Eitem Rhaglen

Strategaeth Rheoli Trysorlys 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor GwaithAdroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys am 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid y cafodd y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ei graffu gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror, 2018 a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor fel y’i cyflwynwyd heb unrhyw sylwadau pellach. Nid yw’r strategaeth arfaethedig ar gyfer 2018/19 wedi newid yn sylweddol o’r un a oedd yn weithredol yn 2017/18. Mae ymagwedd ddarbodus debyg yn 2018/19 yn debygol o sicrhau’r gwerth gorau ar gyfer y Cyngor yn ystod y cyfnod cyfredol o lymder ariannol sy’n golygu y bydd balansau ariannol mewnol yn cael eu defnyddio lle bynnag y bydd hynny’n bosibl er mwyn osgoi cymryd unrhyw fenthyciadau newydd. Serch y cynnydd yn ddiweddar yn y gyfradd sylfaenol, disgwylir i gyfraddau busoddi yn y tymor canol barhau i fod yn is na’r cyfraddau benthyca ar gyfer y tymor hir. Bydd y Swyddog Adran 151 yn parhau i fonitro cyfraddau llog yn y marchnadoedd ariannol a mabwysiadu ymagwedd bragmataidd tuag at amgylchiadau sy’n newid, gan adrodd ar unrhyw benderfyniadau cyn gynted ag sy’n bosibl i’r corff priodol sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod bwriad i newid Arferion Rheoli Trysorlys, sef cynyddu’r balans ariannol isaf o £6m i £6.5m a hynny’n unol â’r polisi diweddaraf a gymeradwywyd mewn perthynas ag arian wrth gefn.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 161 bod y Strategaeth Rheoli Trysorlys yn cael ei mabwysiadu’n flynyddol; mae’n nodi trefniadau arfaethedig y Cyngor ar gyfer benthyca a buddsoddi yn y flwyddyn i ddod ac yn ogystal, mae’n cadarnhau’r polisi o ran y Ddarpariaeth Refeniw Isaf. Mae’r strategaeth ar gyfer 2018/19 yn mabwysiadu’r un ymagwedd â 2917/18, sef defnyddio balansau’r Cyngor yn lle benthyca lle mae hynny’n ymarferol, ac ni fydd yn cymryd benthyciadau onid oes defnydd penodol ar eu cyfer. Wnaiff y Cyngor ddim benthyca i fuddsoddi oherwydd mae dychweliadau ar fuddsoddiad yn llawer iawn is na chost benthyca. Mae’n bosibl y bydd angen adolygu’r strategaeth yn ystod y flwyddyn os ceir arwyddion bod y gyfradd sylfaenol yn codi’n uwch na’r hyn a ragwelwyd; bydd angen parhau i adolygu’r sefyllfa er mwyn sicrhau bod y gyfradd y mae’r Cyngor yn ei thalu am fenthyca mor isel â phosib. Y Strategaeth fel y caiff ei chynnig yw’r orau yn yr amgylchiadau economaidd sydd ohoni. Ynghyd â’r newid i’r Arferion Rheoli Trysorlys y cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ato, mae’r Polisi Refeniw Isaf yn cael ei ddiwygio a bydd hynny’n arwain at arbediad ar gostau oddeutu £1m i’r Cyngor; mae hyn wedi cael ei gynnwys fel arbediad yn y gyllideb refeniw ar gyfer 2018/19.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad eglurhaol.

  Cymeradwyo’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys (gan gynnwys y Dangosyddion Pwyllog a Thrysorlys) ar gyfer 2018/19.

  Cyflwyno’r Strategaeth Rheoli Trysorlys i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach.

  Cymeradwyo’r newid yn ART, i gynyddu’r isafswm balans arian parod o £6m i £6.5m i adlewyrchu’r cynnydd yn isafswm balans yr arian wrth gefn cyffredinol.

Dogfennau ategol: