12.1 11LPA1039/CC/TPO – Maesllwyn, Amlwch
12.2 14C83D – Cae’r Delyn, Bodffordd
12.3 19LPA434E/CC – Canolfan Jessie Hughes, Caergybi
12.4 20LPA1040/CC – Traeth Mawr, Cemaes
12.5 28LPA1035A/CC – Ffordd Llechi, Rhosneigr
12.6 34LPA1013C/CC – Stâd Ddiwydiannol Llangefni, Llangefni
12.7 39LPA589Q/CC – Ysgol David Hughes, Porthaethwy
12.8 39C592 – 2 Glanrafon, Lôn Cei Bont, Porthaethwy
12.9 45C313E – Stâd Ty Gwyn, Niwbwrch
Cofnodion:
12.1 11LPA1039/CC/TPO – Cais am waith i goed pisgwydd, ynn a masarn a ddiogelir gan Orchymyn Cadw Coed ym Maesllwyn, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o’r cais ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod nifer o goed ym Maesllwyn, Amlwch wedi cael eu difrodi yn ystod storm fawr yn 2017 ac y bydd angen gwneud gwaith diogelu ynghyd â thorri 2 goeden. Mae’r coed mewn grŵp clos iawn ac nid oes digon o oleuni i blannu coed newydd rhyngddynt ac o’r herwydd nid yw ail-blannu’n cael ei argymell ac nid oes amod ychwaith i’r perwyl hwnnw.
Gofynnodd y Cynghorydd Richard O Jones a fyddai modd hefyd clirio’r llwybr ger safle’r cais oherwydd mae tyfiant o safle’r cais wedi achosi difrod i’r llwybr.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai’n trosglwyddo’r cais hwnnw i’r ymgeisydd.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard O Jones y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 14C83D – Cais llawn i godi dwy annedd ac adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir ger Cae'r Delyn, Bodffordd
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cyflwynwyd y cais yn wreiddiol yn 2015 dan Bolisi 50 y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r Awdurdod Cynllunio wedi bod yn disgwyl am fanylion ynghylch materion draenio a pherchenogaeth y tir gan yr ymgeisydd ond ni chafwyd unrhyw ymateb. Nododd fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi cael ei fabwysiadu erbyn mis Gorffennaf 2017 ac nad yw’r cais hwn bellach yn cydymffurfio gyda pholisi TAI15 o ran y ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Dywedodd fod pryderon yn lleol o ran cyfleusterau parcio ar y safle ynghyd â phryderon am y modd y bydd y dŵr yn llifo oddi ar y tir.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Richard O Jones.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
12.3 19LPA434E/CC – Cais llawn i godi ffens yng Nghanolfan Jessie Hughes, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n ei gyflwyno.
Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 20LPA1040/CC – Cais llawn ar gyfer lleoli dau fwi morwrol ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys plinth cerrig a seddi - Traeth Mawr, Cemaes
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n ei gyflwyno.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben tan 8 Chwefror 2018 a gofynnodd am i’r Swyddogion gael yr hawl i weithredu yn dilyn y cyfnod o ymgynghori cyhoeddus os nad oes unrhyw sylwadau wedi cyrraedd yr adran.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais a rhoi grym i’r Swyddog weithredu ar ôl i'r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.
12.5 28LPA1035A/CC – Cais llawn am 21 o leoedd parcio talu ac arddangos ar dir ger Ffordd Llechi, Rhosneigr
Nodwyd bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.
12.6 34LPA1013C/CC – Cais llawn i greu mynediad i gerbydau oddi ar Ran 3 o'r ffordd gyswllt ar dir i'r de o Stad Ddiwydiannol Llangefni, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n ei gyflwyno.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un am fynedfa ychwanegol oddi ar y ffordd gyswllt a gymeradwywyd i gae amaethyddol. Dywedodd bod angen ychwanegu amod sy’n ymwneud ag ecoleg at unrhyw ganiatâd a roddir.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard O Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac amod ychwanegol sy’n ymwneud ag ecoleg.
12.7 39LPA589Q/CC – Cais llawn i newid y defnydd a wneir o gwrt tennis er mwyn creu maes parcio ynghyd â goleuadau cysylltiedig yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n ei gyflwyno.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i newid defnydd y cyrtiau tennis yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy yn gyfleusterau parcio. Dywedodd bod yr Uned Ddraenio a Dŵr Cymru wedi ymateb bellach gyda’r gofynion arferol o safbwynt safonau. Mae’r Adran Briffyrdd hefyd wedi dweud nad oes ganddynt wrthwynebiad i’r cais. Dywedodd y Swyddog hefyd bod ymgynghoriad yn digwydd gyda Chyngor Chwaraeon Cymru o ran colli cyfleuster chwaraeon ar y safle. Nid yw’r ymgynghoriad yn dod i ben tan 14 Chwefror 2018 a gofynnodd i’r Swyddogion gael yr hawl i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori os nad oes unrhyw sylwadau wedi cyrraedd yr adran.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais a rhoi grym i’r Swyddog weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori gyda Chyngor Chwaraeon Cymru ddod i ben ynghylch colli cyfleuster chwaraeon ar safle'r cais.
12.8 39C592 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir ger 2 Glanrafon, Lôn Cei Bont, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd modd i’r Aelod Lleol, sef y Cynghorydd Robin Williams fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ei fod ar gwrs hyfforddi ar ran y Cyngor. Darllenodd ddatganiad a dderbyniwyd gan y Cynghorydd Williams a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ymweld â’r safle oherwydd gorddatblygu a phroblemau traffig; mae Cyngor Tref Porthaethwy hefyd yn gwrthwynebu’r cais oherwydd gorddatblygu.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid ymweld â safle’r cais ac fe eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.
PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.
12.9 45C313E – Cais llawn i godi 6 annedd fforddiadwy ar dir yn Stad Ty Gwyn, Niwbwrch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Aelod Lleol, sef y Cynghorydd Peter Rogers wedi galw’r cais i mewn oherwydd nad yw Rhan 1 y datblygiad, sef y goleuadau a ffordd y stad wedi cael ei chwblhau. Dywedodd ei bod ar ddeall nad yw’r datblygwr wedi medru cwblhau Rhan 1 y datblygiad oherwydd na fedr symud i ymlaen i ail ran y safle. Mae’r egwyddor o ddatblygiad preswyl o 6 uned eisoes wedi ei sefydlu ar y safle. Mae’r cais hwn am 6 o anheddau preswyl a chafwyd ar ddeall mai cymdeithas dai, sef Grŵp Pennaf, fydd yn gyfrifol am y safle. Nododd y bydd yn rhan o gynllun grantiau’r Adran Dai ar gyfer adeiladu llety rhent a bod yr adran yn cefnogi’r datblygiad hwn. Diweddarodd adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor oherwydd nad yw Cyngor Cymuned Rhosyr wedi cyflwyno unrhyw wrthwynebiad i’r cais.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng yr Awdurdod Priffyrdd a’r datblygwyr mewn perthynas â’r trefniadau draenio a pharcio ar y safle. Mae cytundeb Adran 38 wedi cael ei sefydlu dan y Ddeddf Priffyrdd o ran Rhan 1 Stad Tŷ Gwyn. Bydd angen ychwanegu amod at unrhyw gais a ganiateir mewn perthynas â dŵr wyneb a threfniadau parcio. Dywedodd y Swyddog bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu ar yr amod y rhoddir pwerau dirprwyedig i’r Swyddogion drafod gyda’r datblygwr y materion sy’n ymwneud â dŵr wyneb a’r trefniadau parcio ar ddwy ran y datblygiad.
Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers fod ganddo bryderon difrifol ynghylch y datblygiad hwn yn Stad Tŷ Gwyn, Niwbwrch. Nid oes goleuadau stryd digonol ar gyfer Rhan 1 y datblygiad ac mae pobl eisoes yn byw yn y tai hynny ac nid yw ffordd y stad wedi ei chwblhau chwaith. Dywedodd fod datblygwyr yn talu ‘bond adeiladu’ i fynd i’r afael â’r fath ddiffygion ar safleoedd datblygu. Cyfeiriodd y Cynghorydd Rogers at sylwadau’r Awdurdod Priffyrdd yn yr adroddiad a dywedodd bod raid i’r datblygwyr lynu wrth yr amodau deddfwriaethol a oedd ynghlwm wrth ganiatáu’r stad yn Tŷ Gwyn. Dywedodd hefyd ei fod yn gwbl gefnogol i adeiladu cartrefi fforddiadwy ond y dylai darparu lle chwarae fod yn amod wrth gymeradwyo datblygiadau o’r fath. Gofynnodd y Cynghorydd Rogers i’r Pwyllgor wrthod y cais hwn hyd oni fydd Rhan 1 datblygiad Stad Tŷ Gwyn wedi ei chwblhau.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen delio gyda’r cais a gyflwynwyd i’r cais hwn ar ei rinweddau ei hun ac ar wahân i Ran 1 y gwaith ar Stad Tŷ Gwyn. Dywedodd fod trafodaethau wedi cael eu cynnal tuag at ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ynghylch materion draenio a phriffyrdd ac y disgwylir manylion y trafodaethau hyn. Dywedodd bod dwy ran y datblygiad yn gysylltiedig a bod angen rhoi sylw i faterion draenio a phriffyrdd. Cyfeiriodd y Swyddog at y sylwadau a wnaed gan yr Aelod Lleol ynghylch rhoi amod mewn perthynas â lle chwarae ynghlwm wrth y datblygiad a bod raid cael 10 neu fwy o anheddau i fynnu ar amod am le chwarae.
Gofynnodd y Cynghorydd Shaun Redmond a fyddai’n briodol gohirio’r cais er mwyn caniatáu i’r Swyddogion fynegi pryderon y Pwyllgor i’r datblygwr nad yw Rhan 1 y cynllun yn Stad Tŷ Gwyn wedi cael ei gwblhau a bod angen cwblhau’r gwaith cyn cychwyn ar Ran 2 y gwaith. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gofynnwyd i’r Pwyllgor ddirprwyo grym i’r Swyddogion drafod materion gyda’r datblygwr cyn rhyddhau caniatâd cynllunio ar gyfer y cais.
Mynegodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y byddai’r gwaith ar y ffordd a’r goleuadau ar y stad yn parhau i fod yn anghyflawn petai caniatâd yn cael ei roddi. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai’r gweithdrefnau gorfodaeth sydd ar gael dan y Rheoliadau Cynllunio a Phriffyrdd yn cael eu gweithredu petai’r sefyllfa honno’n codi.
Dywedodd y Cynghorydd John Griffiths y byddai’n cynnig cymeradwyo’r cais ond rhaid cael sicrwydd gan y datblygwyr y bydd y ffordd a’r goleuadau ar y
stad yn cael eu cwblhau. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a rhoi pwerau dirprwyol i’r Swyddog drafod materion dŵr wyneb a threfniadau parcio gyda’r datblygwr cyn rhyddhau'r caniatâd cynllunio.
Dogfennau ategol: