Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ailgyflunio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig) ynghyd ag argymhellion ar gyfer symud ymlaen.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd o 26 Medi, 2017 hyd 13 Tachwedd, 2017, a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda staff, llywodraethwyr a rhieni Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig. Mae'r adroddiad yn crynhoi'r sylwadau o'r cyfarfodydd ymgynghori yn ogystal ag atborth gan  disgyblion y ddwy ysgol. Dywedodd yr Aelod Portffolio, yn seiliedig ar y casgliadau y daethpwyd iddynt yn dilyn y broses ymgynghori statudol, fod 5 o argymhellion yn cael eu cyflwyno er ystyriaeth y Pwyllgor a bod y rhain eto yn anffodus, yn golygu cau ysgol.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, yn yr achos hwn, fod mwyafrif yr ymatebion wedi dod gan randdeiliaid yn Ysgol Talwrn, a bod hynny i’w ddisgwyl o ystyried y bod yr ysgol dan fygythiad o gael ei chau. Mae'r cynigion wedi cael eu diwygio ychydig o gymharu â'r rhai yr ymgynghorwyd yn wreiddiol arnynt oherwydd ar ôl asesu'r sefyllfa mewn perthynas ag Ysgol y Graig, ystyriwyd bod angen bloc neu adeilad newydd i'r ysgol yn hytrach na dim ond estyniad i’r adeilad a dod â dai disgyblion o Ysgol Talwrn i’r safle presennol. Cafodd nifer o gynigion amgen eu cyflwyno yn ystod y cyfnod ymgynghori gan gynnwys defnyddio Ysgol Talwrn i hyfforddi penaethiaid; moderneiddio neu adeiladu ysgol newydd yn Nhalwrn neu uno Ysgol Talwrn gyda naill ai Ysgol Llanbedrgoch neu Ysgol Pentraeth. Fodd bynnag, ar ôl ystyried yr holl gyflwyniadau a'r holl sylwadau a gafwyd, mae'r Awdurdod yn argymell y dylid nodi’r cynigion fel y'u nodir yn yr adroddiad.

 

Anerchodd Mr Islwyn Humphreys (Corff Llywodraethol Ysgol Talwrn) a Bethan Wyn Jones (Grŵp Rhieni a Thrigolion) ill dau y Pwyllgor yn lleisio eu barn nhw a barn cymuned Talwrn ar y cynigion mewn perthynas ag Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Pwysleisiodd y ddau wrthwynebiad cryf Corff Llywodraethol Ysgol Talwrn a chymuned Talwrn i'r bwriad i gau ysgol y pentref a gofynnodd y ddau am i’r cynigion gael eu hailystyried. Wrth gyflwyno eu sylwadau, tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y pwyntiau canlynol –

 

           Ar hyn o bryd nid oes ond 6 lle gwag yn Ysgol Talwrn. Adeiladwyd pedwar tŷ yn ddiweddar yn yr ardal ac mae teuluoedd yn y rhan fwyaf ohonynt.  Yn ogystal, mae teulu o 6 wedi symud i'r pentref yn ddiweddar ac mae'r plant yn mynychu Ysgol Talwrn.

           Mae safonau addysg yn Ysgol Talwrn yn dda. Mae gan yr ysgol Bennaeth ifanc a brwdfrydig sy'n parhau i adeiladu ar lwyddiannau'r ysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae gan yr ysgol record ragorol o ran datblygu elfennau personol, cymdeithasol a lles addysg y plant. Mae'r ysgol hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o gyflawniad yn CA2 ac o ran canlyniadau, mae ymysg y goreuon o ysgolion Ynys Môn yn CA2.

           Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn nodi bod gan blant yr hawl i roi eu barn ac i'r farn honno gael ei chlywed.Mae'r plant yn Ysgol Talwrn wedi mynegi tristwch ynghylch y posibilrwydd y bydd yr ysgol yn cau ac maent yn bryderus ynghylch hyn.

           Mae asesiad yr Awdurdod yn dod i’r canlyniad fod Ysgol Talwrn yn ddrud i'w rhedeg. Mae hyn oherwydd blynyddoedd o ddiffyg buddsoddiadyn yr ysgol.

           Oherwydd natur y ffordd a diffyg llwybr troed, mae yna bryderon gwirioneddol ynglŷn â diogelwch disgyblion sy'n teithio adref i Dalwrn o Ysgol y Graig yn enwedig yn dilyn gweithgareddau ar ôl ysgol.

           Nid oes unrhyw Gynllun Busnes wedi'i gyflwyno i gefnogi'r cynigion nac ychwaith yr arbedion y rhagwelir y bydd yn deillio ohonynt. Yn y pen draw, bydd cymeradwyo’r cynnig yn costio oddeutu £650k i’r Awdurdod ac yn gosod baich ar genedlaethau'r dyfodol gydag ymrwymiad 50 mlynedd a fydd yn gorfod cael ei dalu 20 mlynedd ar ôl cwblhau'r adeilad arfaethedig.

           Un o amcanion Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017-22 yw sicrhau bod dinasyddion Ynys Môn yn ffynnu ac yn cyflawni eu potensial - ni fydd hyn yn cael ei wireddu trwy gau ysgol gymunedol. Mae trigolion Talwrn yn dymuno gweld cymuned hyfyw a naturiol Gymreig gyda phobl o bob oedran lle mae mewnfudwyr yn cael eu hintegreiddio i deulu Talwrn.

           Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050; ni fydd cau ysgol gynradd lle siaredir Cymraeg yn helpu i ddenu pobl i’r ardal nac yn cyfrannu at gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith Gymraeg.

           Nid yw'r ddogfen ymgynghori statudol yn gwneud cyfiawnder â'r 108 o lythyrau o wrthwynebiad i'r bwriad i gau Ysgol Talwrn

           Nid yw Asesiad Effaith Gymunedol yr Awdurdod yn adlewyrchu effaith wirioneddol cau Ysgol Talwrn ar y gymuned fel y tystiwyd i hynny gan y llythyrau a dderbyniwyd gan ystod o gymdeithasau.

           Mae’r cynnig yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu hintegreiddio'n effeithiol; mae'r cynnig yn golygu y bydd mwy o gyfleusterau'n cael eu rhoi i dref y mae ei seilwaith a’i hamrediad o wasanaethau eisoes yn helaeth tra'n amddifadu trigolion Talwrn ohonynt.

           Mae’r wybodaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor i'w alluogi i lunio barn yn anghywir, yn hen ac nid yw’n gytbwys.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at e-bost a dderbyniodd oddi wrth Mr Tony McQuire Jones a anfonwyd hefyd at Mr Mark Isherwood, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru. Mae'r e-bost yn cyfeirio at Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy'n golygu fod rhaid i'r Awdurdod, o fewn 13 wythnos i'r cyfnod a ganiateir ar gyfer ymatebion neu cyn cyhoeddi'r cynigion, gyhoeddi adroddiad ymgynghori sy'n crynhoi pob un o'r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion, gan ymateb i'r rhain gydag esboniad,diwygio'r cynigion, gwrthod y pryderon gyda rhesymau i gefnogi hynny a nodi safbwynt Estyn ynglŷn â rhinweddau cyffredinol y cynigion. Roedd Mr McQuire Jones yn gofyn pam fod y materion a godwyd yn yr ymgynghoriad yn ogystal ag ymateb Estyn i'r ymgynghoriad wedi cael eu gadael allan o’r adroddiad ymgynghori.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, yw'n bosibl rhestru'r holl wrthwynebiadau yn y ddogfen ymgynghori oherwydd y byddai hynny'n ei gwneud yn rhy hir, serch hynny, mae'r holl ymatebion ac atodiadau ar gael. Mae'r ddogfen ymgynghori yn ceisio crynhoi sylwedd yr ymatebion a gafwyd. O ran Estyn, yr un modd â'r ymgynghoriad a drafodwyd yn  yr eitem flaenorol, ni chafwyd ymateb gan Estyn i'r ymgynghoriad hyn yma. Bydd yr Awdurdod yn gwneud ymholiadau.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a Dylan Rees fel Aelodau Lleol.Tynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts sylw at bryderon mewn perthynas â diogelwch disgyblion Ysgol y Graig yn ystod y cyfnod adeiladu / addasiadau; y trefniadau ar gyfer integreiddio'r bloc newydd arfaethedig gyda'r adeilad presennol fel eu bod yn gweithredu fel un ysgol a'r trefniadau ar gyfer darparu adnoddau ychwanegol a / neu wasanaethau parhaus. Er bod y cynigion a gyflwynwyd yn well na’r rhai a gyflwynwyd yn wreiddiol i'r graddau y mae'r Awdurdod wedi cydnabod y farn leol bod angen adeilad ychwanegol, nid ydynt yn ddelfrydol. Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod y sefyllfa yn Llangefni yn wahanol i honno yn yr ardaloedd eraill lle gweithredwyd rhaglen moderneiddio ysgolion, a hynny oherwydd nad oes digon o leoedd ysgol yn Llangefni (yn hytrach na gormod). Cyfeiriodd at yr her bosibl wrth geisio integreiddio plant o ysgol wledig fach fel Ysgol Talwrn i ysgol dau floc fwy fel Ysgol y Graig lle bydd y wynebau a'r lleoliad yn anghyfarwydd a cheisio, ar yr un pryd, sicrhau lles a gwytnwch y plant. Dywedodd fod Ysgol Talwrn yn ildio llawer ar gyfer y broses foderneiddio. Cyfeiriodd hefyd at gymwysterau gwyrdd Ysgol y Graig a allai gael eu heffeithio gan fewnlifiad o ychwaneg o ddisgyblion yn teithio i'r ysgol a'r sefyllfa sydd eisoes yn broblemus o ran parcio yn yr ysgol a’r ardal o’i h amgylch. Gan fod Ysgol y Graig ei hun yn adeilad gweddol newydd, gofynnodd am sicrwydd mai’r cynigion hyn yw’r ateb iawn y tro hwn ar gyfer yr ardal hon yn Llangefni ac o ystyried twf yr ardal yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod diogelwch y safle o'r pwys mwyaf; bydd asesiad risg yn cael ei gynnal cyn i unrhyw waith gael ei wneud a rhoddir sylw priodol i bob agwedd ar ddiogelwch y plant. O ran integreiddio'r ddau floc ar wahân, bydd yn rhaid i bob bloc gael ei neuadd a’i ffreutur ei hun oherwydd nad oes digon o le yn Ysgol y Graig fel ag y mae a byddai’n rhaid trefnu i’r plant gael amser chwarae ac amser cinio ar adegau gwahanol. Bydd gwasanaethau ychwanegol ar ffurf clybiau cyn-ysgol, clybiau gofal, Dechrau'n Deg ac ati yn cael eu hymgorffori yn y cynllun yn y dyfodol ac mae'r cynllun hwn yn cynnig y potensial i weithio ochr yn ochr â'r Mudiad Meithrin a chyda’r Ganolfan Blant i sicrhau’r ddarpariaeth ddi-dor y cyfeirir ati. O ran gallu ymdopi â thwf yn y dyfodol, mae'n ofynnol i'r Awdurdod seilio ei gynllun busnes ar ffeithiau h.y. datblygiadau sydd wedi cael caniatâd cynllunio; mae'r Awdurdod wedi ystyried y rhagamcanion yn y CDLl ar y Cyd ar gyfer yr ardal gyfan dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac wrth gynllunio unrhyw ysgol newydd bydd yn ceisio caniatáu ar gyfer twf pellach yn y dyfodol. Mae capasiti yn Ysgol y Graig ar hyn o bryd ar gyfer dwy ystafell ddosbarth newydd, ond yn yr achos hwn, nid yw hynny’n ddigonol ac mae angen bloc newydd. Ni chaniateir i'r Awdurdod adeiladu ysgol newydd sydd â 10% o lefydd gwag heb achos busnes cadarn iawn dros wneud hynny e.e. os yw'n gwybod bod diwydiant penodol yn dod i'r ardal a bod caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer tai a fydd yn tynnu i mewn nifer uchel o deuluoedd ifanc. Nid yw dod â dwy ysgol at ei gilydd mewn un endid yn digwydd ar unwaith ar ôl cau ysgol; mae'n broses sy'n cymryd dros 2 flynedd lle mae grwpiau o blant yn cael eu dwyn ynghyd i arfer â’i gilydd a’u sefyllfa newydd; cynhelir gweithgareddau ar y cyd a chydlynir y cwricwlwm fel bod y plant yn gwneud yr un gwaith ar yr un pryd i'r un lefel ar gyfer yr un ystod oedran. Felly mae'r Awdurdod yn hyderus y bydd y plant yn gwybod beth sy'n digwydd fel bod unrhyw ofnau yn cael eu lleddfu ac y byddant wedi cael yr amser i baratoi ar gyfer y newid. O ran teithio, mae darpariaeth tacsis yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng Llangefni a Thalwrn ar hyn o bryd, felly ni fydd y sefyllfa o ran y cynllun arfaethedig yn wahanol. Bydd yr Awdurdod yn edrych ar nifer y siwrneiau a wneir, nifer y plant dan sylw a chyflwr a diogelwch llwybrau troed fel rhan o’r asesiad ehangach o’r ardal. Mae'r Awdurdod yn ymwybodol o'r problemau parcio mewn perthynas ag Ysgol y Graig fel y mae ar hyn o bryd ac fel agwedd allweddol ar y gwaith bydd raid i'r Awdurdod gydbwyso'r hawl i’r cyfleusterau parcio y gall eu cynnig gyda chanlyniad yr asesiad effaith traffig y bydd yr Awdurdod yn ei gynnal. Fodd bynnag, mae'r Awdurdod yn ymwybodol o'r heriau yn yr ardal sydd wedi'u crybwyll yn glir yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad. Wrth ymateb i gwestiwn pellach gan yr Aelod Lleol mewn perthynas â'r tir sydd ar gael, cadarnhaodd y Swyddog fod y broses o nodi tir addas ar gyfer y bloc newydd wedi cychwyn – roedd rhaid i'r Awdurdod fod wedi dechrau'r broses hon er mwyn gallu cyflwyno rhai o'r cynigion i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, hefyd yn siarad fel Aelod Lleol, er ei fod yn cefnogi ehangu Ysgol y Graig fel rhan o’r ateb i’r broblem mewn perthynas â’r nifer annigonol o leoedd ysgol yn Llangefni, roedd yn anghyfforddus gyda'r bwriad i gau Ysgol Talwrn fel rhan o'r ateb oherwydd mai problem yn ysgolion Llangefni yw hon, ac ni ddylai ysgolion gwledig orfod dioddef yn ei sgil. Cyfeiriodd a dyfynnodd o’r datganiad a wnaed y llynedd gan y Gweinidog dros Addysg yn Llywodraeth Cymru yn egluro y dylid rhagdybio yn erbyn cau ysgolion gwledig ac na ddylid ystyried cau ond pan fydd dewsiadau eraill a’u heffeithiau ar y cymunedau wedi cael eu hystyried. Pan yn ystyried cau ysgol, dywed y Gweinidog y dylid rhoi sylw i’r canllawiau wrth asesu'r effaith debygol ar ansawdd a safonau addysg, yr effaith debygol ar y gymuned ac effaith debygol y gwahanol drefniadau teithio. Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees fod siaradwyr blaenorol wedi cyfeirio at safon uchel yr addysg yn Ysgol Talwrn a'r effaith ddinistriol y byddai cau'r ysgol yn ei chael ar y gymuned ac ar fudiadau sy'n dibynnu arni, e.e. yr Eisteddfod leol. Cyfeiriwyd hefyd at y problemau posib o safbwynt trafnidiaeth a'r tagfeydd presennol o gwmpas Ysgol y Graig. Felly, er ei fod yn croesawu'r cynigion i fynd i'r afael â'r problemau yn Ysgol y Graig, nid oedd yn derbyn y dylai cau Ysgol Talwrn fod yn rhan o'r ateb.

 

Fel Cadeirydd, dygodd y Cynghorydd Dylan Rees sylw yn y fan hon at y ffaith fod y Pwyllgor bellach wedi bod rhedeg am dair awr ac yn unol â’r darpariaethau dan baragraff 4.1.10 yng Nghyfansoddiad y Cyngor, roedd angen penderfyniad gan y mwyafrif o’r Aelodau hynny o'r Pwyllgor a oedd yn bresennol i gytuno i’r cyfarfod fynd yn ei flaen. Penderfynwyd y dylai'r cyfarfod barhau.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar ac fe wnaethpwyd y pwyntiau canlynol -

           Roedd y Pwyllgor yn nodi ac yn cydnabod y teimladau cyrf yng nghymuned Talwrn yn erbyn cau ei hysgol gan dderbyn eto fod cau ysgol yn gynnig anodd a gresynus.

           Nododd y Pwyllgor mai prinder lleoedd ysgol yn Llangefni yw’r broblem yn hytrach na lleoedd gweigion. Er bod y Pwyllgor yn cydnabod bod angen mynd i'r afael â'r sefyllfa o ran Ysgol y Graig, nododd ymhellach fod cau Ysgol Gynradd Talwrn fel rhan o'r ateb i ddatrys y broblem yn yr ardal a'r tagfeydd ychwanegol yn Llangefni y gallai hyn ei achosi yn ymddangos yn groes ac yn ateb y mae gan y Pwyllgor broblem ag ef.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu y bydd asesiad effaith traffig yn cael ei gynnal fel rhan o'r cynllun a bod cynllun busnes yr Awdurdod yn annhebygol o gael ei gymeradwyo oni bai ei fod yn gallu dangos ei fod wedi ymgynghori â'r Awdurdod Priffyrdd ac yn gallu dangos bod yr ardal yn ddiogel.

 

           Nododd y Pwyllgor mai dim ond 6 o lefydd gwag sydd ar hyn o bryd yn Ysgol y Talwrn a bod y rhain yn debygol o gael eu llenwi gan bedwar eiddo sydd newydd gael eu hadeiladu. Nododd y Pwyllgor hefyd fod yr ysgol yn perfformio'n dda o dan arweiniad pennaeth ifanc a benodwyd yn ddiweddar ac mai’r ysgol yw canolbwynt bywyd cymunedol, gweithgaredd cymunedol a'r iaith Gymraeg. Felly, nid yw'r achos dros gau yr ysgol yn glir.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch nifer y disgyblion sy'n mynychu Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn o'r tu allan i'w dalgylchoedd eu hunain ac a yw'r cynlluniau'n ystyried y 300 o dai newydd sydd wedi eu cynllunio ar gyfer ardal Llangefni ac sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod oddeutu 50% o'r disgyblion yn Ysgol Talwrn yn byw y tu allan i’r dalgylch; mae 4 disgybl yn cael eu danfon mewn tacsi o Langefni oherwydd nad oes lle iddynt yn Ysgol y Graig. Mae nifer y disgyblion o’r tu allan i'r dalgylch sy’n mynychu Ysgol y Graig wedi gostwng yn ddiweddar oherwydd mai lle i ddisgyblion lleol yn unig sydd ar gael yn yr ysgol. Cadarnhaodd y Swyddog fod ystyriaeth wedi cael ei rhoi i’r datblygiadau tai sydd ar y gweill yn Llangefni.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr y pwyntiau canlynol -

 

           Mae cau ysgol yn benderfyniad caled ac yn anodd ei dderbyn ond mae'n rhaid ei ystyried yn wyneb realiti'r sefyllfa.

           Mae Ysgol Talwrn yn perfformio'n dda yn CA2 ond nid yw perfformiad yr ysgol ac Ynys Môn yn gyffredinol mor dda yn CA1 (Y Cyfnod Sylfaen).

           Ar hyn o bryd, mae 6 lle gwag yn Ysgol Talwrn 6. Fodd bynnag, roedd canran y lleoedd gweigion yn yr ysgol yn uchel ar un adeg, a dyna pam y rhoddwyd ystyriaeth i ddyfodol yr ysgol. Roedd nifer y lleoedd gweigion wedi gostwng oherwydd y diffyg lleoedd mewn ysgolion yn Llangefni gyda phlant o Langefni yn mynd i Ysgol Talwrn.

           Bod yr Awdurdod yn wynebu heriau ariannol ac y bydd y rheini’n parhau; mae cyllidebau ysgolion hefyd yn gostwng yn sylweddol sy'n golygu bod raid ystyried dyfodol ysgolion bach.

           Er bod Ysgol Talwrn wedi llwyddo i benodi pennaeth, y tueddiad yw i benaethiaid ysgolion bach symud ymlaen pan fydd cyfle’n codi; mae hefyd yn fwy o her i recriwtio a chadw penaethiaid mewn ysgolion bach sy'n ffactor yn nhrefniadau cynllunio olyniaeth yr Awdurdod.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod Ysgol Talwrn wedi cael tri phennaeth gwahanol mewn cyfnod cymharol fyr, sy'n ystyriaeth o bwys i'r Awdurdod wrth iddo gynllunio ar gyfer cynaladwyedd ei ysgolion yn y dyfodol.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd a'r sylwadau a wnaed, PENDERFYNODD y Pwyllgor argymell i'r Pwyllgor Gwaith –

 

           Bod adeilad presennol Ysgol y Graig yn cael ei ddefnyddio a'i addasu ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, sef blynyddoedd 3 i 6.

           Y dylid adeiladu bloc neu adeilad newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen h.y. y Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2.

           Ni ddylid cau Ysgol Talwrn.

           Dylid ystyried adleoli'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg o fewn y ddarpariaeth newydd.

           Dylid sicrhau bod y tyrbin gwynt ar y safle yn gweithio erbyn dyddiad agor yr adeilad newydd.

Dogfennau ategol: