Eitem Rhaglen

Tai Gofal Ychwanegol, Seiriol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn crynhoi'r atborth a gafwyd o'r broses ymgysylltu ynghylch y bwriad i ddatblygu cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol, ynghyd ag argymhelliad terfynol ynghylch lleoliad y cyfleuster.

 

Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol y gwnaed ymrwymiad ym mis Hydref, 2015, i ystyried safleoedd priodol yn Ne Ynys Môn ar gyfer datblygu darpariaeth Gofal Ychwanegol, gydag ardal Seiriol yn cael ei ffafrio fel lleoliad y cyfleuster. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Hydref, 2017, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith (gyda’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cefnogi) y dylid ymgysylltu’n lleol am gyfnod yn ardal Seiriol ynglŷn â’r bwriad i ddatblygu cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol yn yr ardal; ynglŷn â'r safle a ffefrir ar gyfer y datblygiad, sef safle Ysgol Biwmares ac ynglŷn â chyllido'r datblygiad drwy'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'r adroddiad yn disgrifio'r broses ymgysylltu a gynhaliwyd - a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda'r cynghorau cymuned lleol a chyda Chyngor Tref Biwmares, cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llangoed, arolwg ar-lein, sesiynau galw heibio a sylw i’r mater gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - ac mae'n amlinellu'r atborth a gafwyd o'r broses.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, yn ôl yr ymatebion a gafwyd, fod cefnogaeth gyffredinol i'r cysyniad o Dai Gofal Ychwanegol yn lleol fel model o ddarpariaeth, gyda mwy na hanner yr ymatebwyr yn cytuno bod Gofal Ychwanegol yn syniad da mewn egwyddor i fwrw ymlaen ag ef; fodd bynnag, roedd peth anghytundeb gyda'r safle a gynigiwyd gyda'r mwyafrif yn nodi eu bod yn anghytuno â'r safle a ffefrir - roedd hyn yn arbennig o amlwg yn y cyfarfodydd a gafwyd gyda Chyngor Cymuned Llangoed a Chyngor Tref Biwmares a hefyd yn y cyfarfod cyhoeddus yn Llangoed, sef y digwyddiad ymgysylltu olaf a gynhaliwyd. Mae Atodiad A i'r adroddiad yn nodi'r cwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyhoeddus a'r ymatebion a roddwyd gan y Cyngor. Nid dyna’r achos mewn ardaloedd eraill yr ymwelwyd â hwy - yn y cyfarfod cyhoeddus a'r arolwg, dywedodd aelodau o Gyngor Cymuned Cwm Cadnant eu bod yn cefnogi lleoli darpariaeth Gofal Ychwanegol ym Miwmares; yn yr un modd, mae Cyngor Cymuned Llanddona yn derbyn yr angen am y ddarpariaeth ym Miwmares ac nid oes gan Gyngor Cymuned Porthaethwy unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig. Mae cefnogaeth gref hefyd yn yr Achos Busnes ar gyfer adeiladu Tai Gofal Ychwanegol ym Miwmares - mae lleoliad y dref a’r mynediad at gyfleusterau yn cynnig gwell cyfleoedd ar gyfer integreiddio ac annibyniaeth; mae mwy o angen am dai ym Miwmares nag mewn ardaloedd mwy gwledig fel Llangoed; mae lleoliad Biwmares mewn sefyllfa well i gwrdd â safonau BREEAM. O ystyried y pwyntiau pwysig a godwyd yn ystod y broses ymgysylltu a'r cyfarfod cyhoeddus, mae'r argymhelliad yn parhau'n gyson â'r cynnig gwreiddiol h.y. defnyddio safle Ysgol Biwmares i ddatblygu cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.Wrth ddatblygu'r cynllun rhoddir ystyriaeth briodol i'r pwyntiau a wnaed yn ystod y broses ymgysylltu mewn perthynas â'r safle a chymerir camau i sicrhau bod y safle’n hygyrch i bobl hŷn. Dywedodd y Swyddog fod yr adroddiad yn cydnabod bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 31 Ionawr, 2018 o wahanol farn, a’i fod wedi cefnogi sefydlu cyfleuster Gofal Ychwanegol ar safle Haulfre yn Llangoed. Am y rhesymau a roddwyd, ystyrir nad yw’r cynnig hwn yn ymarferol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Aelod Lleol, y Cynghorydd Alun Roberts, na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn a darllenodd ddatganiad ar ei ran. ‘Roedd y datganiad yn mynegi cefnogaeth yr Aelod Lleol ar gyfer darpariaeth Gofal Ychwanegol mewn egwyddor ac fel cysyniad, ond ‘roedd hefyd yn amlinellu ei bryderon ynglŷn â'r lleoliad a ffefrir ar gyfer cyfleuster o'r fath yn Seiriol ar safle Ysgol Biwmares, oherwydd ei fod yn credu ei fod yn broblemus, yn enwedig oherwydd ei dirwedd ddaearyddol, ond hefyd oherwydd natur y dref sy'n aml yn brysur o ran traffig a phobl, ac oherwydd ei balmantau cul a allai fod yn beryglus. Roedd yr Aelod Lleol o’r farn na ddylid adeiladu'r cyfleuster Gofal Ychwanegol ar safle Ysgol Biwmares ac na ddylid, ar unrhyw gyfrif, ei adeiladu ar draul ysgol y dref. Mae yna opsiynau safle eraill yn Ne Ynys Môn y gallai'r Pwyllgor Gwaith eu hystyried e.e. Haulfre neu hyd yn oed y Ganolfan Gofal Dydd ym Miwmares sy’n wag ar hyn o bryd er gwaethaf bod gan y safle hwn rai o anfanteision safle'r ysgol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at y Pwyllgor Ymateb i’r Ymgynghoriad ynghylch Ysgol Biwmares a oedd wedi bod mewn cysylltiad. Mae'r pwyllgor wedi cynnal ei arolwg ei hun yn benodol mewn perthynas â dyfodol ysgol gynradd y dref ond sydd hefyd yn cynnwys safbwyntiau sy'n mynegi anfodlonrwydd gyda'r cynnig am gynllun Tai Gofal Ychwanegol. Rhannwyd yr arolwg gyda Swyddogion a chaiff ei ystyried yn fanylach yng nghyd-destun yr ymgynghoriad statudol ar foderneiddio addysg gynradd yn ardal Seiriol.

 

Roedd y Cynghorydd Lewis Davies wedi cyflwyno sylwadau i'r Pwyllgor Gwaith fel Aelod Lleol ar gyfer ward Seiriol. Cyfeiriodd at erydiad graddol gwasanaethau yn Ne Ynys Môn gyda Chartref Preswyl Haulfre ac Ysgol Biwmares hefyd dan fygythiad o gau. Mae angen adfywio Biwmares fel tref trwy godi tai cymdeithasol ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc - bydd sefydlu cyfleuster Gofal Ychwanegol yn y dref yn ailgadarnhau’r ddelwedd ohoni fel tref i bobl hŷn. Mae'r safle arfaethedig yn Ysgol Biwmares yn annerbyniol nid yn unig oherwydd anfanteision ffisegol y lleoliad ond oherwydd hefyd ei fod yn golygu ei fod yn gwneud cau’r ysgol yn fwy tebygol. Pwysleisiodd y Cynghorydd Lewis Davies gryfder y gefnogaeth leol i gadw Cartref Preswyl Haulfre ar agor - nododd yr angen parhaus am ddarpariaeth breswyl a gefnogir gan adroddiad gan Lywodraeth Cymru ac a ddyfynnodd ohono – ac amlygodd y safbwyntiau niferus a fynegwyd yn dweud bod well ganddynt leoli cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol ar safle Haulfre sydd, yn ôl y farn leol, yn safle llawer mwy addas ar gyfer y datblygiad. Anogodd y Pwyllgor Gwaith i ystyried barn llawer o bobl yn yr ardal a oedd yn erbyn safle Ysgol Biwmares a hefyd farn y Pwyllgor Sgriwtini o blaid safle Haulfre fel yr un a ffefrir.

 

Mewn ymateb i gais gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant, darllenodd y Cadeirydd lythyr gan y Cyngor Cymuned yn mynegi ei farn am y cynllun Tai Gofal Ychwanegol arfaethedig a glustnodwyd ar gyfer ardal Seiriol. I grynhoi, mae'r Cyngor Cymuned yn cefnogi'r cynllun yn llawn ond mae'n teimlo y byddai safle arall ym Miwmares o fudd. Serch hynny, mae'r Cyngor Cymuned yn cytuno y byddai Biwmares yn fwy addas ar gyfer preswylwyr unigol mewn unedau o'r fath, o gofio’r holl fwynderau a fyddai ar gael iddynt o fewn pellter cerdded byr. Mae'r Cyngor Cymuned hefyd yn credu nad yw lleoli cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol ar safle Haulfre yn ddelfrydol oherwydd ei leoliad pellennig. Mae'r Cyngor Cymuned eisiau’r gorau ar gyfer y ward ac eisiau symud gyda'r oes a’r unfed ganrif ar hugain; er mwyn i'r cynllun Gofal Ychwanegol fod yn llwyddiannus mae'n rhaid ei leoli ym Miwmares.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ac Aelod Lleol hefyd ar gyfer Ward Seiriol, er ei fod yn gefnogol i'r cynllun Tai Gofal Ychwanegol, roedd hefyd yn cydnabod yr angen parhaus am ddarpariaeth breswyl i lenwi'r bwlch rhwng Gofal Ychwanegol, sy’n gysyniad cymharol newydd i Ynys Môn, a gofal nyrsio. Yn ardal Seiriol, mae Cartref Preswyl Haulfre yn diwallu'r angen hwn ac mae mewn lleoliad delfrydol, ac felly roedd yn annog y Cyngor i sicrhau dyfodol Haulfre dros y 10 mlynedd nesaf. Cydnabu fod safbwyntiau gwahanol yn yr ardal o ran lleoliad y cyfleuster Gofal Ychwanegol arfaethedig, gyda Llangoed a Biwmares yn cefnogi lleoli’r cynllun ar safle Haulfre, a Llandefgan, Llansadwrn a Llanddona o blaid Biwmares. Dywedodd y gallai weld manteision Haulfre a manteision Biwmares hefyd sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer cynhwysiad, rhyngweithio ac ystod o fwynderau. Gyda'r olaf fodd bynnag, mae pryderon ynghylch y troedffyrdd i'r dref ac ynghylch lled y troedffyrdd yn y dref ei hun. Llandefgan yw'r anheddiad mwyaf yn y ward ac mae’r ddarpariaeth o ran llety llai a byngalos i bobl hŷn yn gyfyngedig. Cyfeiriodd at y newid yn nemograffeg ward Seiriol ac mai pobl dros 65 oed yw’r grŵp mwyaf yn y boblogaeth, at golli diwydiant a swyddi gyda diflaniad Lairds ac at yr angen am fuddsoddiad a thai cymdeithasol yn yr ardal. Gallai adeiladu'r fflatiau byw â chymorth gofal ychwanegol arwain at ryddhau tai i deuluoedd wrth i denantiaid hŷn benderfynu bod gofal ychwanegol yn well i gwrdd â’u hanghenion. Fel Aelod Lleol ar gyfer y ward gyfan roedd yn parchu ac yn dymuno cyfleu'r amrywiaeth barn ar draws y ward. Roedd yn cefnogi’r syniad o fuddsoddiad gofal ychwanegol yn ardal Seiriol wedi ei ariannu drwy'r Cyfrif Refeniw Tai a gallai weld manteision sefydlu darpariaeth tai gofal ychwanegol naill ai ym Miwmares neu yn Llangoed. Fodd bynnag, er mwyn cydnabod y safbwyntiau gwahanol ynghylch lleoliad y cynllun arfaethedig, byddai'n ymatal rhag pleidleisio.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelod Portffolio uchod ynghylch a fyddai'r ddarpariaeth tai gofal ychwanegol yn gallu cynnig peth o'r gwasanaeth a gollwyd yn sgil cau'r ganolfan gofal dydd ar yr un safle, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y gwasanaeth yn ymdrechu i ddarparu cefnogaeth i unigolion yn eu cymunedau lleol trwy hybiau cymunedol. Y nod yn ardal Seiriol, fel yn Llangefni yn achos Hafan Cefni, fydd gweithio gyda'r hybiau / gweithgareddau cymunedol lleol i ddarparu cymorth i drigolion y tai gofal ychwanegol. Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio gydag ardal Amlwch lle mae'r gymuned leol yn comisiynu gofal yn yr hybiau. Felly, disgwylid y byddai unigolion mwy dibynnol yn gallu mynychu'r safle a chael cymorth yn ystod y dydd. Mewn ymateb i bryderon ynghylch medru mynd i mewn ac allan o’r dref o safle Ysgol Biwmares, cadarnhaodd y Swyddog, fel y nodwyd yn yr argymhelliad, y ceisir gwelliannau i’r troedffyrdd a hefyd i drafnidiaeth gymunedol a chyhoeddus fel rhan o unrhyw gynllun / cais cynllunio.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith yr isod wrth ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd a'r sylwadau a wnaed -

·        Nododd y Pwyllgor Gwaith fod Tai Gofal Ychwanegol yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel syniad ac fel ffordd amgen ac ychwanegol o ddarparu gofal, ond nad oes consensws yn ward Seiriol ynglŷn â pha leoliad fyddai orau ar gyfer cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol yn yr ardal. Nododd y Pwyllgor Gwaith y gwahaniaeth barn yn y cymunedau yn ward Seiriol a'r rhesymau dros hynny.

·        Nododd y Pwyllgor Gwaith fod gan yr Awdurdod gyfrifoldeb i sicrhau bod anghenion gofal a llety pobl hŷn yn cael eu diwallu mewn modd sy'n sicrhau eu hurddas a llesiant. Fel rhan o'r cyfrifoldeb hwn, ac fel un o nodau'r Cynllun Corfforaethol, mae'r Awdurdod yn awyddus i alluogi pobl hŷn i fyw mor annibynnol â phosibl am gyhyd â phosib. I'r perwyl hwn mae mathau eraill o ddarpariaeth megis Tai Gofal Ychwanegol yn cael eu datblygu.

·        Nododd y Pwyllgor Gwaith felly, o ran ardal Seiriol, mai’r ffordd orau i sicrhau annibyniaeth pobl hŷn o fewn Cynllun Tai Gofal Ychwanegol fyddai trwy leoli’r cyfleuster ym Miwmares, a hynny oherwydd bod argaeledd parod yn y dref o amrywiaeth o fwynderau a hefyd oherwydd bod mwy o gyfleoedd i integreiddio’n gymdeithasol a rhyngweithio. Mae safle ysgol Biwmares gyda'r gwelliannau arfaethedig i'r troedffyrdd fel y nodwyd, yn cwrdd â’r angen hwn oherwydd ei agosrwydd i'r dref gan roi'r dewis i drigolion gerdded i'r dref.

·        Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd fod angen i'r achos busnes ar gyfer y datblygiad fod yn gadarn oherwydd cyllido’r cyfleuster drwy'r Cyfrif Refeniw Tai. Felly, mae angen i'r Awdurdod sicrhau bod cyn lleied â phosib o’r unedau tai gofal ychwanegol yn wag. Byddai’n haws gwneud hynny pe bai’r datblygiad wedi ei leoli mewn tref yn hytrach na phentref.

 

Penderfynwyd

 

·        Bod Safle Ysgol Biwmares yn cael ei ddefnyddio er mwyn datblygu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn ardal Seiriol.

·        Bod y datblygiad yn cael ei ariannu drwy’r Cyfrif Refeniw Tai.

·        Yn ddibynnol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad mewn perthynas â dyfodol Ysgol Biwmares, dylid adeiladu’r datblygiad un ai tu ôl i’r ysgol fel rhan o ddatblygiad integredig gyda’r ysgol yn parhau ar agor neu dylid ei adeiladu gan ddefnyddio rhannau o adeilad yr ysgol petai penderfyniad yn cael ei wneud i gau’r ysgol.

·        Fe ddylai’r broses ddatblygu ar gyfer y cynllun ystyried y pwyntiau a godwyd mewn perthynas â’r safle yn ystod y broses ymgysylltu a sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried a bod camau’n cael eu cymryd i sicrhau bod y safle yn hwylus ar gyfer pobl hŷn. Er enghraifft, gan fod y datblygiad ar allt, cynnwys cyfleoedd am lwybrau ychwanegol a chludiant cymunedol i’r dref. Hefyd, sicrhau bod y datblygiad yn gweithredu fel rhywle y gellir cynnal digwyddiadau cymunedol ynddo a sicrhau integreiddiad da â’r dref a chymunedau ehangach ledled De yr Ynys.

 

(YmataIiodd y Cynghorydd Carwyn Jones rhag pleidleisio)

Dogfennau ategol: