Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Seiriol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys yr adroddiad ar y broses ymgynghori statudol mewn perthynas ag ysgolion yn ardal Seiriol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid y cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol ar yr opsiynau ar gyfer moderneiddio'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol am gyfnod rhwng Mehefin a Gorffennaf 2017. Yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref, 2017, cynhaliwyd proses ymgynghori statudol o 20 Tachwedd, 2017 hyd 6 Chwefror, 2018. Ystyriwyd yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio mai un o'r pethau y beirniadwyd yr Awdurdod yn ei gylch o ran ei broses gwneud penderfyniadau, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, yw nad yw'n gwrando ar farn rhanddeiliaid, a bod materion yn cael eu penderfynu ymlaen llaw sy’n golygu mai ymarfer ticio blwch yn unig yw ymgynghori. Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio bod yr Awdurdod yn gwrando ac yn yr achos hwn mae wedi nodi'r sylwadau cryf a wnaed yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 12 Mawrth mewn perthynas â'r cynigion a gyflwynwyd - yn benodol mewn perthynas â chau Ysgol Biwmares - yn ogystal â'r sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori yn enwedig gan gymuned Biwmares. O gofio'r farn a fynegwyd, dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod felly'n cynnig y dylid cynnal proses ymgynghori statudol newydd ar gyfer ardal Seiriol; bydd yr adroddiad ymgynghori yn adlewyrchu barn Estyn a rhanddeiliaid eraill a bydd yn seiliedig ar gynigion i gau naill ai Ysgol Biwmares neu Ysgol Llangoed am y rheswm bod yn rhaid i'r Awdurdod symud ymlaen â'r rhaglen i foderneiddio ysgolion ar yr Ynys.Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r cynnig.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, bod nifer o faterion a chwestiynau wedi cael eu codi cyn ac yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ond ar ôl i'r cyfnod ymgynghori gau; yn ogystal, cyflwynwyd opsiynau amgen. O ganlyniad, mae'r gwasanaeth wedi rhoi'r pedwar opsiwn amgen a gyflwynwyd gan Gorff Llywodraethol Ysgol Biwmares yn ogystal ag opsiwn arall a gyflwynwyd gan Gadeirydd Pwyllgor Ymateb Ysgol Biwmares drwy'r broses sgorio; mae canlyniad y broses hon wedi'i nodi yn Atodiad 10 i'r adroddiad. Yn Atodiad 11, mae'r Gwasanaeth wedi ceisio mynd i'r afael â'r materion a'r cwestiynau ychwanegol a godwyd. Dywedodd y Swyddog fod rhai o'r sgorau ar gyfer yr opsiynau amgen yn debyg i'r sgôr ar gyfer yr opsiwn a ffefrir gan y Gwasanaeth; a dyna’r rheswm dros y cynnig i gynnal yr ymgynghoriad eto.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fel Cadeirydd cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2018 lle trafodwyd y mater hwn. Dywedodd fod cynrychiolwyr o Ysgol Biwmares a Chyngor Tref Biwmares wedi cael y cyfle i fynd i annerch y cyfarfod. Siaradodd dau o gynghorwyr ward Seiriol fel Aelodau Lleol a darllenwyd datganiad ar ran un Aelod o'r Ward. Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd a'r sylwadau a wnaed, ac yng ngoleuni'r lefel o bryder a fynegwyd a'r nifer o faterion sydd, yn nhŷb y Pwyllgor, yn dal i fod heb eu hateb, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar foderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol er mwyn rhoi mwy o amser i adolygu ac i asesu'r effaith ar y gymuned, a hefyd i ffurfio grŵp rhanddeiliaid i edrych yn fanwl ar ffyrdd eraill o liniaru'r risgiau yn yr ardal.

 

Siaradodd y Cynghorydd Lewis Davies, Aelod Lleol, i gydnabod y bwriad i ymgynghori eto ar y ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol yn wyneb y farn gref a fynegwyd gan gymuned Biwmares a'r opsiynau amgen a gyflwynwyd. Pwysleisiodd ei fod yn Aelod lleol ar gyfer Ward Seiriol yn ei chyfanrwydd a dywedodd ei fod wedi bod yn gyson drwy gydol y broses yn ei gefnogaeth ar gyfer pob ardal yn y ward. Roedd wedi bod yn aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Llangoed ers 10 mlynedd ac wedi cadeirio’r Corff Llywodraethol ac wedi ymladd yn galed i gadw'r ysgol yn agored. Fe'i hetholwyd hefyd gan drigolion Biwmares ac felly fe ofynnwyd iddo ymladd dros y gymuned honno a'i hysgol. Roedd wedi rhoi sicrwydd y byddai'n gwneud ei orau iddynt hwy hefyd a dyna’r rheswm am y sylwadau a wnaed ganddo ar ran yr ysgol ac am dai cymdeithasol ar gyfer tref Biwmares. Yn anffodus, ac yn anghywir, mae hynny wedi cael ei ddehongli gan rai fel petai o blaid cau Ysgol Llangoed.

 

Penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ynghylch moderneiddio ysgolion yn ardal Seiriol fel y gellir cynnal ymgynghoriad statudol newydd ar y cynigion ar gyfer addysg gynradd yn yr ardal.

Dogfennau ategol: