           Ailstrwythuro'r Gwasanaeth

           Recriwtio a Chadw

           Diweddaru Polisïau a Chanllawiau, gan gynnwys y Strategaeth Gweithlu

           Sicrhau Ansawdd

           Gweithio gyda Phartneriaid

 

Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod llawer iawn o waith wedi'i wneud hyd yma a bod gwaith yn parhau. Ynghlwm yn Atodiad 3 roedd  hunanasesiad manwl sy'n crynhoi'r cryfderau, yr hyn a gyflawnwyd a'r meysydd sydd ar ôl i’w gwella yn erbyn pob un o’r argymhellion yn adroddiad Arolygu AGGCC wedi iddo arolygu Gwasanaethau Plant y Cyngor ym mis Tachwedd, 2016. Mae llythyr gan Bennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol AGGCC dyddiedig 11 Ionawr, 2018 yn nodi, er bod y newid wedi bod yn araf, bu gwelliant cadarnhaol graddol yn gyffredinol ac y gwnaed cynnydd sylweddol o ran  gweithredu'r strwythur gwasanaeth newydd. Mae'r llythyr yn cydnabod bod yr ymrwymiad corfforaethol i sicrhau gwelliant yn y Gwasanaethau Plant yn parhau a bod mwy o graffu a herio gan aelodau etholedig wedi bod yn ddatblygiad cadarnhaol. Mae'r Rheoleiddiwr yn datgan y bydd yn parhau i fonitro cynnydd cyn cynnal adolygiad mwy ffurfiol trwy ailarolygiad yn nes ymlaen yn 2018.

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ei fod yn falch o weld bod llythyr y Rheoleiddiwr yn cydnabod y cynnydd sy’n parhau i gael ei wneud gan y Cyngor i weithredu argymhellion yr arolygiad ac i wella ei Wasanaeth Plant a Theuluoedd. Dywedodd y Swyddog, wrth gydnabod bod llawer o waith i'w wneud eto, nad yw newid ymarfer yn digwydd dros nos. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn ymwybodol o'r meysydd y mae angen iddo ganolbwyntio arnynt ac mae'n blaenoriaethu ar y sail honno.

           Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori diweddariad ar waith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant. ‘Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r materion sydd wedi derbyn sylw gan y Panel ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, 2017 ynghyd â fersiwn wedi'i ddiweddaru o raglen waith y Panel hyd at fis Mai 2018.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffiths, fel cynrychiolydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Panel, ei fod yn ymddangos fod yr holl ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Gwella Gwasanaeth ar darged hyd yma. Fodd bynnag, hoffai’r Panel ddwyn sylw’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol at y ffaith, er bod cynnydd da wedi'i wneud o ran gweithredu'r strwythur staffio diwygiedig, fod gweithwyr asiantaeth yn parhau i lenwi rhai swyddi gwaith cymdeithasol. Mae angen mynd i'r afael â hyn cyn gynted ag y bo modd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r wybodaeth a gyflwynwyd a chymerodd sicrwydd o’r atborth a gafwyd gan y Panel a'r meysydd yr oedd wedi rhoi sylw iddynt yn ystod y cyfnod adrodd fel y nodir yn adran 2.2 yr adroddiad. Nododd y Pwyllgor fod y Panel wedi gwneud sylw y bu gostyngiad sylweddol yn nibyniaeth y gwasanaeth ar staff asiantaeth i lenwi swyddi gweigion ond bod  staff asiantaeth yn parhau i lenwi 4 swydd gwaith cymdeithasol a bod angen i’r swyddi hyn gael eu llenwi gan staff parhaol. Felly, gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa recriwtio, yn enwedig ynghylch a oedd y gwasanaeth wedi cymryd y cam a awgrymwyd eisoes gan y Pwyllgor i fod yn fwy rhagweithiol yn ei ddull recriwtio ac i hysbysebu'n ehangach.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Plant a Theuluoedd fod y Cyngor wedi bod yn defnyddio ‘The Guardian’ (ar-lein) a ‘Community Care’ (cyfnodolyn gwaith cymdeithasol) i hysbysebu swyddi gwag a’u bod yn ffynonellau cydnabyddedig ar gyfer hysbysebu a recriwtio i swyddi gwaith cymdeithasol. Mae'r gwasanaeth wedi dechrau cynnig lleoliadau blasu gyda’r nod o ennyn diddordeb disgyblion chweched dosbarth er enghraifft, ac mae dau aelod o staff mewnol yn dilyn y rhaglen hyfforddeiaeth i fod yn weithwyr cymdeithasol cymwys a gobeithir y gellir gwneud hyn eto yn y blynyddoedd i ddod. Mae recriwtio gweithwyr cymdeithasol yn broblem genedlaethol ac mae llawer o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn dibynnu i wahanol raddau ar staff asiantaeth. Yn ychwanegol, mae 5 o staff y gwasanaeth wedi'u hyfforddi fel llysgenhadon gofal cymdeithasol i fynd allan i golegau lleol a dosbarthiadau chweched dosbarth i siarad am waith gofal cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor –

 

           Yn cymryd sicrwydd o'r adroddiad cynnydd ac yn fodlon gyda’r camau a gymerwyd i fynd ati i weithredu'r Cynllun Gwella Gwasanaeth ac yn fodlon gyda chyflymder y cynnydd.

           Yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma gyda gwaith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant a’i fod yn ymddangos fod yr holl ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Gwella Gwasanaeth ar darged hyd yma.

           Yn nodi pryder y Panel bod rhai swyddi gwaith cymdeithasol yn parhau i gael eu llenwi gan staff asiantaeth ac yn nodi hefyd fod y gwasanaeth yn cymryd camau i ehangu ac amrywio ei ddull recriwtio.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: