Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  19LPA1038/CC – Maes yr Ysgol, Caergybi

Cofnodion:

7.1 19LPA1038/CC – Cais llawn i ddymchwel garejis a chodi 4 annedd un person gyda lle parcio cysylltiedig ym Maes yr Ysgol, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2018, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. Cynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 17 Ionawr 2018.

 

Dywedodd Mr Mike Jones (yn gwrthynebu’r cais) ei fod wedi bod yn byw ym Morawelon am 68 o flynyddoedd. Dechreuwyd codi tai ym Morawelon yn y 1950au a bryd hynny, roedd yno ardaloedd gwyrdd a llecynnau agored. Dywedodd mai ychydig iawn o bobl ar stad Morawelon oedd â cheir bryd hynny ond dros y blynyddoedd, mae mwy a mwy o bobl yn berchen ar gar ac mae gwneud i ffwrdd â garejis a llecynnau parcio yn ychwanegu at nifer y ceir sy’n cael eu parcio ar y pafinau ac ar y ffordd fawr. Cyfeiriodd at y cais ym Maes yr Ysgol i ddymchwel y garejis presennol. Yn ei farn ef, byddai codi 4 annedd yn eu lle yn arwain at gynnydd yn y traffig yn yr ardal. Byddai colli’r lle parcio yn ymyl y garejis yn golygu y byddai’n rhaid i berchenogion y cerbydau sy’n cael eu parcio yno’n barod, barcio mewn llefydd eraill. Dywedodd Mr Jones bod angen dybryd am gyfleusterau parcio ym Morawelon.

 

Holodd y Pwyllgor Mr Jones yngylch materion sy’n ymwneud â’r ysgol gynradd sydd gerllaw safle’r cais a gofynnwyd a oedd y problemau parcio’n waeth ar yr adegau hynny y mae’r plant yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol. Roedd Mr Jones yn cytuno bod lefel y traffig yn uchel pan mae’r plant yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol gynradd; mae’r ffordd yn gul ac mae lorïau sy’n teithio i’r ffatri gyfagos yn gorfod mynd ar y cyrbin er mwyn pasio’r cerbydau sydd wedi parcio yno.

 

Dywedodd Mr Ned Michael (o blaid y cais) fod y Cyngor Sir wedi datblygu cynllun datblygu tai er mwyn codi tai cymdeithasol ar yr Ynys. Dywedodd mai’r cynllun hwn ym Maes yr Ysgol yw’r cynllun cyntaf y mae’r Cyngor Sir wedi ei gyflwyno yn y 40 mlynedd ddiwethaf. Mae’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy ac i leihau nifer y bobl ifanc ddigartref yng Nghymru. Llwyddodd y Cyngor Sir i gael grant gan Lywodraeth Cymru tuag at ei raglen i ddatblygu tai cymdeithasol. Cyfeiriodd at y cais a oedd gerbron y Pwyllgor a dywedodd bod 24 o garejis ar safle’r cais a bod 12 o’r rheiny’n cael eu defnyddio. Mae 7 o’r garejis hyn yn cael eu rhentio gan bobl sy’n byw ar Stad Morawelon. Mae’r cais gerbron y Pwyllgor yn un i ddymchwel y garejis a chodi 4 o anheddau unllawr i bobl sengl. Dywedodd Mr Michael fod 43 o bobl ar y rhestr dai ar hyn o bryd am anheddau i bobl sengl yng Nghaergybi. Dywedodd ymhellach y byddai hyd at 10/11 o lecynnau parcio ar gael ar y safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd R Ll Jones, Aelod Lleol, ei fod yn cefnogi’n llwyr yr angen am dai cymdeithasol, yn arbennig anheddau i bobl sengl, ond bod angen ymgynghori ynghylch lleoliad tai o’r fath. Dywedodd fod angen dybryd am lecynnau parcio yn ardal Morawelon oherwydd bod pryderon yn lleol ynghylch ceir yn parcio ar y ffordd ac ar y pafinau hefyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i ddymchwel y garejis presennol a chodi 4 annedd i bobl sengl gyda 10 o lecynnau parcio. Cafodd y cais ei ddiwygio o’r 7 llecyn oherwydd pryderon yn lleol mewn perthynas â chyfleusterau parcio yn yr ardal. Mae’r cynllun a gyflwynwyd yn wreiddiol hefyd wedi cael ei ddiwygio o ran yr effaith ar eiddo cyfagos ac mae’r unedau bellach wedi cael eu lleoli ar hyd ffin y safle gyda’r ysgol gynradd gyfagos. Dywedodd y cynhaliwyd yr ymweliad safle pan oedd y plant yn gadael yr ysgol yn y prynhawn ac nad oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes y cynhaliwyd yr ymweliad safle am 3.00p.m. – dim ond y plant ieuengaf oedd wedi gadael yr ysgol bryd hynny a bod yr adeg brysuraf yn digwydd ar ôl 3.30pm pan mae’r rhan fwyaf o’r plant yn gadael yr ysgol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod parcio yn broblem yn y rhan fwyaf o’r ysgolion cynradd ar yr adegau prysuraf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond fod stad Morawelon yn ardal boblog iawn gyda nifer o strydoedd bychan sydd â phroblemau parcio. Yn ei farn ef, roedd nifer o dai gwag yn ardal Morawelon y gellid eu haddasu’n anheddau i bobl sengl. Yn ei farn ef, roedd y cais hwn yn or-ddatblygiad. Mae problemau traffig yn yr ardal eisoes a dylid gwrthod y cais.

 

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Dabtlygu Priffyrdd) bod y cais wedi cael ei asesu o safbwynt diogelwch ar y ffordd, yr un modd ag unrhyw gais cynllunio arall. Nid yw’r Awdurdod Priffyrdd ag unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun ar yr amod bod amod priffyrdd safonol yn cael ei gynnwys mewn perthynas â chyfleusterau parcio.

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE ei fod ef o’r farn y dylai’r awdurdod ystyried datblygu tai cymdeithasol ar dir sydd ar gael yn sgil cau tair ysgol yng Nghaergybi yn ddiweddar fel rhan o’r Rhaglen Foderneiddio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes ei fod yn cefnogi’r rhaglen o adeiladu tai cymdeithasol oherwydd mae angen dybryd am dai o’r fath ar yr Ynys ar gyfer pobl ifanc. Er ei fod yn cydymdeimlo gyda’r aelodau lleol mewn  

perthynas â’r cais hwn, roedd o’r farn bod y rhan fwyaf o ardaloedd yn cael eu heffeithio gan broblemau parcio yn ymyl ysgolion. Oherwydd nad yw’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith ar eiddo cyfagos, cynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond ei fod yntau hefyd yn cefnogi’r cynllun i aelodau tai cymdeithasol ond roedd o’r farn y byddai’r cais hwn yn arwain at or-ddatblygiad yn yr ardal ac yn creu problemau traffig. Cynigiodd y Cynghorydd Redmond y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Glyn Haynes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac amod ychwanegol mewn perthynas â gwaith cloddio.

Dogfennau ategol: