Eitem Rhaglen

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 3, 2017/18

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Perfformiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2017/18 ar gyfer ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol bod perfformiad, yn gyffredinol, wedi bod yn galonogol yn Chwarter 3 gyda'r mwyafrif o ddangosyddion ar y trywydd iawn ac yn Wyrdd neu’n Felyn. Roedd pum dangosydd yn tanberfformio ac yn Goch yn erbyn eu targed blynyddol ar hyn o bryd, roedd un yn ymwneud â’r Gwasanaethau Oedolion a phedwar yn ymwneud â’r Gwasanaethau Plant; ceir manylion am y rhain ynghyd â'r camau lliniaru yn adrannau 2.3.3 a 2.3.4 yr adroddiad. Yn ogystal, mae dau ddangosydd perfformiad yn y Gwasanaeth Dysgu wedi tanberfformio yn ystod y flwyddyn, y naill mewn perthynas â chanran y disgyblion 15 oed sy'n cyflawni L2 + yng Nghyfnod Allweddol 4 a'r llall mewn perthynas â chanran y disgyblion sy'n cyflawni'r CSI / FPI yn y Cyfnod Sylfaen. Ar y llaw arall, mae'r perfformiad yn erbyn rhai dangosyddion yn dda iawn, megis canran y sefydliadau bwyd sy'n bodloni safonau hylendid bwyd sy'n 98% o gymharu â’r targed o 80% a chanran y gwastraff sirol a gasglwyd ac a baratowyd ar gyfer ei ailddefnyddio ac/neu a gafodd ei ailgylchu sydd wedi dangos gwelliant cyson. Ar hyn o bryd mae perfformiad yn hyn o beth yn 73.24% yn erbyn targed o 67%.

 

O ran Gwasanaeth Cwsmer, mae perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran ymateb i gwynion Cam 1 hyd at ddiwedd Chwarter 3 wedi llithro o gymharu â Chwarter 2. Fodd bynnag, roedd perfformiad yn well ar gyfer trafodaethau Cam 1 gyda thrafodaeth yn cael ei chynnig i'r achwynydd o fewn y cyfnod amser penodedig yn achos 24 o'r 28 cwyn i'r Gwasanaethau Plant ac ar gyfer 6 o'r 10 cwyn i’r Gwasanaethau Oedolion hyd at ddiwedd Chwarter 3.

 

O ran Rheolaeth Ariannol, rhagamcenir gorwariant cyffredinol o £ 1.624m ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth, 2018. Mae hyn yn cael ei fonitro ac mae Penaethiaid Gwasanaeth y meysydd hynny sy’n wynebu'r pwysau ariannol mwyaf yn ymwybodol o'r materion ac yn gweithio i ostwng lefel y gorwariant sydd o fewn eu rheolaeth erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Mae'r duedd mewn perthynas â Rheoli Pobl yn parhau'n gadarnhaol gyda gwelliant pellach yn y cyfraddau salwch o'i gymharu â'r un cyfnod ar gyfer 2016/17 (6.88 o gymharu â 7.21 yn Ch3 2016/17). Os yw'r duedd yn parhau ac ar yr amod na fydd anhwylderau’r gaeaf yn arwain at unrhyw effeithiau negyddol, rhagwelir y bydd lefelau salwch ar ddiwedd y flwyddyn yn cyfateb i 9.81 diwrnod ar gyfer pob ALlC. Fodd bynnag, mae angen gwneud gwaith pellach yn enwedig mewn perthynas â gwella perfformiad o ran cynnal cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith lle mae perfformiad yn parhau i fod yn is na'r targed.

 

Soniodd y Cynghorydd Dylan Rees am waith y Panel Sgriwtini Cyllid. Cadarhaodd fod y Panel wedi bod yn craffu’r gorwariant ar y gyllideb refeniw yn enwedig mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Dysgu lle mae lefel y gorwariant ar ei huchaf. Mae’r Panel wedi gofyn i'r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol adrodd yn ôl ar eu strategaeth ar gyfer lleihau'r gorwariant a rheoli eu cyllidebau ac mae'n disgwyl cael diweddariad ar gynnydd yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, 2018.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a nododd hefyd bod rhai Dangosyddion Perfformiad yn Tanberfformio’n gyson, e.e. Gwasanaethau Plant. Mae'r Pwyllgor Gwaith yn gwbl ymwybodol o'r sefyllfa ac yn disgwyl i'r gwaith lliniaru sy'n cael ei wneud yn y gwasanaethau hynny arwain at ganlyniadau yn y chwarter nesaf. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach y perfformiad ar gyfer DP 25 ar y cerdyn sgorio mewn perthynas â'r nifer gyfartalog o ddiwrnodau calendr a gymer i osod unedau llety y gellir eu gosod (heb gynnwys eiddo anodd eu gosod) fel enghraifft o welliant parhaus dros gyfnod o amser gyda'r nifer o ddyddiau a gymerwyd i osod yr unedau y gellir eu gosod wedi gostwng o 33.7 diwrnod yn 2015/16 i 17.7 diwrnod yn awr.

 

Soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith y gwnaed cyhoeddiad yng nghyfarfod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos flaenorol lle roedd dangosyddion perfformiad yn un o'r pynciau dan sylw, y bydd disgwyl i awdurdodau lleol adrodd ar 14 Dangosydd Perfformiad newydd o Ebrill, 2018 ymlaen.

 

Penderfynwyd

 

·      Derbyn a nodi’r Adroddiad Monitro ar y Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 3   2017/18 a nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol fel y cânt eu crynhoi yn adran 1.3.1 yr adroddiad.

·      Derbyn a nodi’r mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: