Eitem Rhaglen

Cynllun Comisiynu’r Rhaglen Cefnogi Pobl

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw a chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Cynllun Comisiynu a Gwariiant Cefnogi Pobl Cyngor Sir Ynys Môn 2018/19.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau y Cynllun i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd Prif Swyddog Datblygu'r Gwasanaethau Tai mai un o ofynion y cyllid Rhaglen Cefnogi Pobl yw bod yr Awdurdod yn paratoi Cynllun Comisiynu i hysbysu Llywodraeth Cymru a phob partner a rhanddeiliad o'i fwriadau a’i flaenoriaethau comisiynu. Mewn llythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, 2017 cadarnhawyd mai’r dyraniad ar gyfer Ynys Môn am 2018/19 fyddai £ 2,643,866, sef yr un lefel o gyllid â’r pedair blynedd flaenorol. Bydd 2018/19 yn flwyddyn drosiannol ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru gyda 7 awdurdod lleol yn gweithredu dan drefniant gwahanol ac yn cymryd rhan mewn cynllun peilot a fydd yn gweld 10 grant sy'n rhan o'r Rhaglen Taclo Tlodi yn cael eu cyfuno mewn un gronfa - sef y Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal a Chefnogi - gellir trosglwyddo 100% o'r cyllid hwn o un rhaglen i'r llall. Yn ystod yr un cyfnod, bydd gan Ynys Môn ynghyd â'r 14 awdurdod arall yr opsiwn i drosglwyddo hyd at 15% o unrhyw danwariant o un rhaglen i'r llall. Bydd y trefniant newydd ar draws y 7 awdurdod lleol yn cael ei werthuso yn ystod y flwyddyn. Dywedodd y Swyddog, er y dylid croesawu cydweithio agos ar draws y ffynonellau cyllid, mae'r trefniant yn peri risg i'r Rhaglen ar ei ffurf bresennol fel y disgrifir ym mharagraff 1.8 yr adroddiad, ac mae'n creu peth ansicrwydd i ddyfodol y Rhaglen sydd yn bodoli ers 2003 ac sydd wedi profi ei gwerth yn ystod y cyfnod hwnnw i'r Gwasanaeth Tai, y Gwasanaethau Cymdeithasol ac i wasanaethau eraill megis Prawf ac Iechyd.

 

Mae'r Cynllun Cefnogi Pobl yn cynnwys rhaglen o adolygiadau o feysydd gwasanaeth a gynhelir bob tair blynedd. Yn ystod 2018/19, cynhelir adolygiadau manwl mewn perthynas â chamdriniaeth ddomestig, rhieni sengl bregus, pobl hŷn, pobl sy'n gadael y carchar, iechyd meddwl a phobl hŷn (cefnogaeth hyblyg). Mae'r gwasanaeth hefyd yn bwriadu cynnal ymarfer tendro llawn ar gyfer cefnogaeth hyblyg barhaus ym Mai, 2018.

 

Mae aelodau Pwyllgor Cydweithio Rhanbarthol Gogledd Cymru yn awyddus i ddatblygu gwasanaethau a gomisiynir yn rhanbarthol mewn meysydd penodol; er mwyn cyflawni'r nod hwn, cynigiwyd ar lefel ranbarthol a'i gymeradwyo mewn Byrddau Grwpiau Cynllunio lleol ar draws Gogledd Cymru, y dylai pob awdurdod lleol wneud cyfraniad o 0.5% yn uniongyrchol i'r dyraniad blynyddol ar gyfer Cefnogi Pobl. Yn achos Ynys Môn, byddai hynny’n arwain at ostyngiad o £ 13,219 yn y grant ar gyfer darpariaeth leol. Mae Pwyllgor Cydweithio Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi nodi'r meysydd gwasanaeth a restrir ym mharagraff 4.3 fel blaenoriaethau rhanbarthol.

 

Amlygodd y Swyddog newidiadau yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu hariannu fel y cyfeirir at hynny yn adran 5 yr adroddiad. Bydd y ddarpariaeth ar gyfer pobl sy'n gadael y Carchar yn cynyddu 72.5% o ganlyniad i'r buddsoddiad o £ 35,243 yn swydd y Swyddog Adsefydlu. Yn flaenorol, roedd y swydd yn cael ei hariannu o'r grant Adran 180 ar gyfer Digartrefedd - bydd y cyllid ar gael yn awr i ddibenion eraill sy’n gysylltiedig ag atal digartrefedd.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gofynnodd am sicrwydd ynghylch y pwyntiau canlynol -

 

·      Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynghylch a oedd unrhyw

effeithiau sy'n deillio o ddatblygiad Wylfa Newydd yn ystyriaeth yn y Cynlluniau Cefnogi Pobl. Dywedodd Prif Swyddog Datblygu'r Gwasanaethau Tai fod y gwasanaeth yn ymwybodol o effeithiau posibl

datblygiad Wylfa Newydd a allai arwain at lefel gynyddol o ddigartrefedd os yw'r sector rhentu preifat yn ceisio sicrhau’r incwm rhent mwyaf posibl ar draul tenantiaethau cyfredol.  Mae hyn wedi bod yn nodwedd mewn rhai ardaloedd yn Lloegr lle mae rhenti wedi cynyddu tair gwaith yn uwch na rhent y farchnad. Felly, er bod manteision ariannol sylweddol i

ddatblygiad Wylfa Newydd, mae ochr arall i'r geiniog, ac mae angen i'r Awdurdod fod yn ymwybodol o'r ffactor digartrefedd a'r risg sy'n deillio o hynny.

·      Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am sicrwydd na fydd symud swydd y

Swyddog Adsefydlu o’r Rhaglen Atal Digartrefedd i’r Rhaglen Cefnogi

        Pobl yn golygu colli swydd o fewn y ddarpariaeth atal digartrefedd. Cadarnhaodd Prif Swyddog Datblygu'r Gwasanaethau Tai mai mater ydyw o symud arian o un rhaglen i'r llall; bydd swydd y Swyddog Adsefydlu yn

eistedd yn well yn y Rhaglen Cefnogi Pobl, gan golygu y gall yr arian gael ei ddefnyddio at ddibenion eraill sy’n ymwneud ag atal digartrefedd.

·      Nododd y Pwyllgor Gwaith fod lefelau digartrefedd ar gynnydd yn

genedlaethol. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad o'r sefyllfa yn lleol. Dywedodd Prif Swyddog Datblygu'r Gwasanaethau Tai fod tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod lefelau digartrefedd yn

cynyddu ar Ynys Môn hefyd gyda mwy o bobl mewn lleoliadau gwely a brecwast; mae yna hefyd nifer o faterion sy'n ymwneud â thlodi a materion cymdeithasol y gellir eu priodoli i ddigartrefedd. Mae'r gwasanaeth yn disgwyl i'r materion hyn waethygu am gyfnod gyda dynesiad diwygiadau lles y Llywodraeth sydd ddim yn argoeli’n dda am y dyfodol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo

 

·        Y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl ar gyfer 2018-21 a’r argymhellion ynddo.

·        Dyrannu arian i bob maes gwasanaeth fel yr amlinellir yn y Cynllun

       Gwariant ar dudalen 45 y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl.

Dogfennau ategol: