Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2018/19 (Refeniw a Chyfalaf)

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori’r canlynol -

 

           Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ynglyn â’r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf am 2018/19 (Atodiad 1)

 

           Y negeseuon allweddol o’r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer Cyllideb 2018/19 (Atodiad 2)

 

           Adroddiad gan y Panel Dinasyddion a’r Cyngor Ieuenctid (Llais Ni) ar ymateb dinasyddion i gynigion arbedion y gyllideb a’r trefniadau craffu ar y gyllideb. (Atodiad 3)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Amlinellodd yr adroddiad y cyd-destun ar gyfer y broses o osod y gyllideb ynghyd â’r materion allweddol a’r cwestiynau ar gyfer Sgriwtini o ran gwerthuso’r cynigion terfynol ar y Gyllideb yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ac roedd yn cynnwys y ddogfennaeth ganlynol –  

 

3.1       Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb refeniw Arfaethedig ar gyfer 2018/19. Rhoes yr adroddiad ddatganiad sefyllfa ar yr ystyriaethau ariannol allweddol sydd wedi dylanwadu ar y modd y mae’r cynigion cyllidebol terfynol wedi eu llunio (Atodiad 1)

 

Diolchodd yr Aelod Portffolio Cyllid i’r Gwasanaeth Cyllid am ei waith ers dechrau’r broses o osod cyllideb 2018/19 a hefyd i benaethiaid Gwasanaeth, adrannau ac Aelodau Etholedig am eu cyfraniad i broses sydd wedi cymryd nifer o fisoedd ac sydd wedi cynnwys gwaith trafod a herio. Mynegwyd diolch hefyd i Llais Ni a’r Panel Dinasyddion am eu cyfraniad i’r broses sgriwtini. Adroddodd yr Aelod Portffolio y daw’r cyfraniad mwyaf i gyllideb y Cyngor ar ffurf cyllid Llywodraeth Cymru (LlC) ac er y gwelwyd cynnydd o £0.888m (0.7%) yn ffigwr y setliad terfynol o gymharu â’r ffigwr dros dro, nid yw’n ddigon i allu ymateb yn llawn i effeithiau codiadau cyflog cyffredinol a chwyddiant  nac i allu bodloni’r pwysau cynyddol ar gyllidebau’r Cyngor ac o ganlyniad mae angen dod o hyd i arbedion mewn modd sydd mor deg â phosibl ar draws holl wasanaethau’r Cyngor. Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd, 2017 fe gymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith gyllideb digyfnewid yn seiliedig ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru, y cynigion ar gyfer arbedion a gyflwynwyd ar y pryd a chynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor (gyda 1% o hwn wedi’i glustnodi ar gyfer Gwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol sef y mannau lle mae’r pwysau mwyaf difrifol ar y gyllideb). Mae’r adroddiad fel y’i cyflwynwyd yn cyfeirio ar gyllideb ddigyfnewid wedi’i hadolygu o £133.127m, yn seiliedig ar setliad grant refeniw o £95.812m gan Lywodraeth Cymru, arbedion o £3.3m gyda’r gweddill yn cael ei gynhyrchu gan y Dreth Gyngor. Mae’r her y mae’r Cyngor yn ei hwynebu’n flynyddol o geisio cydbwyso’r gyllideb yn un sylweddol. Mae’r hinsawdd barhaus o gyni ariannol yn golygu bod yr angen i ddod o hyd i arbedion yn parhau ac ychydig iawn o sicrwydd sy’n bodoli o ran natur a maint yr heriau a wynebir yn y dyfodol. Rhaid i’r Cyngor felly ystyried yr holl opsiynau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i fod mor effeithiol â phosibl gyda’r adnoddau sydd ar gael a bod toriadau’n cael cyn lleied o effaith â phosibl ar drigolion Ynys Môn.     

      

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini mai dyma ail gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a oedd yn canolbwyntio ar gyllideb 2018/19 yn dilyn cynnal y cyntaf ym mis Hydref 2017 pan fu’r Pwyllgor yn craffu ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb a gyflwynwyd ar y pryd. Ym mis Hydref, gofynnodd y Pwyllgor i’r Panel Sgriwtini Cyllid edrych yn fanwl ar y cynigion ar gyfer y gyllideb. Mae’r cyfarfod heddiw yn rhoi cyfle terfynol i’r Pwyllgor ystyried y cynigion ar y gyllideb cyn y cânt eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Chwefror ac yna i’r Cyngor llawn ar 28 Chwefror ar gyfer eu mabwysiadu fel y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r ddogfennaeth sy’n sail i ystyriaeth y Pwyllgor ar gynigion terfynol y gyllideb yn tynnu ynghyd pedair elfen o’r broses o osod y gyllideb gan gynnwys y cyd-destun ariannol; yr ymateb o’r ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd; asesiad o effaith yr arbedion hynny sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cyhoedd a sylwadau gan y Panel Dinasyddion a Llais Ni ar y broses cyllideb a sgriwtini.

  

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod y cyd-destun ar gyfer y Gyllideb Refeniw 2018/19 wedi’i nodi yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol (CATC) ar gyfer 2018/19 o 2021/22 ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2017. Roedd y cynllun yn adnabod yr angen am arbedion o tua £8 Miliwn dros dair blynedd gydag angen i ddod o hyd i tua £4 Miliwn o’r arbedion hynny yn 2018/19. Roedd hyn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y byddai cyfanswm y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) i’r Cyngor yn gostwng 2% yn 2018/19, 1.4% yn 2019/20 a 0.5% yn 2021/2022 ac y byddai’r Dreth Gyngor yn cynyddu 4% dros y cyfnod o dair blynedd. Cymeradwywyd y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd, 2017 gan arwain at gyllideb ddigyfnewid o £132.337 Miliwn a chynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor (1% neu £330k ohono i gael ei neilltuo’n benodol ar gyfer Gofal Cymdeithasol) gan adael bwlch o £1.99 Miliwn yn y gyllideb. Roedd y cynigion drafft cychwynnol yn adnabod arbedion refeniw posibl o £3.396 Miliwn a fyddai’n ddigonol er mwyn sicrhau y gellid cydbwyso’r gyllideb.  

 

Dywedodd y Swyddog bod y gyllideb ddigyfnewid o £132.337 Miliwn wedi ei hadolygu a’i diweddaru ers i’r cynigion fynd allan i ymgynghori â’r cyhoedd a hynny er mwyn adlewyrchu’r newidiadau sydd wedi digwydd ers hynny, y prif un yw’r cynnig cyflog presennol i staff NJC sydd 2% yn uwch na’r hyn a nodwyd yn y gyllideb ddigyfnewid wreiddiol sy’n golygu costau ychwanegol o £485k. Yn ogystal, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ffigyrau ar gyfer setliad y Grant refeniw ar 20 Rhagfyr, 2017 gan gynyddu AEF y Cyngor £888k (mae £173k ar gyfer yr incwm y bydd y Cyngor yn ei golli drwy gynyddu’r trothwy cyfalaf ar gyfer cleientiaid gofal nyrsio a phreswyl o £30k i £40k). Mae’r adroddiad yn cyfeirio ym mharagraff 3.1 at bwysau cyllidebol ychwanegol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu ar ffurf gofynion ariannu newydd a/neu dorri’r grantiau presennol nad oeddent wedi’u cynnwys yn y gyllideb ddrafft wreiddiol. Canlyniad bodloni’r rhain yn 2018/19 yw cynnydd o £439k yn y gyllideb ddigyfnewid. Mae tabl 2 yn yr adroddiad yn cymharu costau bandiau Treth Cyngor Ynys Môn â rhai awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru tra bod Tabl 3 yn nodi effaith y gwahanol lefelau o gynnydd yn lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19. Mae Tabl 4 yn rhoi crynodeb o’r lefel o arbedion sydd eu hangen ar gyfer gwahanol lefelau o gynnydd yn y dreth gyngor er mwyn gallu darparu cyllideb gytbwys. Mae’r arbedion cychwynnol o £3.396 Miliwn i’r gyllideb wedi eu hadolygu ac o ganlyniad wedi eu gostwng i £3.315 Miliwn. Mae’r rhain wedi’u rhestru yn unigol yn Atodiad 2 o’r adroddiad ac mae’r rhai hynny sy’n effeithio ar y cyhoedd hefyd yn cynnwys asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb.         

 

Cyfeiriodd y Swyddog at adran 6 yr adroddiad sy’n diweddaru sefyllfa arian wrth gefn y Cyngor yn wyneb y gwir ddefnydd a’r defnydd disgwyliedig o’r arian wrth gefn. Gan ystyried yr addasiadau a nodir yn adran 6, bydd balansau wrth gefn y Cyngor a amcangyfrifir ar gyfer 31 Mawrth, 2018 yn £6.2 Miliwn; gan ystyried y rheol gyffredinol y dylai balansau cyffredinol fod o leiaf 5% o’r gyllideb refeniw net (sef tua £6.5 Miliwn ar gyfer Ynys Môn), ystyrir bod £6.2 Miliwn yn lefel dderbyniol. 

 

O ystyried bod y Cyngor wedi cynllunio ar gyfer toriad o 2% yn ei AEF yn 2018/19, mae’r cynnydd terfynol o 0.7% wedi cael effaith sylweddol ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol. Fodd bynnag, mae’n anodd amcangyfrif y newidiadau i’r AEF yn y dyfodol ac mae’n rhywbeth sy’n ddibynnol ar nifer o ffactorau, rhai ohonynt y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru. Mae paragraffau 7.5 a 7.6 yr adroddiad yn nodi’r sefyllfaoedd gorau a gwaethaf posib ar gyfer y gyllideb refeniw hyd at 2021/22. Ym mhob sefyllfa, bydd pwysau cynyddol ar gyllidebau, lefelau chwyddiant a chynnydd mewn costau cyflogau ynghyd ag ansicrwydd am lefelau cyllid y dyfodol yn golygu y bydd dal angen dod o hyd i arbedion dros y tair blynedd nesaf a gallai lefel yr arbedion sydd eu hangen fod cymaint â £6 Miliwn.   

 

Mae’r gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2018/19 yn seiliedig ar y strategaeth gyfalaf a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref, 2017. Roedd y strategaeth yn nodi nifer o egwyddorion ar gyfer gwariant cyfalaf ac yn amlinellu’r 6 prif ffynhonnell o gyllid y byddai’r rhaglen gyfalaf yn seiliedig arnynt. Mae’r rhaglen gyfalaf a’r cyllid arfaethedig i’w weld yn Nhabl 5 yr adroddiad. Gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith hefyd ystyried dau brosiect a gyflwynir gan yr Adran Hamdden fel y’u disgrifir ym Mharagraff 8.5 yr adroddiad.   

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams ar y mewnbwn yr oedd y Panel Sgriwtini Cyllid wedi’i gael i’r broses o osod y gyllideb. Roedd y Panel wedi edrych yn ofalus ar y ddogfen ymgynghori ar y gyllideb ac wedi awgrymu nifer o welliannau mewn perthynas â’r modd y gellid llunio a geirio’r cwestiynau ar gyfer y cyhoedd er mwyn eu gwneud yn fwy dealladwy. Edrychodd y Panel hefyd ar y broses flynyddol o osod y gyllideb yn genedlaethol; yr arian a ddyrennir yn sgil hynny i gynghorau Cymru drwy’r Grant Cymorth refeniw ac yna’r modd y caiff yr arian hwnnw ei rannu o fewn y Cyngor ei hun. 

 

3.2       Adroddiad y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad a oedd yn crynhoi negeseuon allweddol yr ymarfer Ymgynghori Cyhoeddus ar gynigion Cyllideb 2018/19 yr Awdurdod a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod 7 Tachwedd i 29 Rhagfyr, 2017 (Atodiad 2). 

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod y cyfnod ymgynghori 7 wythnos yn canolbwyntio’n bennaf ar tua 40 o gynigion a oedd yn ganlyniad i’r broses gyllidebol flynyddol. Roedd y rhain wedyn wedi eu rhannu’n themâu fel y nodwyd ym mharagraff 1.3 yr adroddiad. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r cynigion hyn mewn nifer o ffyrdd fel y’u disgrifiwyd ym mharagraff 1.5 o’r adroddiad. Yn ogystal, gofynnwyd i ddinasyddion, partneriaid a staff ymateb i’r ymgynghoriad drwy wahanol ddulliau a oedd yn cynnwys arolwg ar-lein, drwy e-bost neu lythyr. Yn ogystal â’r dulliau hyn, cynhaliodd y Cyngor gyfarfodydd grwpiau ffocws ar gyfer pobl ifanc a sesiynau gyda phartneriaid, cynghorau tref a chymuned a Phenaethiaid a Rheolwyr Ysgolion. Cafwyd tua 700 o ymatebion i’r ymgynghoriad unwaith eto eleni gyda’r arolwg ar-lein yn profi’r ffordd fwyaf poblogaidd o ymateb. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd eleni hefyd yn nifer yr ymatebion a gafwyd drwy lythyr a dros e-bost. Mae’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo’r ymgynghoriad wedi galluogi’r Cyngor, unwaith eto eleni, i gyrraedd cynulleidfa eang o wahanol drefi ac ardaloedd ar yr Ynys yn ogystal â phobl o dramor.     

 

Dywedodd y Swyddog fod canlyniadau’r ymgynghoriad eleni wedi bod yn gadarnhaol ac yn eithaf cytbwys yn gyffredinol o ran safbwyntiau o blaid ac yn erbyn nifer o wahanol gynigion. Mae amlinelliad o sylwedd yr ymatebion o dan y prif themâu ar gael yn adran 3 yr adroddiad. Yn ogystal, ac yn newydd i’r ymgynghoriad eleni, oedd y cais am awgrymiadau gan y cyhoedd ar sut y gallai’r Cyngor gynyddu ei incwm neu wneud arbedion pellach - cafwyd amrywiaeth eang o ymatebion.

  

Roedd tri maes yn ennyn ymatebion cryf fel a ganlyn – 

 

           Cynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor a 1% ychwanegol i warchod y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Roedd y mwyafrif (72%) yn erbyn y cynnydd o 4% yn seiliedig ar y ffaith bod costau byw eisoes yn uchel ac y byddai unrhyw gynnydd mewn costau cysylltiedig yn gwneud hi’n anoddach byw o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, nododd tua 28% y byddent yn hapus â’r cynnydd petai’n golygu bod gwasanaethau’n cael eu gwarchod. Cytunodd Cyngor Cymuned Llanfairpwll â’r safbwynt hwn.   

 

           Newid y ddarpariaeth cerdd bresennol er mwyn lleihau costau rheoli. 

 

Cafwyd tua 100 o wrthwynebiadau i’r cais hwn a’r pryder mwyaf oedd yr ansicrwydd am yr effaith a gâi’r newidiadau arfaethedig ar y ddarpariaeth ar gyfer plant ar Ynys Môn.

 

           Gostyngiad mewn grantiau diwylliant 

 

Cafwyd bron i 100 o ymatebion e-bost yn gwrthwynebu’r cais hwn gyda nifer o ymatebwyr yn nodi pwysigrwydd y grantiau i ddiwylliant yr ardal a’r iaith Gymraeg.  

 

           Roedd teimlad o rwystredigaeth ymysg pobl ifanc mewn perthynas â’r cais y dylid cynnal cyllidebau ysgol ar lefelau 2017/18 a bod ysgolion yr ysgolion wedi cael cais i ariannu costau dyfarniadau cyflog a chwyddiant o’u cyllidebau presennol eu hunain (£563k). 

 

           Roedd yna hefyd bryderon am y bwriad i drosglwyddo toiledau cyhoeddus i eraill gyda’r teimlad cyffredinol bod y rhain yn gyfleusterau pwysig yng nghyd-destun Ynys Môn fel cyrchfan i dwristiaid a bod angen o’r herwydd eu cadw ar agor. 

 

3.3       Adroddiad y Panel Dinasyddion a’r Cyngor Ieuenctid ar eu cyfraniad mewn perthynas â gwella ymgysylltiad cyhoeddus â sgriwtini (Atodiad 3)

 

Anerchodd Jenny Porter, ar ran y Panel Dinasyddion, y Pwyllgor mewn perthynas â’r trefniadau a wnaed i ymchwilio i, a chadarnhau’r rôl y gallai’r Panel a’r Cyngor Ieuenctid ei chwarae yn y broses sgriwtini ar yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb. Cyfeiriodd at y broses a gafodd ei dilyn i recriwtio i’r Panel Dinasyddion; at sesiwn a gynhaliwyd yng Nghyngor Sir Ynys Môn er mwyn cyfarfod â staff ac Aelodau allweddol; at gasgliadau’r gwerthusiad o’r diwrnod a’r camau dilynol; a’r ymarfer cwestiwn ac ateb a gynhaliwyd dros e-bost; at y gwersi a ddysgwyd o’r broses a’r camau nesaf er mwyn adeiladu ar y profiad ac er mwyn datblygu ymhellach a chynnal ymgysylltiad aeddfed â dinasyddion mewn perthynas â’r broses sgriwtini.  

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod y gwaith o gynllunio’r gyllideb yn rhan annatod o fywyd y Cyngor a’i bod hi bellach yn broses barhaus. Cafodd yr ymgynghoriad ar gyllideb 2018/19 ei gynnal gyda’r nod o gyrraedd cynifer o bobl â phosibl ac mae’r ymarfer wedi bod yn un gwerthfawr gyda sesiynau wedi’u cynnal gyda phobl ifanc, grwpiau a phartneriaid, sesiynau a brofodd yn rhai diddorol iawn. Mae datblygiad y Panel Dinasyddion o bwysigrwydd penodol i ymgysylltiadau yn y dyfodol. Mae’r Cyngor wedi cyrraedd y pwynt o orfod gwneud arbedion er mwyn gallu darparu cyllideb gytbwys; mae wedi ceisio, drwy’r broses ymgynghori, i sefydlu deialog â’r cyhoedd a chasglu safbwyntiau’r cyhoedd ar y modd y bydd yr arbedion hynny’n cael eu gwneud.  

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol –

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ynghylch a oedd unrhyw awdurdod arall yn bwriadu rhoi canran o’r dreth gyngor o’r neilltu er mwyn gwarchod gwasanaeth penodol fel y mae Ynys Môn yn bwriadu ei wneud ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Nododd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod Cyngor Sir Ddinbych yn ymgynghori ar 2% ychwanegol ar y Dreth Gyngor ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ond na allai gadarnhau a yw hyn yn ffurfio rhan o gynigion terfynol y Cyngor. 

 

           Nododd y Pwyllgor fod premiwm y Dreth Gyngor ar dai gwag ac ail gartrefi ar Ynys Môn ar hyn o bryd yn 25% o raddfa’r dreth gyngor safonol a bod hyn wedi’i ymgorffori yn ffigyrau’r Gyllideb. Nododd y Pwyllgor ymhellach, ar amser lle mae llawer iawn o bwysau ar gyllideb y Cyngor a disgwyliad i wasanaethau ddod o hyd i arbedion flwyddyn ar ôl blwyddyn, y byddai cynyddu’r premiwm yn dod â chyllid y mae angen dybryd amdano i’r Cyngor, yn enwedig er mwyn helpu’r cymunedau lleol hynny lle mae gwir angen am dai fforddiadwy er mwyn iddynt barhau’n ddichonadwy.   

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mai penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, a gadarnhawyd gan y Cyngor Llawn, oedd y dylid adolygu’r premiwm yn ystod 2018/19 er mwyn sefydlu a oedd wedi bodloni’r anghenion y cafodd ei sefydlu ar eu cyfer o ran defnydd, effeithiau a chyfraddau casglu. Er y gwrthwynebiadau cychwynnol, mae’r rhan fwyaf o’r rhai sydd angen talu’r premiwm wedi gwneud hynny, fodd bynnag mae risg y gallai ei godi olygu y bydd pobl yn gwrthod talu gan effeithio ar lefel y Dreth Gyngor a gesglir yn gyffredinol. Dyma asesiad y bydd yn rhaid ei wneud pan ddaw hi’n amser i adolygu’r cynllun.  

 

           Nododd y Pwyllgor yr argymhellir bod cyllidebau’r ysgolion yn parhau ar lefelau 2017/18 oherwydd bod angen i ysgolion ariannu’r gost o ddyfarniadau cyflog a chwyddiant o’u cyllidebau presennol. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad a oedd trefniadau wedi eu rhoi yn eu lle er mwyn cynnal asesiadau risg mewn ysgolion a llai fod mewn perygl o fethu â chydbwyso eu cyllidebau heb golli staff addysgu ac a fyddai cymorth yn cael ei gynnig i’r ysgolion hynny a’u cyrff llywodraethol gyda’u cyllidebau yn y dyfodol.  

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mai’r Pwyllgor Gwaith fydd yn penderfynu sut bydd y toriad (os caiff ei weithredu) yn cael ei ddyrannu ar draws pob sector – mae’r ffigwr o £563k yn cynnwys swm ar gyfer chwyddiant ar draws y tri sector addysgol (cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig). Ar hyn o bryd, mae gan y sector cynradd yn Ynys Môn falansau o tua £1.7 Miliwn sydd ymysg yr uchaf yng Nghymru tra yn y sector uwchradd mae un ysgol mewn sefyllfa o ddiffyg ariannol ac mae dwy yn agos i fod mewn diffyg ariannol gan olygu bod llawer mwy o bwysau ar y sector uwchradd. Mae’r trefniadau ariannu ysgolion yn nodi’r angen i bob ysgol gael ei thrin yn gyfartal gyda’r gyllideb yn cael ei dyrannu drwy fformiwla y cytunwyd arni. Nid yw’r Awdurdod yn gallu targedu cyllidebau i gefnogi ysgolion unigol sy’n profi anawsterau ariannol; mae disgwyl i ysgolion, sy’n endidau cyfreithiol ar wahân, osod eu cyllidebau eu hunain a mater iddyn nhw yw penderfynu sut y byddant yn gwneud hynny.  

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd pellach y gall y Cyngor ddarparu cymorth i ysgolion sy’n gweld bod yn rhaid iddynt leihau lefelau staff addysgu, er mwyn rheoli’r broses honno.  

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y cymorth a ddarperir i ysgolion yn glir o ran y broses. Bydd y Gwasanaeth Adnoddau Dynol yn cynghori ar unrhyw broses a allai gynnwys gorfod colli staff ac mae pecyn gwybodaeth wedi’i ddosbarthu i ysgolion i’r diben hwnnw. Mae nifer o gyfarfodydd wedi eu cynnal rhwng Penaethiaid, Cadeiryddion Cyrff Llywodraethu a Swyddogion y Cyngor er mwyn trafod trefniadau. Mae cymorth i ysgolion weithredu’r newidiadau hyn felly ar gael ac yn cael ei ddarparu. 

 

           Nododd y Pwyllgor a mynegwyd pryderon y bydd rhai ysgolion efallai wedi ysgolion wedi cyrraedd y pen ac na fydd modd iddynt wneud toriadau pellach i’w cyllidebau heb effeithio ar ansawdd yr addysg a ddarperir. Gofynnodd y pwyllgor am gadarnhad a oedd yr Awdurdod, wrth argymell toriadau i gyllidebau ysgolion, wedi ystyried yr effaith y gallai hyn ei gael ar safonau addysg mewn cyfnod lle mae pwyslais ar wella ysgolion, ansawdd y dysgu a chanlyniadau addysgol.     

 

Tra’n cydymdeimlo â’r pwynt a wnaed, tynnodd y Pennaeth Dysgu sylw at y ffaith bod rhan fwy o gyllideb y Cyngor wedi ei buddsoddi mewn ysgolion. Er bod nifer o benaethiaid ysgolion yn teimlo’n rhwystredig â’r sefyllfa a’n teimlo’n bryderus, mae canran y toriadau i ysgolion wedi bod llawer is na’r toriadau a wnaed i’r gwasanaethau canolog dros y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd y Swyddog mai’r peth diwethaf yr oedd hi am ei weld oedd ysgolion â llai o athrawon a llai o gymorthyddion dosbarth ond mae’r sefyllfa bellach wedi cyrraedd lle mae toriadau i gyllidebau canolog eraill wedi bod mor llym ei bod hi’n amhosibl i’r Cyngor symud ymlaen heb ystyried gosod toriadau ar ysgolion a gofyn iddynt wneud arbedion. Er mwyn gwarchod ysgolion yn y gorffennol, mae’r Cyngor wedi bod trwy broses o resymoli gwasanaethau addysg canolog e.e. cyllidebau glanhau’r ysgolion. Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd wedi dioddef toriadau ac mae’r ddau’n mynd trwy broses o ailstrwythuro ar hyn o bryd. Mae’n benderfyniad anodd i orfod ei wneud ac wrth wneud y penderfyniad mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried yr effeithiau posibl ar y dyfodol yn ogystal ag effeithiau peidio â gwneud y penderfyniadau hyn.  O ran safonau, mae tystiolaeth o ymchwil i faint dosbarthiadau wedi dangos nad yw maint dosbarth o reidrwydd yn cael effaith uniongyrchol ar safonau a bod safon yr arweinyddiaeth, yr addysgu a dysgu yn ffactorau llawer pwysicach na niferoedd y disgyblion mewn dosbarth.  Fodd bynnag, nid yw’r Awdurdod yn dymuno gweld gostyngiad yn nifer yr athrawon a’r staff cymorth allweddol heb fod angen; gallai camau tebyg achosi risg i ddyheadau’r Cyngor i godi safonau ar yr Ynys. Wedi dweud hynny, edrychwyd ar wahanol opsiynau i arbed arian dros y tair blynedd diwethaf; mae’r Gwasanaeth Addysg eisoes wedi gorwario mewn rhai meysydd ac mae hynny oherwydd bod y galw am wasanaethau yn parhau i dyfu tra bod cyllidebau yn lleihau. Ar ben hyn mae’r gostyngiad mewn ffynonellau eraill o gyllid megis cyllid grant addysg a’r ffaith nad oes gan y Gwasanaeth Addysg bellach unrhyw arian wrth gefn yn ganolog er mwyn gallu cau’r bwlch cyllid.   

 

           Nododd y Pwyllgor yr argymhellir bod 1% o’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn cael ei glustnodi er mwyn lleddfu ychydig ar y pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn enwedig cyllidebau’r Gwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol. Tra’n cydnabod fod rheoli cyllidebau a arweinir gan alw megis y rhain yn heriol, gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad o’r hyn yr oedd y gwasanaeth yn ei wneud er mwyn lleihau costau lleoliadau preswyl all-sirol costus. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y gwasanaeth wedi dechrau ar y broses hon; yn ddelfrydol, byddai plant y mae’r Awdurdod yn gofalu amdanynt yn cael eu lleoli ar yr Ynys ond mae diffyg lleoliadau gofal maeth yn golygu nad yw hyn bob amser yn bosibl. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn ystyried ffyrdd o hyrwyddo’r gwaith o recriwtio gofalwyr maeth yn ogystal â darparu lleoliadau ar gyfer grwpiau bach o ddim mwy na 2 o blant. Mae lleoliadau all-sirol yn angenrheidiol ar adegau ar gyfer plant sydd ag anghenion y gellir ond eu bodloni drwy ddarpariaeth arbennig nad yw ar gael yn lleol. 

 

           Nododd y Pwyllgor bod y cynigion ar gyfer arbedion yn y gyllideb yn cynnwys lleihau niferoedd staff. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd na fyddai torri niferoedd staff yn cael effaith andwyol ar barhad y gwasanaeth i’r cyhoedd a bod yr adrannau a effeithir yn ddigon gwydn i allu cefnogi’r arbediad.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwytnwch gwasanaeth yn ystyriaeth bwysig o ran lleihau niferoedd staff. Mae cynigion ar gyfer arbedion sy’n effeithio ar y cyhoedd yn cynnwys Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb sy’n ceisio asesu goblygiadau’r arbedion a gynigir. Er nad ystyrir bod y cynigion ar gyfer arbedion yn achosi risg i allu’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol, gallai effeithiau cronnus arbedion, effeithio ar ansawdd gwasanaethau yn y dyfodol. Bydd yn rhaid asesu hyn yn ofalus wrth i’r Cyngor gynllunio ei ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer y dyfodol. O ran ysgolion, mae gwariant y Cyngor ar y sector cynradd ymysg yr uchaf yng Nghymru. Tra bo rhai ysgolion yn cael anawsterau ariannol, mae eraill yn darparu addysg o safon uchel gyda’r adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae’r trefniadau cyllido ysgolion yn gyson ar gyfer yr holl ysgolion h.y. dyrennir cyllid yn ôl niferoedd disgyblion; mae disgwyliad felly bod ysgolion, yn ogystal â bod yn effeithiol, yn gwneud defnydd effeithlon o’u hadnoddau.   

  

Yn dilyn cael cadarnhad o’r arbedion arfaethedig a gyflwynwyd, gwnaed argymhelliad i’r Pwyllgor Gwaith y dylid cynyddu’r dreth Gyngor 5.2% a bod 1.2% o’r cynnydd yn cael ei glustnodi ar gyfer Gwasanaethau Plant. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod dealltwriaeth anffurfiol na ddylai awdurdodau lleol gynyddu’r Dreth Gyngor fwy na 5%; er hynny mae un awdurdod lleol yn bwriadu gwneud hynny ac yn gofyn am farn Llywodraeth Cymru ar hynny. Dywedodd y Swyddog ei fod wedi cael ar ddeall na fyddai Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu. 

 

Ni chafwyd eilydd i’r argymhelliad i’r Pwyllgor Gwaith y dylid cynyddu’r Dreth Gyngor 5.2%. 

 

Yn dilyn ystyried a thrafod y wybodaeth a gyflwynwyd ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod ac o ystyried y safbwyntiau a gyflwynwyd gan ymatebwyr i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer Cyllideb 2018/19 ac effaith y cynigion ar ddinasyddion fe BENDERFYNODD y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gefnogi ac argymell i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror, 2018 – 

 

           Y cynigion Cyllideb Refeniw a gyflwynwyd yn seiliedig ar gynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor i gynnwys cynnydd o 1% sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Gofal Cymdeithasol.

           Cyllideb cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2018/19 fel y nodir yn Nhabl 5 o Atodiad 1.

 

GWEITHRED YCHWANEGOL A GYNIGIWYD: Gwybodaeth ar wariant y Cyngor ar y sector ysgolion uwchradd i gael ei chylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor. 

Dogfennau ategol: