Eitem Rhaglen

Polisi ar gyfer Cymorth Dewisol tuag at y Dreth Gyngor

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn ymgorffori Polisi Cymorth Dewisol tuag at y Dreth Gyngor ar gyfer ei argymell i’r Cyngor Llawn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Adran 13A, isadrannau (1)(c);(6) a (7), Deddf Cyllid Llywodraeth 1992 (yn unol ag Adran 10 Deddf Llywodraeth Leol 2012) yn rhoi’r pŵer i awdurdod bilio ostwng y dreth sy'n daladwy fel a ganlyn yn yr amgylchiadau a nodwyd yn yr adroddiad. Mae hyn yn golygu, y gall Cyngor Sir Ynys Môn roi cymorth dewisol mewn perthynas ag unrhyw swm dreth gyngor sy'n ddyledus, hyd yn oed os yw'r Cyngor wedi dyfarnu gostyngiad eisoes o dan ei Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor trwy Adran 13A, isadran (1) (b). Hyd yma, nid yw’r Cyngor llawn wedi mabwysiadu unrhyw Bolisi Cymorth Dewisol o’r fath ar gyfer y Dreth Gyngor ac, felly, nid oes unrhyw drefniadau dirprwyo wedi'u cymeradwyo gan y Cyngor llawn i ystyried ceisiadau o'r fath. Ar hyn o bryd byddai'n rhaid i’r Cyngor llawn ystyried pob cais yn unigol. Yn wyneb sylwadau a wnaed yn ystod y misoedd diwethaf mewn perthynas â phobl ifanc sy’n gadael gofal a rhai dosbarthiadau o eiddo lle mae gwaith atgyweirio’n cael ei wneud i ddod â nhw i fyny i safon lle gall pobl fyw ynddynt ac y mae’r premiwm Dreth Gyngor yn berthnasol iddynt, ynghyd ag eiddo a effeithiwyd gan y tywydd garw yn ddiweddar, cynigir y dylid cyflwyno polisi o’r fath. Byddai’r polisi yn y pen draw yn darparu cymorth i’r rheiny sy’n wynebu’r caledi ariannol mwyaf eithafol a byddai ar wahân i, ac yn annibynnol ar Gynllun Gostyngiadau Treth Gyngor y Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith argymell ar gyfer ei gymeradwyo gan y Cyngor, eithriad neu ostyngiad o ran y Dreth Gyngor ar gyfer yr holl bobl ifanc yn y sir sy’n gadael gofal ac sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd a nodir yn y polisi arfaethedig a chymeradwyo hefyd eithriad rhag gorfod talu’r Dreth Gyngor am fynod hwy na’r un a ganiateir ar hyn o bryd dan ddeddfwriaeth y Dreth Gyngor mewn amgylchiadau ble mae eiddo yn wag oherwydd fod gwaith strwythurol yn cael ei wneud arno er mwyn ei wneud yn addas i rywun fyw ynddo. Bydd angen i’r Cyngor hefyd benderfynu a ydyw am ddirprwyo i’r Swyddog Adran 151 a’r Pwyllgor Gwaith, yn y drefn honno, yr awdurdod i ddelio gyda cheisiadau a dderbynnir dan y polisi ac unrhyw newidiadau i’r polisi hwnnw yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd argymell i Gyngor Sir Ynys Môn (y Cyngor llawn) ei fod, yn y cyfarfod ar 28 Chwefror 2018 –

 

  cymeradwyo Polisi Cymorth Dewisol tuag at y Dreth Gyngor o dan adran 13A (1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (DCLlL 1992) - fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad.

  ei fod yn dirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith y pŵer i ddiddymu, ailddeddfu a / neu ddiwygio ei Bolisi Cymorth Dewisol tuag at y Dreth y Cyngor.

   ei fod yn dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 benderfynu ar geisiadau a wnaed o dan adran 13A(1)(c) o DCLlL 1992 ac unrhyw ddiwygiad neu ailddeddfiad ohoni, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw ganllawiau polisi a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol / Llywodraeth Cymru, y Cyngor llawn neu'r Pwyllgor Gwaith.

Dogfennau ategol: