Eitem Rhaglen

Monitro’r Gyllideb Refeniw, Chwarter 3 2017/18

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor am drydydd chwarter blwyddyn ariannol 2017/18 ynghyd â chrynodeb o’r sefyllfa ragamcanedig ar gyfer y flwyddyn gyfan.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y Cyngor, ym mis Chwefror 2017, wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2017/18 gyda gwariant net o £126.157m ar gyfer gwasanaethau i'w gyllido o incwm y Dreth Gyngor, Trethi Annomestig a grantiau cyffredinol. Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2017/18, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw gorwariant o £1.624m neu 1.29% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2017/18. Mae hyn yn welliant o £300k o gymharu â’r sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 2. Mae’r tabl ym mharagraff 2.2 yr adroddiad yn darparu crynodeb o’r prif amrywiadau yng nghyllidebau’r gwasanaethau. Mae’r pwysau cyllidebol mwyaf sylweddol sy’n arwain o ganlyniad at y gorwariant mwyaf, yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (costau sy’n gysylltiedig â rhiantu corfforaethol) a Dysgu (lleoliadau all-sirol a chostau cludiant ysgolion). Gyda mewnbwn Sgriwtini, mae mesurau’n cael eu cymryd i roi sylw i ffynonellau’r gorwariant ac i reoli gwariant yn y meysydd hynny. Nid yw’r sefyllfa’n unigryw i Ynys Môn gyda Gwasanaethau Plant ar draws Cymru ac ymhellach draw dan bwysau tebyg sy’n awgrymu bod hwn yn fater y mae angen ei ddatrys ar lefel genedlaethol. Mae cyfran sylweddol o gyllideb y Gwasanaethau Plant yn cael ei harwain gan y galw am y gwasanaethau hynny sy’n ei gwneud hi’n anodd i ragweld beth fydd y costau yn y dyfodol ac yn golygu hefyd bod yr opsiynau ar gyfer rheoli gwariant yn gyfyngedig. Gall lleoliadau arbenigol sydd eu hangen weithiau i gwrdd ag anghenion unigolion olygu cynnydd sylweddo bod costau gyda hynny’n arwain at orwariant.

 

Roedd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cytuno gyda dadansoddiad yr Aelod Portffolio a dywedodd bod y sefyllfa wedi gwella rhyw fymryn. Er bod gwasanaethau ac eithrio’r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan yr Aelod Portffolio at ei gilydd yn perfformio o fewn eu cyllidebau, mae’r rhain hefyd yn agos at derfynau eu cyllidebau. Mae toriadau blynyddol sydd wedi cael eu hymgorffori yng nghyllidebau’r gwasanaethau unigol wedi erydu unrhyw gapasiti sbâr. Mae tanwariant mewn cyllidebau corfforaethol o gymorth i wrthbwyso’r gorwariant mewn cyllidebau eraill eleni ond mae’n bosib na fydd yr arbedion hyn yn digwydd yn ystod y flwyddyn nesaf er y bydd y pwysau ariannol yn parhau. O’r herwydd, mae’r Cyngor yn wynebu sefyllfa heriol wedi ei lliniaru gan y ffaith fod ganddo ddigon o arian wrth gefn i fedru cyllido’r gorwariant ar y gyllideb refeniw. Mae hyn yn adlewyrchu strategaeth fwriadus gan y Cyngor yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gynnal lefel ddigonol o arian wrth gefn er mwyn medru ymateb i amgylchiadau gan gynnwys cefnogi’r gyllideb refeniw os a phan fydd angen. Dywedodd y Swyddog fod yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at gostau asiantaeth ac ymgynghorwyr a cheir manylion llawn amdanynt yn Atodiadau DD ac E yn y drefn honno. Yn ystod y flwyddyn, gwariwyd £951k ar staff asiantaeth, yn bennaf i ddarparu gwasanaeth llanw yn y Gwasanaethau Plant yn ystod ymgyrch y gwasanaeth i geisio recriwtio staff parhaol. Roedd gwariant ar ymgynghorwyr yn ystod Chwarter 3 yn £746k gyda £377k o’r swm hwn yn cael ei gyllido’n allanol o grantiau neu gyfraniadau. Mae nifer o resymau dros ddefnyddio ymgynghorwyr gan gynnwys yr angen i gael mewnbwn a chyngor arbenigol ar rai prosiectau.

 

Wedi ystyried yr adroddiad, nododd y Pwyllgor Gwaith y canlynol -

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith y bydd cyllidebau’r meysydd gwasanaeth hynny nad ydynt wedi defnyddio’r cyfan o’u hadnoddau eleni yn cael eu halinio gyda gwariant y flwyddyn nesaf gan olygu na fydd y glustog ariannol ar gael i’r gwasanaethau hyn yn 2018/19.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith er bod amgylchiadau’n heriol, bod arian wrth gefn y Cyngor yn darparu diogelwch ariannol yn erbyn pwysau o’r fath yn y tymor byr ond nad ydynt yn datrys y broblem yn y tymor hir yn arbennig oherwydd y gorwariant parhaus yn y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Dysgu. Wedi buddsoddi mewn mesurau atal ac ymyrraeth yn y Gwasanaethau Plant, mae’n hanfodol yn awr eu bod yn sicrhau’r arbedion disgwyliedig.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith er bod staff asiantaeth yn cyflawni rôl bwysig, mae’n wariant y gellid ei osgoi pe bai’r Cyngor yn gallu recriwtio staff parhaol. Rhaid iddo geisio llenwi swyddi gweigion cyn gynted ag sy’n bosibl.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith y bydd raid i’r Cyngor gyfrannu at y costau mewn perthynas â’r llifogydd yn Llangefni ym mis Tachwedd, 2017. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ar y sefyllfa a graddfa’r effaith ariannol a gaiff hyn ar gyllideb y Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y bydd costau’r gwaith trwsio yn sgil y llifogydd ym mis Tachwedd, 2017, oddeutu £1.3m gan gynnwys costau staffio ar y pryd ac yn y cyfnod yn union wedi’r digwyddiad. Yn dilyn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am gymorth i drwsio’r isadeiledd priffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn cyfrannu £374k tuag at y costau ac y bydd raid i’r Cyngor ysgwyddo’r gweddill. Dywedodd y Swyddog fod swm oddeutu £400k wedi cael ei glustnodi o’r arian wrth gefn i’r pwrpas hwn. Mae trafodaethau’n parhau gyda’r gwasanaeth Priffyrdd ynglŷn â’r modd y bydd gweddill y gwaith yn cael ei raglennu a’i gyflawnimae’n debyg y bydd rhaid ei gynnwys yng nghynllun y flwyddyn nesaf fel rhan o’r rhaglen drwsio a chynnal a chadw arferol.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn Cytuno y dylid gofyn i’r Panel Sgriwtini Cyllid edrych ar y mater hwn yn fanylach, yn enwedig effaith y llifogydd ar wariant a rhaglen y gwasanaeth Priffyrdd gyda golwg ar ddysgu gwersi ar gyfer cynllunio ar gyfer digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi’r sefyllfa fel y caiff ei nodi yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r canlyniad disgwyliedig ar gyfer 2017/18;

  Cymeradwyo trosglwyddo unrhyw danwariant ar weithgareddau Arforol i gronfa wrth gefn wedi ei chlustnodi er mwyn talu i beintio Pier Biwmares;

  Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2017/18 fel y manylir arnynt yn Atodiad C:

  Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH;

  Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2017/18 yn Atodiad D;

  Nodi monitro’r costau asiantaeth ac ymgynghorwyr yn 2017/18 yn Atodiadau DD, E a F.

  Gofyn i’r Panel Sgriwtini Cyllid archwilio effaith y llifogydd difrifol a gafwyd ym mis Tachwedd, 2017 ar wariant a rhaglennu’r gwasanaeth Priffyrdd, er mwyn ceisio gwella cynlluniau’r dyfodol ar gyfer digwyddiadau tebyg.

Dogfennau ategol: