Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Seiriol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ailgyflunio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol ynghyd ag argymhellion ar gyfer symud ymlaen gyda hynny.

 

Rhoes yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant adroddiad ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd o 20 Tachwedd, 2017 hyd 6 Chwefror, 2018 a oedd wedi cynnwys cyfarfodydd gyda staff, llywodraethwyr a rhieni yn Ysgol Llangoed, Ysgol Biwmares ac Ysgol Llandegfan. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn niferus; roedd yr adroddiad yn nodi'r negeseuon o'r sylwadau a wnaed gan randdeiliaid yn y tair ysgol yn ogystal â'r ymatebion i'r arolwg ar-lein. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at yr argymhellion a wnaed yn dilyn y broses ymgynghori sy’n cynnwys cau Ysgol Biwmares; gofynnir i'r Pwyllgor Sgriwtini ystyried y rhain ac argymell i’r Pwyllgor Gwaith eu mabwysiadau yn ei gyfarfod a gynhelir ar 26 Mawrth, 2018. Eglurodd yr Aelod Portffolio fod yr Awdurdod wedi ymrwymo i foderneiddio ei ysgolion fel rhan o, ac yn unol â, Rhaglen Gyfalaf Ysgolion  21ain Ganrif Llywodraeth Cymru 21, sef rhaglen y mae’r Awdurdod a’r Weinyddiaeth yn ei chefnogi ar sail y gyrwyr ar gyfer newid a ddisgrifir yn yr adroddiad ymgynghori. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae'r Cyngor yn cydnabod bod moderneiddio addysg a sicrhau bod ei adeiladau ysgol yn creu amgylchedd dysgu dymunol sy'n ysgogi plant a phobl ifanc i ddod yn ddysgwyr effeithiol a datblygu sgiliau bywyd, yn flaenoriaeth uchel.

Dywedodd yr Aelod Portffolio, er y gall y broses ymddangos yn gymharol syml, codwyd materion arwyddocaol yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae'n amlwg o weithredu'r rhaglen foderneiddio ar yr Ynys hyd yma bod rhai ysgolion wedi gorfod cau fel bod eraill yn gallu datblygu ac, mewn rhai achosion, fel y gall ysgolion newydd sbon gymryd eu lle. Cydnabu'r Aelod Portffolio nad yw cau ysgol yn benderfyniad hawdd i'w ystyried nac i'w gymryd ond weithiau, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau o'r fath ac mae hwn yn un o’r achlysuron hynny. Os yw'r Awdurdod am fod yn gyson â'r egwyddorion moderneiddio y mae wedi'u gweithredu hyd yn hyn, mae'n rhaid iddo gario ymlaen a chymryd penderfyniadau anodd. Serch hynny, mae'r Awdurdod wedi ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ac yn cydnabod bod hwn yn fater sy'n creu teimladau ac emosiynau cryf ymhlith rhieni am ei fod yn ymwneud ag addysg eu plant. Fodd bynnag, mae'r argymhellion a wnaed yn seiliedig ar y casgliadau y daethpwyd iddynt, er eu bod yn cynnwys cau Ysgol Biwmares, yn mynd y tu hwnt i'r un ysgol honno ac yn cymryd i ystyriaeth anghenion addysgol ardal Seiriol yn ei chyfanrwydd.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod yr adroddiad ymgynghori yn ceisio rhoi crynodeb o'r ymatebion i'r broses ymgynghori statudol a gynhaliwyd - mae Rhan 4 yr adroddiad yn crynhoi prif sylwedd y sylwadau o'r cyfarfodydd ymgynghori yn y tair ysgol. Mae Adran 5 yr adroddiad yn nodi'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr ymatebwyr o Ysgol Biwmares sydd, ar y cyd, yn adlewyrchu teimlad cryf y dylai Ysgol Biwmares aros ar agor. Yn ogystal â'r 58 ymateb a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, derbyniwyd deiseb electronig a lofnodwyd gan 543 o bobl a deiseb bapur a lofnodwyd gan 363 o bobl ac a gyflwynwyd i'r Cyngor Llawn ar 28 Chwefror, 2018. Mae'r ddwy ddeiseb yn mynegi gwrthwynebiad pendant i'r bwriad i gau Ysgol Biwmares. Derbyniwyd amrediad o ohebiaethau fel y cânt eu rhestru yn cynnwys llythyr gan Gorff Llywodraethol Ysgol Biwmares yn cynnwys 7 atodiad, un ohonynt yn Asesiad Effaith Gymunedol ac un arall yn gyfres o bedwar o opsiynau amgen sydd wedi'u rhestru fel A i D yn y dadansoddiad yn adran 5.18 yr adroddiad. Gan ddefnyddio’r un meini prawf sgorio â’r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer yr opsiynau gwreiddiol, dywedodd y Swyddog fod Opsiwn A yn sgorio 71 tra bod Opsiynau, B, C a D i gyd yn sgorio oddeutu 77 sy'n dod â nhw’n agos at yr opsiynau a ffefrir a sgoriodd 79. Mae'r Awdurdod hefyd wedi ystyried yr Asesiad Effaith Gymunedol a luniwyd gan Bwyllgor Ymateb Ysgol Biwmares i’r Ymgynghori; ac yn Atodiad 10 yr adroddiad, nodir yr ymatebion cymharol ohono a’r arolwg a gynhaliwyd gan yr Awdurdod, ac mae'r rhain yn dangos sut mae gwahanol grwpiau targed y ddau arolwg wedi arwain at ganlyniadau gwahanol. Mae'r asesiad effaith gymunedol gan y grŵp lleol a ganolbwyntiodd yn bennaf ar ymateb rhanddeiliaid Biwmares yn dangos bod 95% o'r ymatebwyr yn anghytuno â chau Ysgol Beaumaris tra bod asesiad effaith gymunedol yr Awdurdod yn canolbwyntio ar randdeiliaid o'r tair ysgol sydd dan ystyriaeth yn ardal Seiriol ac yn nodi bod nifer y rhai sy'n anghytuno â chau Ysgol Biwmares yn agosach at 47%. Dywedodd y Swyddog fod Adran 6 yr adroddiad yn amlinellu ymatebion Ysgol Llandegfan tra bod adran 7 yn cyfeirio at yr ymatebion gan Ysgol Llangoed.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Emma Taylor, Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Biwmares, Rhian Jones, Cadeirydd Pwyllgor Ymateb i Ymgynghoriad Ysgol Biwmares a'r Cynghorydd Jason Zalot, Maer Tref Biwmares a rhannwyd eu sylwadau nhw a sylwadau cymuned Biwmares ar y cynigion i foderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol. Pwysleisiwyd y gwrthwynebiad gwirioneddol sydd yn y gymuned i’r bwriad i gau Ysgol Biwmares, ac yng ngoleuni hyn, a'r effaith andwyol ddifrifol iawn y byddai cau'r ysgol yn ei chael ar dref Biwmares, roeddent yn annog y Pwyllgor i argymell bod y cynnig naill ai'n cael ei wrthod neu’n cael ei ohirio hyd ar gyfer ystyriaeth bellach. Wrth wneud eu sylwadau, daethant â’r materion canlynol hefyd i sylw'r Pwyllgor –

 

           Bod Corff Llywodraethol Ysgol Biwmares wedi gweithio'n galed gyda'r Pwyllgor lleol a sefydlwyd i Ymateb i'r Ymgynghoriad, cynghorwyr lleol, rhieni a staff yr ysgol i ddatblygu a chynhyrchu 4 o opsiynau amgen a chredadwy yn lle’r hyn a gynigir gan yr Awdurdod. Gwnaed hyn ar ôl derbyn sicrwydd yn ystod y cam ymgynghori anffurfiol y byddai'r Awdurdod yn ystyried opsiynau eraill. Gallai'r opsiynau amgen sy’n cael eu cyflwyno achub dyfodol Ysgol Biwmares a byddai tri o’r opsiynau yn golygu y byddai’r tair ysgol yn yr ardal oll yn aros ar agor. At hynny, o dan y system sgorio a ddefnyddiwyd gan yr Awdurdod, roedd yr holl opsiynau amgen a gynigiwyd yn sgorio rhwng 70 a 80 o bwyntiau, sef yn gyfartal â'r opsiynau sgôr uchaf a gynhyrchwyd gan yr Awdurdod.

           Nid yw'n glir a yw’r opsiynau hyn wedi cael eu hystyried o ddifrif, sy'n siomedig o ystyried y gwaith y mae hyn wedi ei olygu a’r gefnogaeth iddynt. Dylid edrych arnynt yn yn fanwl a’u cynnwys yn llawn yn y broses ymgynghori. Mae’n esgeulus ar ran y Cyngor i daro golwg sydyn drostynt yn unig ac nid yw'n gwneud dim i leddfu’r amheuon bod y penderfyniad i gau Ysgol Biwmares wedi cael ei wneud o'r cychwyn cyntaf.

           Bod yr Awdurdod wedi cynnal yr ymgynghoriad lleiaf posibl ac nad yw'n gwrando ar bryderon y gymuned nac yn ateb y cwestiynau a godwyd yn yr ymgynghoriad. Mae'r Arolwg ar yr Effaith Gymunedol yn dangos yn glir y rhan bwysig y mae'r ysgol yn ei chwarae ym mywyd y gymuned, y pryderon sydd gan bobl am golli eu hysgol a'r effaith negyddol y byddai hyn yn ei gael ar y dref gyfan. Mae'r ysgol yn rhan annatod o'r gymuned; y bwriad yw ei chau a cheisio integreiddio cyfleuster Gofal Ychwanegol ar y safle nad yw'r dref ei eisiau. Mae hyn wedi gwneud pobl yn ddig.

           Bod Biwmares yn wynebu'r posibilrwydd o fod yr unig dref ar yr Ynys heb ysgol gyda'r goblygiadau sydd ynghlwm wrth hynny o safbwynt ei thwf a’i ffyniant yn y dyfodol. Nid yw'r dref wedi derbyn llawer o gymorth i greu cyflogaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth iau i aros yno. Yn lle hynny, mae'r dref wedi colli gwasanaethau, mae cyfleoedd ar gyfer tai cymdeithasol wedi cael eu rhwystro ac mae’n wynebu cael cyfleuster a fydd yn dod â mwy o bobl sydd wedi ymddeol i'r dref.

           Mae'r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn nodi gofynion penodol mewn perthynas â chynigion sy’n ymwneud ag ad-drefnu ysgolion. Mae'n nodi fod rhaid i’r cynigydd, o fewn 13 wythnos i ddiwedd y cyfnod ymgynghori, gyhoeddi adroddiad ymgynghori sy'n crynhoi pob un o'r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion, sy'n ymateb i'r rhain trwy gynnig eglurhad, newid y cynnig neu wrthod y pryderon gyda rhesymau i gefnogi hynny ac sydd hefyd yn nodi barn Estyn. Nid yw barn Estyn yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad ymgynghori a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Sgriwtini er bod y Côd yn mynnu hynny ac er ei fod wedi'i wneud yn glir o'r blaen fod barn Estyn yn ffactor arwyddocaol yn yr achos dros newid.

           Nid yw'r adroddiad Ymgynghori yn bodloni'r meini prawf penodol iawn a nodir yn y Côd. Dylai'r Awdurdod felly gymryd amser i baratoi dogfen fwy cynhwysfawr sy'n bodloni gofynion y Côd.

           Er bod cofrestr risg wedi cael ei chreu mewn perthynas â’r cynigion ar gyfer newid, nid yw'r ddogfen yn egluro sut y bydd y rhain yn cael sylw, gan gynnwys y risg y byddai rhieni'n dewis anfon eu plant i ysgolion heblaw Ysgol Llangoed neu Ysgol Llandegfan. 

           Nad yw'r ddogfen yn nodi costau ariannol manwl y cynnig i ad-drefnu gan gynnwys yr arbedion refeniw a fyddai’n deillio o'r cynigion.

           Mewn ardaloedd eraill lle mae ysgol wedi cau, cynigwyd ysgolion newydd mawr i leddfu’r ergyd; nid dyma'r achos yn ardal Seiriol er bod Biwmares yn ddewis amlwg ar gyfer ysgol newydd.

           Rhaid cofio y bydd y penderfyniad yn arwain at ganlyniadau yn y pen draw, ac y bydd y canlyniadau hynny’n ymestyn y du draw i ystyriaethau addysgol yn unig ac y byddant yn effeithio ar y dref a'r gymuned am flynyddoedd i ddod.

Eglurodd y Pennaeth Dysgu nad oedd ymateb Estyn i'r cynigion wedi ei dderbyn hyd yma ac y bydd yn mynd ar ôl hynny. Dywedodd fod y Gwasanaeth yn cydnabod bod teimladau cryf yn y gymuned ynglŷn â'r cynigion, ac er bod yr Awdurdod wedi ceisio crynhoi'r ymatebion a dderbyniwyd mewn modd sydd mor deg â phosib yn yr adroddiad ymgynghori, cydnabyddir, oherwydd nifer yr ymatebion a dderbyniwyd, nad oes modd adlewyrchu pob sylw yn unigol.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Lewis Davies ac Alun Roberts fel Aelodau Lleol. Cyflwynodd y Cynghorydd Lewis Davies 12 gwestiwn yn gofyn am eglurhad ynghylch rhai o'r materion a godwyd gan y gymuned, llywodraethwyr yr ysgol a’r cyngor tref gan gynnwys y rhai y cyfeirir atynt uchod ac eraill mewn perthynas â’r defnydd o adeilad yr ysgol wedi iddi gau; datblygiadau posib ar y safle yn ychwanegol at y cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol; gofynion y CDLl ar y Cyd mewn perthynas â Biwmares fel canolfan gwasanaethau lleol a nodwyd; ystyried statws Biwmares fel tref a bwrdeistref frenhinol; cadernid y broses ymgynghori a chyfranogiad rhanddeiliaid; y cynlluniau ar gyfer darparu’r gwasanaethau heblaw am rai addysgol sydd ar hyn o bryd yn cael eu darparu o'r ysgol; effaith ar yr ôl troed carbon yn sgil y traffig cynyddol rhwng y cartref a’r ysgol (plant yn gorfod teithio i lefydd eraill) pe byddai'r ysgol yn cau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, er bod y cynigion yn ymddangos yn rhesymol yn seiliedig ar ystadegau moel, maent yn annerbyniol yn ei farn ef ar sail Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau weithio gyda chyrff eraill i greu cymunedau hyfyw, cadarn a llwyddiannus; cymunedau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, tegwch a chydlyniant a lle mae'r Gymraeg yn ffynnu - ni fydd hyn yn bosib os bydd Ysgol Biwmares yn cau. I'r gwrthwyneb, os bydd yr ysgol yn cau, bydd yn dinistrio'r gymuned. Er bod y ddarpariaeth addysgol yn Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan o ansawdd uchel, mae'r pentrefi yn eithaf anghysbell ac nid yw’r cysylltiadau ffyrdd ymysg y gorau. Mae trigolion Biwmares felly'n fwy tebygol o ymarfer eu dewis fel rhieni yn seiliedig ar eu gwaith a phatrymau eu bywydau, gan olygu y bydd llawer yn edrych ar ysgolion yn ardal Bangor, yn enwedig gan fod cynlluniau ar y gweill ar gyfer dwy ysgol newydd yn y ddinas sy’n ei gwneud yn ddeniadol o ran addysg a hwylustod. Ychwanegodd yr Aelod Lleol nad yw ward Seiriol yn unffurf neu'n gydlynol ei natur; mae'r tair cymuned sy'n ffurfio’r ward yn wahanol iawn sy’n golygu nad yw cadw dwy ysgol yn agored a chau Ysgol Biwmares yn ymarferol neu’n ddichonadwy. Ateb gwell fyddai cadw Ysgol Biwmares ar agor a defnyddio'r cyfle y bydd datblygu cyfleuster gofal Ychwanegol ar yr un safle yn ei greu o ran sefydlu menter ar gyfer pontio’r cenedlaethau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddatganiad (a ddarllenodd allan) a wnaed gan y Cynghorydd Carwyn Jones, y trydydd Aelod Lleol na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn oherwydd ei fod yn mynychu cynhadledd niwclear ar ran y Cyngor. Roedd y datganiad yn cyfeirio at ymateb ffurfiol y Cynghorydd Jones fel un o'r tri Aelod Lleol ar ran ward Seiriol ac sy'n cael ei atgynhyrchu yn yr adroddiad o dan Atodiad 3 (sy'n cynnwys datganiad o ddiddordeb y mae wedi derbyn caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau yn ei gylch i gymryd rhan yn y trafodaethau ar y mater hwn). Dywedodd yr Aelod Lleol ei fod, yn ystod yr ymgynghoriad, wedi gwneud sylwadau cryf iawn ar gyfer ymchwilio i bob ffordd bosib o gadw'r tair ysgol ar agor. Mae'n cyfeirio at y ffaith fod trefi yn ganolog i strategaethau cynllunio lle a bod trefi angen ysgolion. Mae rhagamcanion y dyfodol ar gyfer niferoedd disgyblion yn dda iawn ac mae'r twf posib yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy pan ystyrir y datblygiadau mawr ar yr Ynys. O gofio bod llawer o ansicrwydd ynghylch y newidiadau poblogaeth y gall Ynys Môn fod yn eu hwynebu dros y deng mlynedd nesaf, mae Ysgol Biwmares yn cynnig capasiti addysgol y gall bod angen amdano ymhen ychydig flynyddoedd. Felly, mae'r Aelod Lleol yn awgrymu na ddylai'r Awdurdod wneud unrhyw beth am rŵan hyd oni fydd mwy o wybodaeth ar gael ynghylch y modd y mae’r niferoedd yn debbygol o ddatblygu a chadw'r capasiti yng nghornel De ddwyreiniol yr Ynys.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid, er bod y teimladau yn erbyn cau Ysgol Beaumaris wedi'u gwneud yn glir a’u bod yn ddealladwy, mae'r Awdurdod hefyd yn gorfod ystyried Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan yng nghyd-destun anghenion addysgol ardal Seiriol yn ei chyfanrwydd. Y llun sydd wedi cael ei bortreadu yw un o ddyfodol cadarnhaol lle mae Ysgol Biwmares yn aros ar agor, ond mae’r realiti yn wahanol. Mae llai na 50 o ddisgyblion yn Ysgol Beaumaris ar hyn o bryd, sef ysgol a gafodd ei hadeiladu ar gyfer 240 o ddisgyblion ac sydd â lle ar hyn o bryd i 160 o blant. O ran y 12 cwestiwn a gyflwynwyd gan un o'r Aelodau Lleol, dywedodd yr Aelod Portffolio y byddai wedi bod yn ddefnyddiol cael rhybudd ohonynt ymlaen llaw er mwyn gallu ymateb yn llawnach iddynt. Fodd bynnag, ni fedrir rhoi ateb pendant rŵan i lawer o'r materion a godwyd oherwydd nad oes penderfyniad wedi'i wneud, ac o’r herwydd, nid yw'r gwaith manwl a fyddai o reidrwydd yn dilyn penderfyniad wedi'i wneud eto. Dywedodd fod yr opsiynau amgen a gyflwynwyd gan Gorff Llywodraethol Ysgol Biwmares wedi cael eu hystyried, ond nad oedd yn gallu gweld eu bod yn disodli’r cynigion a argymhellwyd gan yr Awdurdod.

 

Roedd y Pennaeth Dysgu yn cyd-fynd â'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod Portffolio a dywedodd nad oedd hi'n bosib ymateb iddynt mewn ffordd ystyrlon a gwybodus yn y cyfarfod oherwydd nad oedd wedi gweld y cwestiynau a ofynnwyd ymlaen llaw. Fodd bynnag, roedd hi'n cydnabod y bydd angen ymchwilio ymhellach i nifer o faterion a chadarnhaodd y byddai hi'n sicrhau y bydd datganiad a / neu atodiad ar gael i fynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau a godwyd. Eglurodd ymhellach fod y wybodaeth ariannol yn y ddogfen ymgynghori yn seiliedig ar yr amcangyfrifon gorau sydd ar gael ar hyn o bryd a bod y ddogfen ymgynghori anstatudol yn cynnwys gwybodaeth lawnach oherwydd ei bod yn nodi'r costau ar gyfer yr holl opsiynau a gyflwynwyd ar yr adeg honno, gan gynnwys costau cyfalaf, costau cludiant, arbedion refeniw ac arbedion net, derbyniadau cyfalaf, cost net y prosiect, costau benthyca a chostau blynyddol. Mae'r costau amlinellol a gynhwysir fel rhan o'r ddogfen a gyflwynwyd i'r cyfarfod heddiw yn cyfeirio at yr arbedion net sy'n deillio o weithredu'r argymhelliad o ran cau Ysgol Biwmares yn unig.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar ac fe wnaed y pwyntiau canlynol –

 

           Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod cau ysgol yn gynnig anodd a di-groeso; nododd y Pwyllgor ei fod yn deall cryfder y teimlad yng nghymuned Biwmares mewn ymateb i'r argymhelliad i gau ysgol gynradd y dref.

           Nododd y Pwyllgor y codwyd nifer o faterion yn ystod y cyfarfod a bod nifer ohonynt yn parhau i fod heb eu hateb.Nododd y Pwyllgor y bydd rhai materion yn dod yn fwy eglur unwaith y bydd y gwaith manwl yn dechrau ar ôl gwneud y penderfyniad; nododd y Pwyllgor hefyd fod angen ymchwilio ymhellach i faterion eraill cyn gwneud penderfyniad.

           Nododd y Pwyllgor mai un o'r gyrwyr am newid yw'r angen i sicrhau cyflenwad digonol o Benaethiaid ar gyfer y dyfodol. Nododd y Pwyllgor ymhellach fod y ddogfen ymgynghori statudol yn datgan y bydd 50% o brifathrawon cynradd yr Awdurdod yn ymddeol yn ystod y pum mlynedd nesaf. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch sut y daethpwyd at y ffigwr hwnnw a holodd ynghylch trefniadau cynllunio olyniaeth yr Awdurdod i fynd i'r afael â'r posibilrwydd hwn. Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod hwn yrrwr ar gyfer newid yn y strategaeth wreiddiol a gyflwynwyd yn 2012. Erbyn hyn, mae 36% o brifathrawon ysgolion cynradd yr Awdurdod dros 50 mlwydd oed; mae nifer o benaethiaid wedi ymddeol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf a disgwylir y bydd mwy yn gwneud hynny yn y 5 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd, mae un ar ddeg o ysgolion cynradd yn rhannu Pennaeth ac mae trefniadau rheoli ar y cyd ar waith mewn nifer o ysgolion cynradd eraill. Mae'r Awdurdod wedi bod yn cael anawsterau recriwtio penaethiaid ysgolion cynradd; mae rhaglen wedi'i sefydlu i fynd i'r afael â'r sefyllfa ac mae proffil oedran penaethiaid ysgolion cynradd yr Awdurdod bellach wedi gostwng. Yn ogystal, ac yr un mor arwyddocaol yw'r angen i gynyddu capasiti o ran arweinyddiaeth. Mae ysgolion effeithiol yn cael eu harwain yn dda. Mae ar Bennaeth angen amser digyswllt digonol i roi sylw i safonau rheoli, ansawdd ac addysg. Mae hyn yn llawer anoddach mewn ysgolion llai lle mae penaethiaid mewn gwirionedd yn yr ystafell ddosbarth 80% o'r amser. Dywedodd y Swyddog fod yr Awdurdod wedi bod yn gweithio ar gynlluniau olyniaeth yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf a dyna’r rheswm pam y mae’n gallu cwrdd â’i rwymedigaethau ar hyn o bryd. Mae deunaw o benaethiaid ifanc ar yr Ynys wedi ennill cymhwyster CPCP yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae hyn o ganlyniad i gynlluniau olyniaeth yr Awdurdod. Mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i wneud popeth a all i roi cyfle i unigolion ymgymryd â chyfrifoldebau yn arbennig o ran cyfleoedd ffederaleiddio meddal ac mae'r broses hysbysebu'n adlewyrchu hyn; fodd bynnag, un o'r heriau mwyaf yw perswadio penaethiaid i ddod yn benaethiaid ysgolion bach oherwydd yr ymrwymiadau addysgu y mae'n rhaid iddynt eu cymryd mewn ysgolion llai.

           Nododd y Pwyllgor fod y broses o foderneiddio ysgolion yn yr achos hwn yn golygu cau ysgol a symud ei disgyblion i'r ddwy ysgol arall sydd yn yr ardal sydd yn gyfystyr â’u trosglwyddo. Nododd y Pwyllgor fod y broses ad-drefnu mewn rhai ardaloedd eraill o'r Ynys wedi arwain at ysgol newydd; gofynnodd am eglurhad ar y rhesymau pam nad yw cynllun tebyg yn cael ei gynnig ar gyfer ardal Seiriol. Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod ysgol ardal newydd ymhlith yr 20 opsiwn gwreiddiol yn y ddogfen ymgynghori anstatudol ; nid aethpwyd ar ôl yr opsiwn hwn oherwydd nid ystyriwyd y byddai'n datrys y sefyllfa, nid yn lleiaf oherwydd bod dod o hyd i safle addas ar gyfer y disgyblion o'r tair ysgol yn broblemus; nid dyna oedd yr ateb mwyaf cost-effeithiol yn yr achos hwn.

           Nododd y Pwyllgor nad yw'r ddogfen ymgynghori statudol yn cynnig achos ariannol cynhwysfawr ar gyfer y datrysiad a gynigiwyd o ran moderneiddio; crynodeb byr yn unig a geir o’r ystyriaethau ariannol. Eglurodd y Pennaeth Dysgu bod yr achos busnes ar gyfer yr holl gynigion moderneiddio yn cael eu llunio yn nes ymlaen yn y broses. Yr hyn sydd ar gael yw canlyniadau'r gwaith a wnaed ar y cyd â'r Gwasanaeth Cyllid sy'n amcangyfrifon bras o’r costau; ni fedr yr Awdurdod fynd yn bellach na hyn hyd oni fydd manylion terfynol am leoliad yr ysgol yn hysbys. Cafodd cymhariaeth o gostau pob opsiwn a ystyriwyd eu cynnwys yn y ddogfen ymgynghori anstatudol.

           Nododd y Pwyllgor fod elfen o ansicrwydd, ac felly o risg yn gysylltiedig â thybio y bydd rhieni yn ffafrio Ysgol Llangoed neu Ysgol Llandegfan petai Ysgol Biwmares yn cau oherwydd mae’n bosibl y byddent yn penderfynu anfon eu plant i ysgolion mewn ardaloedd eraill. Nododd y Pwyllgor nad yw'r adroddiad ymgynghori yn nodi beth fyddai'r canlyniad pe bai rhieni yn dewis peidio ag anfon eu plant i Ysgol Llangoed neu Ysgol Llandegfan na'r effaith y byddai hynny yn ei gael ar y ddwy ysgol honno. Felly, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a oedd yr Awdurdod wedi gwneud asesiad o’r effaith petai rhieni yn dewis peidio ag anfon eu plant i Ysgol Llangoed neu Ysgol Llandegfan. Dywedodd Pennaeth Dysgu fod yr Awdurdod yn ceisio diweddaru'r asesiad effaith yn rheolaidd ym mhob cam o'r broses, gan olygu bod y math yma o waith asesu effaith yn mynd rhagddo’n barhaus. Dywedodd y Swyddog, er bod pa ysgol y bydd y 263 o ddisgyblion yn yr ardal yn ei mynychu dros y 4 i 5 mlynedd nesaf yn fater o ddewis i'r rhieni, mae hefyd yn fater i'r Awdurdod fel y gall gynllunio'r dalgylch, a dyna’r rheswm dros yr argymhelliad i adolygu'r dalgylch cyfredol. Gan mai’r Awdurdod yw'r Awdurdod Mynediad, gall rhieni wneud cais i symud eu plant i ysgol wahanol ar yr amod fod lle ar gael yn yr ysgol y maent wedi ei dewis. Mae'r Awdurdod yn ceisio edrych ar yr achosion amrywiol a’r effaith ar y dalgylch cyfan pe bae hynny’n digwydd.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar ddemograffeg yr ardal o ran nifer y plant sy'n derbyn eu haddysg y tu allan i'r ardal a nifer y plant sy'n dod i'r ardal i gael eu haddysg. Nododd y Pwyllgor y gallai amodau'r farchad a ffactorau economaidd ar ffurf prisiau tai a rhenti uchel ym Miwmares ddylanwadau ar y dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud. Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod 14% yn mynychu Ysgol Biwmares o'r tu allan i'r dalgylch; 37% yn Ysgol Llandegfan a 30% yn Ysgol Llangoed. O ran niferoedd, mae 9 o blant yn gadael dalgylch Ysgol Llandegfan ar gyfer eu haddysg tra bod 53 yn dod i mewn i'r dalgylch; ar gyfer Ysgol Llangoed mae 25 yn dod i mewn a 29 yn gadael; ar gyfer Ysgol Biwmares mae 5 yn dod i mewn a 34 yn gadael. Mae hwn yn ffactor sydd wedi arwain at y sefyllfa y mae Ysgol Beaumaris ynddi yn awr.  

           Nododd y Pwyllgor fod yr Aelod Cynulliad ynghyd â'r Aelod Seneddol dros Ynys Môn wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r bwriad i gau Ysgol Biwmares yn ystod y dyddiau diwethaf. Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod derbyn sylwadau / gohebiaeth gan yr AC a’r AS ac eraill yn ystod y dyddiau diwethaf yn siom i'r Awdurdod gan y byddai disgwyl i'r mynegiadau hynny o bryder fod wedi'u gwneud yn ystod y cyfnod ymgynghori, nid wedyn. Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn ystyried pob mater a godwyd a bydd yn ceisio sicrhau bod y Pwyllgor Gwaith yn gallu gwneud penderfyniad gyda’r holl ffeithiau wrth law.  

           Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd, pe bai Ysgol Biwmares yn cau, a chan gofio nifer y rhieni sy'n gweithio ac sy'n dibynnu arni, y byddai'r ddarpariaeth ar gyfer plant ysgol meithrin h.y. clybiau brecwast a chlybiau gofal cyn ac ar ôl ysgol yn parhau yn yr ysgolion eraill .Dywedodd y Pennaeth Dysgu mai uchelgais yr Awdurdod yw sicrhau darpariaeth briodol cyn belled ag y bo modd ar gyfer yr holl ystodau oedran ar yr un safle. Fodd bynnag, mae'r Awdurdod yn ymwybodol bod darpariaeth Cylch Meithrin a WPPA ar hyn o bryd yn gweithredu o safle Ysgol Biwmares; felly byddai'n rhaid i'r Awdurdod ystyried yn ofalus y ddarpariaeth ar gyfer yr ystod oedran hon ochr yn ochr â'r cynlluniau ar gyfer plant oedran ysgol statudol.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr y pwyntiau canlynol –

 

           Bod dyletswydd a chyfrifoldeb ar yr Awdurdod i roi sylw i farn rhanddeiliaid yn ardal Seiriol yn ei chyfanrwydd. Er bod y sylwadau a wnaed yn y cyfarfod hwn wedi canolbwyntio ar anghenion Biwmares, mae'n debyg y byddai trigolion Llangoed a Llandegfan hefyd wedi gallu gwneud achos cadarn dros ddiogelu'r ddarpariaeth addysg yn eu hardaloedd.

           Yn 2012 fe wnaeth Estyn hi’n glir nad oedd yr Awdurdod yn cymryd camau digonol i fynd i'r afael â’r broblem lleoedd gwag yn ei ysgolion, sef un o'r rhesymau dros roi’r Gwasanaeth Addysg yn Ynys Môn mewn mesurau arbennig ar yr adeg honno. Mae canran uchel o leoedd gwag yn Ysgol Biwmares ac mae hynny, yn ei dro, yn cyfrannu at nifer y lleoedd gwag yn Seiriol ac mae'n sail i ailystyried y ddarpariaeth addysg yn yr ardal.

           Mae Llywodraeth Cymru ac Estyn yn nodi bod ysgol gyda llai na 150 o ddisgyblion yn cael ei hystyried yn ysgol fach. Mae gan Ysgol Biwmares ac Ysgol Llangoed, gyda’i gilydd, rhyw 110 o ddisgyblion sy’n golygu nad ydynt yn cwrdd â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru ac Estyn yn ei ddisgwyl o ysgol yr 21ain ganrif sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

           Codwyd pryderon hefyd pan gyflwynwyd y syniad o ysgol ardal newydd ar gyfer Caergybi oherwydd roedd hynny’n golygu addasu safle Cybi a’r ysgol bresennol. Mae'r ysgol hon bellach ar agor ac wedi sefydlu. Byddai unrhyw waith ailwampio yn Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan yn cael ei wneud gyda golwg ar ddod â nhw i fyny at y safonau a ddisgwylir o Ysgolion yr 21 ain Ganrif a byddai'n cyfateb i'r safonau a geir mewn ysgol newydd.

           Pan drafodwyd y ddogfen ymgynghori anstatudol ar foderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol mewn cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Sgriwtini, dywedwyd bod canran uchel o rieni yn dewis peidio ag anfon eu plant i'r ysgol leol ym Miwmares; mae hyn yn ffactor yn yr hafaliad ac mae'n wir i ryw raddau ar gyfer ardal ehangach Seiriol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y newidiadau canlynol i argymhellion y Swyddogion fel y’u nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig –

 

           Gohirio gwneud penderfyniad er mwyn caniatáu mwy o amser i adolygu ac i asesu'r effaith ar y gymuned ac, yn ogystal, i ffurfio grŵp rhanddeiliaid i edrych yn fanwl ar ffyrdd eraill o liniaru'r risgiau yn yr ardal.

           Bod ysgol gynradd yn cael ei chadw ar y safle presennol ym Miwmares ar y sail bod y rhagamcanion o ran niferoedd disgyblion yn dangos y bydd cynnydd yn y dyfodol.

           Bod yr ysgol gynradd ar y safle presennol ym Miwmares yn cael ei chadw a'i hintegreiddio gyda'r cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol i greu model newydd lle mae disgyblion a dinasyddion hŷn yn gweithio gyda'i gilydd ac yn rhannu profiadau.

 

Yn y bleidlais ddilynol, roedd y mwyafrif o Aelodau'r Pwyllgor yn cefnogi’r gwelliant cyntaf. Felly, dywedodd y Cadeirydd, na fyddai angen pleidleisio ar yr ail a’r trydydd gwelliant oherwydd fod y Pwyllgor, wrth gefnogi'r gwelliant cyntaf, yn derbyn bod y broses yn destun cyfnod o saib ac adolygiad. Dylid ystyried unrhyw gynigion pellach ar ôl i'r adolygiad gael ei gynnal.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd, y sylwadau a wnaed, ac oherwydd lefel y pryder a fynegwyd a nifer y materion a oedd yn nhŷb y Pwyllgor, yn parhau i fod heb eu hateb, PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod y penderfyniad ar foderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol yn cael ei ohirio er mwyn rhoi mwy o amser i adolygu ac i asesu'r effaith ar y gymuned, a hefyd i ffurfio grŵp rhanddeiliaid i edrych yn fanwl ar ffyrdd eraill o liniaru'r risgiau yn yr ardal.

Dogfennau ategol: