Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Plant a Theuluoedd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Plant a Theuluoedd) yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma yn erbyn y Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod y sefyllfa ddiweddaraf, gan gynnwys yr ymateb gan AGGCC i adolygiad ysgrifenedig yr Awdurdod, wedi bod yn destun sylw a sgriwtini gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr, 2018. Cadarnhaodd y Pwyllgor Sgriwtini yn y cyfarfod ei fod yn fodlon â'r cynnydd a wnaed a chyda’i gyflymder.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Plant a Theuluoedd) ar y prif feysydd cynnydd fel a ganlyn

 

·        Mae’r gwaith o ailstrwythuro'r Gwasanaeth bron wedi'i gwblhau ond mae rhywfaint o waith ar ôl i'w wneud ar adolygu trefniadau ar gyfer y Tîm Lleoli Plant, gwneud y defnydd mwyaf posib o Weithwyr Cymorth a sicrhau cymorth gweinyddol priodol i'r grwpiau Ymarfer.

·        Mae recriwtio yn mynd yn dda gyda dim ond 5 swydd gweithiwr cymdeithasol ar ôl i gael eu llenwi. Mae ymgyrch ragweithiol ar waith i geisio recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol profiadol i'r swyddi hyn. Yn ogystal, mae'r Gwasanaeth yn ehangu ei ddull recriwtio e.e. trwy ddatblygu trefniadau Hyfforddeiaeth Gwaith Cymdeithasol yn fewnol fel rhan o'r ymgyrch i dyfu ein staff ein hunain a thrwy gynnig lleoliadau profiad gwaith i ddisgyblion chweched dosbarth.

·        Parheir i adolygu a datblygu Polisïau a Strategaethau, gan gynnwys y Strategaeth Gweithlu; y Polisi Goruchwyliaeth a Chanllawiau Ymarfer.

·        Mae Cynllun Gwella Ymarfer yn cael ei ddatblygu yn 2018 a fydd yn eistedd ochr yn ochr â'r Cynllun Gwella Gwasanaeth.

·        Mae'r gwaith o gryfhau trefniadau gweithio mewn partneriaeth yn parhau. Bydd strategaeth newydd ar gyfer Gwasanaethau Ataliol yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda phartneriaid.

·        Mae AGGCC wedi ymateb yn gadarnhaol i adolygiad ysgrifenedig yr Awdurdod a bydd y Rheoleiddiwr yn parhau i gwrdd â'r gwasanaeth; cynhelir y cyfarfodydd hynny bellach bob dau fis yn hytrach nag yn fisol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a'r cynnydd a wnaed. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am gadarnhad o'r gwelliannau a wnaed er mwyn sicrhau cysondeb yr ymarfer ar draws pob maes ac i gryfhau trefniadau Sicrhau Ansawdd, a hynny gan eu bod yn nodweddion o wasanaeth da.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Plant a Theuluoedd) fod y Fframwaith Sicrhau Ansawdd wedi'i gymeradwyo gan y Gwasanaeth a’i fod yn gymharol newydd. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn bwriadu defnyddio ystod eang o ffynonellau tystiolaeth fel sail ar gyfer yr adroddiad gwerthuso ymarfer chwarterol, gan gynnwys archwiliadau o ffeiliau achos bob mis, arsylwi ar ymarfer, archwiliadau goruchwyliaeth, trosolwg, her a dysgu o atborth a gafwyd gan bartneriaid. Bwriedir hefyd ddysgu gan y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Er bod yr ymarfer yn parhau i fod yn anghyson mewn rhai meysydd, mae tystiolaeth gadarnhaol hefyd bod y gweithlu'n gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd sy'n arwain at well canlyniadau. Adlewyrchir yr ansawdd gwell hefyd mewn ffyrdd eraill, sef llai o gwynion a gostyngiad yn y cyfraddau absenoldeb salwch tymor hir. Mae'r Tîm Cymorth Annibynnol hefyd wedi nodi y bu newid yn ymateb ac ymagwedd y staff a bydd y gwasanaeth yn ceisio adeiladu ar hynny. Mae'n golygu newid diwylliant ac mae hynny’n cymryd amser.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Panel Gwella Gwasanaeth Plant yn cyfarfod bob mis ac yn gwbl ymrwymedig i sicrhau gwelliant parhaus yn y Gwasanaethau Plant.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â'r camau a gymerwyd i fynd ati i weithredu'r Cynllun Gwella ar gyfer y Gwasanaeth a chyda chyflymder y cynnydd a wnaed.

Dogfennau ategol: