Eitem Rhaglen

Polisi Taliadau Tai Dewisol 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo Cynllun diwygiedig ar gyfer y Polisi Taliadau Tai Dewisol Lleol ar gyfer 2018/19.

 

Nododd yr Aelod Portffolio Cyllid mai bwriad y Cynllun Taliadau Tai Dewisol (TTD) yw rhoi cymorth pellach i gwsmeriaid sy'n derbyn Budd-dal Tai neu elfen dai'r Credyd Cyffredinol gyda'u costau tai lle mae'r Awdurdod Lleol o'r farn bod angen cymorth o'r fath. Rhaid gwneud pob taliad TTD o fewn y terfynau arian cyffredinol a bennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP). Mae'r AGP yn dyfarnu swm blynyddol i'r Awdurdod fel cyfraniad y Llywodraeth tuag at weinyddu'r cynllun. Gall yr Awdurdod ychwanegu 150% (sef y cyfanswm a ganiateir) at Gyfraniad y Llywodraeth os yw'n dymuno gwneud hynny. Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei weithredu ar Ynys Môn o fis Tachwedd, 2018 (wedi cael ei roi yn ôl o fis Mehefin, 2018); ar hyn o bryd mae oedi o ran dyfarnu Credyd Cynhwysol; mae'n rhaid nodi felly na fedrir dyfarnu TTD hyd oni fydd yr hawl i elfen costau tai'r Credyd Cynhwysol (neu Fudd-dal Tai) wedi'i sefydlu.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai'r bwriad yw y bydd y Polisi TTD yr adroddwyd arno’n flynyddol ond yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Gwaith os bydd angen gwneud newidiadar iddo yn y dyfodol. Fodd bynnag, parheir i adrodd ar gostau'r cynllun yn yr adroddiad chwarterol ar fonitro’r gcyllideb. Dywedodd y Swyddog, bod y gwariant cyffredinol ar TTD (gwirioneddol ac ymrwymedig) ar 28 Chwefror, 2018 yn £ 133,586 yn erbyn grant AGP o £ 162,656 sydd yn gadael £ 29,070 ar ôl i'w wario dros weddill y flwyddyn ariannol gyfredol. Rhagamcenir y bydd y gwariant ychydig yn is na dyraniad grant yr Adran Gwaith a Phensiynau am y flwyddyn yn sy’n golygu y bydd unrhyw grant gweddilliol sydd heb ei wario yn cael ei golli.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth. Hefyd, nododd y Pwyllgor Gwaith y bu gostyngiad nodedig yn nifer y ceisiadau TTD a gymeradwywyd yn 2017/18 o gymharu â 2016/17 ac o’r herwydd, nifer gyfatebol o wrthodiadau. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am esboniad ar y gwahaniaeth. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod llawer o'r ceisiadau yn rhai ailadroddus; fodd bynnag, oherwydd nad yw’r polisi yn fod i ddarparu budd-daliadau ychwanegol parhaol, gall y broses asesu arwain at ostyngiad yn y taliadau neu at wrthod taliadau mewn achosion lle nad yw ymgeiswyr yn fodlon gwneud cyfaddawd rhesymol o ran eu gwariant a'u ffordd o fyw. Rhaid i'r grant gael ei ddosbarthu i'r rhai sydd mewn angen ac mae wedi'i gynllunio i weithredu fel rhwyd ddiogelwch dros dro i'r rheini sy'n profi anhawster o ran cwrdd â'u costau tai.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Polisi Lleol diwygiedig ar gyfer y Cynllun Taliadau Tai Dewisol (TTD) am 2018/19 a’r blynyddoedd dilynol fel y’i gwelir yn Atodiad A yr adroddiad. Nodi y bydd y Cynllun a gymeradwyir yn berthnasol am y blynyddoedd dilynol ac ni fydd yn dod yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith oni bai y bydd angen ei ddiwygio yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: