Eitem Rhaglen

Grant Caru Amlwch

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â'r uchod.

             

Dywedodd y Trysorydd fod y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2017 wedi penderfynu dyrannu grant o £4,200 i Grŵp Cymunedol Amlwch i ddatblygu llecyn o dir i'w ddefnyddio fel rhandir.  Roedd y dyfarniad grant yn amodol ar dderbyn amcangyfrifon a phrawf perchenogaeth neu brydles ar gyfer y tir.  Cyfeiriodd at Adran 2.1, paragraff (c) o'r meini prawf ar gyfer dyrannu grantiau gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn sy'n dweud "Pan fo’n angenrheidiol, bod yr ymgeiswyr (y gymdeithas / corff) â thystiolaeth o ddeiliadaeth ar y tir neu’r adeilad y gofynnir am grant iddo a’r ddeiliadaeth honno, fel arfer, am gyfnod sydd o leiaf 21 mlynedd. Yng nghyswllt adeiladau symudol, bydd deiliadaeth o saith mlynedd yn cael ei hystyried yn ddigonol. Yn achos caeau chwaraeon, bydd tystiolaeth o ddefnydd sefydlog dros gyfnod o 10 mlynedd neu fwy yn dderbyniol yn hytrach na thystiolaeth o ddeiliadaeth”

 

‘Roedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi cynnig rhywfaint o dir i Grŵp Cymunedol Amlwch, ond ar ôl gwneud ymchwiliadau pellach, mae'r Cyngor Tref yn credu y gall bod y tir wedi ei lygru ac yn anaddas i’w ddefnyddio fel rhandir, o gofio y byddai'n cael ei ddefnyddio i dyfu ffrwythau a llysiau.  Yn dilyn hynny, mae'r Grŵp wedi darganfod llecyn o dir preifat y mae'r perchennog yn fodlon ei gynnig ar brydles i'r Grŵp ond nid yw’r tirfeddiannwr ond yn fodlon cynnig prydles gychwynnol o 5 mlynedd ar y tir, er y gellid ymestyn y cyfnod hwn wedyn.  Fodd bynnag, yn dilyn cyhoeddi'r Rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwn, daeth yn amlwg nad yw'r tir preifat dan sylw yn addas ac mae’r tirfeddiannwr wedi tynnu’r cynnig yn ôl. 

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd fod Grŵp Cymunedol Amlwch bellach yn gofyn am estyniad chwe mis gan yr Ymddiriedolaeth lawn i allu chwilio am dir arall y gellid, o bosib, ei ddefnyddio fel rhandir. 

 

Gadawodd yr Is-Gadeirydd, Mr R O Jones a Mr. Richard Griffiths y cyfarfod gan bod y ddau ohonynt wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â'r eitem hon ac ni chymerodd yr un o’r ddau unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar y mater.

 

Rhoddodd aelodau'r Ymddiriedolaeth Elusennol sylw i’r cais a chodwyd y canlynol: -

 

·         Codwyd pryderon na ddylai'r meini prawf ar gyfer dyrannu grantiau gael eu rhoi heibio oherwydd dylid sicrhau bod deiliadaeth 21 mlynedd ar dir y gofynnir am grant ar ei gyfer. Roedd rhai Aelodau o'r Ymddiriedolaeth o'r farn y dylid cael trafodaeth bellach ar y meini prawf ar gyfer prydlesu yng nghyfarfod nesaf yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn;

·         ‘Roedd Aelodau o’r farn fod Grŵp Cymunedol Amlwch - Caru Amlwch wedi cael grant o £4,200  ar 12 Gorffennaf 2017 yn amodol ar dderbyn prawf o berchnogaeth neu brydles ar y tir a bod ganddynt 4 blynedd felly i wireddu'r prosiect.

 

Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD: -

 

·         Hysbysu Grŵp Cymunedol Amlwch - Caru Amlwch bod ganddynt 4 blynedd i ddarganfod darn o dir yn unol â’r meini prawf cyllido ond mae'n rhaid iddynt sicrhau prydles 21 mlynedd ar y tir dan sylw.

·         Bod trafodaeth yn digwydd yng nghyfarfod nesaf yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ar y meini prawf ar gyfer dyrannu grantiau mewn perthynas â deiliadaeth tir.

 

Dogfennau ategol: