Eitem Rhaglen

Cynllun Adfywio Gogledd Cymru a Chyllid TRIP

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad ar y cyd rhwng y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a'r Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r Rhaglen Buddsoddiad Adfywio a Dargedir (TRIP).

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd fod TRIP wedi cael ei lansio i ddarparu cyllid adfywio cyfalaf yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ac mae'n disodli'r Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (VVP) ar gyfer 2014-17. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd pob un o'r pedair partneriaeth datblygu economaidd rhanbarthol i ddatblygu strategaethau adfywio hirdymor i lywio'r buddsoddiad TRIP yn eu rhanbarthau. Mae swyddogion o Grŵp Swyddogion Adfywio Gogledd Cymru a Grŵp Rheoli Rhaglen Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) wedi arwain ar ymateb Gogledd Cymru i'r cyfle hwn. Cytunwyd y dylid cael Strategaeth Adfywio ar gyfer Gogledd Cymru gyda'r blaenoriaethau a nodir yn yr adroddiad. Mae'n rhaid i gynlluniau gael cefnogaeth yr holl 6 awdurdod yng Ngogledd Cymru er mwyn i Ogledd Cymru gael mynediad at gyllid TRIP.

 

Yn seiliedig ar gyngor gan Lywodraeth Cymru, cynigir 12 tref fel meysydd blaenoriaeth ar gyfer ymyriadau adfywio trefol yng Ngogledd Cymru; mae'r rhain wedi'u nodi gan ddefnyddio safleoedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer lefelau cyffredinol amddifadedd yn seiliedig ar bresenoldeb Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACHI) sydd ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Dim ond un ACHI sydd gan Ynys Môn yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru (Morawelon) ac oherwydd hyn mae Caergybi yn ymddangos ar y rhestr o 12 ardal adfywio ond nid felly’r trefi eraill yn Ynys Môn, ac mae'r niferoedd poblogaeth cymharol is yng Nghaergybi yn golygu nad yw ymhlith y pedwar ardal ar gyfer buddsoddiad blaenoriaeth (Y Rhyl, Wrecsam, Bangor a Bae Colwyn). Nodwyd bod y fethodoleg hon yn nodi crynodiadau tlodi sy'n gysylltiedig â threfi ac aneddiadau trefol ar draul trefi llai ac ardaloedd gwledig. Er bod yr angen i fynd i'r afael â materion tlodi ac adfywio mewn trefi llai ac ardaloedd gwledig wedi'i gydnabod, nid oes unrhyw fesurau i fynd i'r afael â'r anghenion hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod swm yr arian sydd ar gael yn gymharol fach, tybir y bydd £22m ar gael dros dair blynedd i Ogledd Cymru. Ni all TRIP ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn unig a bydd yn darparu hyd at 70% o gostau prosiect (neu 50% ar gyfer datblygu prosiectau). Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor y gall peth o gyllid Gogledd Cymru gael ei ddefnyddio ar gyfer rhaglenni thematig sy'n cwmpasu mwy nag un sir - un rhaglen o'r fath sy'n cael ei hystyried yw adeiladau gwag yn Ynys Môn / Gwynedd.

 

Rhestrir cynigion dros dro ar gyfer cyllid Prosiect TRIP yn Ynys Môn yn yr adroddiad; bydd gwaith pellach yn digwydd dros yr wythnosau nesaf i gwblhau'r cynigion yn barod i'w cyflwyno yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd.

 

Mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod tlodi ac amddifadedd hefyd yn bodoli mewn trefi / pentrefi / ardaloedd gwledig llai a bod y defnydd o ddata lefel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru / ACHI yn golygu ei fod yn aml yn guddiedig. Mae Strategaeth Adfywio Gogledd Cymru sy'n esblygu yn cydnabod bod angen mynd i'r afael ag anghenion ardaloedd gwledig, ond nid yw'r rhaglen TRIP bresennol yn anelu at wneud hynny; felly rhaid gwneud gwaith i fynd i'r afael â'r bwlch hwn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Adfywio y bydd Ynys Môn yn gweithio ar y cyd â Chyngor Gwynedd ar y Thema Eiddo Gwag gydag Ynys Môn yn gweithredu fel corff y arweiniol. Yn ychwanegol at hyn, bydd y mynegeion ystadegol yn cael eu hadolygu yn 2019, gan olygu y bydd cyfle i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'n well y tlodi a’r amddifadedd mewn ardaloedd gwledig yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd awdurdodi'r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) a'r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) i

 

·      Gymryd rhan yn y broses o baratoi Strategaeth Adfywio Ranbarthol

gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) ar gyfer ei chyflwyno I Lywodraeth Cymru;

·      Trafod dyraniadau ariannol a chyflwyno ceisiadau am arian o’r

     Rhaglen TRIP i Lywodraeth Cymru, ar yr amod bod y Swyddog A151

     yn cytuno;

·      Derbyn a gwario’r arian TRIP a gymeradwywyd, gan gynnwys dyfarnu

grantiau i eraill ar gyfer prosiectau cymwys, ar yr amod bod y Swyddog A151 yn cytuno;

·      Ceisio denu cymaint o gyllid TRIP ag sy’n bosibl i Ynys Môn, a

pharatoi prosiectau yn barod ar gyfer cyfleon posib i sicrhau cyllid ychwanegol;

·      Lobïo i geisio creu cronfa adfywio sydd wedi ei dylunio i gynorthwyo

     prosiectau adfywio mewn trefi llai ac ardaloedd gwledig.

·      Trafod a dod i gytundeb gyda chynghorau sir eraill yng Ngogledd

     Cymru ble mae angen hynny er mwyn ymgeisio am neu dderbyn cyllid

     TRIP, yn amodol ar gytundeb y Swyddog A151 a Swyddog Monitro’r

     Cyngor.

Dogfennau ategol: