Eitem Rhaglen

Cynllun Ariannol y Tymor Canol a'r Gyllideb 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn cynnwys y cynigion manwl ar gyfer cyllideb refeniw 2018/19 a’r effaith a gaiff ar gyllideb refeniw Cyngor Sir Ynys Môn. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad o’r Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol sy’n darparu cyd- destun ar gyfer gweithio ar gyllidebau’r Cyngor ar gyfer y dyfodol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith wneud argymhellion terfynol i’r Cyngor Sir fel y gall fabwysiadu cyllideb ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y broses a arweiniodd at y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb 2018/18 wedi bod yn un hir, heriol ond cynhwysfawr a rhaid diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses y tu mewn a’r tu allan i’r Cyngor ac yn enwedig staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith caled a’u proffesiynoldeb drwy gydol y broses. Cafodd y cynigion cychwynnol mewn perthynas â’r gyllideb eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar 6 Tachwedd, 2017; cyhoeddwyd y rhain ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 7 Tachwedd, 2017. Roedd y cynigion yn seiliedig ar gynnydd o 0.1% yn setliad refeniw dros dro Llywodraeth Cymru sy’n cyfrif am y rhan fwyaf o gyllid y Cyngor ac er bod y setliad yn well na’r disgwyl, nid oedd yn ddigonol i bontio’r bwlch cyllido. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei setliad terfynol ym mis Rhagfyr 2017 ac roedd cyfanswm yr AEF yn £95.8m - cynnydd o £0.888m (0.7%) o gymharu â’r ffigwr dros dro ond roedd yn parhau i adael y Cyngor â diffyg yn y gyllideb. Gan fod y rhan fwyaf o gostau’r Cyngor yn ymwneud â staff, bydd y codiad cyflog eleni, y disgwylir iddo fod oddeutu 2.5% i 3% yn cael effaith ar y gyllideb; yn ychwanegol at hyn, mae cyllidebau’r gwasanaethau dan bwysau ac mae’r pwysau mwyaf difrifol ar gyllideb y Gwasanaeth Plant a chyllideb All-sirol y gwasanaeth addysg. Roedd y cynigion cyllidebol drafft yr ymgynghorwyd arnynt yn nodi arbedion posibl oddeutu £3.3m; wedi ystyried yr adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus a’r materion a godwyd yn ei sgil, mae’r cynigion ar gyfer arbedion wedi cael eu diwygio yn y modd a nodir yn adran 10.1 Atodiad 1 mewn modd sy’n rhoi sylw i’r pryderon mwyaf a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.  Mae’r newidiadau a wnaed yn gostwng cyfanswm yr arbedion a gynigiwyd i £2.522m. Yn Adran 12 yr adroddiad, ceir diweddariad ar y Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol yn wyneb y setliad gwell ynghyd â setliadau posibl yn y dyfodol. Fodd bynnag, oherwydd yr ansicrwydd ynghylch setliadau ar ôl 2018/19 a’r anhawster o ran gwneud rhagamcanion cywir, mae adran 12 yn amlinellu dau fodel posibl - y senario achos gwaethaf yn Nhabl 9 lle rhagwelir arbedion o £5.26m dros y tair blynedd nesaf, a’r senario achos gorau yn Nhabl 10 lle mae’r angen am arbedion dros yr un cyfnod yn gostwng i £2.8m gyda’r ddau achos yn dibynnu ar y newidiadau i’r Cyllid Allanol Cyfun (AEF) a’r pwysau cyllidebol a chwyddiant ar y pryd. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Cyllid at adran 10.3 Atodiad 1 sy’n nodi’r opsiynau ar gyfer dyrannu’r arbedion cyllidebol o £490k a ohiriwyd o’r gyllideb a ddatganolwyd i’r ysgolion o 2017/18, a chynigiodd y dylid rhannu’r arbedion ar draws y sectorau ysgolion yn seiliedig ar lefel y balansau ar 31 Mawrth, 2017 sef yr ail o’r pedwar opsiwn. Roedd y gyllideb derfynol a gynigiwyd ar gyfer 2018/19  yn £130.945 wedi ei chyllido drwy AEF o £95.812m a chynnydd o 4.8% yn y Dreth Gyngor. Mae’r cynnydd o 4.8% yn y Dreth Gyngor yn golygu y bydd cynnydd o £52.20 i £1,140.21 ym Mand D y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19 sy’n parhau i gymharu yn ffafriol gydag awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru. Cynigir ymhellach bod y cyllid a gynhyrchir gan y cynnydd o 0.8% yn y Dreth Gyngor, h.y. uwchlaw’r cynnig cychwynnol o 4%, yn cael ei ddyrannu i’r Gwasanaethau Plant fel cyfraniad tuag at y costau cynyddol y mae’r gwasanaeth yn eu hwynebu o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei fod, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru a nodir yn yr adroddiad, o’r farn bod y cyllidebau a gynigir yn rhai cadarn y mae modd eu cyflawni. Ategodd sylwadau’r Aelod Portffolio drwy ddweud er bod y sefyllfa’n ymddangos yn well na’r un a ragwelwyd i ddechrau gyda’r setliad terfynol yn uwch na’r disgwyl, nid yw’r cyllid ychwanegol yn ddigonol i gwrdd â’r costau a’r pwysau cynyddol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu ar ffurf chwyddiant cyffredinol, chwyddiant/codiadau cyflog, cyfrifoldebau ychwanegol a thoriadau mewn cyllid grant penodol. Nid oes dewis gan y Cyngor ond parhau i geisio gwneud i fyny am y diffyg drwy gynyddu’r Dreth Gyngor ac mae hyn yn ymestyniad o’r tueddiad a welwyd yn y blynyddoedd diwethaf lle mae cyfran gynyddol o gyllid y Cyngor yn dod o drethi lleol,  sef y Dreth Gyngor. Mae peth ansicrwydd ynghylch cyllidebau yn y dyfodol fel yr amlinellir yn Atodiad 1 sy’n cynnig dwy senario bosibl ar gyfer y dyfodol. Mae llawer yn dibynnu ar lefel y cyllid a ddyrennir gan y Llywodraeth Ganolog i Lywodraeth Cymru ac yna ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran dosbarthu’r arian hwnnw. Yn ogystal, mae ansicrwydd ynghylch costau tâl yn y dyfodol; mae codiadau cyflog llywodraeth leol wedi cael eu cyfyngu i 1% ers nifer o flynyddoedd ac mae pwysau yn awr i godi’r cap; o ganlyniad, mae’r Cyngor yn paratoi ar gyfer codiad cyflog o 3% yn 2018/19 ac o bosib yn 2019/20 (heb gynnwys cyflogau athrawon). Dywedodd y Swyddog nad oedd o’r herwydd yn gweld unrhyw arwydd y bydd yr angen i wneud arbedion yn ysgafnhau; i’r gwrthwyneb, oherwydd wrth i’r angen i wneud arbedion barhau, daw yn gynyddol anodd i ddod o hyd iddynt. Nid yw’r strategaeth hir sefydlog o wneud toriadau ac arbedion effeithlonrwydd yn ddigon mwyach; bydd raid i’r Cyngor edrych ar y gwasanaethau y mae’n eu darparu a’r modd y gall barhau i’w darparu. Dros y tair blynedd nesaf, mae’n bosib y bydd raid i’r Cyngor ddod o hyd i arbedion rhwng £3m a £6m, os bydd codiadau cyflog yn uwch na’r disgwyl, gallai’r arbedion angenrheidiol fod hyd yn oed yn uwch.

 

Wrth ystyried y wybodaeth, nododd y Pwyllgor Gwaith yr isod –

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod agenda llymder Llywodraeth Ganolog, sydd wedi bod yn weithredol ers nifer o flynyddoedd, yn cael effaith wirioneddol erbyn hyn ac mai’r opsiynau a gyflwynwyd yw’r gorau y gall y Cyngor ei wneud mewn sefyllfa gynyddol anodd lle mae cyllidebau’n gostwng a phwysau’n cynyddu. Y dewis arall yn hytrach na chynyddu’r Dreth Gyngor yw torri ymhellach ar wasanaethau ac mae’r Cyngor yn awyddus i osgoi gwneud hynny. Dyma’r sefyllfa y mae’n rhaid i’r Cyngor ymdopi â hi ac mae’n ceisio gwneud ei orau ac, ar yr un pryd, leihau i’r eithaf yr effaith ar y trethdalwyr.

  O safbwynt yr ymgynghoriad cyhoeddus a’r mewnbwn gan gydranddeiliaid a Sgriwtini, nododd y Pwyllgor Gwaith ei fod wedi adolygu’r rhestr o arbedion arfaethedig mewn ymateb i farn y cyhoedd ac wedi diwygio’r cynigion yn unol â hynny. Mae wedi nodi ac ymateb i’r pryderon penodol a godwyd mewn perthynas ag addysg, cludiant ysgol, cymorth grant i grwpiau cymunedol a gwaith trwsio a chynnal a chadw mewn ysgolion.

  Nododd y Pwyllgor a dygodd sylw at y ffaith fod nifer o grantiau yn cael eu cyfuno ac/neu eu cymathu yn y setliad refeniw cyffredinol i’r Cyngor ond bod y cymorth grant, wrth ei gymathu, mewn gwirionedd yn cael ei dorri, e.e. mae’r Grant Gwaredu Gwastraff, yn sgil cael ei ymgorffori yn y setliad wedi gostwng 20% ac mae’r Grant Gwella Addysg wedi gostwng 8%.

   Nododd y Pwyllgor Gwaith fod codiad cyflog y Cyflogwr yn 2% ar gyfer yr holl staff sydd ar bwynt 20 ac uwch ond ei fod yn sylweddol uwch i staff sydd ar raddfeydd cyflog is ac yn 9.19% ar gyfer staff ar bwynt cyflog 6.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y cyfrifiadau yn y Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol (MTFP) fel y’u cyflwynwyd ym mis Medi, 2017, yn seiliedig ar gynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor dros gyfnod y cynllun; mae’r MTFP wedi ei ddiweddaru’n seiliedig ar gynnydd o 5% am yr un cyfnod. Mae’r cynnydd wedi cael ei ddiwygio at i fyny er mwyn cydnabod y pwysau cynyddol ar gyllidebau’r Cyngor a’r awydd i barhau i warchod gwasanaethau i bobl fregus i’r graddau y mae adnoddau’n caniatáu hynny. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach bod y trothwy answyddogol o 5% ar gynnydd yn y Dreth Gyngor dan bwysau yn awr gyda rhai cynghorau yng Nghymru yn ystyried cynnydd uwchlaw’r trothwy hwn.

  Nododd y Pwyllgor Gwaith, er fod y Cyngor yn parhau i ymdrechu i wella ei berfformiad gyda llai o adnoddau, nid yw toriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn yn gynaliadwy yn y tymor hir; rhaid bod diwedd ar y gostyngiadau mewn cyllid i lywodraeth leol.

 

Penderfynwyd –

 

  Nodi'r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb ac ystyried yr adborth a gafwyd yn eu sgil ac fel yr amlinellir yn Adran 2, Atodiad 1 ac yn Atodiad 2;

  Nodi'r crynodeb yn Adran 11 ac Atodiad 5 ar oblygiadau’r cynigion cyllidebol o safbwynt cydraddoldebau;

  Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor gan gynnwys y cyllid diwygiedig mewn ymateb i’r pwysau ar y gyllideb a’r arbedion arfaethedig fel y dangosir nhw yn Adran 10 Atodiad 1 ac Atodiad 3;

  I benderfynu sut mae’r arbedion ar gyllidebau ysgolion dirprwyedig, a ohiriwyd o 2017/18, yn cael eu dyrannu ar draws y 3 sector. Byddai hyn yn dyrannu’r arbedion fel a ganlyn: £399,940 i’r sector cynradd; £53,460 i’r sector uwchradd;

£36.600 i’r sector ysgolion arbennig.

 

  Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 bod o leiaf £6.5m yn cael ei gadw ym malansau'r Gronfa Gyffredinol ar gyfer 2018/19;

  Nodi’r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed fel y cânt eu hamlinellu yn Adran 8, Atodiad 1.

  Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir a’r cynnydd yn lefel y Dreth Gyngor o ganlyniad, gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol yn cynnwys y Praeseptau i Heddlu Gogledd Cymru a'r Cynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 28 Chwefror, 2018.

  Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i'r Cyngor.

  Cytuno fod unrhyw gyllidebau a arweinir gan y galw ac y bydd pwysau annisgwyl arnynt yn ystod y flwyddyn ariannol yn gallu tynnu ar gyllid o’r cyllidebau hapddigwyddiadau cyffredinol.

  Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol wedi’i hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn.

  Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 y pŵer i ryddhau hyd at £50k o’r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol ar gyfer unrhyw un eitem. Ni chaniateir cymeradwyo unrhyw eitem dros £50k heb gael caniatâd ymlaen llaw gan y Pwyllgor Gwaith;

  Argymell cynnydd o 4.8% yn y Dreth Gyngor i'r Cyngor.

Dogfennau ategol: